Agenda and minutes

Special, Cyngor Sir - Dydd Llun, 19eg Mawrth, 2018 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir F. Taylor fuddiant nad oedd yn rhagfarnu fel Aelod Cymuned Annibynnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a gadawodd y cyfarfod yn ystod datganiad a gyflwynwyd gan yr Arweinydd ynghylch Iechyd Meddwl Oedolion H?n.

 

Cymerodd yr Arweinydd y cyfle i ddiweddaru’r Cyngor ar ail-ddylunio arfaethedig y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion H?n yng Nghas-gwent. Bu pryderon a godwyd gan Aelodau ac ymgynghoriad hirfaith gyda chyfraniadau grymus o Sir Fynwy. Deallwyd y byddai BIPAB yn cwrdd ar 21ain Mawrth 2018, y papurau’n argymell cau Ward St. Pierre yng Nghas-gwent. Sicrhaodd yr Arweinydd yr Aelodau y byddai ymateb ysgrifenedig cryf yn cael ei gyflwyno  cyn bod y bwrdd yn cwrdd, a byddai’r ymateb yn cael ei gylchynu i’r holl Aelodau.

 

Roedd yr Aelodau’n frwd i fynegi’u dicter a’u rhwystredigaeth i’r ymateb a gyflwynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn enwedig gan nad oedd yr adroddiad yn adlewyrchu anghenion Sir Fynwy.

 

3.

Cynllun Busnes Y Fargen Ddinesig pdf icon PDF 267 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Aelod Cabinet yr adroddiad i amlinellu’r camau nesaf ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd yn dilyn cymeradwyaeth Cytundeb Gweithio ar y Cyd (CGC) Prifddinas Ranbarth Caerdydd (PRC), Fframwaith Sicrwydd a Chynllun Gweithredu Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd a sefydlu Cabinet Rhanbarthol ar 26 Ionawr 2017.  Yn ogystal, cyflwyno Cynllun Busnes y Cytundeb Gweithio ar y Cyd (CGC) a argymhellir i’r Cyngor i’w gymeradwyo gan y Cabinet Rhanbarthol.

 

Cefnogodd y Gr?p Llafur yr argymhelliad. Wrth wneud hynny cododd y Cynghorydd Batrouni gwestiynau o gwmpas y cyfarwyddyd ar fetrigau ac asesiadau ar allbynnau a chanlyniadau. Gofynnodd fel y credir bod y Fargen Ddinesig wedi ychwanegu at Werth Ychwanegol Gros yn hytrach na ffactorau eraill megis gostyngiad mewn tollau’r bont. Cododd bryderon hefyd ynghylch perthynas Sir Fynwy â Bryste, a Metro Plus.

 

Ymateboddyr Arweinydd bod y Fframwaith Asesu wedi cael ei gymeradwyo, a bod cytundeb gweithio ar y cyd wedi cael ei gytuno mewn cyfarfod blaenorol. Ychwanegodd ei fod eisiau i bobl ifanc gael y cyfle i weithio yn Sir Fynwy, a byddai’r rhanbarth yn gweithio’n glos gyda Bryste yn y dyfodol. 

 

SiaradoddAelod am y cyfleoedd ar gyfer y rhanbarth, a Sir Fynwy. Tra mae’r Fargen Ddinesig yn gynllun rhanbarthol, mae cyfleoedd i Sir Fynwy o’i few, a chwestiynwyd a oeddem eisoes yn gwneud digon i gael y fargen orau ar gyfer pobl Sir Fynwy.

 

Gofynnwyd am fanylion o gwmpas trefniadau craffu.

 

AwgrymoddAelod  y dylid trefnu cyflwyniad i’r Aelodau ynghylch Metro. Cytunodd yr Arweinydd y byddai hyn yn fuddiol.

 

Rhodd y Prif Weithredwr sicrwydd a gwybodaeth bellach i’r Aelodau.

 

O’iroddi i bleidlais penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhelliad:

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo Cymeradwyaeth Cynllun Busnes Gweithio ar y Cyd fel yr argymhellwyd gan y Cabinet Rhanbarthol i’w fabwysiadu fel y ‘Cynllun Busnes CGC’ ffurfiol.

 

 

4.

