Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 12fed Mai, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Democratic Services 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Fforwm Agored Cyhoeddus :

2a

Cwestiwn gan Mr M. Smith i'r Cynghorydd Sir P. Fox

 

Is the Leader of the Council aware that the National Cycle Route 4 (a long distance route between London and Fishguard via Reading, Bath, Bristol, Newport, Swansea, Carmarthen, Tenby, Haverfordwest and St.David’s a distance of 432 miles) runs through the south of Monmouthshire between Chepstow and Magor  and that there is approximately a one and half mile stretch of that cycle route, (which is traffic-free and therefore family friendly) between Rogiet and Undy which is in such a deplorable condition that it is virtually impossible for an adult cyclist to cycle upon and is he further aware that it is entirely impossible for a child cyclist and a wheelchair user to use the path because the finished surface is so rough and covered with what appears to be broken bricks and building materials that have simply been spread across the surface and is he also aware that this section of the NCR 4 is probably, without exaggeration, in the worst condition than any of the 432 miles entire length of this major cycling route and that SUSTRANS the cycling charity organisation has received numerous complaints about the condition of this path and what is he prepared to do to rectify the problem and restore the surface of this very popular cycle/pedestrian/wheelchair path to a condition “fit for purpose” ?

 

Cofnodion:

Rhoesom groeso i Mr. Mike Smith i’r cyfarfod, a ddosbarthodd i’r Cyngor luniau yn cefnogi’i phryderon, a phwysleisiodd, yn ogystal â bod yn llwybr beicio mae’r ffordd dan sylw hefyd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru, a mynegodd fod gan yr Awdurdod ddyletswydd foesol, neu gyfrifoldeb cyfreithiol i gynnal a chadw’r llwybr arfordirol.

 

Ymatebodd y Cynghorydd P. Fox:

 

·         Diolchodd i aelod y cyhoedd am y cwestiwn.

·         Cynghorodd y deallwyd y pryderon a gwerthfawrogodd y rhwystredigaeth.

·         Eglurodd fod y darn tir hwn mewn perchnogaeth breifat gan ffermwyr lleol, ond byddai’r Awdurdod yn dal eisiau gwella’r ffordd. 

·         Byddai’r Ddeddf Teithio Llesol yn caniatáu i’r swyddogion wneud cynigion am gyllid.

·         Trefnid ymgynghoriad cyhoeddus lle gallai’r holl aelodau gyfrannu, gan obeithio sicrhau canlyniad cadarnhaol.

·         Ymddiheurodd nad oedd yn bosib cynnig datrysiad yn syth.

 

Fel cwestiwn atodol:

 

A oedd yr Awdurdod wedi derbyn swm o arian gohiriedig fel rhan o ddatblygiad y Llwybr Beicio Cenedlaethol?

 

Mewn ymateb, croesawodd Arweinydd y Cyngor yr her ddiddorol a

byddai'n ymchwilio ymhellach i sefydlu a oedd swm o arian gohiriedig, fel yr awgrymwyd. 

 

3.

Cyhoeddiad a derbyn deisebau cadeirydd

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau, ac ni chyflwynwyd unrhyw ddeisebau.

 

4.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

5.

I gadarnhau ac arwyddo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2016 pdf icon PDF 378 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd fel rhai cywir, a llofnodwyd hwy gan y Cadeirydd, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar10fed Mawrth 2016, yn amodol ar y newid canlynol:

 

Cywiriad: PRESENNOL: Y Cynghorydd P. Fox (nid ymddiheuriadau).

 

6.

I dderbyn y Rhestr Camau Gweithredu o 10 Mawrth, 2016 pdf icon PDF 165 KB

Cofnodion:

Derbyniasom y rhestr weithredu o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 10fed Mawrth.  Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Cynghorodd y Cynghorydd P. Murphy, parthed y gweithredu’n gysylltiedig â Grantiau Ewropeaidd, roedd yr holl wybodaeth oedd ar gael wedi’i throsglwyddo i’r Cynghorydd Batrouni.

