Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 9fed Mawrth, 2017 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Democratic Services 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Adroddiad y Cadeirydd ac unrhyw ddeisebau sydd wedi eu derbyn pdf icon PDF 158 KB

Cofnodion:

Wrth agor y cyfarfod, mynegodd y Cadeirydd gydymdeimlad ar farwolaeth ddiweddar Mr. David Waring, cyn gynghorydd, Mr B. Llewellyn, cyn gynghorydd sesiwn gyntaf y Cyngor hwn rhwng 1996-1999, a Mr. B. Foulser, Consort y cyn Gadeirydd, J. Foulser. Dangosodd y Cyngor eu parch gyda munud o dawelwch.

 

Hysbyswyd y Cyngor y cynhelid sesiwn ffotograffig cyn y Cyngor ar 20 Mawrth 2017. Manylion i ddilyn.

 

Derbyniodd y Cyngor adroddiad y Cadeirydd, gan nodi y cynhelir cyngerdd elusennol yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy ar 31 Mawrth, gyda'r elw yn mynd i Gerddoriaeth Gwent ac elusen y Cadeirydd.

 

Nid oedd unrhyw ddeisebau.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir M. Hickman ddiddordeb personol, nad oedd yn rhagfarnu yn dilyn Cod Ymddygiad Aelodau fel ymddiriedolwr a thrysorydd Ailgylchu Cymunedol Homemarkers.

 

Cytunodd aelodau ddatgan buddiant pellach fel a phryd y bo angen.

 

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

4a

Cwestiwn gan Mr M Smith i'r Cynghorydd Sir P Fox

Pam fod y Cyngor Sir yn cefnogi cynllun datblygu arfaethedig, sef coridor yr M4 o amgylch Casnewydd a fydd, os y'i cymeradwyir, yn dinistrio cymeriad ac amgylchedd Llanfihangel Rogiet, ardal a ddynodwyd gan y Cyngor hwn fel Ardal Gadwraeth ac a gaiff ei rhestru felly yn y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd? A yw'n gwybod hefyd y caiff ardaloedd cadwraeth eu cydnabod eang fel rhai o ardaloedd twristiaeth ac amwynderau allweddol y Sir a bod yr asedau hyn yn amhrisiadwy ac y gall unrhyw effaith niweidiol arnynt gael costau diwylliannol, amgylcheddol a chymdeithasol sylweddol ac felly mae'n hanfodol eu bod yn cael eu cadw a lle'n bosibl ei gwella? A yw hefyd yn gwybod y bydd y cynllun arfaethedig ar gyfer y draffordd os y'i cymeradwyir yn groes i bolisi'r Cyngor ar 'Datblygiad mewn Ardaloedd Cadwraeth' ac yn neilltuol bolisi HE1 sy'n dweud:- 

 

“Polisi HE1 - Datblygiad mewn Ardaloedd Cadwraeth

 

Mewn Ardaloedd Cadwraeth lle'n briodol, dylai cynigion roi ystyriaeth i'r Gwerthusiad Ardal Cadwraeth ar gyfer yr ardal honno a chânt eu caniatáu os ydynt yn:

a) cadw neu wella cymeriad neu ymddangosiad yr ardal a'i thirwedd;

b) heb fod yn cael unrhyw effaith niweidiol difrifol ar olygfeydd arwyddocaol i ac allan o'r ardal Gadwraeth

c) heb fod yn cael unrhyw effaith niweidiol difrifol ar olygfeydd arwyddocaol o fewn yr ardal a chymeriad ac ymddangosiad cyffredinol golwg strydoedd a thoeau;

d) defnyddio'r deunyddiau sy'n briodol i'w gosodiad a chyd-destun ac sy'n diogelu neu'n gwella cymeriad neu ymddangosiad yr Ardal Gadwraeth; a

e) yn rhoi sylw arbennig i osodiad yr adeiladau a'i ardaloedd agored."

 

A sut y gall Arweinydd y Cyngor gyfiawnhau difrod na fedrir ei gyfiawnhau, na fedrir ei adfer a pharhaol i'r ardal honno?

 

Cofnodion:

Tynnwyd y cwestiwn yn ôl.

