Agenda

Cyngor Sir - Dydd Iau, 25ain Hydref, 2018 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

3.

Datganiadau o Fuddiant

4.

Cyhoeddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau pdf icon PDF 66 KB

5.

Cyflwyniad i'r Cyngor - Datblygiad Fy Ffrindiau a'i lwyddiant hyd yma.

6.

Rhestr o Gynigion

6a

Oddi wrth y Cynghorydd Sirol D. Batrouni

Bod Cynghorwyr Sir Fynwy yn credu y dylai pob aelod o staff a gyflogir gan y Cyngor, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, cael cynnig contract parhaol os ydynt yn gweithio lleiafswm rheolaidd o oriau dros gyfnod o ychydig fisoedd.

 

6b

Oddi wrth y Cynghorydd Sirol Phil Murphy

Mae'r Cyngor hwn:

 

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cael cynnydd o 5.6%, sef £1.2 biliwn yn ei chyllideb gan Lywodraeth y DU ar gyfer 2019/20.

 

Yn difaru penderfyniad Llywodraeth Cymru i leihau gwariant Llywodraeth Leol gan 3.2%, ar gyfartaledd, mewn termau real.

 

Yn difaru ymhellach bod Sir Fynwy unwaith eto wedi cael y toriad dyfnaf o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, gan golli £962,000 ac yn mynegi pryder am yr effaith y gallai toriadau Llywodraeth Cymru ei chael ar addysg, gofal cymdeithasol a gwasanaethau hanfodol eraill ar gyfer pobl Sir Fynwy.

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei blaenoriaethau ar fyrder i osgoi toriadau niweidiol mewn gwasanaethau lleol.

 

 

6c

Oddi wrth y Cynghorydd Sirol A. Davies

Bod y cyngor hwn yn cymryd camau brys i ddarparu'r adnoddau angenrheidiol i gynnal adolygiad manwl o'n systemau caffael presennol gyda'r bwriad o nodi a gweithredu arbedion posibl o ran costau.

 

6d

Oddi wrth y Cynghorydd Sirol M. Feakins

Mae effeithiau ailbrisio ardrethi busnes gan Lywodraeth Cymru bellach yn cael eu teimlo ledled ein sir. Mae masnachwyr yn ein trefi, yn gyffredin ag eraill ledled y DU, yn wynebu pwysau digynsail yn sgil newidiadau mewn arferion siopa, yn enwedig cystadleuaeth gan gwmnïau masnachu ar y rhyngrwyd.  Mae ailbrisiad Llywodraeth Cymru wedi rhoi pwysau ychwanegol ar ein masnachwyr canol tref yn Sir Fynwy. Ni all fod yn iawn fod gwerthoedd ardrethol manwerthwyr yng Nghaerdydd wedi dangos gostyngiad o bron 10% ar gyfartaledd tra bod y rhai yn Sir Fynwy wedi cynyddu mwy nag 11%; fwy na dwywaith lefel unrhyw awdurdod yng Nghymru.

 

Mae'r cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru, gyda'i phwerau trethu newydd, i ddileu'r system ardrethi busnes sydd wedi dyddio a rhoi yn ei lle system sy'n deg i bawb ac sy'n rhoi gobaith i ganol ein trefi yn y dyfodol.

 

 

 

7.

Cwestiynau'r Aelodau:

7a

O'r Cynghorydd Sirol D. Batrouni i'r Cynghorydd Sirol R. Greenland

Faint o Wleddoedd Nadolig sydd wedi'u harchebu yng Nghastell Cil-y-coed eleni?

 

 

7b

O'r Cynghorydd Sirol D. Batrouni i'r Cynghorydd Sirol R. John

Sawl ysgol yn Sir Fynwy sydd wedi derbyn y rhaglen hyfforddi dysgu gydag Awtistiaeth?

 

 

7c

O'r Cynghorydd Sirol J. Pratt i'r Cynghorydd Sirol P. Murphy

Pam mae'r cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf o Lywodraeth Cymru yn ostyngiad o 1% pan mae’r Ysgrifennydd Gwladol,Y Gwir Anrh Alun Cairns AS wedi cytuno ar becyn ariannu newydd i Gymru sy'n rhoi £120 am bob £100 a werir yn Lloegr?  A yw'r Cynghorydd Murphy yn cytuno nad yw'r ffaith bod y Weinyddiaeth Lafur yn rhoi'r bai ar San Steffan yn adlewyrchiad cywir o'r sefyllfa a pha gynrychiolaeth yr ydym yn ei gwneud i Lywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd i fynnu setliad gwell i drigolion Sir Fynwy?

 

 

7d

O'r Cynghorydd Sirol y Parchedig M. Lane i'r Cynghorydd Sirol R. John

Pa gamau mae'r awdurdod yn eu cymryd i baratoi ar gyfer cyflwyno gofal plant 30 awr am ddim o Ionawr 2019?

 

 

7e

O'r Cynghorydd Sirol A. Easson i'r Cynghorydd Sirol B. Jones

O ran craffu ar broses dreulio gwastraff bwyd anaerobig Blaenau'r Cymoedd, sef cydweithrediaeth rhwng yr awdurdod hwn a Chynghorau Bwrdeistrefi Blaenau Gwent a Thorfaen, a yw'r Cynghorydd Jones, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol, yn hyderus bod y gwaith yn ddichonadwy? A yw'n hyderus bod gwaith craffu gan y pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf (o'r broses gaffael a gynhaliwyd gan yr awdurdod arweiniol) wedi meddu ar yr holl ffeithiau a oedd yn ymwneud ag opsiynau ar gyfer gweithredu?

 

 

8.

I gadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir ar 20fed Medi 2018 pdf icon PDF 141 KB

9.

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 5ed Gorffennaf 2018 pdf icon PDF 93 KB

10.

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 16eg Gorffennaf 2018 pdf icon PDF 58 KB

11.

Adroddiadau Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd

11a

Datganiad Polisi Hapchwarae a Chynigion ar gyfer Casinos pdf icon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

12.

Adroddiadau'r Prif Swyddog Adnoddau

12a

Ystyried a ddylid gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn ôl pob tebyg yn cynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf (barn y Swyddog Priodol ynghlwm). pdf icon PDF 49 KB

12b

Adnewyddu Bloc J a chynllun maes parcio Neuadd y Sir - darpariaeth cyllideb ychwanegol

Dogfennau ychwanegol: