Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 21ain Mehefin, 2018 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd a derbyn deisebau pdf icon PDF 51 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Sir G. Howard i'r Cyngor gydnabod marwolaeth drist Jenny Barnes MBE oedd yn byw yn ei ward, Llan-ffwyst Fawr.

 

Ategodd y Cadeirydd sylwadau'r Cynghorydd Howard.

 

Ni chafodd unrhyw ddeisebau i'r Cyngor eu cyflwyno.

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion ar gyfer y fforwm agored cyhoeddus.

5.

Cadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir:

5a

8fed Mai 2018 pdf icon PDF 55 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Mai 2018 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

5b

10fed Mai 2018 pdf icon PDF 138 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Mai 2018 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd.

6.

Nodi cofnodion Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus 4ydd Ebrill 2018 pdf icon PDF 92 KB

Cofnodion:

Nodwyd.

7.

Nodi cofnodion Pwyllgor y Gwasanaethau Cymdeithasol 12fed Mawrth 2018 pdf icon PDF 32 KB

Cofnodion:

Nodwyd.

8.

Nodi cofnodion y Pwyllgor Archwilio 8fed Mawrth 2018 pdf icon PDF 116 KB

Cofnodion:

Nodwyd.

9.

Nodi Rhestr Weithredu'r Cyngor Sir pdf icon PDF 35 KB

Cofnodion:

 Derbyniodd y Cyngor restr weithredu y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mai 2018. Wrth wneud hynny mynegodd y Cynghorydd Howarth siom am faint o amser a gymerodd i dderbyn ymateb gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA). Dywedodd ei fod wedi cytuno i'r trosglwyddo stoc tai ar y sail y byddid yn gofalu am anghenion tenantiaid ac y byddai ymholiadau yn cael eu trin. Ni chredai Cynghorydd Howard fod hyn yn digwydd yn awr ac ni fyddai'n parhau i gefnogi MHA.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Watts y sylwadau a chydnabu ddiffyg presenoldeb amlwg cynrychiolaeth MHA yn y Cyngor.

10.

Adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr

10a

Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd - Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf icon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad i gyflwyno'r cynnig i sefydlu Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2017, derbyniodd Cyd-gabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd adroddiad yn rhoi manylion cynigion ar gyfer sefydlu Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys drafft 'Gylch Gorchwyl arfaethedig ar gyfer y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Cytunodd y Cyd-gabinet mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fyddai'n ymgymryd â rôl Awdurdod Lletya ac yn rhoi'r adroddiad craffu angenrheidiol ar gyfer y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Dymunai'r Arweinydd ychwanegu at yr argymhellion:

 

Bod y Cynghorydd P. Pavia, Cadeirydd Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygu, yn cael ei benodi'n aelod o'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu, gyda chefnogaeth alluog yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd A. Davies.

 

Eiliwyd yr enwebiad.

 

Byddid yn dod ag adroddiadau cyfnodol i'r Cyngor Llawn i sicrhau fod Aelodau'n parhau i dderbyn gwybodaeth lawn.

 

Lle gall Cyngor fod â phryderon am faes byddai ganddynt hawl i ofyn i'r Cydbwyllgor Craffu am adborth. Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd i Aelodau y caiff y Pwyllgor Craffu ei lywio gan y pwerau a'r dirprwyiadau a gytunwyd yn y Cydgytundeb Gwaith.

 

Cytunwyd y gallai'r dirprwy aelod fynychu cyfarfodydd fel sylwedydd er mwyn cael parhad, a hefyd unrhyw Aelod gan eu bod yn gyfarfodydd agored. 

 

Yn nhermau agoredrwydd papurau, byddent ar gael ar wefan Bargen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Gellid hefyd roi dolen drwy ein Hyb.

 

Cadarnhawyd hefyd y byddai Pen-y-bont ar Ogwr fel yr awdurdod cynnal yn rhoi'r gefnogaeth craffu ac na fyddai hyn yn effeithio ar swyddogion Cyngor Sir Fynwy.

 

Mewnpleidlais, penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion:

 

Ystyriedyr adroddiad ac atodiadau ac argymell i'r Cyngor y dylid sefydlu Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd;

 

Argymell bod y Cyngor yn penodi Aelod anweithredol i gynrychioli Cyngor Sir Fynwy ar Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan roi ystyriaeth i baragraff 2.3 Atodiad A.

 

Argymell bod y Cyngor yn penodi dirprwy aelod anweithredol i fynychu cyfarfodydd yn absenoldeb yr aelod a benodwyd.

 

Bod y Cynghorydd P. Pavia, Cadeirydd y Pwyllgor Dethol Craffu a Datblygu, yn cael ei benodi i'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu, gyda chefnogaeth alluog yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd A. Davies.

