Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 20fed Hydref, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Democratic Services 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Adroddiad y Cadeirydd ac unrhyw ddeisebau sydd wedi eu derbyn pdf icon PDF 257 KB

Cofnodion:

Wrth agor y cyfarfod, fe gynhaliodd y Cadeirydd munud o dawelwch er cof am drychineb Aberfan.

 

Fe gymerodd yr Arweinydd eiliad i fyfyrio ac fe gynghorodd y byddai Cyngor Sir Fynwy yn cynnal munud o dawelwch y diwrnod canlynol. Fe ategodd yr Arweinwyr Gr?p deimladau’r Arweinydd ac fe awgrymwyd bod yr Arweinydd a’r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Fwrdeistref i gynnig cydymdeimlad pobl Sir Fynwy.

 

Fe dderbyniom adroddiad y Cadeirydd.

 

Fe gyflwynodd y Cynghorydd Sir A. Webb ddeiseb i newid y terfyn cyflymder ar yr A446, rhwng Tyndyrn a Llandogo.

 

Fe gyfeiriodd Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Gymunedau Cryf at argymhelliad a oedd wedi cael ei wneud gan y pwyllgor bod Seminar Aelodau yn cael ei drefnu yn ymwneud â goryrru a diogelwch a ffordd, a gofynnwyd bod hyn yn cael ei rhoi ar waith.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan Aelodau.

 

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Doedd dim eitemau ar y fforwm agored i’r cyhoedd.

 

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2016 pdf icon PDF 188 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2016 am 2.00pm fel cofnod cywir ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

Wrth wneud hynny, nodwyd y dylai eitem 13.1 adlewyrchu bod Aelod o’r Cabinet wedi cynghori y byddai pob addewid a wnaethpwyd i drigolion yn cael eu cadw.

 

6.

Nodi rhestr camau gweithredu’r cyfarfod diwethaf pdf icon PDF 127 KB

Cofnodion:

Fe dderbyniom Restr Camau Gweithredu’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2016.

 

Fe ddarparodd y Cynghorydd Sir Greenland ddiweddariad yn ymwneud â’r Velothon.  Yn dilyn trafodaethau gyda Run4Wales, fe gytunwyd y byddai’r ffyrdd yn cau yn ôl system dreigl ar gyfer ras broffesiynol Velothon 2017.  Felly, byddai llawer llai o ffyrdd ar gau o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Roeddem hefyd wedi clywed y byddai yna ras fyrrach, yn troi i’r chwith ar y gyffordd gyda’r A4042, ac allan o’r Sir.  Byddai Run4Wales yn cysylltu â busnesau yn brydlon yngl?n â’r llwybr. 

 

7.

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio ar 15 Medi 2016 pdf icon PDF 108 KB

8.

Rhestr o Gynigion

Cofnodion:

Fe gynghorydd y Cadeirydd y byddai’r Cyngor yn derbyn eitem 9a cyn 8a.

 

8a

Cynnig gan y Cynghorydd Sir A. Easson

Ni fydd y Cyngor hwn yn cyflogi unrhyw un ar delerau ac amodau “gontract hyblyg”. Ar ben hynny, ni fydd y Cyngor hwn yn cefnogi busnesau sy’n cyflenwi gwasanaethau ar gontract i Sir Fynwy sy’n defnyddio amodau o‘r fath, ac mewn gwirionedd, bydd yn mynnu na fod y busnesau’n defnyddio’r amodau hyn

Cofnodion:

Ni fydd y Cyngor hwn yn cyflogi unrhyw un ar delerau ac amodau "cytundeb hyblyg". Ar ben hynny, bydd y Cyngor hwn yn cefnogi unrhyw fusnesau sy’n darparu gwasanaethau ar gytundeb i Sir Fynwy sy’n defnyddio amodau o’r fath, ac a dweud y gwir, bydd yn mynnu eu bod ddim yn gweithredu yn y modd hwn.

 

Fe ddatganodd y Cynghorydd Sir P. Clarke fuddiant personol, ffafriol yn ymwneud â Chod Ymddygiad yr Aelodau fel Cyfarwyddwr T? Glen-yr-Afon a Gwesty Three Salmons sydd, o bryd i’w gilydd, yn darparu gwasanaethau i Gyngor Sir Fynwy, ac fe adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

Wrth gyflwyno’r cynnig, fe nododd y Cynghorydd Sir Easson na ddylai Cyngor Sir Fynwy dderbyn cytundebau o’r fath, a ellid eu defnyddio fel modd o osgoi cytundebau dim oriau. Credwyd y gellid hefyd trafod y mater yn y Pwyllgor Archwilio.

 

Cytunodd yr Aelodau bod angen rhagor o esboniad ar gytundebau hyblyg, ac y gallai’r Pwyllgor Archwilio fynd i’r afael â hyn.

 

Cynigodd y Cynghorydd Easson addasu’r cynnig i gynnwys:

‘a symud y drafodaeth hon i’r Pwyllgor Archwiliad am benderfyniad’.

 

Eiliwyd yr addasiad a chariwyd y cynnig.

 

9.

Adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Pobl a Llywodraethu Gwybodaeth

9a

Contractau Dim Oriau pdf icon PDF 275 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe gyflwynodd yr Aelod o’r Cabinet yr adroddiad i ddarparu’r cyngor llawn â dadansoddiad llawn o’r defnydd o gytundebau dim oriau / dim oriau gwarantedig / dros dro ledled y sefydliad, yn unol â chais y cyngor llawn ar 22 Medi.

 

Yn ystod y drafodaeth fe nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Roedd rhai anghysondebau yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd a’r gobaith oedd y byddem yn cydymffurfio’n llawn â’r cyfarwyddyd cyfredol cyn gynted â phosib.

·         Derbyniodd Aelodau restr o’r meysydd ble roedd y contractau yn cael eu defnyddio ac roeddent yn gallu adnabod y gwasanaethau na allai fodoli heb y trefniadau hyn.

·         Nododd Arweinydd yr Wrthblaid bod nifer y contractau dim oriau wedi mwy na dyblu mewn dwy flynedd, yn sgil toriadau a mwy o ddibyniaeth ar staff dros dro.

·         Rhoddwyd manylion i aelodau o gontractau dim oriau gyda Chyngor Dinas Casnewydd, ond teimlwyd mai cymharu arfer drwg gydag arfer drwg oedd hyn, ac nid oedd yn gymhariaeth ddefnyddiol. Roedd yn siomedig bod canran Sir Fynwy, sef 9%, yn uwch na’r cyfartaledd derbyniol o 5%.

·         Cyfeiriodd Aelod at rai pobl a oedd wedi gweithio 20 awr, weithiau mwy, ar gyfer y ddwy flynedd diwethaf a’u bod dal ar gontractau dim oriau. Roedd yn bryder na fod y materion hyn yn cael eu codi yn y systemau arfarnu.

·         Gofynnwyd a oedd y weinyddiaeth Geidwadol/Rhyddfrydol yn hyderus ac yn fodlon bod dim o’r 318 o bobl ar gontractau dim oriau wedi gweithio oriau rheolaidd bob wythnos am gyfnod o fwy na thri mis fel rhan o swydd brif ffrwd.

·         Y gobaith oedd y na fyddai’r model cyflwyno newydd yn effeithio ar y bobl ar gontractau dim oriau.

·         Diolchodd yr Arweinydd i swyddogion am y wybodaeth gan gydnabod, er bod mwy o waith i’w wneud, ein bod ar y trywydd cywir, ac roedd y sbardunau am asesiad yn galonogol. Fe nododd yr Arweinydd ei fod yn gwrthod cael ei darlithio gan y Gr?p Llafur, tra bod nifer o’u hawdurdodau ledled Cymru yn dal i fethu â darparu cyflog byw, yn wahanol i’r Cyngor hwn dan reolaeth y Ceidwadwyr.