·         Cynghorodd y Cynghorydd P. Fox fod llythyr wedi’i ysgrifennu, fel y gwnaed cais amdano, ynghylch y ‘Llwybr Du ar Wasanaethau Magwyr’ a derbyniwyd ymateb oddi wrth y gweinidog, cylchynwyd y ddau i Aelodau.

 

7.

Ethol Arweinydd y Cyngor ac i dderbyn hysbysiadau o ddirprwyaethau Arweinydd ( penodiadau i'r Cabinet)

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Sir R.J.W. Greenland ethol y Cynghorydd Sir P.A. Fox fel Arweinydd y Cyngor. Eiliwyd hyn wedyn gan y Cynghorydd Sir P. Jones.

 

Wedi pleidlais cariwyd y cynnig.

 

Mynegodd y Cynghorydd Sir O. P.A. Fox ei ddiolch i’r Cyngor am ei ailethol gan ddweud ei bod yn fraint arwain Cyngor Sir Fynwy a phwysleisiodd ym mlwyddyn olaf y Cyngor hwn bod heriau a chyfleoedd newydd o’n blaenau..

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd y byddai portffolios a phersonél yn aros yn ddigyfnewid.

 

R.J.W. Greenland       Arloesi, Menter a Hamdden

(Dirprwy Arweinydd)

 

P.A.D. Hobson            Datblygu Cymunedol

(Dirprwy Arweinydd)

 

E.J. Hacket Pain         Ysgolion a Dysgu

 

G. Burrows                  Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd

 

P. Murphy                   Adnoddau

 

S.B. Jones                  Gweithrediadau’r Sir

 

Llongyfarchodd Aelod yr Arweinydd ar gael ei ailethol a holodd a fwriadai wneud unrhyw beth yn wahanol eleni, neu a oedd, o edrych yn ôl, unrhyw beth y bu’n edifar yn ei gylch. Mewn ymateb gwnaeth yr Arweinydd y sylw ei fod bob amser yn herio ac yn cwestiynu’i hunan ond teimlodd iddo lwybro’n gywir o ystyried y cynnydd a wnaeth yr Awdurdod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Pwysleisiodd y byddai’n ddiofal ar ei ran i beidio â bod yn edifar dros faterion addysg rai blynyddoedd yn ôl, ond roedd yn falch i ni symud oddi wrth y sefyllfa honno a bellach yn y sefyllfa o fod yn un o’r awdurdodau gorau yng Nghymru. Dywedodd yr Arweinydd ei fod nawr yn edrych ymlaen gydag ychydig anniddigrwydd, ond yn ddigon dewr i wthio ffiniau ac edrych am wasanaethau oedd yn hygyrch yn lleol.

 

 

 

8.

Cynrychiolaeth Grwpiau Gwleidyddol - Cydbwysedd Gwleidyddol pdf icon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd o unrhyw newidiadau.

 

Mynegwyd rhai pryderon ynghylch nifer yr aelodau ar y Pwyllgor Dethol, a mater presenoldeb. Awgrymwyd bod mater Aelodau heb fynychu o gwbl yn cael ei ddatrys er mwyn rhoi cyfle i’r Aelodau sy’n dymuno mynychu. Gwnaed cais bod yr Arweinydd yn ailystyried ac yn cyhoeddi’r hyn sy’n deg i bawb. 

 

Awgrymodd yr Arweinydd fod gwaith pellach yn cael ei gyflawni drwy’r Gwasanaethau Democrataidd, yn enwedig gyda chyflwyno Pwyllgor Dethol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, yn barod ar gyfer y weinyddiaeth newydd.

 

 

 

 

 

9.

Penodi Pwyllgorau Dethol pdf icon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Cadeirydd y dylid hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd o unrhyw newidiadau.

 

Cytunodd yr Arweinydd y byddai arweinwyr y grwpiau’n hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd maes o law.

 

Cynghorwyd ni y byddai Cylch Gorchwyl ar gyfer Pwyllgor Dethol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei ffurfio yn dilyn y cyfarfod cyntaf.

