Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 28ain Gorffennaf, 2016 5.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Democratic Services 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cwestiwn gan Mr J. Callard i’r Cynghorydd Sir SB.Jones

 

Pob diwrnod o’r wythnos yn y Fenni, yn enwedig  adeg yr oriau prysur gyda’r hwyr, mae gyrwyr sydd yn teithio o’r Fenni dros bont Afon  Llan-ffwyst yn cael eu dal mewn tagfeydd hir, a hynny ar yr A4143 ac ar Heol Merthyr. Mae amcangyfrif ceidwadol, gan ddefnyddio ffigyrau’r llywodraeth, yn awgrymu bod yr oedi hwn yn costio tua  £350,000 y flwyddyn i’r economi leol.  Un o’r rhesymau am yr oedi yma yw cerbydau yn parcio ar Heol Merthyr ger cylchdro Waitrose, a hynny’n agos at y cylchdro. Mae’r cerbydau yma sydd wedi parcio yn lleihau capasiti Heol Merthyr i ddelio a thraffig y cylchdro. Yn fy marn i, byddai’n werth ystyried gosod llinell felen ddwbl ar y darn, gydag arwyddion ar yr heol, a hynny o’r heol sydd yn dechrau gyferbyn â mynediad at Kwik Fit, er mwyn cynyddu capasiti y cylchdro a lleihau’r tagfeydd ar y ffordd bwysig yma allan o’r dref. Roedd parcio ychwanegol ar gael pan ddatblygwyd Waitrose ac mae’r tir ar gael gyferbyn ag adeilad Kwik Fit.

 

Cofnodion:

Mewn ymateb i’r cwestiwn a gyflwynwyd gan Mr. J. Callard ynghylch traffig ar yr A4143, ymddiheurodd y Cynghorydd Sir S.B. Jones am y diffyg ymateb ar y cychwyn. Croesawyd syniadau’n ymwneud â gwelliannau ar

lif traffig, a ffyrdd i leihau oedi ar ein rhwydwaith priffyrdd, a gofynnid i swyddogion wneud arolwg o’r llif traffig ar gylchfan Waitrose. Ychwanegodd y Cynghorydd Jones nad oedd yn argyhoeddedig y byddai symud traffig o’r lleoliad hwn yn gwella’r llif traffig, a bod yn rhaid ystyried yr effaith gawsai gweithred o’r fath ar breswylwyr yn yr ardal. Petai’r arolwg yn dangos y gallai symud traffig ar adegau leihau’r tagfeydd ar y ffordd ddynesu, rhoddid ystyriaeth bellach i awgrym Mr. Callard.

 

Gwnaed ymholiadau pellach i sefydlu a yw’r heol dan sylw yn gefnffordd.

 

3.

Adroddiad y Cadeirydd ac unrhyw ddeisebau sydd wedi eu derbyn pdf icon PDF 162 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor adroddiad y Cadeirydd. 

 

Datgelodd y Cadeirydd i’r aelodau wybodaeth a dderbyniodd ynghylch llwyddiant mewn atyniadau ymwelwyr ar draws y Sir. Mae Hen Orsaf Tyndyrn, Castell Cil-y-coed a’r Parc Gwledig a Gweirgloddiau Castell y Fenni wedi cadw Gwobr glodwiw’r Parc Gwyrdd, ac fe’u disgrifiwyd fel y parciau a’r ardaloedd mannau gwyrdd gorau yn y Sir. Cyfeiriwyd yn arbennig at Paul Cheeseman, o’r Hen Orsaf, Tyndyrn, ac am ei ymdrechion cyflwynwyd iddo Wobr Baner Werdd Cyflogai’r Flwyddyn.

 

Cafodd yr Aelodau’r newyddion diweddaraf ynghylch siop newydd Morrison’s yn Y Fenni. Hysbyswyd ni y byddai’r siop newydd o wahanol ddyluniad i’r un y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddi, ac fe gyflwynid cais newydd ar 28ain Gorffennaf 2016. Y siop hon fyddai’r cyntaf o’i bath o’r dyluniad hwn i gwmni Morrison’s. Darperid manylion pellach pan gadarnheir y cytundeb.

 

Deisebau:

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Sir S. Jones ddeiseb ar ran y Cynghorydd Sir P. Jones ynghylch cadw mân-ddaliadau yn Sir Fynwy, a Fferm Trecastell Newydd, Penyclawdd. Trosglwyddwyd y ddeiseb i’r Cadeirydd.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Sir G. Burrows ddeiseb ynghylch rheoli traffig yn Toll House, Mitchel Troy. Trosglwyddwyd y ddeiseb i’r Cadeirydd.

