Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 22ain Medi, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Democratic Services 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Doedd dim eitemau ar y fforwm agored i’r cyhoedd.

 

3.

Adroddiad y Cadeirydd ac unrhyw ddeisebau sydd wedi eu derbyn pdf icon PDF 218 KB

Cofnodion:

Wrth agor y cyfarfod, gofynnodd y Cadeirydd i’r Cyngor i fod ar ei sefyll ac fe gynhaliwyd munud distaw er cof am y cyn Gadeirydd, Jane Faulser, a fu farw’n ddiweddaf.

 

Mynegodd y Cadeirydd dymuniadau gorau’r Cyngor i athletwyr y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, yn enwedig y sawl o Sir Fynwy.

 

Fe dderbyniodd y Cyngor adroddiad y Cadeirydd.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddeisebau.

 

Hoffai’r Arweinydd gydnabod gwaith caled y cadeirydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod, a oedd wedi bod yn llwyddiant, ac fe fynegodd diolchiadau a llongyfarchion i bawb a oedd ynghlwm. Fe glywsom fod y rheolwr gyfarwyddwr a swyddogion yr Eisteddfod wedi canmol pawb a oedd ynghlwm.

 

 

 

 

4.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Fe ddatganodd y Cynghorwyr Sir P. Clarke, S.B. Jones a B. Strong fuddiant personol, anffafriol o dan God Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas ag eitem 6 ar yr agenda, diweddariad ar y Velothon 2017-2020.

 

Bydd unrhyw ddatganiadau pellach yn cael eu gwneud o dan yr eitem berthnasol.

 

5.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf pdf icon PDF 197 KB

Cofnodion:

Cyn y drafodaeth, fe adawodd y Cynghorwyr Sir Clarke, Strong a B. Jones Siambr y Cyngor wedi datgan buddiant yn eitem 4.

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2016 am 5.00pm fel cofnod cywir ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd, gyda’r diwygiad canlynol:

 

Eitem 9.1 Velothon

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Sir R.J. Greenland yr argymhelliad diwygiedig, sef:

 

Mae’r Cyngor yn cytuno DROS DRO i gefnogi Velothon 2017 yn amodol ar adolygiad blynyddol ar ôl y digwyddiad. Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys ymrwymiad gweithredol ac uniongyrchol gyda Chynghorau Trefi a Chymunedau, a gyda’r gymuned fusnes, yn enwedig y busnesau hynny a effeithiwyd arnynt mewn modd andwyol dros y ddwy flynedd diwethaf.

 

Gofynnwyd bod diweddariad ar gynnydd yn cael ei ychwanegu i’r Rhestr Gweithredu.

 

6.

Nodi rhestr Camau Gweithredu y cyfarfod diewthaf pdf icon PDF 80 KB

Cofnodion:

Fe nodom restr camau gweithredu’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2016.

 

Anerchodd y Cynghorydd Sir R.J.W. Greenland y Cyngor er mwyn darparu diweddariad ar safle newydd Morrisons yn y Fenni.  Fe ddiolchodd i swyddogion am symud y mater ymlaen i’r cam olaf, gan nodi gwaith caled y Pennaeth Cyflwyno dan Arweiniad y Gymuned, D. Hill-Howells, yn arbennig.

 

Fe nodom y datganiad i’r wasg canlynol:

 

“Ar ddydd Iau 22 Medi fe lofnodwyd prydles gan Gyngor Sir Fynwy a chadwyn archfarchnadoedd Morrisons i orffen cynlluniau i adeiladau archfarchnad ar safle’r farchnad wartheg yn y Fenni. Daw’r cytundeb ar ôl cyfnod hir o aros ac mae’n rhoi caniatâd i’r broses gychwyn. Mae strwythur y cytundeb yn unol â’r hyn y cytunwyd yn flaenorol. Fodd bynnag, mae’r taliadau ariannol wedi cael eu hamrywio er mwyn adlewyrchu’r newid yn amodau’r farchnad ers dechrau trafod y cytundeb yn 2010. Mae premiwm o £13,750,000 wedi cael ei dalu a bydd taliadau rhent o £160,000 y flwyddyn yn daliadau o fis Chwefror 2018 am gyfnod o 25 mlynedd.  Mae Cyngor Sir Fynwy a Morrisons yn awyddus i symud ymlaen gyda datblygu’r safle ac mae cais cynllunio ar gyfer cynllun archfarchnad diwygiedig wedi cael ei derbyn gan ein hawdurdod cynllunio. Mae’r tîm cynllunio yn aros am wybodaeth i gefnogi’r cais a bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cychwyn unwaith i ni dderbyn hyn. Mae’n swyddogion cynllunio yn disgwyl derbyn y wybodaeth a’r cynlluniau bythefnos o heddiw ac yn disgwyl adrodd am y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ym mis Rhagfyr.”

 

Mynegodd aelod o'r cabinet ddiolch i uwch swyddogion gweithredol Morrisons a helpodd i symud y mater ymlaen.

 

Roedd aelodau’n fodlon gyda’r newyddion ac yn edrych ymlaen at y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, llewyrch a hyder cyffredinol yn y Fenni.

 

Cydnabuwyd gwaith yr aelod o’r cabinet yn y broses gan yr aelodau.