 

Cytunwyd y byddai rhestr yr aelodau cyfetholedig yn 2.2 yn cael ei diweddaru.

 

Wedi’r bleidlais cytunasom i gymeradwyo’r argymhellion o fewn yr adroddiad.

 

10.

Penodi Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 58 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniasom adroddiad yn argymell penodi Pwyllgor Archwilio, gyda’r cylch gorchwyl ynghlwm.

 

Penderfynasom:

 

·         Fod aelodaeth y Pwyllgor yn cynnwys 11 Aelod o’r Cyngor, i’w penodi yn unol â chydbwysedd gwleidyddol, ynghyd ag un aelod lleyg.

·         Y nodir y caiff Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio ei benodi/phenodi gan y Pwyllgor.

 

Wedi’r bleidlais, cytunasom i gytuno’r argymhellion o fewn yr adroddiad.

 

 

 

11.

Penodi Rheoleiddio a phwyllgorau eraill pdf icon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynasom fod y Pwyllgorau canlynol, ynghyd â’u cylch gorchwyl, yn cael eu penodi, gyda’r aelodaeth yn cael eu hysbysu gan y grwpiau gwleidyddol

 

·         Cynllunio (16 Aelod)

·         Trwyddedu a Rheoleiddio (12 Aelod)

·         Is-bwyllgorau dan y Ddeddf Trwyddedu 2003

·         Pwyllgor Apeliadau (3 Aelod)

·         Penodi Pwyllgor Llywodraethwyr Awdurdod Lleol (7 Aelod)

·         Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) (6 Aelod)

·         Pwyllgor Penodi (5 Aelod)

·         Bwrdd Cydgysylltu

·         Pwyllgor Cydnabyddiaethau (Prif Weithredwr) (5 Aelod)

·         Pwyllgor Ymchwilio (3 Aelod)

·         Pwyllgor Disgyblu (3 Aelod)

 

Wedi’r bleidlais penderfynasom gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad. 

 

12.

Penodi Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a phenodi Cadeirydd y Pwyllgor pdf icon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniasom adroddiad er mwyn penodi Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, i gytuno cylch gorchwyl ac aelodaeth y Pwyllgor, ac i benodi Cadeirydd y Pwyllgor.

 

Penododd y Cynghorydd Sir S.G. Howarth y Cynghorwyr Sir F. Taylor, V. Smith ac S. Howarth i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, a chynigiodd hefyd fod y Cynghorydd Sir F. Taylor yn cael ei benodi fel Cadeirydd y Pwyllgor. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni.

 

Wedi’r bleidlais cytunasom y cynnig yn unfrydol.

 

13.

Penodi Pwyllgorau Rhanbarthol pdf icon PDF 21 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynasom fod y Pwyllgorau Ardal canlynol, ynghyd â’u haelodaeth a’u cylch gorchwyl, yn cael eu penodi:

 

·         Bryn y Cwm

·         Canol Sir Fynwy

·         Gwy Isaf

·         Glan Hafren

 

Cyfeiriodd Aelod at Adolygiad  Llywodraethu ar gyfer Pwyllgorau Ardal a holodd a allai’r Pennaeth Gwasanaeth roi barn. Eglurodd y Pennaeth Polisi ac Ymgysylltu ein bod wedi ffurfio gweithgor bychan er mwyn adolygu Pwyllgorau Ardal.  Roedd y manylion yn cael eu cadarnhau a byddai cynigion  yn cael eu dwyn nôl i’r Cyngor ar ddyddiad yn y dyfodol. 

 

Wedi’r bleidlais cytunasom gytuno’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

 

 

14.

Penodi Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 13 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynasom fod y Pwyllgor Safonau, ynghyd ag aelodaeth a chylch gorchwyl, yn cael ei benodi.

 

Argymhellodd yr adroddiad fod aelodaeth y Pwyllgor yn cynnwys 3 Aelod o’r Awdurdod ar wahân i’r Arweinydd, 5 aelod cyfetholedig â phleidlais ac un aelod cymunedol. 

 

Wedi’r bleidlais cytunasom i gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

15.

Penodiadau i Gyrff Allanol pdf icon PDF 10 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynasom fod Aelodau’n cael eu penodi  i gyrff allanol, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Cytunasom fod y newidiadau canlynol yn cael eu nodi, a bod yr adroddiad yn cael ei ddiweddaru:

 

Categori A – Rhanbarthol Cenedlaethol

 

·         2. Bwrdd Draenio Lefelau Cil-y-coed a Gwynll?g – heb fodoli bellach, nawr yn rhan o Gr?p Ymgynghorol Cil-y-coed a Gwynll?g.

·         7. Adnoddau Cenedlaethol Cymru - nawr yn cael ei adnabod fel Gr?p Ymgynghorol Cil-y-coed a Gwynll?g. Y Cynghorydd Sir P. Murphy (eilydd), y Cynghorydd Sir C A. Easson i fod yn Aelod arweiniol.

·         12. WJEC/CBAC Cyf – heb fodoli bellach.

·         23. Gr?p Cynllunio Strategol De-ddwyrain Cymru – Newid aelodaeth i Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd P. Murphy.

·         26. Pwyllgor Monitro Amcan 3 Swyddfa Gyllid Ewropeaidd Cymru – gwirio a oedd yn bodoli.

 

Categori C – Cyd-bwyllgorau a Chwmnïau Awdurdod Lleol

 

·         5. Gwasanaeth Cyflawni Addysg – y Cynghorydd E.J. Hacket Pain aelod cynrychioladol y Gr?p Cyd-weithredol, nid cwmni. 

·         6. SRS Business Solutions Cyf– Kellie Beirne fel Cyfarwyddwr o safbwynt swyddog.

·         6. Cynnwys SRS Public – Aelod Bwrdd y Cynghorydd P. Murphy, a chynrychiolydd o blith y swyddogion Peter Davies.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod SRS Public yn gyd-endid ar draws Sir Fynwy, Torfaen, Blaenau Gwent a Heddlu Gwent, ac o’i gwmpas yr adeiledir ein model cydweithredu ar gyfer TG. Mae SRS Business Solutions yn gwmni a berchenogir ar y cyd gan Dorfaen a Sir Fynwy, ac yn is-gwmni i SRS Public.

 

Gwnaeth Aelod gais iddo gael ei gofnodi bod dau Aelod yn cael eu penodi i’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.

 

Cwestiynwyd a allai Cymdeithas Dai Sir Fynwy gael cynrychiolwyr o bob gr?p. Eglurodd y Prif Weithredwr fod nifer y cynrychiolwyr yn cael ei reoli gan y cytundeb trosglwyddo.

 

Categori D – Mudiadau Gwirfoddol

 

·         6. Corfforaeth Coleg Gwent – i’w symud, nid oes ganddo bellach gynrychiolaeth Aelod etholedig.

 

Categori E – Buddiant lleol

 

·         6. Pwyllgor Rheoli Canolfan Henoed Cas-gwent – nawr yn cael ei adnabod fel Ymddiriedolaeth Lesiant Henoed Cas-gwent. 

·         18. Pwyllgor Cyllid Capel Ebenezer Clydach – Y Cynghorydd G. Howard i ddisodli’r Cynghorydd S. Howarth.

 

Gwnaeth Aelod gais fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnwys yr ymddiriedolaeth sy’n gyfrifol am y Neuadd Ymarfer, Cas-gwent. Cynghorodd y Prif Weithredwr y byddai’r Cyngor yn ystyried hyn ar ddyddiad hwyrach.

 

Categori F - Arall

 

3. Pwyllgor Cist Gymunedol Sportlot Sir Fynwy – y Cynghorydd B. Strong  i ddisodli’r Cynghorydd S. Jones

 

 

16.

Cyflogau a Thaliadau Aelodau pdf icon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlinellodd yr adroddiad benderfyniadau’r Panel Cyflogau a Thaliadau ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016/2017 a gwahoddodd y Cyngor i benderfynu rhychwant cyflogau uwch. Byddai’r Cyngor yn gallu talu hyd at 17 o uwch gyflogau ynghyd â 2 gyflog dinesig (i’r Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor). 

 

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor fod y Cyngor yn cadw’r strwythurau cyflog c cyfredol ar gyfer y Cabinet, ond yn cydnabod y llwyth gwaith ychwanegol. Parthed pwyllgorau eraill, ystyriwyd  ei bod yn briodol bod y cynllun lwfansau presennol yn cael ei adolygu, a bod y bartneriaeth yn cydnabod y gwahaniaeth mewn llwyth gwaith rhwng pwyllgorau. Fe gynigiwyd, felly, fod Cadeiryddion y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio a’r Gwasanaethau Democrataidd yn cael eu talu ar lefel 2. Eiliwyd hyn ac, wedi’r bleidlais, fe’i cymeradwywyd gan y Cyngor.

 

17.

I fabwysiadu Cod Ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau pdf icon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniasom adroddiad er mwyn i Aelodau ystyried mabwysiadu cod ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau. Pasiodd Llywodraeth Cymru Orchymyn Awdurdodau Lleol (Model Cod Ymddygiad) (Cymru) (Gwelliant) 2016 (“y Gorchymyn”) ar 27ain Ionawr 2016 a gyflwynodd fodel cod ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau. Mae’n rhaid i bob awdurdod perthnasol, hynny yw, cynghorau sir/bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned a thref, awdurdodau tân ac achub a’r awdurdodau parciau cenedlaethol, o fewn chwe mis i ddyddiad y Gorchymyn, fabwysiadu’r cod ymddygiad diwygiedig, a dyna paham y cyflwynir yr adroddiad i’r Aelodau ei ystyried.

 

Cynghorodd y Swyddog Monitro fod y newidiadau i’r cod ymddygiad yn gymharol fach a phwysleisiwyd hwy yn yr adroddiad. Cynghorwyd yr Aelodau, bod eu datganiadau gwreiddiol o dderbyn swydd yn cwmpasu newidiadau i’r cod maes o law. Pan oedd Aelodau’n gwisgo dwy het, fel Cynghorwyr Tref a Chymuned, roedd yn bwysig nodi rhai mân wahaniaethau yn y codau perthnasol, ac i weithredu dan y cod priodol. Un o’r prif wahaniaethau oedd, fel Cynghorydd Sir gwnaed datganiadau ymlaen llaw  drwy’r gofrestr buddiannau, yn hytrach na ‘fel a phan’ yng nghyfarfod Cyngor Tref a Chymuned. Roedd yn bwysig nodi y dylid gwneud Clercod Tref a Chymuned yn ymwybodol y dylid mabwysiadu’r cod ymddygiad diwygiedig erbyn Gorffennaf 2016.

 

Wedi’r bleidlais, cytunasom i gymeradwyo’r argymhellion o fewn yr adroddiad.

 

18.

I dderbyn y Cynllun Gwella 2016-2017 pdf icon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad i roi gwybodaeth i’r Aelodau am y Cynllun Gwelliant ar gyfer 2016-17.

 

Argymhellodd yr adroddiad fod y Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Gwelliant gan gynnwys y pum amcan gwelliant y mae’n eu disgrifio, yn amodol ar unrhyw newidiadau y mae’n eu disgrifio, yn amodol ar unrhyw newidiadau i ddata a thargedau allai fod eu hangen fel rhan o’r dilysu data ddiwedd blwyddyn a’r broses archwilio mewnol.

 

Roedd data perfformiad ar gyfer 2015-16 wedi’u cynnwys lle'r oedd yn briodol, i ganiatáu i Aelodau ddeall yr amcanion ar gyfer y flwyddyn o’n blaenau yng nghyd-destun y perfformiad mwyaf diweddar. Mae’r broses casglu data ddiwedd blwyddyn yn dal i fynd rhagddi, lle cynhwysir hwy dylid trin data fel rhai dros dro am nad ydynt hyd yn hyn wedi bod yn rhwym wrth archwiliad. Mae’r targedau ar gyfer 2016-17 yn cael eu cwblhau. Gwnaed Aelodau’n ymwybodol y gallai rhai data a thargedau newid cyn eu cyhoeddi’n derfynol i adlewyrchu’r wybodaeth fwyaf diweddar. Os gwnaeth hyn newidiadau arwyddocaol i gyd-destun y cynllun, fe ail-ddosberthir y rhain i Aelodau cyn cyhoeddi’r cynllun yn derfynol.