·         Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid cyfeirio’r manylion hyn at y Pwyllgor Archwilio ac fe gytunwyd i drafod hyn gyda’r Cadeirydd Archwilio.

 

Fe gyflwynodd y Cynghorydd Sir Howarth gynnig bod y Pwyllgor Archwilio yn edrych ar y contractau dim oriau o fewn Cyngor Sir Fynwy ac yn cyflwyno adroddiad i’r Cyngor cyn gynted â phosib. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Wrth gael ei roi i bleidlais, fe gariwyd y cynnig.

 

Fe benderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion yn yr adroddiad, ynghyd â’r cynnig a gyflwynwyd:

 

·         Bod y Cyngor yn ystyried y wybodaeth a ddarparwyd.

 

10.

Adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Swyddog Monitro

10a

Adroddiad Panel y Pwyllgor Dethol ar Safonau pdf icon PDF 144 KB

Cofnodion:

Fe gyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Swyddog Monitro adroddiad yn esbonio bod angen penodi dau aelod o’r Pwyllgor Safonau oherwydd bod cyfnod dau aelod annibynnol cyfredol yn dod i ben ar 13 Ionawr 2017. Gofynnwyd i aelodau argymell meini prawf ar gyfer y penodiadau ac i sefydlu Panel i wneud argymhellion i’r Cyngor ar y penodiadau.

 

Cawsom ein cynghori bod Cynghorydd Sir o Un Llais Cymru a’r Aelod Lleyg, yr Uchel Siryf wedi cytuno i eistedd ar y panel ar yr achlysur hwn. Ar ben hynny, byddai hysbyseb am aelodau annibynnol yn cael ei roi yn y South Wales Argus, a phapurau newydd cysylltiedig, gyda dyddiad cau o 18 Tachwedd 2016.

 

Fe nodom nad oedd modd enwebu aelodau cyfredol o’r Pwyllgor Safonau.

 

Ar ran Gr?p y Ceidwadwyr, fe enwebodd yr Arweinydd y Cynghorydd P. Jordan.

 

Ar ran y Gr?p Llafur, fe enwebodd y Cynghorydd Batrouni y Cynghorydd J. Higginson.

 

Ar ran y Gr?p Annibynnol fe enwebwyd y Cynghorydd F. Taylor.

 

Wrth gael ei roi i bleidlais, fe benderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion yn yr adroddiad:

 

·         Penodi tri aelod etholedig i Banel at ddibenion Rheoliadau 15 a 16 o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001.

·         Gofyn i Un Llais Cymru benodi aelod o’r Cyngor Cymunedol i’r Panel.

·         Bod y Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad ag arweinwyr y grwpiau, yn penodi aelod lleyg i’r Panel.

·         Mabwysiadu a chyhoeddi meini prawf ar benodi aelodau annibynnol i’r Pwyllgor Safonau sy’n gofyn am: Annibyniaeth wleidyddol; y gallu i ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth ac arweiniad yn ymwneud â Chodau Ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus; profiad mewn rôl gydag atebolrwydd cyhoeddus; y gallu i herio’r Cyngor mewn perthynas â’i safonau mewn modd teg a chyson; dealltwriaeth a pharch am gyfrinachedd; yn dangos gonestrwydd personol ac ariannol.

 

11.

Adroddiad y Prif Weithredwr

11a

Rhaglen Ysgolion y Dyfodol pdf icon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe ddatganodd y Cynghorydd Sir L. Guppy fuddiant personol, anffafriol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â’i rôl fel Llywodraethwr yr Awdurdod Addysg Lleol yn Ysgol Cil-y-Coed, ac am fod aelod o’r teulu yn mynychu’r ysgol.

 

Fe ddatganodd y Cynghorydd Sir D. Blakebrough fuddiant personol, anffafriol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas â’i rôl fel Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Trefynwy, ac am fod ei phlentyn yn mynychu’r ysgol.

 

Fe ddatganodd y Cynghorydd Sir R. Edwards fuddiant personol, anffafriol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau am fod aelod o’r teulu yn mynychu Ysgol Gyfun Trefynwy.

 

Fe groesawodd Aelod o’r Cabinet Pennaeth Ysgol Cil-y-Coed a Dirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Trefynwy i’r cyfarfod. Fe gyflwynwyd adroddiad i’r Cyngor a oedd yn darparu diweddariad ar gynnydd Rhaglen Ysgolion y Dyfodol a newidiadau arfaethedig i’r rhaglen gyfalaf gymeradwy a fydd yn galluogi cyflwyno dwy ysgol newydd i ddisodli Ysgol Cil-y-Coed ac Ysgol Gyfun Trefynwy.

 

Fe gynghorodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn llythyr ar ran disgyblion Ysgol Cil-y-Coed yn diolch i Gyngor Sir Fynwy am ei benderfyniad i adeiladu’r ysgol newydd, gan ddiolch i’r Cynghorwyr hefyd. 

 

Yn dilyn cyflwyniad gan Reolwr Rhaglen Ysgolion y Dyfodol, dechreuwyd trafodaeth, ac fe godwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Fe fynegodd y Cynghorydd Sir Hayward siom bod y gyllideb eisoes wedi gorwario gan 15% ac fe holodd am gyfiawnhad ar gyfer hyn. Credwyd y dylid adnabod costau sefydlog yn arbennig oherwydd bod yr amodau gwreiddiol yn hysbys cyn dechrau’r adeiladu. Gofynnwyd am ragor o esboniad am dalu’r costau.

·         Roedd pryder y byddai dymchwel y pwll nofio yn golygu byddai dim pwll nofio ar gael am o leiaf 12 mis.

·         Fe ymatebodd Aelod o’r Cabinet gan ddweud y byddai cost y deunyddiau adeiladu a’r costau llafur yn aros yr un fath beth bynnag y safle. Roedd y tarfu ar yr ysgol yn hysbys ac wedi cael ei gynllunio ar ei gyfer. Roedd y costau bellach yn sefydlog a byddai unrhyw orwariant nawr yn cael ei dalu gan y contractwyr. 

·         Cadarnhawyd y byddai’r costau o fenthyca ar gyfer y gyllideb gyfalaf ychwanegol yn dod allan o’r costau cynnal a chadw ar gyfer yr ysgol, nid costau staff. Byddai’r gost o gynnal a chadw’r ysgol newydd yn finimol.

·         Cadarnhawyd bod yr ysgol angen defnydd parhaus o’r neuadd chwaraeon, ac y byddai dim opsiwn arall heblaw am gau’r neuadd am gyfnod o amser.

·         Ymatebodd aelodau i 2.1.3 yn yr adroddiad:

Cytuno i roi awdurdod dirprwyedig i’r Aelod o’r Cabinet dros Adnoddau, mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog dros Adnoddau a’r Pennaeth Cyllid, i bennu’r pecyn ariannu gorau ar gyfer cyfraniad y Cyngor o £5.95 miliwn gan ystyried:

§  Cyfle i ryddhau asedau ychwanegol dan berchnogaeth y Cyngor i’w gwerthu;

§  Cyfleoedd benthyca darbodus gyda chyfraniadau blynyddol o gyllidebau Ysgol Cil-y-Coed a Threfynwy gan gydnabod gwelliannau arwyddocaol mewn arbed ynni a chael gwared ar unrhyw angen materol i gynnal a chadw’r adeilad am gyfnod estynedig.

§  Cael ei gynnwys o fewn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig o ddarpariaeth refeniw (£476k)  ...  view the full Cofnodion text for item 11a