 

Pwysleisiwyd ein bod yn methu rhagweld canlyniad y cais cynllunio, a dylai unrhyw aelodau sydd am gael manylion pellach gysylltu â’r Pennaeth Cyflwyno dan Arweiniad y Gymuned yn uniongyrchol.

 

Cynnig Brys

 

Fe groesawyd y Cynghorydd Sir R. Greenland gan y Cadeirydd a oedd yn bresennol i gyflwyno’r cynnig brys canlynol:

 

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cytuno i gefnogi Velothon 2017 yn dod trwy’r Sir, gan gymryd bod y ffyrdd ar gau ar gyfer y ras amatur yn cael eu hail-agor cyn gynted ag y bod hi’n ymarferol wedi i’r seiclwyr amatur basio heibio.  Buasem hefyd yn croesawu’r ras broffesiynol ond ar sail cau ffyrdd dros dro yn ôl system dreigl gan gyfyngu ar yr anghyfleustra i drigolion.

 

Wrth symud y cynnig ymlaen, fe dynnodd y Cynghorydd Greenland y pwyntiau canlynol:

 

·         Cytunwyd bod y mater o doiledau wedi bod yn broblem eisoes a bydd y trefnwyr yn dyblu nifer y toiledau.

·         Byddai ardaloedd gwyrdd yn cael eu gosod o amgylch Sir Fynwy a bydd y cystadleuwyr yn cael eu hannog i gael gward o’u sbwriel yn yr ardaloedd hynny.

·         Cytunwyd y gellid cau ffyrdd rhwng y rasys amatur a phroffesiynol, fodd bynnag fe wnaethpwyd cynnig arall y dylid  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Rhestr o Gynigion

7a

Cynnig y Cynghorydd Sir F. Taylor

Bod y Cyngor hwn yn ei gyfarfod nesaf yn derbyn gwerthusiad llawn o ddefnydd Cyngor Sir Fynwy o Gontractau Dim Oriau. Dylai'r gwerthusiad roi manylion maint a chwmpas yr ymarfer o fewn yr Awdurdod hwn a'i effaith ar ddarpariaeth gwasanaeth a llesiant ac ysbryd staff. 

 

Cofnodion:

Yn ei gyfarfod nesaf bod y Cyngor yn derbyn gwerthusiad llawn o ddefnydd Cyngor Sir Fynwy o Gontractau Dim Oriau. Dylai’r gwerthusiad roi manylion am gwmpas ac ystent yr arfer o fewn yr Awdurdod hwn a’i effaith ar ddarparu gwasanaethau ynghyd â lles a morâl staff.

 

Wrth gyflwyno’r cynnig, fe dynnodd y Cynghorydd Taylor sylw at y pwyntiau canlynol:

 

·         Gosodwyd y cynnig gerbron y Cyngor yn dilyn tystiolaeth anecdotaidd a dderbyniwyd ac fe’i cynigwyd er mwyn ennill dealltwriaeth o’n safle cyfredol yn hytrach nag awgrymu bod y contractau’n cael eu defnyddio mewn modd amhriodol.

·         Fe glywsom fod tua 6% i 8% o’r gweithlu ar gontractau achlysurol ac fe ofynnwyd am sicrwydd bod yr aelodau hyn o staff ar y contract addas ar gyfer amlder y gwaith.

 

Yn ystod y drafodaeth, fe nodwyd y canlynol:

 

·         Esboniodd yr aelod o’r cabinet bod y wybodaeth wedi cael ei darparu i’r Cynghorydd Taylor, ac y byddai’n hapus i gylchredeg y wybodaeth yn ymwneud â chontractau heb oriau wedi’u diffinio. 

·         Ar hyn o bryd roedd 318 o weithwyr heb oriau wedi’u contractio. Roedd 67 o bobl yn cael eu cyflogi fel goruchwylwyr arholiadau a 35 yn athrawon llanw.

·         Esboniwyd bod y ffigurau’n ymwneud â phobl a oedd yn gallu bod ar gael i weithio yn ôl yr angen. 

·         Byddai aelodau’n gallu gweld y dadansoddiad cyn y drafodaeth yn y Cyngor nesaf.

·         Mynegodd aelodau y dylem sicrhau na fod contractwyr a ddefnyddir gan yr awdurdod yn defnyddio contractau dim oriau chwaith, er mwyn sicrhau bod y gweithwyr hynny nad sydd wedi’u cyflogi gan y cyngor yn uniongyrchol hefyd yn cael eu hamddiffyn.

 

Cynigodd y Cynghorydd K. Williams addasiad i’r cynnig, er mwyn ychwanegu’r frawddeg ‘ble ystyrir bod contractau’n ecsbloetiol, bydd Cyngor Sir Fynwy yn stopio eu defnyddio’

 

Eiliwyd yr addasiad, ac fe aeth y drafodaeth yn ei blaen:

 

·         Bu’r arweinydd gydnabod teimladau’r cynnig diwygiedig ond teimlwyd ei fod yn anaddas achub y blaen ar y wybodaeth a fyddai’n cael ei gylchredeg, a fyddai’n caniatáu am ymateb ystyriol yn y cyfarfod nesaf. 

·         Cytunodd y Cadeirydd y byddai cyfle i wneud addasiadau i’r cynnig yn y cyfarfod nesaf.

 

Wrth gael ei roi i bleidlais, fe ddi-rymwyd y cynnig sylwedd.

 

Fe bleidleisiwyd ar y cynnig gwreiddiol, ac fe’i cymeradwywyd.

 

 

7b

Cynnig y Cynghorydd Sir F. Taylor

Bod aelodau'r Cyngor hwn yn cynnig cefnogaeth lawn a gweithgar i'r pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn eu hymdrechion i annog a chynyddu ymgysylltu democrataidd cyn a thu hwnt i etholiadau llywodraeth leol 2017. 

Cofnodion:

 

Bod aelodau’r Cyngor hwn yn cynnig cefnogaeth lawn a gweithredol i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn eu hymdrechion i annog a chynyddu ymrwymiad democrataidd cyn ac y tu hwnt i Etholiadau Llywodraeth Leol 2017

 

Wrth gyflwyno’r cynnig, esboniodd y Cynghorydd Taylor, wrth i ni symud ymlaen tuag at etholiadau 2017, bod dyletswydd arnom i hyrwyddo ymrwymiad democrataidd ar bob adeg, a dyletswydd i gefnogi pobl i arfer eu hawliau democrataidd.

 

Roedd yr aelodau’n cytuno ac yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth.

 

Nododd un aelod broblem gyda phresenoldeb mewn Pwyllgorau Dethol, a phwysleisio cyfrifoldeb aelodau i fynychu cyfarfodydd craffu.

 

Mynegodd un aelod, fel cynghorwyd, ei fod yn rhan allweddol o’r broses ddemocrataidd i gynhyrchu adroddiad blynyddol, ond nodwyd mai chwe chynghorydd yn unig oedd wedi cyflwyno adroddiadau blynyddol ar gyfer y flwyddyn flaenorol.

 

Fe eiliwyd y cynnig, ac ar ôl pleidleisio, fe gymeradwywyd y cynnig.

 

8.

Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad Gwella Blynyddol 2015/16 pdf icon PDF 397 KB

Cofnodion:

Fe groesawyd Mr. D. Wilson a Mr. T. Lewis o Swyddfa Archwilio Cymru a gyflwynodd Adroddiad Gwelliannau Blynyddol 2015/16. 

 

Roedd yr adroddiad yn darparu negeseuon allweddol o’r gwaith a wnaethpwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn, CSSIW a Chomisiynydd y Gymraeg yn ystod 2015/16 ac roedd yn cynnwys asesiad yr Archwilydd Cyffredinol o a yw’r cyngor yn debygol o gydymffurfio â’r Mesur Llywodraeth Leol yn 2016/17.

 

Roedd casgliadau cyffredinol yr adroddiad yn cydnabod y cynnydd a wnaed gan Gyngor Sir Fynwy, ac yn seiliedig ar y gwaith a gynhaliwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru a’r rheolyddion perthnasol, creda’r Archwilydd Cyffredinol y bydd y Cyngor yn cydymffurfio â’r mesurau yn ystod 2016/17, gan gymryd ei bod yn parhau gyda’r gyfradd gyfredol o welliannau.

 

Nododd yr adroddiad bod y Cyngor yn cydnabod bod gwaith i’w wneud mewn rhai mannau. Roedd cydnabyddiaeth na fod Estyn bellach yn ystyried yr Awdurdod yn un â oedd angen mesurau arbennig ac mae wedi ei dynnu allan o unrhyw gamau dilynol. Soniodd CSSIW am gynnydd da gyda thrawsnewid arferion.

 

Gwahoddwyd aelodau i gyflwyno eu sylwadau:

 

·         Cyfeiriodd un aelod at Brosiect Eiddilwch Gwent, a sonnir amdano yn yr adroddiad, ac roedd yn dymuno ei defnyddio fel esiampl o’r amrediad o weithgareddau a arolygwyd ac a adolygwyd.

·         Diolchodd yr arweinydd i swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru am yr adroddiad, gan gydnabod y cynigion am welliant. Fe groesawodd yr heriau a fyddai’n darparu gwell canlyniadau yn eu tro.

·         Fe ofynnodd un aelod am eglurhad ar dudalen 34 o’r adroddiad, pwynt 14 - ‘er bod y Cyngor wedi cymryd camau i wella cywirdeb ac ansawdd ei data ar berfformiad, nid yw’r camau hynny wedi bod yn gwbl effeithiol hyd yn hyn.’  Yn ymateb i hynny, esboniodd Swyddfa Archwilio Cymru, fel rhan o’r gwaith a gynhaliwyd, roedd chwe Dangosydd Perfformiad wedi cael eu profi a darganfuwyd bod tri ohonynt yn anghywir. Y rhesymau dros hyn oedd bod gwybodaeth wedi cael ei gyflwyno’r hwyr ar gyfer y Dangosydd Perfformiad, a’i adrodd yn anghywir. Darganfuwyd na fod absenoldeb oherwydd salwch yn cael ei adrodd yn ddigonol, a bod gwall wrth gofnodi ymweliadau â chanolfannau hamdden. Gofynnwyd am ragor o fanylion yn ymwneud â’r cofnodion anghywir ar salwch.

·         Cyfeiriodd un aelod at dudalen 23 o’r adroddiad –

‘Yn gyffredinol roedd llywodraethiant ariannol y Cyngor yn effeithiol, ond nid oedd eu trefniadau cynllunio a rheoli ariannol eto wedi’u hymgorffori’n llawn neu’n gweithredu’n effeithiol, yn sgil rhai heriau ariannol sylweddol.

Roedd y Cyngor wedi gwneud cynnydd wrth wella ei drefniadau llywodraethiant, er roedd angen gwneud mwy i gryfhau tryloywder gwneud a chofnodi penderfyniadau.’ Cwestiynwyd a oedd hyn oherwydd na fod aelodau’n cael eu briffio’n llawn gan swyddogion, neu oherwydd na fod aelodau’n herio swyddogion yn y modd cywir. Yn ymateb i hyn, cynghorydd Swyddfa Archwilio Cymru bod angen gwella’r broses, ond bod rhaid cydbwyso hyn yn erbyn cwmpas y gwaith a wnaed gan y Cyngor. Roedd aelodau’n gallu gofyn am ragor o wybodaeth, ble nad oeddent yn teimlo eu bod wedi derbyn digon o fanylion i wneud penderfyniad.  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adroddiadau i'r Pennaeth Cyllid/S151

9a

Datganiad Cyfrifon 2015/2016 pdf icon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd aelod o'r cabinet Datganiad Cyfrifon 2015/16 er mwyn i’r Cyngor ystyried cyfrifon blynyddol terfynol yr Awdurdod ar gyfer 2015/2016

 

Gofynnwyd i aelodau nodi, ar yr adeg o ysgrifennu’r adroddiad eglurhaol hwn, bod yr archwilwyr allanol yn dal i ymgymryd â’r gwaith, ac y gallai hyn olygu bod newidiadau hwyr yn cael eu cyflwyno i’r Datganiad Cyfrifon.

 

Fe dynnodd Swyddfa Archwilio Cymru sylw at rai materion perthnasol a nodwyd yn ystod yr archwiliad. Doedd dim addasiadau i’w gwneud, ond roedd angen gwneud rhai newidiadau codio ar gyfer adroddiadau’r dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid, o ran pryderon Aelodau yn ymwneud â CMC², bod y cywiriad wedi cael ei wneud yn y Datganiad Cyfrifon gerbron y Cyngor heddiw. Eglurodd y Prif Swyddog, Adnoddau, bod yr addasiad o £122,000 yn cyfeirio at golled a oedd wedi cael ei dileu’n flaenorol. Fe gyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet ym mis Gorffennaf 2015 i ddileu colledion o £140,000, a oedd yn cynnwys y £122,000 dan drafodaeth.  Fe nodom fod gan CMC² ddyledwyr o £90,000 ar hyn o bryd ac y byddai hyn yn cael ei reoli yn y dyfodol.

 

Fe benderfynodd y Cyngor i gytuno i’r argymhelliad o fewn yr adroddiad:

 

·         Bod Datganiad Cyfrifon terfynol Cyngor Sir Fynwy 2015/16, fel y’i hadolygwyd gan archwiliad, yn cael ei gymeradwyo.

 

 

9b

Adroddiad ISA 260 Cyngor Sir Fynwy pdf icon PDF 187 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd aelod o’r Cabinet Adroddiad yr Archwiliad ar Ddatganiadau Ariannol.

 

Tynnodd Swyddfa Archwilio Cymru sylw at y ffaith bod dim gwallau, a bod yr archwiliad wedi cael ei gwblhau gyda barn di-gymwys. Canmolwyd y berthynas waith dda gyda swyddogion Cyngor Sir Fynwy a nodwyd bod hyn wedi cynorthwyo i wneud proses yr archwiliad yn un syml.

 

Fe nodom fod dim pryderon penodol wrth symud ymlaen i archwiliad y flwyddyn nesaf.

 

Fe benderfynodd y Cyngor dderbyn yr adroddiad.

 

 

10.

Adroddiadau i'r Pennaeth Democratiaeth, Ymgysylltu a Gwella

10a

Cynigion Hyb y Fenni pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe gyflwynodd aelod o’r Cabinet yr adroddiad er mwyn i aelodau ystyried dyrannu hyd at £50,000 o gyllid cyfalaf i ddatblygu dyluniadau hyb cymunedol y Fenni, tra’n disgwyl am achos busnes manwl i gael ei gyflwyno maes o law.

 

Fe ddatganodd y Cynghorwyr Sir J. Prosser, P. Jordan, M. Hickman, D. Edwards, R. Harris a M. Powell fuddiant personol, di-ragfarn mewn perthynas â Chod Ymddygiad Aelodau oherwydd eu rolau fel Cynghorwyr Tref y Fenni.

 

Yn ystod y drafodaeth, fe nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Nododd un aelod, yn ei rôl fel Dirprwy Faer Cyngor Tref y Fenni ac Aelod Ward Priordy, bod Cyngor y Dref yn cytuno’n llawn gyda’r cynigion.

·         Byddai’r cyfleuster modern yn gwbl hygyrch, gan gadw parlwr y Maer a siambr addasedig i’r Cyngor, a bydd yn sicrhau bod yr hyb yn parhau fel canolbwynt yn y dref am flynyddoedd i ddod.

·         Gofynnwyd am eglurder o ran ardal y llawr a maint y llyfrgell newydd o’i gymharu â’r llyfrgell gyfredol. Yn ymateb i hyn, cawsom ein sicrhau y byddai’r llyfrgell newydd mewn man a rennir, sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd mewn mannau eraill. Byddai gwybodaeth bellach yn ymwneud ag ardal y llawr yn cael ei darparu y tu allan i’r cyfarfod.

·         O ran Theatr Borough, cawsom ein cynghori y byddai’n cyrraedd diwedd ei chyfnod ariannu o dair blynedd yn fuan a’r disgwyliad oedd, i’r graddau roedd yn bosib, y byddai Theatr Borough yn sefydliad hunan-gynaliadwy, hunan-ariannu. Roeddem yn aros i weld cynllun busnes.

·         O ran cynllunio, roedd cyngor wedi ei gael gan swyddog cadwraeth.

·         Cadarnhawyd y byddai ardal storio’r llyfrgell yn cael ei ddyblu

·         Byddai aelodau’n gwerthfawrogi cyfle i weld a gwneud sylwadau ar y cynlluniau. Cawsom ein hysbysu bod aelodau o’r cyhoedd a grwpiau â diddordeb wedi cael cyfle i gyflwyno sylwadau ar y cynlluniau. Gellid arddangos y cynlluniau yn Neuadd y Ddinas i roi cyfle i’r aelodau ei gweld.

·         Eglurwyd y byddai staff y Llyfrgell yn cael eu trosglwyddo i’r lleoliad newydd, gan drosglwyddo’r sail o sgiliau.

·         Gan gyfeirio at adeilad Carnegie, mae manylion yr ymddiriedolaeth wedi’u cynnwyd o fewn yr achos busnes.

 

Wrth gael ei roi i bleidlais, fe benderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion yn yr adroddiad:

 

·         Bod swm o hyd at £50,000 yn cael ei ryddhau i ariannu’r costau o gwblhau’r cynlluniau manwl a bod yr achos busnes yn cael ei ariannu gan fenthyca darbodus

·         Bod y Cyngor yn cytuno mai’r dewis le ar gyfer datblygu hyb cymunedol yw o fewn Neuadd y Dref, y Fenni

·         Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor yn dilyn cwblhau’r cynlluniau manwl a’r achos busnes i geisio cymeradwyaeth i gynnal y cynllun.

 

10b

Cam 2 Cynllun Gwella 2015/2016 pdf icon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe gyflwynodd yr Arweinydd adroddiad i geisio cymeradwyaeth y cyngor ar Gam 2 Cynllun Gwella 2015/16, ac er mwyn sicrhau bod gan aelodau gwybodaeth gymharol ar berfformiad ar gyfer 2015/16.

 

Yn ystod y drafodaeth, fe nodom:

 

·         Ymatebodd y Prif Swyddog dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd i bryderon trwy esbonio, o ran nifer y bobl a gefnogwyd yn y gymuned, bod gennym ddemograffeg heriol a’i bod yn anodd darparu ateb ar beth oedd yn cyfrif fel sefyllfa dda.

·         Mewn perthynas â’r oedi wrth drosglwyddo gofal, esboniodd y Prif Swyddog dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd bod o leiaf 12 person a oedd wedi’u nodi fel trigolion Sir Fynwy, ond mewn gwirionedd nid oeddent yn byw yn y sir. Roedd DETOCs yn ôl i’w lefelau blaenorol, ac yn isel iawn.

·         Ychwanegodd aelod o’r cabinet y gellir gweld y nifer isel o bobl mewn gofal cymdeithasol fel adlewyrchiad cadarnhaol o hyn.

·         Mae canran yr aelwydydd digartref wedi cael ei dynnu allan o fesurau’r fframwaith cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru oherwydd nid oedd yn cael ei ystyried fel un y gellir ei gymharu ar draws y 22 awdurdod.

·         Mynegwyd pryderon am y cynnydd yn lefelau salwch. Fe esboniodd y Prif Swyddog dros Adnoddau mai’r brif stori oedd bod ffigurau’n cael eu gyrru gan achosion salwch hir dymor, ac ar ben hyn, roeddem yn gweld cynnydd mewn salwch yn ymwneud â straen a rhesymau seicolegol. Mae nifer o fesurau wedi cael eu cyflwyno i fynd i’r afael â’r mater. Mae hyfforddiant pellach i reolwyr, i adnabod arwyddion cynnar o straen, wedi cael ei gyflwyno, yn ogystal â chynyddu nifer y cyrsiau llesiant i staff. 

·         Fe glywsom fod gennym Wasanaeth Iechyd Galwedigaethol, sy’n darparu cefnogaeth yn ôl yr angen.

·         Awgrymodd un aelod ein bod yn cofrestru ar gyfer y Safon Iechyd Gorfforaethol a noddir gan Lywodraeth Cymru. 

·         Fe nodom pa mor gamarweiniol roedd canrannau’n gallu bod, a chydnabod bod angen i garfannau ddarparu esboniad. 

·         Awgrymwyd y byddai’n fuddiol i’r Cyngor dderbyn manylion o ganlyniadau craffu Pwyllgorau Dethol o’r cynllun.

·         Fe ofynnodd aelodau am gopi o’r arolwg ymrwymiad staff. Ymddiheurodd y Prif Swyddog am yr esgeulustod a byddai’n anfon yr arolwg ymlaen at yr Aelodau. Fe glywsom fod cynllun peilot yn cael ei gynnal ar hyn o bryd a allai ddarparu arf amser real i fesur safbwynt a barn staff.

·         Y rheswm dros y problemau wrth gofnodi salwch a gyfeiriwyd atynt yn yr archwiliad oedd sut gyfrifwyd y ffigurau trwy’r flwyddyn. Roedd y problemau hyn bellach wedi cael eu datrys.

 

Fe benderfynodd y Cyngor gytuno i’r argymhelliad yn yr adroddiad:

 

·         Bod Cam 2 Cynllun Gwella 2015/16 yn cael ei gymeradwyo.

 

11.

Adroddiadau Prif Swyddog, Menter

11a

Ailbenodi Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy pdf icon PDF 393 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor adroddiad er mwyn sicrhau penodiad aelodau i Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy ar gyfer ei gyfnod nesaf o 3 blynedd ac ystyried mesurau i gynyddu effeithiolrwydd y fforwm.

 

Yn ystod y drafodaeth, fe nodom:

 

·         Fe enwebodd arweinydd yr wrthblaid y Cynghorydd Sir P. Farley.

·         Cynigodd un aelod bod y Cynghorydd A. Webb yn parhau ar y fforwm fel cynrychiolydd y Cyngor.

·         Fe gymeradwyodd yr Arweinydd y cynnig bod y Cynghorydd Webb yn parhau yn y rôl, a mynegodd, o ran argymhelliad (f), byddai’n ddefnyddiol pe byddai Cadeirydd y Fforwm yn adrodd yn ôl i’r Cyngor ac yn cynnig cyfle i werthfawrogi gwaith y fforwm.

·         Cytunwyd y byddai’r Cynghorydd P. Hobson yn cael ei hysbysu o’r enwebiadau.

 

Penderfynodd y Cyngor gytuno i’r argymhellion:

 

a)    Y dylid ail-benodi’r aelodau canlynol o Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy a oedd ar fin ymddeol:- Mr John Askew, Mrs Pat Benson; Mrs Irene Brooke a Ms Anne Underwood;

b)    Y dylid rhoi’r unigolion canlynol ar y rhestr fer i gael eu penodi yn aelodau o Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy: - Mrs Anthea Fairey, Mrs Sheila Hampshire; Ms Elizabeth Hepburn; Ms Gwyneth Jones; Mr Richard Micklethwait; Mr Philip Mundell; Mr David Smith; Mr David Steere a Mr Mark Storey;

c)    Bod panel dethol o dri aelod priodol yn cael ei sefydlu ac yn cael yr awdurdod i ddethol a phenodi aelodau o’r rhestr fer ac i benodi aelodau pellach pe fydd y Fforwm, ar ôl ei gyfarfod cyntaf, yn gofyn i’r Cyngor Sir edrych am aelodau ychwanegol er mwyn adlewyrchu unrhyw fuddion penodol nad sydd wedi’u cynrychioli’n briodol;

d)    Bod y Cyngor Sir yn enwebu ei gynrychiolydd i wasanaethu ar y Fforwm Mynediad Lleol;

e)    Bod aelodau’r Fforwm sydd ar fin ymddeol, gan gynnwys y cyn Gadeirydd, yn cael eu diolch am eu cyfraniad gwerthfawr.

f)     Bod ystyriaeth yn cael ei roi i Gadeirydd y Fforwm yn adrodd yn flynyddol i’r Pwyllgor Dethol a/neu Gabinet priodol.

 

11b

Dêl Dinas Prifddinas-Ranbarth Caerdydd - Trefniadau Llywodraethiant Interim a Chefnogaeth Ariannol pdf icon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor adroddiad yn amlinellu’r trefniadau llywodraethiant dros dro i symud ymlaen â darpariaethau Cytundeb Dêl Dinas Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a lofnodwyd gan Arweinwyr y 10 Awdurdod Lleol ym mis Mawrth 2016. I gymeradwyo’r defnydd o gronfa wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio (16/17), sef cyfanswm o £30,835 fel cyfraniad Sir Fynwy i’r gronfa adnoddau ganolog i alluogi’r gwaith ar y rhaglen i barhau, gan arwain at gytundeb terfynol Dêl y Ddinas.

 

Yn ystod y drafodaeth, fe nodom y canlynol:

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â chyllid yr UE, fe esboniodd yr Arweinydd bod y 10 Arweinydd wedi cwrdd â Phrif Weinidog Cymru i gael sicrwydd, ac roedd Llywodraeth Cymru yn hyderus, beth bynnag fydd yn digwydd gyda’r UE, bod y cyllid yn ddiogel.

·         Holwyd beth fyddai’r ddêl yn golygu i Sir Fynwy yn benodol. Mewn ymateb i hyn, esboniodd yr Arweinydd ei bod yn anodd gwybod ar hyn o bryd, ond y gobaith oedd y byddai natur yr ardaloedd roedd yn cael eu hystyried yn dod â rhagor o fuddsoddiad a chyfleoedd. Byddai creu cyfleoedd ar draws yr ardal yn darparu gobaith ar gyfer dyfodol ein pobl ifanc.