 

11.

Adroddiad y Pennaeth Gweithrediadau

11a

Sir Fynwy Ddi-blastig pdf icon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynodd yr Aelod Cabinet adroddiad i gael ymrwymiad polisi gan y Cyngor i weithio at ddod yn 'sir ddi-blastig" ac i hysbysu'r Cyngor am y dilynol a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf ar 24 Mai 2018:

 

           Y gwaith o fewn cymunedau Sir Fynwy i ostwng y defnydd o blastig un-defnydd.

           Cynnydd y Cyngor wrth ostwng y defnydd o blastig un-defnydd.

 

Bu cynnydd enfawr mewn diddordeb yn yr ychydig fisoedd diwethaf mewn gostwng y defnydd o blastig un defnydd, nid yn lleiaf oherwydd y golygfeydd ofnadwy o lygredd plastig yn ein moroedd a ddangoswyd ar gyfres Blue Planet y BBC. Mae plastig un-defnydd yn defnyddio tanwyddau ffosil gwerthfawr, yn cymryd cannoedd o flynyddoedd i bydru, yn anafu bywyd gwyllt ar dir ac yn y môr, yn hagru'r tirlun fel sbwriel, yn blocio draeniau ac yn costio arian i'w prynu, clirio a chael gwared arnynt. Mae hyn wedi arwain at gymryd camau ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

 

Canmolodd y Cynghorydd Howard yr adroddiad ond cydnabu fod dweud a gwneud yn aml yn bethau gwahanol. Cyfeiriodd at ein dibyniaeth ar fagiau ailgylchu un-defnydd a disgwyliad preswylwyr i ddefnyddio bagiau du ar gyfer gwastraff gweddilliol, a chroesawodd fanylion cynlluniau eraill.

 

Gofynnwyd i'r Pennaeth Gweithrediadau roi diweddariad ar sbwriel a gwastraff bwyd o fewn y contract, a rhoi sylw i unrhyw effaith y gall hyn ei gael ar y cynigion. Esboniodd fod Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i gontract ar gyfer gwaredu ein gwastraff bwyd, lle byddai'n well gan y contractwr weld y bwyd yn cael ei gyflwyno iddynt mewn bagiau plastig yn hytrach na bagiau sy'n pydru. Fodd bynnag, mae'r contract yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei dderbyn mewn bagiau sy'n pydru pe dymunem iddynt wneud hynny. Eir â'r mater yn ôl i'r Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf ac wedyn i'r Cabinet. Byddai budd ariannol i'r Awdurdod pe byddem yn newid i ddefnyddio bagiau plastig.

 

Mynegodd Aelodau bwysigrwydd 'cael ein t? ein hunain mewn trefn', gyda defnyddio cwpanau plastig yn y siambr a defnyddio poteli plastig un-defnydd mewn canolfannau hamdden yn enghreifftiau.

 

Mewnpleidlais penderfynodd y Cyngor i gytuno ar yr argymhellion:

 

Bod y Cyngor yn cytuno i weithio tuag at ddod yn 'sir ddiblastig' drwy ddefnyddio plastig un defnydd, yn unol ag ymgyrch Arfordir Di-blastig Surfers Against Sewage.

 

Bod y Cyngor yn ymrwymo i'r camau dilynol, a gefnogwyd yn unfrydol gan y Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf:

Gwneud ymrwymiad i weithio tuag at statws di-blastig.

Adolygu ei ddefnydd ei hun o blastig un-defnydd a chymryd camau i ddynodi defnydd diangen ar blastig a gostwng hyn.

Cefnogi gweithredu gwirfoddol a chymunedol i ostwng defnydd plastig, cynnal ymgyrchoedd casglu sbwriel ac yn y blaen.

Gweithio gydag ysgolion, busnesau a phartneriaid eraill i ostwng defnydd plastig.

•  ...  view the full Cofnodion text for item 11a

12.

Adroddiad y Prif Swyddog ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd

12a

Strategaeth Rhianta Corfforaethol pdf icon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet adroddiad i'r Cyngor i geisio cymeradwyaeth ar gyfer y Strategaeth Rhianta ddiwygiedig a Chynllun Gweithredu 2018 - 2021.

 

Ychwanegodd Aelod Cabinet Cyllid y byddai cynnig yng nghyfarfod nesaf y Cabinet i eithrio plant sy'n derbyn gofal rhag Treth Gyngor pan maent yn ymuno â'r gadwyn tai.

 

Estynnodd y Cynghorydd Jones wahoddiad i bob Aelod i gyfarfod nesaf y Panel Rhianta Corfforaethol.

 

Esboniwyd fod ataliaeth yn rhan gyfannol o rianta corfforaethol. