Agenda and minutes

Annual Meeting, Cyngor Sir - Dydd Mawrth, 10fed Mai, 2016 5.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

3.

Ethol Cadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016/17

Cofnodion:

Cyfarchodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Sir B. Strong, y Cyngor a diolchodd i bawb a’i cefnogodd yn ystod ei flwyddyn yn y swydd, yn enwedig  Mrs Mary Strong, ei gydweddi, a’r Parchedig Paul Baxter, ei Gaplan. Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr anrhydedd fawr o allu cynrychioli Sir Fynwy fel Cadeirydd a thynnodd sylw at rai eiliadau eithriadol, sy’n cynnwys y cyfle i siarad â phobl ifanc a gymerodd ran yn y digwyddiad elusennol Walking with Wounded, gwasanaethau Diwrnod y Cofio, agor Ysgol Gynradd newydd  Rhaglan a’r cyfle i fynychu cyngherddau cerddorol Gwent. Anogodd y Cadeirydd yr holl Aelodau, os yw’n bosibl, i gefnogi Cerddoriaeth Gwent. Codwyd mwy na £12,000 at elusennau’r Cadeirydd, Ambiwlans Awyr Cymru ac Elusen Ysbytai Plant Arch Noah.

 

Cyfarchodd a diolchodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sir P.A Fox i’r Cadeirydd a’i gydweddi am eu gwaith fel llysgenhadon o’r radd flaenaf i’r Cyngor. Roedd pawb yn gytûn bod parch mawr i’r Cadeirydd, ei bod yn rhwydd gweithio gydag ef a’i fod yn gallu dangos y rhinweddau sydd eu hangen mewn arweinyddiaeth. Cydnabuwyd bod y Cadeirydd wedi parhau â’i bwyllgorau drwy gydol ei flwyddyn fel Cadeirydd. Canmolodd Arweinydd y Cyngor y gwaith clodwiw wnaeth y Cadeirydd yn codi arian i’w elusennau., gan nodi mai hwn oedd y swm mwyaf a godwyd erioed gan Gadeirydd y Cyngor hwn ers y cychwyn.

 

Adleisiodd Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol, y Cynghorwyr Sir D. Batrouni a P.A.D. Hobson, ac ar ran y Gr?p Annibynnol, y Cynghorydd Sir F. Taylor, sylwadau’r Arweinydd, gan ddiolch i’r Cadeirydd a’i deulu am eu gwaith aruthrol fel llysgenhadon.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni, a’i eilio gan y Cynghorydd Sir P. Fox, a phenderfynwyd ethol y Cynghorydd Sir J. Higginson fel Cadeirydd y Cyngor Sir am y Flwyddyn Ddinesig 2016/17.

 

Gwnaeth a llofnododd y Cynghorydd Sir Higginson y Datganiad o Dderbyn Swydd, arwisgwyd ef â Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd ymadawol, a chymerodd y Gadair.

 

Diolchodd y Cadeirydd newydd-etholedig i’r Aelodau am eu cefnogaeth a chyhoeddodd mai Mrs. Pauline Collier fyddai ei gydweddi; y Parchedig Dennis Richards ei Gaplan; a’i elusennau fyddai T? Hafan a Sefydliad Dewi Sant.

 

Yna cyflwynodd y Cadeirydd Fathodyn Swydd y Cyn-gadeiryddion i’r Cadeirydd ymadawol.

 

4.

Penodi Is - gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016/17

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir R.J.W. Greenland ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain, fod y Cynghorydd Sir P. Jordan yn cael ei benodi fel Is-gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016/17.

 

Penderfynasom fod y Cynghorydd Sir P. Jordan yn cael ei benodi’n Is-gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016/17.

 

Gwnaeth a llofnododd y Cynghorydd Jordan y Datganiad o Dderbyn Swydd, arwisgwyd ef â Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd, a chymerodd ei le fel Is-gadeirydd.

 

Diolchodd yr Is-gadeirydd i’r Aelodau am eu cefnogaeth a chyflwynodd Mrs. Katherine Jordan fel Cydweddi’r Is-gadeirydd.

 

Terfynodd y rhaglen gyda chyflwyno Cadwyn Swydd i Gydweddi’r Cadeirydd newydd, Mrs. Pauline Collier; tlws crog i Gydweddi’r Cadeirydd ymadawol, Mrs. Mary Strong; a Chadwyn Swydd i Gydweddi’r Is-gadeirydd, Mrs. Katherine Jordan.

 

5.

Bydd yr eitemau canlynol tan y cyfarfod o'r Cyngor Sir a gynhelir ar 12 Mai 2015 :

Cofnodion:

Penderfynasom ohirio’r eitemau busnes oedd yn weddill tan gyfarfod nesaf y Cyngor i’w gynnal ar ddydd Iau, 12fed Mai 2016.