Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 1af Rhagfyr, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Democratic Services 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Adroddiad y Cadeirydd ac unrhyw ddeisebau sydd wedi eu derbyn pdf icon PDF 171 KB

Cofnodion:

Wrth agor y cyfarfod, fe ofynnodd y Cadeirydd bod y Cyngor ar ei sefyll ac yn cynnal munud o dawelwch er cof am gyn gynghorydd Cyngor Sir Fynwy, Pam Birchall, a fu farw yn ddiweddar. Roedd yr Aelodau’n awyddus i fynegi eu cydymdeimlad a’u hatgofion hoffus o Ms. Birchall, a fyddai’n cael ei cholli’n fawr.

 

Fe longyfarchodd y Cadeirydd Arweinydd yr Wrthblaid, y Cynghorydd Sir D. Batrouni, a oedd wedi cwblhau ei PhD yn ddiweddar.

 

Fe dderbyniodd y Cyngor adroddiad y Cadeirydd.

 

Fe gyflwynodd y Cynghorydd Sir G. Howard ddeiseb mewn perthynas â Llwybr Seiclo Cenedlaethol 46, yng Nghwm Clydach, gan gyfeirio’n benodol at ran fer na fu agor erioed, gan ofyn bod y Cyngor yn defnyddio ei bwerau i alluogi’r rhan hon i agor.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Fe ddatganwyd y buddiannau canlynol:

 

Fe ddatganodd y Cynghorwyr Sir R.J. Higginson, S.B. Jones, J. Crook, R. Harris, P. Clarke, B. Strong, A. Watts fuddiant personol, anffafriol mewn perthynas ag eitem 8.1 ar yr agenda.

 

Fe ddatganodd y Cynghorwr Sir S. Jones fuddiant personol, ffafriol mewn perthynas ag eitem 8a ar yr agenda, fel cyfarwyddwr Consortiwm Masnach Cymru, ac aelod o’r Fforwm Talwyr Cyfraddau.  Wrth wneud hynny, fe gynghorodd y byddai’n gadael Siambr y Cyngor yn ystod y drafodaeth.

 

Fe ddatganodd y Cynghorwyr Sir P. Clarke, A. Wintle a A. Webb fuddiant personol, anffafriol mewn perthynas ag eitem 10.1 ar yr agenda, fel aelodau o fwrdd MHA.

 

Fe ddatganodd y Cynghorwyr Sir P. Farley, J. Crook, D. Dovey fuddiant personol, anffafriol mewn perthynas ag eitem 11,1 ar yr agenda.

 

 

 

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

4a

Cwestiwn gan Mr. J. Thurston i’r Cynghorydd Sir P. Fox

 

"A fydd yn cefnogi cwblhad y llwybr cerdded a beicio ar hyd yr hen reilffordd yng Nghwm Clydach; a fydd yn defnyddio ei swydd i gychwyn deialog rhwng Cyngor Sir Fynwy, Llywodraeth Cymru a thirfeddianwyr i geisio cael datrysiad cyflym yn ymwneud â’r 700 metr o’r llwybr sy’n weddill; ac adrodd yn ôl i’r aelodau?"

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr. Thurston, a oedd yn mynychu i gyflwyno ei gwestiwn i’r Cynghorydd Sir P. Fox.

 

Mewn ymateb i hyn, fe ddiolchodd yr Arweinydd i Mr. Thurston a chydnabod bod y cwestiwn yn ymwneud â’r ddeiseb a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Howard.  Cydnabuwyd pwysigrwydd y mater ynghyd â’r pwysigrwydd o agor y llwybr seiclo 700m dan sylw am resymau diogelwch.

 

Fe gynghorodd yr Arweinydd y byddai’n cefnogi cwblhad y llwybr cerdded a seiclo mewn unrhyw fodd posib er mwyn ceisio cael datrysiad boddhaol. Fe gynghorodd yr Arweinydd y byddai’n trafod gyda swyddogion er mwyn sicrhau bod pob opsiwn wedi cael eu harchwilio cyn gwneud unrhyw gynigion ffurfiol.

 

Diolchodd Mr. Thurston i’r Arweinydd ac fel cwestiwn atodol, gofynnwyd a fyddai’r Arweinydd yn cadarnhau na fyddai unrhyw opsiwn yn cael ei diystyru, gan gynnwys gorfodaeth i brynu?

 

Ailadroddodd yr Arweinydd y byddai pob opsiwn yn cael eu harchwilio cyn dechrau dilyn unrhyw broses ffurfiol.

 

4b

Canolfan Cyngor ar Bopeth Cyngor Sir Fynwy – Diweddariad ar yr Adroddiad Blynyddol pdf icon PDF 715 KB

Cofnodion:

Fe groesawodd y Cadeirydd Shirley Lightbound, o’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth, a oedd yn mynychu i ddarparu diweddariad ar Adroddiad Blynyddol Canolfan Cyngor ar Bopeth Sir Fynwy 2015-2016.

 

Nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Croesawodd Aelodau’r adroddiad a mynegi eu diolch am waith caled y Ganolfan.

·         Cydnabuwyd y byddai’n ddefnyddiol cryfhau’r cysylltiadau rhwng Cyngor Sir Fynwy a’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth, yn enwedig ar yr adeg hon o ostyngiadau mewn cyllid ac adnoddau, yn ogystal â’r cysylltiadau gydag asiantaethau eraill.

·         Nododd yr Arweinydd ei bod yn deall y negeseuon ac y byddai’r materion yn cael eu harchwilio ymhellach. Roedd yn edrych ymlaen at fynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn fuan er mwyn trafod ymhellach.

·         Llongyfarchwyd y Ganolfan ar y cynnydd, yn enwedig gan ystyried cyfuniad canolfannau unigol.

·         Nododd y Cynghorydd Easson, o ran amddifadiad, bod dim nifer o gleientiaid, a gofynnodd a oedd Cynghorwyr yn colli rhywbeth ac efallai eu bod ddim yn cyfeirio pobl at y Ganolfan. Mewn ymateb i hyn, fe glywsom na fod holl anghenion y boblogaeth yn cael eu bodloni, ac y byddai unrhyw gymorth yn cael ei werthfawrogi.

·         Soniodd y Cynghorydd A. Watts am fanciau bwyd ac fe glywsom fod yna dueddiad bod banciau bwyd yn cael eu defnyddio’n fwy aml, am resymau megis y gostyngiad cyffredinol yn yr economi ac oedi gyda cheisiadau am fudd-daliadau.

·         Pan ofynnwyd a fyddai modd adnabod tueddiadau yn benodol o newidiadau i bolisïau’r Cyngor, nododd Mrs. Lightbound na fod unrhyw ddynodiadau penodol, ond y gallai gyfeirio at ddadansoddiad ystadegol am ragor o wybodaeth. Gallai newidiadau i’r Dreth Gyngor, Gofal Cymdeithasol a budd-daliadau effeithio ar y tueddiadau.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Batrouni at ‘soffa-syrffio’ a chawsom ein cynghori bod y Ganolfan yn gweld y mater hwn yn dod yn fwy o dueddiad, ac mai un o’r problemau mwyaf oedd delio â digartrefedd. Byddai gweithio gyda’n gilydd a gwella cysylltiadau yn ddefnyddiol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mrs. Lightbound a chanmol gwaith y Ganolfan.

 

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 20fed o Hydref 2016 pdf icon PDF 199 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2016 fel cofnod cywir ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

6.

Nodi rhestr camau gweithredu’r cyfarfod diwethaf pdf icon PDF 9 KB

Cofnodion:

Fe nododd y Cyngor restr camau gweithredu’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2016.

 

Fe ofynnodd y Cynghorydd Sir F. Taylor, pan fo’r telerau yn ymwneud â Chontractau Dim Oriau yn cael eu trafod gan y Pwyllgor Archwilio, bod y canlyniadau’n cael eu rhannu gan yr holl Aelodau.

 

Fe gynghorodd y Cynghorydd Sir Easson bod rhagor o wybodaeth yn ymwneud â Chontractau Hyblyg wedi cael eu rhannu â’r Rheolwr Adnoddau Dynol dros dro.

 

7.

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Gwasanaethau Democratig ar y 17eg o Hydref 2016 pdf icon PDF 102 KB

Cofnodion:

Fe gymeradwyodd y Cynghorydd Sir F. Taylor gofnodion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2016. Wrth wneud hynny, fe ddiolchodd hi i’r holl Aelodau a oedd wedi dangos ymrwymiad i ddigwyddiadau’r Wythnos Democratiaeth diweddar.

 

Awgrymwyd bod argymhellion y Pwyllgor yn cael eu cofnodi mewn cyfarfodydd y dyfodol ac yn cael eu cynnwys yn y cofnodion.

 

8.

Rhestr o Gynigion

8a

Cynnig gan y Cynghorydd Sir R.J.W. Greenland

Mae’r ailbrisiad diweddar a gynigiwyd ar gyfer cyfraddau annomestig (NNDR – cyfraddau busnes) wedi arwain at gynnydd brawychus i fusnesau yn Sir Fynwy.

 

Mae 65% o fusnesau yn y Sir wedi gweld cynnydd yn eu cyfraddau drafft gyda nifer yn cynyddu mwy na 200%. Yn ymarferol, golyga hyn, os caiff y cynigion eu cadarnhau, bod rhai busnesau yn wynebu cynnydd o ddegau o filoedd o bunnoedd y flwyddyn nesaf. Ymddengys bod patrwm o siroedd gwledig yn wynebu cynnydd tra bod cyfraddau’r trefi a dinasoedd mwy yn gostwng. Gan fod y system yn seiliedig ar werthoedd rhentu tybiannol, ymddengys yn annhebygol bod y newid yng ngwerthoedd rhentu adeiladau busnes rhwng 2010 a 2015 yn adlewyrchu’r cynnydd yng ngwerthoedd trethiannol a gynigir ar gyfer rhai o fusnesau Sir Fynwy.

 

Os nad ydym am herio’r ailbrisiad hwn, gallai olygu bod rhai o’n prif fasnachwyr a busnesau lletygarwch yn benodol yn methu parhau i fasnachu.

 

Os yw busnesau yn cael eu gorfodi i dalu cynnydd mawr yn seiliedig ar yr ailbrisiad hwn, wrth iddynt ddisgwyl am ganlyniadau apeliadau, gallai problemau llif arian difrifol peryglu dyfodol rhai ohonynt. Ar y lleiaf, anogwn Lywodraeth Cymru i beidio â gorfodi’r cynnydd cyn derbyn canlyniadau apeliadau.

 

Mae hefyd yn bryder i’r Cyngor hwn, tra bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun ponti ar gyfer busnesau bychain wedi’u heffeithio gan y cynnydd, nid yw wedi gwneud yr un fath ar gyfer busnesau mwy, a fydd yn teimlo’r effaith yn fwy. Rydym yn galw am drefniadau pontio cydymdeimladol ar gyfer yr holl fusnesau.

 

Mae gan Lywodraeth Cymru y p?er i osod neu ohirio’r cynigion hyn. Gan ystyried y pryder a fynegwyd gan y Cyngor hwn a nifer o fusnesau yn Sir Fynwy, fe anogwn Lywodraeth Cymru i ohirio’r cynigion drafft hyn i ganiatáu amser i adolygu’r fethodoleg yn drylwyr ac ystyried canlyniadau’r ailbrisiad hwn.

 

Cofnodion:

Mae’r ailwerthusiad diweddar arfaethedig o gyfraddau annomestig (NNDR – cyfraddau busnes) wedi taflu i fyny rhai cynyddiadau syfrdanol ar gyfer busnesau yn Sir Fynwy. Mae 65% o’r busnesau yn y Sir wedi darganfod cynnydd yn eu cyfraddau drafft gyda nifer yn codi gan fwy na 200%. Yn ymarferol, golyga hyn os yw’r cynigion yn cael eu cadarnhau bod rhai busnesau’n wynebu cynnydd o ddegau o filoedd o bunnoedd y flwyddyn nesaf. Ymddengys bod patrwm o siroedd gwledig yn wynebu cynyddiadau tra bod cyfraddau trefi a dinasoedd mwy yn gostwng. Gan fod y system yn seiliedig ar werthoedd rhent tybiannol, ymddengys yn annhebygol bod y newid yng ngwerthoedd rhent lleoliadau busnes rhwng 2010 a 2015 yn adlewyrchu’r cynnydd yng ngwerthoedd trethiannol a gynigwyd ar gyfer rhai o fusnesau Sir Fynwy. Os na herir yr ailwerthusiad hwn, gallai olygu bod rhai o’r masnachwyr a busnesau lletygarwch mwyaf blaenllaw yn methu â pharhau i fasnachu.

 

Os yw busnesau’n cael eu gorfodi i dalu cynnydd mawr yn seiliedig ar yr ailwerthusiadau hyn wrth iddynt aros am ganlyniad apeliadau, gallai problemau arwyddocaol gyda llif arian beryglu dyfodol rhai busnesau. Ar y lleiaf, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i beidio â chyflwyno’r cynnydd tan fod canlyniadau’r apeliadau’n hysbys.

 

Mae hefyd yn bryder i’r Cyngor hwn, tra bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun pontio ar gyfer busnesau bach a effeithir gan y cynnydd, nid yw wedi gwneud yr un peth ar gyfer a  busnesau mwy a fydd yn cael eu heffeithio’n waeth. Rydym yn galw am drefniadau pontio sympathetig ar gyfer pob busnes.

 

Mae gan Lywodraeth Cymru’r p?er i gyflwyno neu ohirio’r cynigion hyn. Gan ystyried y pryder a fynegwyd gan y Cyngor hwn a nifer o fusnesau yn Sir Fynwy, anogwn Lywodraeth Cymru i ohirio’r cynigion drafft hyn i ganiatáu amser am adolygiad trylwyr o’r fethodoleg ac i ystyried y canlyniadau a ddaw i’r amlwg o’r ailwerthusiad hwn.

 

Cyn cyflwyno’r cynnig, fe anerchodd y Cynghorydd Easson y Cyngor a gofyn am eglurder o ran dilysrwydd y cynnig ar y sail bod y Cynghorydd Easson ei hun wedi cyflwyno cynnig a oedd wedi cael ei wrthod i’w gynnwys yn y cyfarfod oherwydd ei bod yn cael ei ystyried fel un a oedd y tu allan i orchymyn sefydlog 12.3.  Fe gynghorodd y Swyddog Monitro ei fod wedi gwneud y penderfyniad oherwydd bod y cynnig a gyflwynwyd ddim yn cydymffurfio â 12.3, tra bod y cynnig a godwyd gan y Cynghorydd Greenland yn cyfeirio’n benodol at fusnes Sir Fynwy. Fe ychwanegodd y gallai addasu’r geiriad yn y cyfansoddiad, pe dymunai’r Cyngor iddo wneud hynny.

 

Yn ystod y drafodaeth, fe nodom y canlynol:

 

·         Cytunodd yr Aelodau bod neuaddau pentref yn rhan ganolog o’r gymuned ac y byddent hefyd yn cael eu heffeithio. Ar hyn o bryd mae neuaddau pentref yn derbyn gostyngiad ychwanegol o 80% ar gyfraddau busnes fel grant o’r Cyngor.

·         Roedd Arweinydd y Busnes yn cydnabod y pwysau ar fusnesau ac fe ychwanegodd bod dyletswydd arnom i gefnogi’r cynnig hwn ar ran busnesau Sir Fynwy. Fe  ...  view the full Cofnodion text for item 8a

8b

Cynnig gan y Cynghorydd Sir A. Easson

Fy nghanfyddiad yw bod Sir Fynwy yn cael ei ystyried yn Awdurdod Sinderela mewn perthynas â chynlluniau ar gyfer y System Metro o fewn Rhanbarth y Ddinas. Cynigaf felly bod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar y ffaith bod Sir Fynwy yn bodoli ac yn fwy na dim ond smotyn ar fap De Ddwyrain Cymru. Ar ben hynny, bod ein Harweinydd, ac aelodau perthnasol o’r Cabinet sy’n rhan o’r Awdurdod Cyfunol ehangach sy’n rhoi llais cryfach i gryfhau ein presenoldeb – ymddengys bod hyn ar goll.

 

Cofnodion:

Fy nghanfyddiad yw bod Sir Fynwy yn cael ei ystyried fel Awdurdod Sinderela mewn perthynas â’r cynlluniau ar gyfer y System Metro o fewn rhanbarth y ddinas. Rwyf felly’n cynnig bod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar y ffaith bod Sir Fynwy yn bodoli a ddim jyst yn smotyn ar fap De Ddwyrain Cymru. Ar ben hynny, Ar ben hynny, bod ein Harweinydd ac aelodau perthnasol o’r Cabinet sy’n rhan o’r Awdurdod Cyfunol ehangach yn rhoi  mwy o lais i gryfhau ein presenoldeb – sy’n ymddangos i fod ar goll.

 

Fe holodd y Cynghorydd G. Howard os dylai’r cynnig fod ar yr agenda neu os dylid ei eirio’n wahanol. Mewn ymateb i hyn, nododd y Cadeirydd bod y cynnig wedi cael ei ganiatáu ac fe barhawyd gyda’r drafodaeth, ac fe nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Nododd y Cynghorydd J. Prosser ei fod yn cytuno gyda rhannau o’r cynnig ond ddim gyda’r datganiad yn ymwneud â’r Arweinydd, felly ni allai gefnogi’r cynnig.

·         Diolchodd Arweinydd y Cyngor i’r Cynghorydd Prosser am ei gefnogaeth ac am y cyfle i drafod y mater a godwyd. Byddai’n gofyn i Gadeiryddion y Pwyllgorau Dethol i gynnal cyfarfod ar y cyd yn gynnar yn 2017 i baratoi ar gyfer cyfarfod o’r Cyngor yn y dyfodol, ac i ddarparu Aelodau â dealltwriaeth ddyfnach o Ddêl y Ddinas a’r Metro.

·         Fe wrthododd yr Arweinydd yr honiad bod Cyngor Sir Fynwy yn Awdurdod Sinderela o fewn y Fargen Ddinesig, na chwaith y byddai’n dod yn un, ac fe addawodd y byddai bob tro’n sicrhau bod buddiannau Sir Fynwy yn cael eu cynrychioli ym mha bynnag fforwm roedd yn rhan ohono. Fe ddatganodd nad oedd modd iddo gefnogi’r cynnig.

·         Holwyd pa gynlluniau oedd yn eu lle i ofyn beth roedd pobl Sir Fynwy ei eisiau o’r Fargen Ddinesig, ac a oedd yr hyn a oedd ei angen yn cael ei ystyried.

 

Wrth gael ei roi i’r blediais, fe drechwyd y cynnig.

 

9.

Adroddiad gan y Pennaeth Cyllid

9a

Cynnig i adolygu’r polisi ar Ddarpariaeth Refeniw Isafswm (MRP) mewn perthynas â Benthyca a Gefnogir o 2016/17 ymlaen pdf icon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o’r Cabinet adroddiad er mwyn:

 

·         Adlewyrchu canlyniad yr adolygiad ar Ddarpariaeth Refeniw Isafswm blynyddol y Cyngor mewn perthynas â’r elfen cefnogi benthyca cyllido o wariant cyfalaf;

·         Darparu’r Cyngor Llawn â chynnig i ddiwygio’r Datganiad Polisi ar Ddarpariaeth Refeniw Isafswm ar gyfer 2016/17 mewn perthynas â benthyca a gefnogir.

·         Amlinellu goblygiadau tymor byr a chanolig i’r refeniw yn ogystal â chyflwyno ymagwedd decach a haws i’w fabwysiadu ar gyfer trethdalwyr cyfredol a’r sawl yn y dyfodol.

 

Nid oedd unrhyw sylwadau gan yr Aelodau, ac wrth gael ei roi i’r bleidlais, fe  benderfynodd y Cyngor i dderbyn yr argymhellion yn yr adroddiad:

 

·         Newid i’r ymagwedd yn ymwneud â’r cyfrifiad Darpariaeth Refeniw Isafswm ar Fenthyca a Gefnogir (ymagwedd Opsiwn 2) gan ei symud o sail gostwng balans 4% i sail llinell syth 2%, fel sy’n gyffredin mewn nifer o awdurdodau Cymru.

 

10.

Adroddiad y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio Lleoedd

10a

Cymdeithas Tai Sir Fynwy – Cais i Wahanu Costau Gwasanaethau pdf icon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe groesawom Mr Higginson o Gymdeithas Tai Sir Fynwy a gyflwynodd adroddiad a gyflwynwyd i’r Rheolwr Tai a Chymunedau. Diben yr adroddiad oedd ystyried cais gan y Cyngor i roi caniatâd i Gymdeithas Tai Sir Fynwy i wahanu costau gwasanaethau o’r rhent a delir gan denantiaid tai cymdeithasol. Gelwir hyn yn dad-gyfuno. Mae’r Gymdeithas yn ceisio cydsyniad y Cyngor i hepgor cydymffurfiad gyda rhan o’r Cytundeb Trosglwyddo Stoc.

 

Yn ystod y drafodaeth, fe nodom y pwyntiau canlynol:

 

·         Fe fynegodd y Cynghorydd A. Watts siom bod y gwasanaeth wardeniaid wedi cael ei stopio peth amser yn ôl. Fe glywsom mai nod ailstrwythuro diweddar o’r Gwasanaeth Tai a Chymunedau oedd caniatáu ymweld â thenantiaid, yn eu cartrefi eu hunain, yn fwy aml.

·         Eglurwyd y byddai dim effaith ar Fudd-daliadau Tai

·         Byddai proses ymgynghori llawn yn cael ei gynnal i gynnwys digwyddiadau, taflenni a fforymau, er mwyn sicrhau dealltwriaeth lawn o beth fyddai tenantiaid yn talu am. Rhagwelir y byddai hyn yn dechrau mis Medi/Hydref 2017 er mwyn sicrhau ymgynghoriad llawn. Gallir cynnwys aelodau yn y dosbarthiad o wybodaeth.

·         O ran demograffeg, roedd dau draean o denantiaid 50+ mlwydd oed, a mynegwyd pryderon y byddai pobl h?n yn talu mwy am gostau gwasanaethau.

·         Nododd Cadeirydd y Pwyllgor Dethol Oedolion, y Cynghorydd Farley y dylid bod wedi cyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor Dethol Oedolion i’w Graffu. Esboniodd yr Arweinydd mai’r Cyngor oedd y brif broses craffu.

·         Awgrymodd y Dirprwy Brif Weithredwr y dylid cyflwyno adroddiad pellach, manwl i’r Pwyllgor Dethol Oedolion.

 

Fe benderfynodd y Cyngor gytuno i’r argymhelliad yn yr adroddiad:

 

·         Cytuno i ddarparu cydsyniad i Gymdeithas Tai Sir Fynwy i dad-gyfuno eu costau gwasanaethau, yn amodol ar y Gymdeithas yn ymgymryd â rhaglen o ymgynghori â thrigolion er mwyn sicrhau bod yr holl denantiaid a effeithier arnynt yn ymwybodol o’r cynigion a’u goblygiadau.

 

11.

Adroddiad y Pennaeth Democratiaeth, Ymrwymiad a Gwella

11a

Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc pdf icon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Cyngor gydag Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc.

 

Yn dilyn hyn, fe nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Bu Arweinydd yr Wrthblaid gydnabod llwyddiannau a’r cynnydd sylweddol a wnaed ar amddiffyn, ond nododd bwlch parhaus rhwng cyfnod allweddol 2 a 3, ac ymddengys bod diffyg cyrhaeddiad, o ystyried y ddemograffeg, yng nghyfnod allweddol 4. Mewn ymateb i hyn, esboniodd y Pennaeth Democratiaeth, Ymrwymiad a Gwella bod y newid o gyfnod allweddol 3 i 4 yn her, yn rhannol oherwydd y newid i mewn i sefyllfaoedd arholiadau. Dylid nodi’r cynnydd yn lefelau perfformiad ar lefel 3 eleni.

·         Cawsom ein cynghori y byddai gwybodaeth fwy manwl yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc yn y flwyddyn newydd, gan gynnwys y mesurau ar gyfnod allweddol 4 a 5.

·         O ran y pryderon yn ymwneud â materion gyda lefelau gwahardd ar lefel ysgol gynradd, roedd swyddogion yn gweithio’n agos gydag ysgolion.

·         Tynnwyd sylw at faterion yn ymwneud â chyllid ysgolion a diffygion mewn cyllidebau. Cawsom ein hysbysu bod dros draean o adnoddau’r Cyngor yn mynd tuag at addysg, gyda swyddogion yn sicrhau’r effaith a gwerth gorau.

·         Fe ganmolodd y Cynghorydd Farley y cyflwyniad gan argymell, ar gyfer adroddiadau’r dyfodol, y dylid cyfeirio at lesiant y gweithlu.