 

5.

Cadarnhau'r cofnodion dilynol:

5a

Cyngor Sir - 19 Ionawr 2017 pdf icon PDF 155 KB

Cofnodion:

Cadarnhawydcofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2017 a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd, gyda'r diwygiad dilynol.

 

Dylaitudalen 7, paragraff 3 ddarllen 'Mynegodd rhai Aelodau rwystredigaeth fod y Gymraeg yn cael blaenoriaeth dros y Saesneg, yn benodol mewn galwadau ffôn ac ar arwyddion ffordd. Teimlidei fod yn achos o'r lleiafrif yn bod yn drech ar y mwyafrif.'

 

5b

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor Sir - 26 Ionawr 2017 pdf icon PDF 96 KB

Cofnodion:

Cadarnhawydcofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2017 a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

6.

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2017 pdf icon PDF 108 KB

Cofnodion:

Nodwydcofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2017.

 

Wrth wneud hynny mynegodd y Cynghorydd F. Taylor rwystredigaeth a siom na chyflwynwyd y drafodaeth am Gontractau Dim Oriau yn ôl i'r Cyngor fel y gofynnwyd, ac na chafodd y mater ei ddatrys yn ystod y tymor hwn o'r Cyngor.

 

 

 

7.

Derbyn cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2017 pdf icon PDF 98 KB

Cofnodion:

Nodwydcofnodion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2017.

 

8.

Rhestr o Gynigion

Ni dderbyniwyd dim.

 

9.

Adroddiadau Penaethiaid Gweithrediadau

9a

Canolfan ailgylchu gwastraff cartrefi, gorsaf drosglwyddo a strategaeth caffael cludiant pdf icon PDF 801 KB

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad i'r Cyngor yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar y strategaeth arfaethedig i gychwyn ymarferiad caffael ar gyfer contract newydd ar gyfer y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Aelwydydd, Gorsaf Drosglwyddo a gwasanaethau Cludiant Gwastraff Gweddilliol.

 

Yn ystod ei gyflwyniad, dywedodd y Cynghorydd B. Jones nad oedd y broses yn unrhyw adlewyrchiad ar y gwasanaeth a dderbyniwyd, a chanmolodd Viridor am eu gwaith dros y 20 mlynedd diwethaf a mwy y contract. Fodd bynnag, deellir ei bod yn amser adolygu arferion gorau a chaffaeliad i sicrhau ein bod yn gyfredol, yn addas i'r diben ac yn gydnaws gyda'r adroddiad am y gwasanaeth ailgylchu.

 

Yn ystod trafodaeth nodwyd y dilynol:

 

Roeddrhai Aelodau yn awyddus i ganmol y gwasanaeth rhagorol a gafwyd gan Viridor, a hefyd waith swyddogion a chydweithrediad preswylwyr Sir Fynwy.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Batrouni at y broses dendr a holodd os oedd yn arfer cyffredin dyfarnu yn dilyn y tendr dechreuol, a holodd am y 'trafodaethau cyfyngedig'. EsbonioddPennaeth Gwastraff a Gwasanaethau Stryd fod hon yn broses gaffael newydd a gyflwynwyd drwy reolau caffael yr Undeb Ewropeaidd ac mai hwn fyddai'r tro cyntaf i Gyngor Sir Fynwy ei defnyddio. Mae'n rhoi cyfle i gynnig dyfarniad uniongyrchol os yw'r bid yn ddigon cryf. Mae trafodaethau cyfyngedig yn cyfeirio at faterion mireinio manylion ac eglurhad.

 

Ar hyn o bryd, nid oedd swyddogion wedi cael unrhyw awgrym fod Dragon Waste yn bwriadu cyflwyno bid am y contract.

 

Mewn ymateb i gais am sicrwydd am drosiant, hysbyswyd Aelodau pe byddai contractwr arall yn llwyddiannus, y byddai staff yn trosglwyddo dan drefniadau TUPE (trosglwyddo ymgymeriadau a diogelu cyflogaeth). Sicrhawyd y Cyngor na fyddai ansawdd y gwasanaeth yn newid.

 

Pan y'i rhoddwyd i bleidlais penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

Mae'r Cyngor yn cymeradwyo:

           Y strategaeth caffael fel y'i hamlinellir yn yr adroddiad, yn benodol:-

i.          Natur gwasanaethau (fel y'i diffinnir yn 4.1)

ii.          Hyd y contract:- 7 mlynedd + 5

iii.         Ffurf y contract:- contract gwasanaeth

iv.        Proses caffael:- Cystadleuol gyda thrafodaeth

v.         Maen prawf pris/ansawdd:- 55/45

vi.        Perfformiad / canlyniadau ansawdd

           Dirprwyo cymeradwyaeth i'r Pennaeth Gwastraff a Gwasanaethau Stryd mewn ymgynghoriad gyda'r Ysgrifennydd Cabinet, Swyddog A151 a'r Swyddog Monitro i gwblhau dogfennau’r contract, yn cynnwys y matrics gwerthuso, cyn cyhoeddi Hysbysiad OJEU i ddechrau'r broses caffael.

           Dirprwyo'r penderfyniad i ddyfarnu'r Contract i'r Pennaeth Gwastraff a Gwasanaethau Stryd mewn ymgynghoriad gydag Aelodau Cabinet dros Wastraff a Chyllid, Swyddog A151 a'r Swyddog Monitro ar y ddarpariaeth fod y pris yn parhau o fewn amlen fforddiadwyedd cyfredol y gyllideb  bresennol rheoli gwastraff (gan nodi y caiff y canlyniad ei adrodd i'r Cyngor ac y caiff ein partner yn y dyfodol ei gyflwyno i'r Pwyllgor Dethol).

           Bod y Cyngor i ystyried y penderfyniad i ddyfarnu'r Contract os yw'n fwy na'r amlen cyllideb  ...  view the full Cofnodion text for item 9a

9b

Adolygiad Ailgylchu - Cynigion Terfynol ar gyfer Casgliadau 2018-2025 pdf icon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor yn amlinellu'r cynigion terfynol ar gyfer casgliadau ailgylchu er mwyn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer cyflwyno gwasanaeth ailgylchu ochr palmant rhwng 2018-2025.

 

Nodwyd y dilynol yn ystod y drafodeth:

 

Holodd Aelod am gasgliad wythnosol o fagiau brown, gan awgrymu fod casgliadau bob bythefnos yn ystod misoedd y gaeaf yn addas. Mewn ymateb, dywedwyd nad oedd unrhyw gynnig i newid ond y gellid ystyried hyn fel argymhelliad gan y Cyngor.

 

Cyfeiriodd Aelod at sicrhau fod y gwasanaeth yn gadarn ar gyfer y dyfodol, o ran bod y ddeddfwriaeth oedd yn sail iddo yn deillio o'r Undeb Ewropeaidd, a holodd yr effeithiau yn dilyn Brexit. Hysbyswyd y Cyngor fod deddfwriaeth Ewropeaidd yn nodi isafswm y mae'n rhaid i aelod wladwriaethau ei fabwysiadu. Mae sefyllfa Llywodraeth Cymru yn uwch na rheoliadau Ewrop a'r adborth gan swyddogion a'r gweinidog yw eu bod yn bwriadu cario ymlaen gyda'r agenda presennol ac na fydd Brexit yn effeithio arnynt.

 

Mewn ymateb i bryderon y byddai casgliadau bob bythefnos yn arwain at wastraff ailgylchu yn cael eu rhoi mewn bagiau du, esboniodd swyddogion y darperir blychau ailgylchu ychwanegol os gwneir cais.

 

Ategwyd y dylid darparu gwasanaeth yn yr orsaf drosglwyddo sbwriel ar gyfer bagiau gwastraff coch a phorffor. Clywodd y Cyngor y cafodd y gwasanaeth ei ddileu gan fod y gwasanaeth yn cael ei gam-drin mewn modd mawr, a bod dadansoddiad wedi dangos fod 70 % i 80% o'r bagiau yn llawn o wastraff bag du. Bu rhai achosion lle bu preswylwyr yn sarhaus ac yn gorfforol fygythiol i staff yn Viridor. Pe cynhelid y prawf eto, byddai hynny ar sail y gallai gael ei ddileu.

 

Cyfeiriodd Aelod at gasglu bagiau "teigr" melyn a holodd os gellid addasu'r broses. Esboniwyd fod y gwasanaeth wedi symud i gasgliad bob bythefnos gan arbed £100,000, ac nad oedd unrhyw gynlluniau i newid ar hyn o bryd. Cadarnhaodd cyngor a dderbyniwyd gan yr HSE ei bod yn hollol ddiogel parhau gyda chasgliad bob bythefnos. Anghytunai'r Cynghorydd Easson fod hyn yn dderbyniol o safbwynt glanweithdra, yn neilltuol lle mae nifer o bobl yn byw gyda'i gilydd, a gofynnodd a allai swyddogion edrych ar achosion unigol lle gellid datrys sefyllfaoedd problem fel mater o frys. Cadarnhawyd hyn.

 

Mewn ymateb i bryderon am y cynnydd posibl mewn tipio anghyfreithlon, rhoddodd y Pennaeth Gwastraff a Gwasanaethau Stryd y Cyngor sicrwydd fod criwiau ar gael i gasglu tipio anghyfreithlon lle gwneir adroddiad am hynny ac na ddisgwylir cynnydd.

 

Holodd Aelod os oeddem ar ôl awdurdodau eraill yn nhermau mabwysiadu'r newidiadau hyn. Esboniodd y Pennaeth Gwastraff a Gwasanaethau Stryd nad oeddem yn mabwysiadu'r system safonol ar gyfer didoli ar y palmant, a'n bod wedi mynd am amrywiad a ystyriwyd gan Lywodraeth Cymru yn dir canol boddhaol.

 

Cydnabu Aelod y bu'r adroddiad drwy'r broses gaffael ac roedd yn falch i glywed fod y gwariant ar fagiau llwyd wedi ei atal dros dro ac yn cael ei adolygu.

 

Roedd pryderon am y broses ymgynghori a chlywodd y Cyngor y cafodd 6500 o breswylwyr eu treialu  ...  view the full Cofnodion text for item 9b

9c

Cymeradwyo Cyllideb Gyfalaf Meysydd Parcio 2017/18 pdf icon PDF 152 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer cyllideb cyfalaf yn 2017/18 ar gyfer gosod offer newydd a gwelliannau i feysydd parcio.

 

Nodwyd y dilynol yn ystod y drafodaeth:

 

Gofynnwyd am eglurhad am y sôn am offer a gwella/ailwampio. Holwyd os byddai'n cynnwys darparu mesurau ffisegol mewn rhai meysydd parcio i gyfyngu eu defnydd fel cyrsiau rasio answyddogol, a soniwyd yn neilltuol am Faes Parcio Stryd Gymreig yng Nghas-gwent. Atebodd Aelod y Cabinet bod angen gosod peiriannau tocyn newydd, gan roi dewis o ddulliau talu heblaw darnau arian i breswylwyr. Byddidyn gwella gofodau Bathodyn Glas i'r safon. Yng nghyswllt Maes Parcio Stryd Gymreig, mae ymgynghori yn mynd rhagddo gyda phreswylwyr a busnesau lleol a cheisid datrysiad o fewn y gyllideb.

 

Cadarnhawydfod EV yn cyfeirio at Gerbydau Trydan.

 

Eglurwyd y cafodd yr argymhellion ym mhapur y Cabinet dyddiedig Gorffennaf 2016 eu pasio fel cam 1. Mae'radroddiad hwn yn cyfeirio at gam 2 y broses.

 

Cyfeiriodd Aelod at lesddaliad meysydd parcio, gan gyfeirio at Faes Parcio'r Castell, a gofynnodd a oedd risg posibl o golli incwm. Esboniodd Aelod y Cabinet os ydym yn defnyddio tir ar les, bod hynny'n ddibynnol ar berchennog y tir ond y cynhelir trafodaethau.