 

 

 

 

4.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir F. Taylor fuddiant personol, anfanteisiol dan God Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas ag Eitem 7, Byw Nawr, fel aelod cymuned annibynnol o ABUHB.

 

Gwnaed datganiadau pellach dan yr eitem berthnasol.

 

 

 

5.

Cadarnhau a llofnodi’r cofnodion dilynol: pdf icon PDF 183 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd a derbyniwyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16eg Mehefin 2016 am 5.00pm, ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd. 

 

Cofnodwyd ein cais parhaus am daflen weithredu.

 

6.

Rhestr o Gynigion

Cynnig gan Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy:

 

Rydym yn falch o fyw mewn cymdeithas amrywiol a goddefgar. Nid oes yna unrhyw le i hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb yn ein gwlad. Mae ein Cyngor yn condemnio  hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb heb unrhyw amheuaeth. Ni fyddwn yn caniatáu i gasineb i ddod yn dderbyniol. Byddwn yn gweithio  er mwyn sicrhau bod cyrff a rhaglenni lleol yn cael eu cefnogi a’n derbyn yr adnoddau sydd angen arnynt er mwyn ymladd ac atal hiliaeth a senoffobia. Rydym am roi sicrwydd i bawb sydd yn byw yn Sir Fynwy eu bod yn aelodau gwerthfawr o’r gymuned. 

 

Cynnig gan Gynghorydd Sir D.Batrouni

 

Mae llawer o bobl ifanc sydd yn chwilio am eu swydd gyntaf yn aml yn ei chanfod hi’n broses anodd, a hynny’n bennaf am fod pobl yn dweud wrthynt nad oes profiad ganddynt. Mae’r gr?p Llafur yn credu bod Cyngor Sir Fynwy yn medru helpu pobl ifanc Sir Fynwy gyda’r broblem hon.  Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yn Sir Fynwy, mae’r gallu gan y Cyngor i gynnig nifer o interniaethau  ar draws nifer o adrannau sydd yn ymdrin ag ystod eang o sgiliau.  Mae'r gr?p Llafur yn credu y dylem sefydlu proses interniaethau swyddogol lle y mae’r Cyngor yn mynd ati i recriwtio  pobl sydd yn byw yn Sir Fynwy. Dylai pob intern dderbyn cyflog byw sydd yn gymesur â’u hoedran. Drwy wneud hyn, gallwn roi mantais iddynt  yn y farchnad lafur heddiw sydd mor anodd.

 

Cynnig gan y Cynghorydd Sir K.Williams

 

Mae’r Cyngor yn bles iawn i gynnal digwyddiad seiclo yn y Fenni bob blwyddyn. Bydd yn parhau er mwyn sicrhau bod busnesau bach lleol yn elwa o’r digwyddiad pob blwyddyn. 

 

Cofnodion:

a)    Cynnig gan Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy:

 

Rydym yn falch i fyw mewn cymdeithas amrywiol a goddefol. Nid oes gan hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb le yn ein gwlad. Mae’n Cyngor yn ddigamsyniol yn condemnio hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb. Ni chaniatawn i gasineb ddod yn dderbyniol. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod gan gyrff a rhaglenni lleol y gefnogaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ymladd ac atal hiliaeth a senoffobia.

Rydym yn rhoi’n gair i’r holl bobl sy’n byw yn Sir Fynwy eu bod yn aelodau gwerthfawr o’n cymuned.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cadeirydd am roi’r cynnig gerbron, gan nodi bod llawer o’r aelodau wedi derbyn copi o’r cynnig. Ychwanegodd, wrth gefnogi’r cynnig, ei bod yn bwysig, ar wahân i’r gwrthwynebiad i droseddau casineb, senoffobia a hiliaeth, ein bod yn cydnabod ein cymunedau croesawgar, cydlynus.  

 

Yn dilyn trafodaeth, a’i roi i’r bleidlais, fe basiwyd y cynnig.

 

b) Cynnig gan y Cynghorydd Sir D.Batrouni

 

Mae llawer o bobl ifanc sy’n chwilio am eu swydd gyntaf yn aml yn ei chael yn broses anodd, yn bennaf oherwydd y dywedir wrthynt nad oes ganddynt brofiad. Mae’r Gr?p Llafur o’r farn y gallai Cyngor Sir Fynwy helpu pobl ifanc Sir Fynwy sydd â’r broblem hon. Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yn Sir Fynwy, mae gan y Cyngor y gallu i ddarparu nifer o interniaethau ar draws nifer o adrannau a rheiny’n cynnig ystod eang o sgiliau. Mae’r Gr?p Llafur yn credu y dylem lunio proses interniaeth ffurfiol lle mae’r Cyngor yn mynd ato o ddifrif i recriwtio pobl sy’n byw yn Sir Fynwy. Dylai pob intern ennill cyflog byw yn gymesur â’i oedran/hoedran. Wrth wneud hyn, gallent gael y blaen yn y farchnad swyddi sydd mor gystadleuol heddiw.

 

Wrth ehangu ar y cynnig tynnodd y Cynghorydd Batrouni sylw at y pwyntiau canlynol:

 

·         Yn hytrach na phroses anffurfiol, mae’r cynnig yn awgrymu llunio rhaglen interniaeth ffurfiol sy’n rhoi profiad i bobl yn y gymuned.

·         Mae’r ystod o sgiliau a phrofiadau y gellid eu cynnig gan y Cyngor yn eang, megis crefft, profiad mewn swyddfa a phrofiad gyda’r cyfryngau, a phrofiad mewn proffesiynau na allai llawer o sefydliadau eu cynnig. 

·         O gofio’n statws, mae’n gwneud synnwyr i greu rhaglen ffurfiol i ddarparu’r sgiliau hyn.

·         Rhoddwyd canmoliaeth i waith Yprentis ond y farn oedd y gallai’r rhaglen hon fod yn fesur syml a allai wneud gwahaniaeth.

 

Yn ystod trafodaeth nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Cytunai’r Aelod Cabinet y byddai’r Cyngor yn cyd-fynd â’r sentiment y tu ôl i’r cynnig, a chytunai ei bod yn addas i’r Cyngor helpu.

·         Roeddem yn cydnabod y cyfleoedd gyda’r ddwy Ysgol Uwchradd newydd, a phwysleisiodd y cyfleoedd oedd ar gael i bobl ifanc yn y Sir. Hyd yn hyn yng Nghil-y-coed crëwyd 12 swydd newydd, gwybodaeth am yrfaoedd yn y busnes adeiladu, 200 o wythnosau hyfforddi, 12 tystysgrif am gymhwyso o fewn y gweithlu.

·         Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid hefyd wedi darparu cyfleoedd i bobl ifanc sydd wedyn wedi cael eu cyflogi yn y gymuned ehangach.

·         Awgrymwyd bod  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Adroddiadau'r Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd pdf icon PDF 193 KB

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd adroddiad i’r Cyngor, y diben oedd hysbysu Cyngor Sir Fynwy o ddatblygiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’i bartneriaid fel safle Bannau ar gyfer datblygiad Byw Nawr.

 

Mae Byw Nawr yng Nghymru yn gyfystyr â Dying Matters. Fe’i ffurfiwyd gan y Cyngor Cenedlaethol dros Ofal Lliniarol i gefnogi Strategaeth Gofal Diwedd Bywyd. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth gyhoeddus ynghylch pwysigrwydd siarad yn fwy agored am farw, marwolaeth a galar ac o wneud ein dymuniadau’n hysbys.

 

Rhoesom groeso i Bobbie Bolt, Cyfarwyddwr Cyswllt Effeithiolrwydd ac Effeithioldeb, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a oedd yn bresennol i egluro ymhellach. 

 

Yn ystod trafodaeth nodwyd y pwyntiau canlynol:

:

 

·         Roedd Pwyllgor Dethol yr Oedolion wedi cymryd rhan lawn drwy gydol datblygu a gweithredu’r rhaglen, ac anogwyd y Cyngor i gefnogi’r rhaglen Byw Nawr a chydnabod pwysigrwydd y pwnc. Roedd Pwyllgor Dethol yr Oedolion yn dymuno parhau i fonitro cynnydd a chreu fforwm i alluogi trafodaethau pellach.

·         Pwysleisiodd Aelod, o ystyried demograffeg pobl ar draws Sir Fynwy a Gwent, y dylid rhoi ystyriaeth bellach i oblygiadau’r gost ar ddiwedd bywyd.

·         Awgrymodd aelod o Bwyllgor yr Amlosgfa y dylai adran 4 o’r adroddiad gynnwys pwynt ychwanegol yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod dymuniadau angladdau’n cael eu cadw’n gyfoes.

·         Argymhellwyd bod gwybodaeth a chyngor yn ymwneud â chynllunio a chofnodi ewyllys, megis Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, hyn cael eu cynnwys i sicrhau’r amddiffyniad gorau ac osgoi cam-fanteisio.

·         Gwnaeth Aelod gais bod pwyslais ar faes arbenigol plant a phobl ifanc, sydd ag afiechydon sy’n cyfyngu ar fywyd, yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad.

·         Diolchodd yr Arweinydd i Ms Bolt am yr adroddiad, a chroesawodd y cyfle i drafod. 

 

Penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhellion:

 

·         Bod y Cyngor yn nodi cynnwys y papur hwn.

·         Mae’r Cyngor yn cytuno y bydd y Bwrdd Iechyd yn cefnogi’r ymgyrch hon.

 

 

 

 

 

 

7a

Diogelu Perfformiad 2015-16 pdf icon PDF 284 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor Berfformiad Diwedd Blwyddyn 2015/16 ar adroddiad yr Awdurdod Cyfan, y diben oedd cyflwyno i aelodau’r Cyngor drosolwg o’r perfformiad ar ddiogelu drwy’r awdurdod cyfan yn 2015/16.

 

Yn ystod trafodaeth, nodwyd y canlynol:

 

·         Cyfeiriodd Aelod at bwynt 8 o’r tabl yn 3.8: Rydym yn gweithredu’r arferion diogelu gorau a gallwn ddangos fel rydym yn adnabod ac yn mynd i’r afael â meysydd lle mae angen gwelliant. Roedd pryderon na fuasai unrhyw welliant yn y maes hwn mewn dwy flynedd, a mynegwyd y dylem fod yn dangos gwelliannau mewn adnabod gwendidau. Atebodd y Prif Swyddog dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd drwy egluro bod y modd y caiff achosion eu graddio yn dangos fel mae swyddogion yn cymryd golwg fforensig ar y sefyllfa bresennol. Clywsom fod y prosesau asesu gwyliadwrus yn golygu bod yn llym wrth raddio achosion ond sicrhaodd ein bod bob amser yn ceisio gwella’n hunain.

·         Tynnodd Aelod sylw at fater yn ymwneud â Hamdden a’r pwysigrwydd o sicrhau bod polisïau diogelu yn eu lle. Ceisiwyd sicrwydd bod y Cyngor yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu diogelu, ac fel sefydliad rydym yn cydnabod y dylai’r rheiny sy’n defnyddio’n gwasanaethau hamdden, ein parciau neu’n tir fod yn ymwybodol o’r polisïau hyn ac yn glynu atynt. Sicrhaodd y Prif Swyddog yr Aelodau fod y broses archwilio ddiogel yn galluogi’r Cyngor i lynu ati yn ein holl leoliadau. Y cam nesaf yn ein cynllun gweithredu fyddai sicrhau bod y broses wedi’i gwreiddio’n briodol ar draws yr holl feysydd sy’n ymwneud â phlant ac oedolion sy’n agored i niwed, nid yn unig lleoliadau addysgol.

·         Sicrhawyd y Cyngor fod cynlluniau yn eu lle ar gyfer y meysydd hynny oedd angen gwelliant. Byddai prosesau archwilio’n tynnu sylw swyddogion at achosion fel y codent a gobeithid y byddai’r rheiny’n parhau i wella.

·         Nododd Aelod nad oedd yr adroddiad yn cynnwys unigolion a leolwyd yn Sir Fynwy ond dan ofal Safonau Gofal Cymru. Eglurodd y Prif Swyddog fod gennym gyfrifoldeb dros bobl allan o’r Sir, mewn cyfleusterau o fewn Sir Fynwy, a chyn belled â’i fod yn ymwneud â diogelu, rheoleiddir y sefydliadau gan AGGCC neu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. 

 

Penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhellion yn yr adroddiad:

 

·         Bod Aelodau’n ystyried y wybodaeth yn gyfochrog â’r adroddiad ar wahân ar y newidiadau arfaethedig i agwedd ddiogelu gyflawn yr awdurdod.

·         Bod Aelodau’n ceisio sicrwydd y bydd y newidiadau arfaethedig yn gwella perfformiad ar faterion y tynnwyd sylw atynt yn yr adroddiad. 

 

7b

Strategaeth a Rhaglen Ddiogelu pdf icon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor adroddiad, y diben oedd diweddaru Aelodau â’r newidiadau arfaethedig i agwedd ddiogelu gyflawn yr awdurdod.

 

Yn ystod trafodaeth fe nodwyd:

 

·         Bod angen eglurhad ynghylch pwynt 3.8 o’r adroddiad parthed yr hyn a rannwyd, pu’n ai hon oedd rhaglen y dyfodol, neu gynigion. Cytunodd yr Aelod Cabinet drafod ymhellach gyda Phennaeth y Gwasanaethau Plant.

 

Penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhellion yn yr adroddiad:

 

·         Cyflwyno Strategaeth Ddiogelu – Atodiad 1

·         Ategu’r strategaeth gyda rhaglen weithgarwch o dair elfen benodol yn cynnwys Corfforaethol, Plant a Phobl Ifanc ac Oedolion  - Atodiad 2

·         Newid y cylch gorchwyl a chynrychiolaeth Gr?p Cydlynu Diogelu yr Awdurdod Cyfan - Atodiad 3

Terfynu mecanwaith perfformiad cyfredol yr adroddiad a’i ddisodli â cherdyn sgorio o fesurau diogelu allweddol i fonitro perfformiad.