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir P. Fox y cyfarfod am 16:55pm.

 

·         Cyfeiriwyd at ordewdra plant, ac roedd cydnabyddiaeth o’r her gymhleth yn ymwneud â’r mater.

·         Mae’r bwlch rhwng y rhywiau yn y cyfnod sylfaen yn parhau ac roedd gwahanol ffyrdd yn cael eu trio i ymrwymo bechgyn er mwyn ysgogi diddordeb.

·         Yn nhermau’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg, roedd lefel uchel o sicrwydd yn y gwaith a oedd yn cael ei wneud gan y partner hynod werthfawr hwn.

 

 

Gadwodd y Cynghorwyr Sir S. Jones, D. Edwards a L. Guppy y cyfarfod am 17:05pm

 

·         Fe ganmolodd y Cynghorydd Easson waith Dechrau’n Deg Sir Fynwy a chwestiynau’r capasiti i gadw’r gwasanaeth. Atseiniodd y Pennaeth Democratiaeth, Gwelliant ac Ymrwymiad y teimladau ac esboniodd bod Dechrau Deg yn rhaglen a ariannir trwy grant ar y cyd â ABUHB, a bod angen uchafu buddion rhaglenni eraill, megis Teuluoedd yn Gyntaf, a sut maen nhw’n alinio â’r gwasanaeth.

·         Ychwanegodd Cadeirydd y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc, o ran gordewdra, roedd y pwyllgor wedi gofyn bod ABUHB yn mynychu cyfarfod i drafod a gweithio gyda’n gilydd, gan graffu ar gynnydd. Roedd pob Aelod yn fodlon gyda hyn. 

 

Mynegodd yr Aelod o’r Cabinet ddiolch am yr adroddiad gan awgrymu y byddai cyfarfod cinio cyn cyfarfod nesaf y Cyngor yn addas er mwyn parhau gyda’r cwestiynau.

 

12.

Cwestiynau gan Aelodau

12a

O’r Cynghorydd Sir A. Easson i’r Cynghorydd Sir E. J. Hacket Pain

Mae dwy ysgol yn Sir Fynwy wedi cofrestru i dderbyn cefnogaeth Adnoddau Dynol annibynnol. A ydych chi, fel yr Aelod o’r Cabinet dros addysg, yn cefnogi’r gweithrediadau hyn ac a oes gennych chi farn bendant am unrhyw ysgolion eraill y gallai fod yn bwriadu cyflogi darparwyr Adnoddau Dynol allanol?

 

Cofnodion:

Mae dwy ysgol yn Sir Fynwy wedi cofrestru i dderbyn cefnogaeth Adnoddau Dynol annibynnol. Ydych chi, fel yr Aelod o’r Cabinet dros addysg, yn cefnogi’r camau hyn ac a oes gennych chi farn benodol am unrhyw ysgolion eraill gallai fod yn bwriadu cyflogi darparwyr Adnoddau Dynol allanol?

 

Fe ddiolchodd yr Aelod o’r Cabinet i’r Cynghorydd Easson am y cwestiwn ac fe gynghorodd y byddai hwn yn gwestiwn addas ar gyfer llywodraethwyr yr ysgol. Fe esboniodd hi mai ei rôl hi, fel aelod gweithredol, yw dwyn yr ysgolion i gyfrif am ganlyniadau a chyraeddiadau’r plant yn ein hysgolion.

 

Fel cwestiwn atodol, ychwanegodd y Cynghorydd Easson:

 

A ydych chi’n credu y dylai’r sawl a benodir gan y Cyngor Sir i eistedd ar gyrff llywodraethu gefnogi’r symud hwn tuag at Adnoddau Dynol annibynnol? Er enghraifft, a ddylai gr?p o ysgolion ddod ynghyd i gael cefnogaeth Adnoddau Dynol annibynnol, a beth fyddai’r goblygiadau ar yr Awdurdod? Os yw rhai ysgolion yn teimlo’r rhyddid i gymryd y math hwn o gamau, a ddylem weithio gyda’r ysgolion?

 

Mewn ymateb i hyn, ailadroddodd yr Aelod o’r Cabinet mai llywodraethwyr ddylai fynd i’r afael â materion Adnoddau Dynol.