·         Holodd aelod os oedd yn rhaid i’r arweinydd gynrychioli Sir Fynwy wrth drafod Dêl y Ddinas. Esboniwyd mai cyfrifoldeb yr arweinydd oedd cynrychioli’r Cyngor, ac ar adegau pan nad oedd hyn yn bosib, byddai Dirprwy Arweinwyr yn camu i mewn. Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd bod llawer o barch gan arweinwyr eraill y rhanbarth at yr arweinydd, a bod ganddo gyfrifoldeb dros Arloesi, Digidol a Busnes, un o ardaloedd pwysicaf Dêl y Ddinas.

·         Cyfeiriodd Arweinydd yr Wrthblaid at 2.1, b, pwynt 5 o’r adroddiad, y Comisiwn Twf a Chystadleuaeth Annibynnol, a holwyd sut roedd y comisiwn yn gweithredu, pwy oedd yn cael ei benodi, beth oedd y broses. Mewn ymateb i hyn, esboniodd yr arweinydd mai gr?p gorchwyl a gorffen oedd y Comisiwn, dan arweiniad yr Athro Greg Clarke a gafodd y dasg o edrych yn fanwl ar y Comisiwn er mwyn helpu pethau i symud ymlaen. Yr arweinydd wrth lunio’r gr?p oedd Arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale.

·         Holwyd os oedd rolau Cyd-bwyllgor yr Wrthblaid yn rhai â thâl, ac o felly, a oeddent yn cael eu talu o arian a roddir at ei gilydd ar y cyd? Holwyd hefyd a oedd treuliau’n cael eu hawlio o Gyngor Sir Fynwy. Atebodd yr arweinydd bod dim tâl ar gyfer y rolau hyn, ond yn hytrach, roedd yn gyfle i arweinwyr ddod at ei gilydd er budd y rhanbarth ac fe fynegodd siom yn y cwestiwn. Fe gadarnhaodd bod costau teithio yn cael eu talu gan yr awdurdodau unigol.

·         Holodd un aelod, o ran gwella trafnidiaeth yn y De Ddwyrain a’r i’r Gogledd o Sir Fynwy, bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod Sir Fynwy yn cael ei gynrychioli’n dda gyda’r Metro. Mewn ymateb i hyn, pwysleisiodd yr arweinydd bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Trafnidiaeth i Gymru.

·         Gofynnwyd am eglurhad o ran sut byddai’r arweinydd yn adrodd yn  ...  view the full Cofnodion text for item 11b

12.

Adroddiad y Prif Swyddog, Adnoddau

12a

Rhaglen Ysgolion y Dyfodol

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem.

 

13.

Cwestiynau Aelodaeth

13a

Gan y Cynghorydd Sir R.J.C. Hayward i'r Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain

A wnaiff yr aelod cabinet ddiweddaru'r Cyngor ar y cynnydd ar aiiladeiladu ysgolion Cil-y-coed a Threfynwy? Yn neilltuol, a all hysbysu cynghorwyr ar yr amcangyfrifon cost diweddaraf yng nghyswllt y cyllidebau gwreiddiol (heb eu diweddaru) ar gyfer cwblhau?

Cofnodion:

“A allai aelod y cabinet ddiweddaru’r Cyngor ar y cynnydd gydag adeiladu ysgolion Cil-y-Coed a Threfynwy? Yn benodol, a allai hi gynghori cynghorwyr ar yr amcangyfrif diweddaraf o’r gost mewn perthynas â’r cyllidebau gwreiddiol (heb eu diweddaru) ar gyfer eu cwblhau?”

 

Yn ymateb i hyn, fe ddiolchodd aelod y cabinet i’r Cynghorydd Sir Hayward am ei gwestiwn gan groesawu’r cyfle i ddarparu diweddariad ar y buddsoddiad sylweddol hwn yn nyfodol ein plant, pobl ifanc a chymunedau. Y strategaeth ar gyfer y pedair ysgol uwchradd o fewn Band A yw datblygu dwy ysgol gyfun newydd sbon, un yng ngogledd y sir ac un yn y de. Maen nhw wedi’u dylunio i fod yn ysgolion effeithlon a fydd yn ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddysgu a datblygu, ac i ddod yn aelodau hyderus o’n cymuned.

 

Sefyllfa gyfredol Band A yw:

 

·         Ysgol y Rhaglan – cwblhawyd y llynedd, gan gyd-fynd â’r rhaglen a heb fynd dros y gyllideb.

·         Cyfrwng Cymraeg – mewn trafodaethau ag Ysgol Uwchradd Dyffryn.

·         Ysgol Uwchradd Cil-y-Coed – dechreuwyd ar y gwaith ym mis Mawrth 2016, dylai gael ei gwblhau ym mis Medi 2017.

·         Ysgol Gyfun Sir Fynwy – gwaith galluogi wedi’i gwblhau a’r prif waith ar fin dechrau.

 

Mae Cyngor Sir Fynwy yn ariannu’r ysgolion ar y cyd â Llywodraeth Cymru, gan weithio’n agos gyda chontractwyr. Ers derbyn y cyllid, mae’r bleidlais ym mis Mehefin wedi creu ansicrwydd yn y sector adeiladu. Mae hyn wedi achosi ychydig o bryder a rhai heriau, ac wedi arwain at drafodaethau helaeth rhwng partneriaid. Fe fynegodd yr aelod o’r cabinet hyder yn y gwaith, ond oherwydd natur fasnachol y gwaith, nid oedd yn gallu datgelu manylion pellach. Cadarnhawyd y byddai adroddiad llawn yn cael ei roi gerbron y Cyngor ar 20 Hydref 2016.

 

Gofynnwyd i’r Cynghorwyr a hoffent ymweld ag Ysgol Cil-y-Coed a defnyddio’r amser i gynnal sesiwn cwestiwn ac ateb.

 

Fel cwestiwn atodol:

 

A all yr aelod o’r cabinet gadarnhau y bydd yr addewidion a wnaed i drigolion Trefynwy yn cael eu cadw, yn benodol y bydd y pwll nofio yn cael ei adeiladu i’r un manylebau ac amserlen a addawyd?

 

Yn ymateb i hyn, fe sicrhaodd yr aelod o’r cabinet y byddai’r pwll nofio yn cael ei adeiladu fel yr addawyd ac y byddai’n well na’r pwll nofio cyfredol.

 

13b

Gan y Cynghorydd Sir R.J.C. Hayward i'r Cynghorydd Sir S.B. Jones

Bu cyhoeddusrwydd gwael yn ddiweddar am amlder cau cyfleuster ailgylchu Troy oherwydd diffyg gofod

pan mae lorïau'n symud sgipiau o'r safle. Mae traffig yn aml yn crynhoi'n ôl i'r brif ffordd gan achosi perygl difrifol i ddiogelwch. A wnaiff yr aelod cyngor hysbysu os oes unrhyw gynlluniau i gynyddu a gwella'r safle fel nad yw'n achosi cymaint o anghyfleuster i'r cyhoedd?

Cofnodion:

“Mae cyhoeddusrwydd gwael wedi bod yn ddiweddar am amlder cau cyfleuster ailgylchu Troy oherwydd y diffyg lle pan mae loris yn symud sgipiau o’r safle. Yn aml, mae’r traffig yn cyrraedd yn ôl i’r brif ffordd gan achosi perygl diogelwch mawr. A all yr aelod o’r cabinet gynghori a oes unrhyw gynlluniau i ehangu a gwella’r safle er mwyn achosi llai o anghyfleustra i’r cyhoedd?”

 

Fe roddodd yr aelod o’r cabinet yr ateb canlynol:

 

“Mae cyfleuster Ailgylchu Gwastraff Tai Trefynwy yn cael ei defnyddio’n dda gan bobl Trefynwy a’r ardaloedd cyfagos. Ar adegau prysur, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf gellir effeithio ar drigolion os oes rhaid cau’r safle er mwyn symud ac amnewid cynhwyswyr. 

 

Mae’r gallu i ehangu’r safle yn gyfyngedig am nifer o resymau. Y cyntaf yw topograffeg y safle cyfredol. Nid yw gosodiad y safle yn ddelfrydol. Rydym wedi edrych ar greu mwy o le ar y safle o fewn cyffiniau’r ffiniau cyfredol ond does dim datrysiadau ar gael. Mae ymestyn i mewn i’r bryn hefyd yn anodd ac yn ddrud. 

 

Rydym hefyd wedi cynnal asesiadau o gost safle newydd ar y cau gwaelod y tu ôl i’r depo ond yn anffodus, nid oes gan y Cyngor £2 miliwn i adeiladu safle newydd. Rydym wedi edrych ar a fyddai’r cynnydd mewn ailgylchu yn ddigon i leihau costau a rhoi’r gweddill i mewn i fenthyca darbodus, ond eto nid oedd y rhifau’n cyfateb. Felly, mae’n rhaid i ni weithio gyda’r sefyllfa gyfredol. 

 

Yn logistaidd mae’n rhaid i’r safle fod ar gau pan mae’r cynhwyswyr yn cael eu symud. Mae ein contractwyr yn gwneud eu gorau i leihau’r effaith ar drigolion ac yn ceisio symud y cynhwyswyr mor gyflym â phosib. Ond rydw i’n gwerthfawrogi bod ciwiau’n gallu ffurfio pan fod hi’n brysur. Hefyd, nid ydym yn gallu bod yn anhyblyg o ran yr amserau cau oherwydd mae’r cynhwyswyr yn cael eu symud dim ond pan maen nhw’n llawn a does dim pwynt symud cynhwysydd hanner llawn. Y cwbl gallwn ni ei wneud yw annog trigolion i ddefnyddio’r gwasanaeth ar garreg y drws cymaint â phosib, i leihau eu gwastraff yn gyffredinol, i feddwl am ailddefnyddio a rhoddi eitemau diangen er mwyn iddynt leihau nifer eu hymweliadau i’r safle. Byddwn yn codi hyn unwaith eto gyda’r contractwr, ond gallwch fod yn si?r eu bod yn gweithio o fewn y rheolau ac yn gwneud yr hyn sydd orau ar gyfer y trigolion”

 

Fel cwestiwn atodol:

 

A yw’r aelod o’r cabinet yn credu bod dyletswydd foesol arnom i ddarparu’r cyfleusterau angenrheidiol ar gyfer pobl Trefynwy?

 

Yn ymateb i hyn, fe fynegodd yr aelod o’r cabinet ei bod yn anodd cael dyletswydd foesol heb yr adnoddau i ddarparu. Fodd bynnag, byddai darn o waith yn cael ei wneud i adnabod gwelliannau posib nad oedd yn rhy gostus.