7c

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Cyngor adroddiad, y diben oedd diweddaru’r Cyngor gydag Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

Atgoffodd y Prif Weithredwr yr Aelodau fod hwn yn gyfle i osod cwestiynau i’r Prif Swyddog a fyddai’n rhoi safbwynt proffesiynol uniongyrchol, yn hytrach na’i gyfeirio drwy Aelod Cabinet.

 

Yn ystod trafodaeth fe nodwyd:

 

·         Diolchodd Aelod i’r Prif Swyddog am adroddiad proffesiynol, clir a adnabu enillion a llwyddiannau ond a nododd feysydd gwelliant yn ogystal. 

·         Cyfeiriwyd cwestiwn i’r Prif Swyddog ynghylch adnoddau. Mewn ymateb clywsom y credid bod gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru wedi gwella ers i adnoddau ddechrau mynd yn brinnach. Roedd adfyd wedi cymryd y gwasanaeth i fan gwahanol yng nghyd-destun yr hyn a gynigid gan y gwasanaeth. Yr her nawr oedd gweld faint pellach y gallai hyn barhau, yn arbennig yng nghyd-destun Gwasanaethau Oedolion gyda’r demograffegau heriol.

Yng nghyd-destun Gwasanaethau Plant, y nod oedd cyrraedd sefyllfa ariannol gynaliadwy, ac nid dod yn ôl at y Cyngor flwyddyn ar ôl blwyddyn yn gofyn am fwy o arian. Ar y cyfan roedd y teimlad yn un digalon ond yn optimistig.

·         Gwnaeth Aelod y sylwadau canlynol: 

Ø  Tudalen 14 – nid oedd y disgrifiadau a gynhwysid yn rhoi digon o wybodaeth.

Ø  Tudalen 16 – natur amhriodol hyfforddiant i’r gweithlu, nid oedd y gweithlu’n teimlo iddynt gael cefnogaeth drwy’r ystod o newidiadau.

Ø  Tudalen 18 – cais am gysondeb mewn cofnodi.

·         Nododd Aelod fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i Bwyllgor Dethol Oedolion a chododd fater amrywiad ac amrywioldeb. Roedd pryder bod preswylwyr yng Nghas-gwent a’r Fenni yn derbyn yr un buddiannau â’r rheiny yng Nghil-y-coed a Threfynwy, ac os nad oeddent, pa mor bell oeddem o gyrraedd y man hwnnw. Cynghorodd y Prif Swyddog, wrth edrych ar Gydgysylltiad Cymunedol, y bydd yr asedau o fewn gwahanol gymunedau’n gwahaniaethu, felly ni fyddai’r gwasanaeth a gynigid yn union yr un fath ond roedd angen i’r egwyddor fod yr un.

·         Yng nghyd-destun comisiynu gwasanaethau, gwasanaethau gofal yn arbennig, mae llawer yn fusnes â chanllaw isel a byddai darparwyr wedi cael eu heffeithio gan nifer o ffactorau. Gofynnwyd cwestiwn, petai’r darparwyr yn codi’u strwythur prisio, fel byddem ni’n ymateb i hynny, ac a oedd perygl y gallai rhai darparwyr ddiflannu. Atebodd y Prif Swyddog fod CSF wedi ymateb i'r Cyflog Byw Cenedlaethol, a adlewyrchwyd yn y pris teg am ofal a dalwyd i gartrefi gofal a darparwyr gofal yn y cartref. Cyfeirir at y ffordd y gweithiwn gyda’r farchnad ddarparwyr ar sail gynaliadwy, yn y gwaith Troi’r Byd Wyneb i Waered, a dyma’r her fwyaf, ond roedd cynnydd da’n cael ei wneud.

·         Awgrymwyd bod yr adroddiad yn dynodi meysydd ar gyfer gwelliant mewn Gwasanaethau Plant a chyfeiriodd Aelod yn arbennig at dudalen 30 Canran yr asesiadau cychwynnol lle gwelwyd y plentyn ar ei ben ei hun gan Weithiwr Cymdeithasol. Cwestiynwyd a oedd yn ddewisach i’r asesiad cychwynnol fod gan berson ar ei ben ei hun neu yng nghwmni arall, neu a fu newid polisi. Cynghorodd y Prif Swyddog fod hyn yn gysylltiedig â dangosydd a archwiliwyd a chofnodwyd  ...  view the full Cofnodion text for item 7c

7d

Adroddiad Ystyried Dementia pdf icon PDF 211 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Cyngor, y diben oedd rhoi trosolwg o’r gwaith a gyflawnwyd i ddatblygu Awdurdod Lleol Dementia Gyfeillgar (ADG) ac amlinellu argymhellion i’w hystyried a all gefnogi’r broses ADG i fynd rhagddi drwy hyfforddiant ac achrediad dilynol.

 

Rhoesom groeso i Mr. Philip Diamond, o Dîm Trawsnewid Gwent, a gyflwynodd y Cyngor yn swyddogol gyda’r Wobr Gymunedol Dementia Gyfeillgar, a enillwyd drwy broses achredu a ddatblygwyd gan y Gymdeithas Alzheimer’s.

 

Yn ystod trafodaeth nodwyd y canlynol:

 

·         Nododd Aelod fod cynnydd yn nifer y bobl iau â dementia, a allai arwain at broblemau gydag awdurdod yr heddlu. Roedd yn bleser gweld bod y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cymryd y mater o ddifrif, ac yn cymryd camau i amddiffyn unigolion a allai fynd i drafferthion a hwythau eu hunain heb fod ar fai.  .

·         Cyfeiriodd Aelod at Fusnesau Dementia Gyfeillgar, ac argymhellodd bod yr awdurdod yn cymryd yr un safbwynt.

·         Byddem yn cychwyn hyfforddiant, ac yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod, byddem yn cychwyn treiglo hwn i’r holl Aelodau, y swyddogion, a thrwy ddulliau hyfforddi.  .

 

Penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhellion yn yr adroddiad:  

 

·         Bod y Cyngor yn nodi cynnwys yr adroddiad.

·         Bod y Cyngor yn trafod pwyntiau i’w trafod.

·         Bod y Cyngor yn dynodi’r camau nesaf.

 

8.

Adroddiad Pennaeth Llywodraethiant, Polisi a Pherfformiad

8a

Polisi Datblygu Cynaliadwy pdf icon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor adroddiad i ddiweddaru’r Cyngor ar y Polisi Datblygu Cynaliadwy diwygiedig.

 

Yn ystod trafodaeth nodwyd:

 

·         Gofynnodd Aelod, yng nghyd-destun asesiadau a gynhaliwyd gan swyddogion, a allai copi o’r ffurflen Gwerthuso Cenedlaethau’r Dyfodol, gyda chyfarwyddyd, gael ei gylchynu i Aelodau.

·         Rhoddodd y gweithdrefnau diwygiedig sicrwydd i Aelod a oedd yn weithgar ar y prosiect Amaeth -Trefol, gan mai un o’r themâu oedd cynaliadwyedd yn yr amgylchedd amaethyddol.

·         Croesawyd Aelodau i herio swyddogion er mwyn sicrhau bod datblygiadau’n gynaliadwy ac nid yn broses o lenwi ffurflen yn unig.

·         Cyfeiriodd Aelod at ‘Rydym yn credu bod datblygiad cynaliadwy a chenedlaethau’r dyfodol yn agweddau allweddol i bopeth a wnawn, a phan ydym yn gweithio gyda phartneriaid, contractwyr a sefydliadau eraill, byddem yn disgwyl iddynt rannu’r gwerthoedd hyn a holodd beth wnaem pe na baent yn rhannu’r gwerthoedd hyn. Eglurodd y Swyddog Polisi Cynaliadwy fod nifer o strategaethau yn eu lle, a bod swyddogion yn gweithio gyda’i gilydd i wreiddio nodau llesiant i mewn i bolisïau eraill. Gwelsom fod y gwaith drwy’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus, yn sicrhau bod y nodau’n cael eu rhannu drwy sefydliadau partneriaeth ar draws Cymru.    .

 

Penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhellion yn yr adroddiad:  

 

·         Bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Polisi Datblygu Cynaliadwy.

·         Bod y Polisi Datblygu Cynaliadwy’n cael ei fabwysiadu fel rhan o Fframwaith Polisi’r Cyngor yn ei gyfansoddiad.

 

9.

Adroddiadau Pennaeth Cyflenwi Cymuned a Phennaeth Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant

9a

Velothon 2017-2020 pdf icon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Cyngor a oedd yn diweddaru Aelodau ar ddigwyddiad Velothon 2016 a cheisiodd ymrwymiad y Cyngor i gefnogi digwyddiad y Velothon o 2017 – 2020 drwy alluogi’r daith i deithio drwy Sir Fynwy.

 

Datganodd y Cynghorwyr B. Jones, B. Strong, a P. Clarke fuddiant amhersonol, andwyol i’w ddilyn dan God Ymddygiad y Cynghorwyr a gadawsant Siambr y Cyngor cyn y drafodaeth a ddilynodd.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Sir R. J. Greenland yr adroddiad a thynnodd sylw at y ffaith bod Run4Wales wedi’i benodi i ymgymryd â rheoli’r Velothon, ac roedd wedi ymgynghori’n eang ynghylch problemau flynyddoedd yn gynt. 