Cynllun Datblygu Lleol pdf icon PDF 897 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cyngor i gychwyn gwaith ar fframwaith polisi cynllunio newydd i lunio a datblygu dyfodol ein Sir a’i swyddogaeth yn y rhanbarth, yn unol â phwrpas y Cyngor o adeiladu cymunedau cynaliadwy a chadarn. Yn benodol, gofynnir am gymeradwyaeth y Cyngor i gychwyn gweithio ar Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd ar gyfer Sir Fynwy, cymeradwyo’r Cytundeb Darparu gan gynnwys Cynllun Cynnwys Cymunedau ar gyfer ymgynghoriad targedig am bedair wythnos, a chytuno rhan o Gynllun Datblygu Strategol De-ddwyrain Cymru (CDS).

 

Cynghorodd y Cynghorydd Batrouni fod y Gr?p Llafur yn cefnogi adolygiad llawn, gan ychwanegu ei fod yn adlewyrchu methiant y Cyngor hwn i gwrdd ag anghenion tai Sir Fynwy. Ychwanegodd i’r adolygiad fethu â chymryd i ystyriaeth symud Tollau pont Hafren, a’r twf mewn poblogaeth.

 

Ymateboddyr Aelod Cabinet nad oedd safleoedd strategol arfaethedig wedi dod ymlaen fel y rhagwelid.

 

Mynegwyd bod angen ymgynghoriad ehangach, yn ymestyn i’r cyhoedd ac i gynnwys ardal Caerloyw.

 

Eglurodd y swyddogion, yng nghyd-destun y cynllun cyfredol, hunan-adlewyrchodd yr adolygiad ar y rheswm paham nad oedd safleoedd wedi dod ymlaen. Mae rhesymau cymhleth y tu ôl i hyn ond mae safleoedd yn gwneud cynnydd i ddod ymlaen. Yng nghyd-destun amcanestyniadau, cwmpasodd adroddiad yr adolygiad agweddau eraill sydd angen edrych arnynt, gan gynnwys tollau.  Os cymeradwyir yr adolygiad gan y Cyngor, y man cychwyn fyddai edrych ar opsiynau ar gyfer twf. Yng nghyd-destun ymgynghoriad roedd y swyddogion yn edrych ar ymgysylltu â chymaint â phosib o grwpiau.

 

Awgrymoddrhai Aelodau y gallai adolygiad byr fod yn well opsiwn. Eglurwyd, petai hyn yn digwydd, byddai dal yn rhaid i ni alinio gyda’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a byddai hyn yn cymryd ein cynllun cyfredol ymlaen i 2030.  Ni fyddai’r cynllun tymor byr yn goresgyn yr heriau presennol.

 

Tynnoddyr Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol  sylw at y Strategaeth Cynnwys Cymunedau a’r agwedd gynhwysfawr y byddwn yn ei chymryd i ymgysylltu â chymunedau. Mae’n crybwyll yn benodol y grwpiau anodd eu cyrraedd. Anogodd Aelodau unigol i ddod ymlaen ag awgrymiadau ar y modd i hwyluso’r broses.

 

Argymhellwydffurfio gr?p llywio trawsbleidiol i fynd i’r afael ag amcanion yn ymwneud ag isadeiledd.

 

Anogoddyr Arweinydd bod angen inni gymryd rheolaeth o’n tynged ein hunain ac nid oedd yn cytuno â gweithio ar y cyd ar Gynllun Datblygu Lleol gydag awdurdodau eraill.

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir A. Webb y cyfarfod am 15:00pm

 

Mewnymateb i gwestiwn clywsom mai pris cyfartalog t? yn Sir Fynwy bellach yw’r uchaf yng Nghymru gyfan ar £307,000, sy’n cymharu â chyfartaledd Cymru o £186,000. 

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir F. Taylor y cyfarfod am 15:25pm.

 

Tynnoddyr Aelod Cabinet y drafodaeth i’w therfyn gan ddweud mai’r CDLlon yw’r cyfrwng i helpu gyda’r broblem ddemograffig. Roedd yn fodlon gyda’r ymgysylltu trawsbleidiol ac roedd eisiau cynnwys Aelod bwrdd ar  ...  view the full Cofnodion text for item 4.