Agenda

Cyngor Sir - Dydd Iau, 21ain Medi, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

Cyhoeddiad y Cadeirydd a Deisebau Sydd Wedi Eu Derbyn pdf icon PDF 328 KB

3a

E-Ddeiseb - Achubwch Ein Mannau Agored Gwyrdd

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20fed Gorffennaf 2023 pdf icon PDF 226 KB

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod Eithriadol a gynhaliwyd ar 31ain Awst 2023 pdf icon PDF 22 KB

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO 2022/23 pdf icon PDF 623 KB

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2022/23 pdf icon PDF 386 KB

8.

ADRODDIAD AR DREFNIADAU CRAFFU AR Y CYD AR GYFER CYD-BWYLLGORAU CORFFORAETHOL pdf icon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

9.

Cynigion i'r Cyngor

9a

Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir Peter Strong

Mae'r Cyngor hwn yn ymrwymo i Sir Fynwy ddod yn sir noddfa gan groesawu a chefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Fel rhan o'r addewid hwn byddwn yn ymdrechu i ddod yn aelod achrededig o Rwydwaith Dinas Noddfa'r DU. Byddwn yn adeiladu ar waith sydd eisoes wedi’i wneud gan yr Awdurdod i gefnogi ffoaduriaid o Afghanistan, Syria a’r Wcráin a’n gweithio gyda phartneriaid ar draws y gymuned i ddatblygu cynllun gweithredu i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan hyrwyddo a dathlu’r cyfraniad y maent yn ei wneud i’n cymunedau.

9b

Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir Alistair Neill

Mae'r Cyngor hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Aelod Cabinet ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch gyflwyno cynllun prosiect sy'n archwilio'n llawn y potensial i greu Canolfan Iechyd a Lles sy'n cynnal darpariaeth hyd at 2 ddiwrnod yr wythnos o wasanaethau meddygon teulu gofal sylfaenol lleol hanfodol ar gyfer y 3,100 o drigolion cofrestredig Gilwern a'r cymunedau cyfagos. Byddai'r cynllun hwn yn dod yn dempled ar gyfer cau unrhyw feddygon teulu preifat pellach yn ein sir.

9c

Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir Richard John

Mae'r Cyngor hwn:

·        Yn cymeradwyo holl argymhellion yr adolygiad allanol arbenigol o wasanaeth Fy Niwrnod, Fy Mywyd

·        Yn nodi bod y Cyngor yn parhau i werthuso opsiynau ar gyfer darpariaeth hirdymor i oedolion ag anableddau dysgu, a bod angen cyflwyno cynllun prosiect o fewn chwe wythnos, gan nodi ei hoff ddull

·        Yn cyfarwyddo'r weinyddiaeth i baratoi ar gyfer ailagor canolfan ddydd Tudor Street yn y cyfamser

 

9d

Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir Frances Taylor

Bod y Cyngor hwn yn cydnabod y ddyletswydd i ddod o hyd i safleoedd addas
ar gyfer darpariaeth Lleiniau ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr a;

1, Yn cymeradwyo casgliad y Pwyllgor Craffu Pobl ar 19eg Gorffennaf pan
wrthododd aelodau traws-gr?p y cynigion i ymgynghori ar y pum darn o dir
sy'n eiddo i'r Cyngor ac argymell bod y Cyngor yn ail-ystyried y mater.

Cytunodd yr Aelodau i beidio ag argymell unrhyw ddarnau o dir i'r Cabinet er
mwyn ymgynghori'n ffurfiol arnynt, a hynny’n seiliedig ar bryderon am y broses,
gwybodaeth wallus ac anghyflawn a diffyg addasrwydd unrhyw un o'r safleoedd
dan sylw.

2, Cytuno nad yw'r un o'r safleoedd ar y rhestr fer i'w hystyried gan y Cabinet
yn addas, gan gynnwys y safleoedd yn Langley Close, Magwyr a Dancing Hill,
3, Yn unol â chanfyddiadau’r Pwyllgor Craffu, cytuno i wrthod y safleoedd ym
Magwyr a Gwndy fel rhai anaddas i’w datblygu yn Lleiniau Sipsiwn a Theithwyr.

 

10.

Cwestiynau gan Aelodau

10a

O'r Cynghorydd Sir Emma Bryn i'r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod, Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

Roeddem yn falch iawn o glywed y cyhoeddiad am gynlluniau i atgyweirio Pont Afon Gwy ym mis Ionawr, gan fod wyneb y bont hon wedi bod mewn cyflwr gwael ers sawl blwyddyn.

Ond gyda’r newyddion bod y gwaith atgyweirio nawr i’w ohirio tan y flwyddyn nesaf, tybed a all yr Aelod Cabinet gadarnhau y bydd yr arian yn parhau i fod ar gael ac y bydd yn dal yn ddigonol i dalu am y gwaith sydd ei angen i atgyweirio’r bont yn llawn ac i lefel uchel safonol.

Hefyd, roedd llawer o drigolion a busnesau sy’n dibynnu ar fynediad dros y bont yn bryderus iawn o glywed y gallai’r bont fod ar gau yn gyfan gwbl ar gyfer mynediad i gerbydau am hyd at 5 wythnos gyfan. Achosodd ansicrwydd ynghylch y cyfnod cau bryder i lawer o drigolion a busnesau sy'n dibynnu ar fynediad at waith, iechyd a darpariaethau. A fyddai modd i ni gael syniad cliriach o ba mor hir y bydd y bont ar gau a pha fesurau lliniaru sy’n cael eu rhoi ar waith i liniaru rhai o ganlyniadau hyn cyn cyhoeddi dyddiad yn y dyfodol, gan gynnwys gwybodaeth am addasiadau arfaethedig i wasanaethau cyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn, a chyfleusterau parcio dros dro bob ochr i'r bont.

Byddem yn croesawu cyfarfod cyhoeddus yn Wyesham yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf i gyfathrebu â thrigolion y mesurau lliniaru y gallwn eu rhoi ar waith ac i ddeall anghenion y gymuned hon yn well.

 

10b

O'r Cynghorydd Sir Jane Lucas i'r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

A wnaiff yr Aelod Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i atgyweirio Pont Gwy yn Nhrefynwy?

10c

O'r Cynghorydd Sir Richard John i'r Cynghorydd Sir Paul Griffiths, Aelod Cabinet ar gyfer Cynllunio a Datblygu Economaidd

A fyddai'r Aelod Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y CDLl Newydd

 

10d

O'r Cynghorydd Sir Christopher Edwards i'r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

A allai’r Aelod Cabinet roi gwybod i’r Cyngor pa wersi sydd wedi’u dysgu o’r cynllun rheoli traffig a roddwyd ar waith yn fy ward yn St Kingsmark, Cas-gwent ar gyfer y penwythnos o gerddoriaeth fyw a gynhaliwyd gan Chepstow Concerts a oedd yn cynnwys 3 diwrnod o ddigwyddiadau mawr ym mis Mehefin/Gorffennaf eleni.

 

10e

10.5. O'r Cynghorydd Sir Simon Howarth i'r Cynghorydd Sir Ian Chandler, Aelod Cabinet ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch

A fyddai'r Aelod Cabinet yn derbyn bod methiannau wedi digwydd wrth fwrw ymlaen â datrysiad i ddarparu gofal iechyd gyda chymuned Llanelli a'r ardaloedd cyfagos.

A wnaiff roi sicrwydd y bydd ef, gydag uwch swyddogion, yn rhoi ei sylw pennaf gyda’r bwrdd iechyd, hefyd yn bwysicaf oll yn edrych am benderfyniad wrth gyflawni cynllun gofal ar gyfer yr ardal a’r gymuned gyfagos.

 

10f

O'r Cynghorydd Sir Tony Kear i'r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

A all yr Aelod Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer yr adolygiad sir gyfan arfaethedig o feysydd parcio?


 

11.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf - 26ain Hydref 2023