 

Yn ystod trafodaeth fe nodwyd:

 

·         Mynegwyd pryderon o gwmpas y gwelliannau a gyflawnwyd gan Run4Wales.

·         Cydnabuwyd bod Sir Fynwy’n sir beicio, ond gan fod y Velothon wedi’i leoli o gwmpas Caerdydd, roedd pryderon nad oedd y Sir yn elwa. 

·         Ceisiodd yr Aelodau eglurhad ynghylch y gost ddeuai wrth groesawu’r digwyddiad, a gwnaeth gais am wybodaeth ariannol bellach. Mewn ymateb fe’i sicrhawyd bod unrhyw gostau seilwaith yn cael eu talu gan y trefnwyr, ac nad oedd cyllideb uniongyrchol gan y Velothon. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir S. Jones ychwanegiad i’r argymhelliad wrth ychwanegu’r canlynol: Bydd yr arolwg hwn yn cynnwys ymgysylltiad rhagweithiol ac uniongyrchol gyda Chynghorau Tref a Chymuned a gyda’r gymuned fusnes, yn enwedig y busnesau hynny gafodd eu heffeithio’n andwyol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Eiliwyd hyn.

 

·         Cytunodd Aelod fod cyfathrebu wedi gwella, ond teimlai fod y lefel o ymyrraeth wedi cael effaith annheg ar gymunedau. 

·         Prin oedd y presenoldeb yn y cyfarfod briffio ar y Velothon, ac roedd y rheiny a fynychodd wedi awgrymu y byddai hwn wedi bod yn amser  delfrydol i gyflwyno cwestiynau i’r trefnwyr. Fodd bynnag, roedd rhai a fynychodd yn dal heb eu hargyhoeddi bod pryderon wedi cael eu hateb. 

·         Mynegwyd bod digwyddiadau â phroffil uchel, ar deledu, wedi’u cynnal yn Sir Fynwy, yn fanteisiol i’r Sir. Fodd bynnag, mynegodd un Aelod nad oedd y digwyddiad hwn yn y categori hwnnw, a’i fod yn ddigwyddiad i Gaerdydd yn unig. Mewn cymhariaeth bu amharu ar Sir Fynwy a chaewyd y Sir am y diwrnod.

·         Cytunodd yr Arweinydd y byddai’r Cyngor yn hoffi derbyn mwy o wybodaeth ar y manteision, ond ychwanegodd fod digwyddiadau o’r fath yn bwysig i economi dyfodol Sir Fynwy. 

·         Roedd pryderon y dylai costau staff a gyfeiriwyd tuag at y digwyddiad gael eu defnyddio mewn meysydd eraill, eto fe wnaed cais y dylid cynnwys  ffigurau a chostau yn yr adroddiad.

·         Mynegodd Aelod mai’r pryder mwyaf oedd cau’r heolydd am gyfnodau mor faith.

·         Cynghorodd Aelod bod awgrym wedi’i wneud yn y cyfarfod briffio Aelodau i berswadio trefnwyr bod y pwyntiau cychwyn a gorffen yn digwydd yn Sir Fynwy yn y dyfodol.

 

Yn dilyn cynnig i ohirio’r eitem at ddyddiad hwyrach fe gytunwyd i ohirio am 10 munud.

 

Wedi dychwelyd cynghorodd y Prif Swyddog yr Aelodau na fyddai swyddogion yn gallu penderfynu’r union fudd i’r Sir, ac na ellid gwarantu y gellid meintioli’r costau yn y cyfarfod Sir nesaf. Ymhellach, ni fyddem mewn sefyllfa i negodi  ...  view the full Cofnodion text for item 9a

10.

Cwestiynau Aelodau:

10a

Gan y Cynghorydd Sir D.W. Hughes-Jones i’r Cynghorydd Sir SB.Jones

"Mae Sir Fynwy mewn safle unigryw i gynnig atyniad arbennig i ymwelwyr. Mae’n ffurfio rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd yn ychwanegu at apêl arbennig  ein Sir. Mae’r broblem o sbwriel yn medru tanseilio’r atyniad gan ei fod yn  effeithio’n andwyol ar yr amgylchedd gweledol a’n rhoi argraff anghywir i unrhyw berson sydd yn teithio ar hyd heolydd gwledig a threfol Sir Fynwy.


Beth yw polisi Sir Fynwy o ran casglu ac atal sbwriel a rhoi dirwyon i bobl sy’n taflu sbwriel ac a oes yna dystiolaeth fod y strategaeth hon yn gweithio? Sawl dirwy sydd wedi ei rhoi i bobl sydd yn taflu sbwriel yn ein Sir dros y 5 mlynedd ddiwethaf a faint o arian sy’n cael ei gasglu yn flynyddol yn sgil hyn? A ellir defnyddio’r "refeniw" yma ar gyfer annog pobl i beidio â thaflu sbwriel yn holl gymunedau Sir Fynwy yn y dyfodol?"

