Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Sir Simon Howarth a Rachel Buckler fuddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 8a ar yr agenda, a hynny mewn perthynas â threth dwristiaeth.
|
|||||||||
Cwestiynau Cyhoeddus Cofnodion: Nid oedd unrhyw gwestiynau cyhoeddus.
|
|||||||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd PDF 317 KB Cofnodion: Wedi ei nodi.
|
|||||||||
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18fed Mai 2023 PDF 306 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18fed Mai 2023 fel cofnod cywir.
Wrth wneud hynny nodwyd bod y Cynghorydd Sir Simon Howarth wedi bod yn bresennol. |
|||||||||
BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWENT: CYNLLUN LLESIANT PDF 150 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad i sicrhau bod Aelodau’n deall yr heriau sy’n wynebu Gwent a’r camau sy’n cael eu cymryd ar y cyd gan wasanaethau cyhoeddus yn y rhanbarth i fynd i’r afael â’r rhain ac i gymeradwyo Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent cyn ei gyhoeddi.
https://www.youtube.com/live/1pLYl1dkyzM?feature=share&t=476
Yn dilyn pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:
Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Cynllun Llesiant cyn iddo gael ei gymeradwyo gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent.
|
|||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PRIF SWYDDOG AR GYFER PLANT A PHOBL IFANC PDF 3 MB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc yr adroddiad i roi trosolwg i’r Aelodau o statws a pherfformiad y system addysg yn Sir Fynwy ac i roi persbectif y Prif Swyddog o’r cryfderau a’r gwendidau perthnasol yn y system, y risgiau y mae’r gwasanaeth yn eu hwynebu a’r cyfleoedd sydd ar gael i wella.
https://www.youtube.com/live/1pLYl1dkyzM?feature=share&t=1377
Penderfynodd y Cyngor nodi'r adroddiad.
|
|||||||||
Cynigion i’r Cyngor |
|||||||||
Wedi eu cyflwyno gan y Cynghorydd Sir Richard John Mae'r Cyngor hwn: · Yn nodi bod twristiaid yn cyfrannu bron i £200 miliwn i economi Sir Fynwy ac yn cynnal dros 3,000 o swyddi yn y diwydiant twristiaeth. · Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi pwerau i awdurdodau lleol i osod treth ar dwristiaeth erbyn 2026. · Yn cydnabod y niwed y byddai treth ar dwristiaeth yn ei achosi i'n diwydiant twristiaeth ac yn bwriadu ymwrthod rhag cyflwyno treth ar dwristiaeth yn Sir Fynwy.
Cofnodion: Mae'r Cyngor hwn: • Yn nodi bod twristiaid yn cyfrannu bron i £200 miliwn i economi Sir Fynwy ac yn cynnal dros 3,000 o swyddi yn y diwydiant twristiaeth. • Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi pwerau i Awdurdodau Lleol osod treth dwristiaeth erbyn 2026. • Yn cydnabod y niwed y byddai treth dwristiaeth yn ei achosi i'n diwydiant twristiaeth ac yn diystyru cyflwyno treth dwristiaeth yn Sir Fynwy.
https://www.youtube.com/live/1pLYl1dkyzM?feature=share&t=9917
Datganodd y Cynghorwyr Sir Simon Howarth a Rachel Buckler fuddiant oedd yn rhagfarnu ac ni wnaethant gymryd rhan yn y drafodaeth.
Ar ôl cael ei roi i bleidlais a gofnodwyd, penderfynodd y Cyngor wrthod y cynnig: Pleidleisiau O Blaid: 15 Pleidleisiau Yn Erbyn: 23 Wedi Ymwrthod: 2
Gadawodd y Cynghorydd Sir Simon Howarth y cyfarfod am 17:14
|
|||||||||
Cwestiynau gan Aelodau |
|||||||||
Gan y Cynghorydd Sir Richard John i’r Cynghorydd Sir Mary Ann Brocklesby, Arweinydd y Cyngor A yw’r Arweinydd yn medru gwneud datganiad am y berthynas sydd gan y weinyddiaeth â Llywodraeth Cymru?
Cofnodion: A wnaiff yr Arweinydd ddatganiad am y berthynas sydd gan y weinyddiaeth â Llywodraeth Cymru?
https://www.youtube.com/live/1pLYl1dkyzM?feature=share&t=13065
|
|||||||||
Gan y Cynghorydd Sir Penny Jones i’r Cynghorydd Sir Rachel Garrick, Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau A ydy’r Aelod Cabinet esbonio cynlluniau’r weinyddiaeth ar gyfer dyfodol safle’r hen Ysgol Gynradd yn Rhaglan a’r amserlen dan sylw?
Cofnodion: A all yr Aelod Cabinet egluro, os gwelwch yn dda, gynlluniau’r weinyddiaeth ar gyfer dyfodol safle’r hen Ysgol Gynradd yn Rhaglan a’r amserlen dan sylw?
https://www.youtube.com/live/1pLYl1dkyzM?feature=share&t=13596
|
|||||||||
Cwestiwn Brys gan y Cynghorydd Sir Christopher Edwards i'r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd Cofnodion: Mae Cas-gwent ar fin profi digwyddiadau cerddorol mawr dros dri diwrnod yn olynol lle bydd yn croesawu’r nifer uchaf erioed o ymwelwyr i ardal sy’n enwog am dagfeydd traffig.
Mae Cynghorwyr a thrigolion eisiau gweld busnesau’n ffynnu, Cas-gwent yn ffynnu, ac mae’r dref yn parhau i fod yn lle hapus i drigolion fyw, gweithio a chwarae ynddi. Mae pryderon preswylwyr yn real ac yn seiliedig ar dystiolaeth, ar ôl profi digwyddiadau a gweithgareddau o'r fath yn yr ardal ond ar raddfa lai.
Pa sicrwydd y gall yr Aelod Cabinet ei roi i drigolion fy ardal i a’r wardiau cyfagos y bydd cynlluniau rheoli traffig y Cyngor yn gweithio ac na fydd preswylwyr yn teimlo’n gaeth yn eu cartrefi, neu bod eu strydoedd yn cael eu defnyddio fel ffyrdd i gwtogi ar deithiau neu’n feysydd parcio i ymwelwyr? A wnaiff y Cyngor hefyd ystyried adborth a ddarparwyd cyn ac ar ôl i’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro ddod i rym, a gweithredu arno i wella bywydau trigolion?”
https://www.youtube.com/live/1pLYl1dkyzM?feature=share&t=12685
|
|||||||||
Dyddiad y cyfarfod nesaf – 20fed Gorffennaf 2023 Cofnodion: Wedi ei nodi.
|