 

Cwestiynodd Aelod pa welliannau a wnaed ynghylch graddfa oedi cyn trosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol, a chanran y plant yr edrychir ar eu holau sydd wedi cael tri neu fwy o leoliadau yn ystod y flwyddyn.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet y gallai fod nifer o sylwadau yn cyfeirio at niferoedd yn gostwng gan fod yr adroddiad hwn yn ‘adroddiad cynnydd’ , ac nad oedd yr holl wybodaeth wedi’i chasglu. Dangosid y canlyniadau terfynol ym mis Hydref 2016.  Sicrhaodd yr Aelodau nad oedd problem Oedi wrth Drosglwyddo Gofal yn Sir Fynwy.

 

 

Eglurodd y Rheolwr Polisi a Pherfformiad fod lleoliadau plant yr edrychir ar eu holau yn cael eu monitro’n rheolaidd gan y Gwasanaethau Plant. Bu nifer o achosion heriol yn y Gwasanaethau Plant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd bellach broses fonitro wythnosol.   

 

Mynegwyd pryder ynghylch Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl, a’r amser a gymerir i wneud y newidiadau angenrheidiol. Atebodd yr Aelod Cabinet, gan egluro bod dadl eang o gylch Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl o ganlyniad i’r niferoedd a’r adnoddau oedd eu hangen i fynd i’r afael â’r materion.  Atgoffwyd Aelodau hyr adlewyrchir y sefyllfa derfynol ym mis Hydref 2016. Sicrhaodd y Prif Weithredwr yr Aelodau, pan fyddwn yn derbyn yr adroddiad terfynol, byddai llawer o’r meysydd coch yn wyrdd. Byddai rhai yn aros yn goch, fel roedd natur rhedeg sefydliad cymhleth. Awgrymwyd, yn rheolaidd, drwy bwyllgorau Dethol, y dylid holi cwestiwn megis ‘A allwch chi ein sicrhau ni bod pob symudiad pob plentyn er lles y plentyn hwnnw?’  

 

Cytunodd y Cynghorydd Sir R. Hayward fod ansawdd y cwestiwn yn bwysig yn hytrach na maint y geiriau, a dylai adlewyrchu a ydym yn poeni fel Cyngor. Chyfeiriodd at ddigwyddiad yn ei ward lle’r oedd wal wedi syrthio ar blentyn bum mlynedd neu chwe blynedd yn ôl, gan arwain at niwed difrifol.  Roedd pryder dwys na chyflwynwyd adroddiad yn dilyn ymholiad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

19.

Cadarnhau'r ymateb ysgrifenedig i'r ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar adran newydd arfaethedig o draffordd yr M4 ( copi ynghlwm) ac ystyried pa sylwadau pellach , os o gwbl, gall aelodau yn dymuno darparu i Lywodraeth Cymru. pdf icon PDF 94 KB

Cofnodion:

·         Gwahoddwyd Aelodau i gadarnhau’r ymateb ysgrifenedig i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr adran newydd arfaethedig o draffordd yr M4 ac ystyried pa sylwadau pellach, os o gwbl, y dymunai Aelodau eu darparu i Lywodraeth Cymru.