 

Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion yn yr adroddiad:

           Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r cyllidebau cyfalaf a argymhellwyd gan y Cabinet ar 6 Gorffennaf 2016 a fanylir yn yr adroddiad 'Cynigion ar gyfer darparu meysydd parcio cyhoeddus yn y dyfodol gan Gyngor Sir Fynwy':

Bod cyllidebau cyfalaf o (i) ar gyfer peiriannau tocyn newydd mewn meysydd parcio, £300,000 ar gyfer gwella/ailwampio meysydd parcio presennol, creu pwyntiau EV ac arwyddion a bod y rhain yn cael eu cyllido drwy 'buddsoddi i gynilo' yn defnyddio refeniw a gynhyrchir drwy system gorchymyn a rheoli newydd meysydd parcio.

10.

Adroddiadau Pennaeth Cyllid

10a

Penderfyniad Treth Gyngor 2017/18 a Chyllidebau Refeniw a Chyfalaf 2017/18 pdf icon PDF 286 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Penderfyniad Treth Gyngor 2017/18 a Chyllidebau Cyfalaf Refeniw a Chyfalaf 2017/18 i'r Cyngor. Caiff y Cyngor ei rwymo gan Statud i amserlenni penodol ar gyfer gosod y Dreth Gyngor ac mae hefyd angen iddo wneud rhai penderfyniadau diffiniedig. Cynlluniwyd yr argymhellion sy'n ffurfio rhan fwyaf yr adroddiad hwn i gydymffurfio gyda'r Darpariaethau Statudol hynny.

 

Mae'r penderfyniadau a argymhellir hefyd yn dod ynghyd â goblygiadau Treth Gyngor y praeseptiau a hysbyswyd gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Chynghorau Tref a Chymuned, gan felly alluogi'r Cyngor Sir i sefydlu ei brif lefelau Treth Gyngor ar y gwahanol fandiau eiddo o fewn ardal pob Tref neu Gymuned.

 

Esboniodd Aelod Cabinet Adnoddau, er bod y setliad yn well nag a ragwelwyd, y bu'n broses anodd cyflwyno cyllideb gytbwys. Diolchodd i bob swyddog a gymerodd ran yn y broses am eu gwaith caled yn ystod y trafodaethau.

 

Hysbysodd yr Aelod Cabinet am argymhelliad diwygiedig fel sy'n dilyn:

 

2.1       Argymhellir cymeradwyo'r amcangyfrifon refeniw a chyfalaf am y flwyddyn 2017/18 fel y'u hatodir yn Atodiad 1 a 2 gyda'r addasiadau dilynol:

 

i.          Peidio codi ffioedd ar gyfer casgliadau gwastraff Masnach a bod y gwasanaeth yn lle hynny yn anelu i gynyddu'r sylfaen cwsmeriaid i sicrhau'r targed incwm o £10k.

ii.          Ychwanegu £300k ychwanegol at gyllideb cyfalaf Grant Cyfleusterau i'r Anabl a bod costau dilynol benthyca yn cael eu cyllido o’r gofod yng nghyllideb refeniw'r Trysorlys.

iii.         Bod y cyllidebau cyfalaf ar gyfer meysydd parcio yn cael eu hychwanegu at y  gyllideb cyfalaf gyffredinol fel yr amlinellwyd yng Nghyfeirnod 9c ar yr agenda Cyngor hwn.

 

Nodwyd y pwyntiau dilynol yn ystod trafodaeth:

 

Dywedodd Arweinydd yr wrthblaid y dylid diolch i Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol, er gwaethaf toriadau gan Lywodraeth San Steffan, yn dilyn ychydig o flynyddoedd caled i lywodraeth leol. Roedd yn falch nodi fod yr amcanestyniadau poblogaeth wedi newid, gan olygu cynnydd bach mewn cyllid ar gyfer Sir Fynwy.

 

Mynegwyd pryderon am gyllidebau ysgol, gan fod cyllidebau'n cael eu torri gan tua £700k. Ychwanegwyd fod ysgolion eu hunain, drwy'r fforwm ysgolion, wedi codi pryderon, gan gydnabod mai staff oedd y sylfaen cost mwyaf. Gofynnwyd cwestiwn hefyd am y cynnydd yng nghost prydau ysgol.

 

Roedd pryderon hir-sefydlog am briffyrdd, gwasanaethau bws a goleuadau stryd ym mater unigrwydd ac arwahanrwydd o fewn y Sir. Mae'r Gr?p Llafur yn ystyried y dylai mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd fod am wasanaethau eraill y Cyngor ac nid dim ond am ofal cymdeithasol.

 

Gofynnwyd am esboniad am doriad o £200k yng nghyllid Ysgol Cas-gwent.

 

Esboniodd Aelod Cabinet dros Addysg yr aiff 36% o'r gyllideb, dros £50m, i ysgolion ac fel canlyniad mae safonau wedi codi. Rydym wedi parhau i gyllido ein hysgolion yn uwch na chyfartaledd Cymru, gan fod yr ail gyllidwr uchaf, gyda chyllid fesul disgybl £300 yn fwy nag awdurdod cyfagos. Yng nghyswllt Ysgol Cas-gwent, nodwyd y gwnaed gwaith gwych yn codi niferoedd, ond bod hyn wedi gostwng yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, felly mae cyllid wedi gostwng gan y caiff ysgolion eu cyllido  ...  view the full Cofnodion text for item 10a

10b

Datganiad Polisi Rheolaeth Trysorlys a Datganiad Strategaeth, Datganiad Polisi MRP a Strategaeth Buddsoddi 2017/18 pdf icon PDF 629 KB

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad i'r Cyngor i fabwysiadu'r Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys blynyddol a'r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys yn cynnwys y Strategaethau Buddsoddi a Benthyca ar gyfer 2017/18 i 2020/21 a'r Isafswm Datganiad Darpariaeth Refeniw ar gyfer 2017/18 ar Atodiad C.

 

Caiff y strategaeth a pholisi arfaethedig eu monitro yn ystod y flwyddyn gan y Pwyllgor Archwilio.

 

Nodwyd y pwyntiau dilynol yn ystod trafodaeth:

 

Mewn ymateb i gwestiwn parthed benthyca mewnol, dywedodd Pennaeth Cynorthwyol Cyllid mai hwn yw'r trefniant lle gallwn edrych ar ein balans arian ar unrhyw amser penodol ac ystyried defnyddio'r adnoddau hynny i gyllido agweddau rhaglen cyfalaf ac osgoi benthyca allanol. O ran bod yn strategaeth tymor byr, mae'n dibynnu pa mor hir mae derbyniadau cyfalaf a derbyniadau refeniw cyffredinol.

 

Yng nghyswllt cwestiwn am gyfraddau llog, mae Rheoli Trysorlys yn ystyried y gall cyfraddau llog ostwng i lefel negyddol cyn iddynt ddechrau cynyddu. Caiff trethi eu monitro ar sail chwarterol ac nid ydynt yn symud llawer ar hyn o bryd.

 

Atgoffwyd aelodau fod newidiadau i'r Polisi MRP yn newid llif arian yn hytrach nag arbediad. Mewn ymateb i gwestiwn, cytunodd Pennaeth Cynorthwyol Cyllid  roi dadansoddiad o'r canlyniadau pe byddem wedi parhau gyda'r dull gweithredu blaenorol.

 

Yn nhermau buddsoddiadau moesegol, esboniodd Pennaeth Cynorthwyol Cyllid mai'r flaenoriaeth oedd diogelu arian a fuddsoddwyd. Mae'r ffocws pennaf ar sefydliadau gradd A dwbl. Gall gweithio drwy bwy sy'n manteisio o'r buddsoddiadau fo yn broblemus, ond nid oes dim yn atal cynghorwyr rhag penderfynu ar bolisi moesegol moesol ar fuddsoddiadau pe dymunent.

 

Mewn pleidlais penderfynodd y Cyngor ar yr argymhelliad:

 

           Argymhellir bod y Datganiad Polisi Rheolaeth Trysorlys arfaethedig ar gyfer 2017/18 (Atodiad 2) a'r Strategaeth Rheoli Trysorlys a Strategaethau Buddsoddi a Benthyca 2017/1i i 202/21 arfaethedig (Atodiad 1), yn cynnwys Datganiad Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer 2017/18 yn Atodiad C ynghyd â'r Terfynau Trysorlys sydd eu hangen gan adran 3 Deddf Llywodraeth Leol 2003.