 

Cofnodion:

Gan y Cynghorydd Sir D.W. Hughes-Jones i’r Cynghorydd Sir

S.B. Jones

 

"Mae Sir Fynwy yn y sefyllfa unigryw i gynnig atyniad arbennig i ymwelwyr. Mae’n ffurfio rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n ychwanegu at apêl arbennig ein Sir. Gall problem sbwriel danseilio’r atyniad gan ei fod yn pylu’r ymddangosiad a’r argraff a roddir i unrhyw berson sy’n teithio ar hyd heolydd trefol a gwledig Sir Fynwy.

 

Beth yw polisi Sir Fynwy ynghylch casglu sbwriel, atal a gosod dirwyon am daflu sbwriel, ac a oes unrhyw dystiolaeth bod y strategaeth hon yn gweithio?   Sawl dirwy sydd wedi ei gosod am daflu a gadael sbwriel yn ein Sir dros y 5 mlynedd ddiwethaf a faint yw cyfanswm yr arian a gasglwyd yn flynyddol yn deillio o hyn? A ellir defnyddio’r “refeniw” hwn i atal gadael sbwriel yn holl gymunedau Sir Fynwy yn y dyfodol?”

 

Mewn ymateb, diolchodd yr Aelod Cabinet i’r etholwyr am gasglu sbwriel a chynghorodd mai prif amcan Cynllun Gwelliant Gwasanaethau Gwastraff a Stryd yw gwneud amgylchedd glân, gwyrdd a diogel i breswylwyr ac ymwelwyr. Mae amserlen gynhwysfawr ar gyfer casglu sbwriel ar draws y Sir ond gwerthfawrogwyd bod bylchau mewn rhai ardaloedd gwledig. Mae nifer o brosiectau yn eu lle, lle’r awdurdodwyd swyddogion i osod hysbysiadau cosbau penodedig. Gall Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, ar ran y Cyngor, osod hysbysiadau cosbau penodedig hefyd. Dim ond 3 sydd wedi’u cyflwyno yn y blynyddoedd diweddar, ond y bwriad yw ei estyn i gynnwys swyddogion o’r Gwasanaethau Gwastraff a Stryd. Mae’r refeniw o HCPau yn fach iawn felly o ychydig ddefnydd mewn cynlluniau atal. Bu pum erlyniad llwyddiannus am achosion o adael sbwriel yn anghyfreithlon.

 

Fel cwestiwn atodol:

 

Pa gynlluniau sydd gan y Cyngor i leddfu’r broblem mewn trefi gwledig yn arbennig, er enghraifft, Tref y Grysmwnt?

 

Mewn ymateb, cynghorodd yr Aelod Cabinet y byddai’n gwneud ymholiadau ynghylch Tref y Grysmwnt.  Nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae Gwasanaethau Gwastraff a Stryd yn gweithio’n glos gyda SEWTRA i fynd i’r afael â sbwriel ar hyd y prif lwybrau, ac maent yn gweithio gydag awdurdodau cyfagos i ddatblygu ymgyrch sbwriel.

·         Bydd gadael neges gref a chyson bod taflu sbwriel yn annerbyniol ar draws rhwydwaith y cefnffyrdd yn help i leihau’r broblem. 

·         Mae gwaith yn cael ei gyflawni gyda Chadw Cymru’n Daclus, sy’n cydlynu gwaith gyda thimoedd ad-dalu cymunedol.

·         Cyflwynir rhaglenni addysgiadol drwy’r Ganolfan Un Blaned.

·         Gostyngodd cwynion taflu a gadael sbwriel yn anghyfreithlon yn 2015/16 gyda’r duedd ar-i-lawr yn parhau.

 

11.

Fferm Solar Oak Grove pdf icon PDF 205 KB

To exclude the press and public from the meeting during consideration of this item of business on the grounds that they involve the likely disclosure of exempt information

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor adroddiad yn cyfeirio at Fferm Solar Oak Grove. Y diben oedd hysbysu Aelodau’n ôl-weithredol o benderfyniad brys y Cyngor i awdurdodi taliad i gychwyn gwaith ar gyswllt y grid trydan, hefyd i newid y sail y dirprwyir awdurdod ar gyfer penderfyniadau ar y prosiect yn y dyfodol, yn seiliedig ar welliannau angenrheidiol i’r achos busnes gwreiddiol..

 

Yn dilyn trafodaeth penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion yn yr adroddiad.