 

Yn ystod trafodaeth nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

Mynegodd un Aelod y pryderon canlynol, a sylwadau i’w hychwanegu at yr ymateb:

 

·         Nid oedd mater mor bwysig wedi cael ei ddadlau’n llawn yn y Cyngor, ac nid oedd yr ymateb yn adlewyrchu gwaith a wnaed o fewn y Sir. Ffordd liniaru’r M4 yw fersiwn Sir Fynwy o Spaghetti Junction

·         Roedd difrawder ynghylch y Cynllun Datblygu ar gyfer Rogiet a Gwndy 

·         Roedd difrawder ynghylch ardaloedd o bwysigrwydd hanesyddol, Llanfihangel a Rogiet.  Dim sôn am adeiladau rhestredig

·         Defnyddio i fyny’r tir ffermio gorau yn yr ardal, gan effeithio ar fywoliaeth pobl yn Llanfihangel.  Dim parch at golled amaethyddol a dyfrio tir ffermio.

·         Pryder ynghylch s?n ac ansawdd aer gwael

·         Hwyrach nad oes damweiniau angheuol, ond mae damweiniau’n digwydd yn aml yn Llanfihangel.

·         Dim sôn am y traffig drwy Rogiet.

·         Fel byddai traffig o ochr orllewinol Rogiet yn cyrraedd Cyffordd Twnnel Hafren? Dim ffordd hyfyw. Dim sylw ar y gwariant ychwanegol gymerai’r ffordd hon.

·         Yng nghyd-destun trafnidiaeth gynaliadwy, dylid mynd i’r afael â’r mynediad i’r maes parcio yng Nghyffordd Twnnel Hafren. Ni allai Heol yr Orsaf gymryd mwy o draffig. 

 

Ychwanegodd Aelod, gan gytuno â’r sylwadau a wnaed:

 

 

·         Byddai’r B4245, o ddod yn gefnffordd, yn beryglus.

·         Ni fyddai cynlluniau ar gyfer llwybr troed rhwng Rogiet a Gwndy bellach yn briodol.

·         Dylai’r adroddiad fod yn gryfach i adlewyrchu pryderon Aelodau.

·         Dylid gwneud dadl gryfach i symud traffig o’r M48 ar gyswllt Cil-y-coed i Rogiet.

·         Byddai llwybr troed yn costio  £300,000 yn dod allan o arian trafnidiaeth gynaliadwy. Dadleuwyd y dylai hwn ddod allan o’r arian ar gyfer y datblygiad.

·         Dylai fod mwy o feddwl a gweithredu gan ddatblygwyr.

 

Gwnaeth Aelod sylw nad oedd y cynlluniau’n glir, ac ni ellid rhagweld yr effeithiau’n llawn. Dylai’r ymateb sicrhau manylion cliriach gan Lywodraeth Cymru.

 

Ychwanegodd Aelod fod cwestiynau ehangach ynghylch y ffordd y byddai’r cynigion yn amharu ar brosiectau seilwaith eraill ar gyfer gweddill Cymru. Cytunodd â’r sylwadau blaenorol y dylai’r Cyngor fod yn gliriach ac yn gryfach yn ei ymateb. Yn ychwanegol tynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol, i’w hychwanegu at yr ateb i Lywodraeth Cymru: 

 

·         Dylai cynnydd ar drafnidiaeth gyhoeddus, megis Metro, guro’r cynnydd ar yr M4.  Petai gennym drafnidiaeth gyhoeddus integredig well byddai o bosib yn negyddu’r angen am y datrysiad arbennig hwn.

·         Yng nghyd-destun trafnidiaeth gyhoeddus integredig, dylid nodi bod y grant trafnidiaeth wedi’i dorri 40%.

·         Dylid ychwanegu bod dadl o fewn y Cyngor ai’r ffordd osgoi Magwyr a Gwndy yw’r datrysiad gorau. 

·         Mae’r gyffordd arfaethedig i’r dwyrain o Gwndy wedi’i gor-saernïo, a heb ei lleoli’n briodol petaem eisiau mynd rhagddo â’n cynigion o gwmpas Cyffordd Twnnel Hafren. Ni fyddai o gymorth i symud y traffig o’r B4245, ond yn syml yn symud traffig i mewn i Rogiet.

·         Mae’r lliniariad cyfredol yn hollol annigonol, ac  ...  view the full Cofnodion text for item 19.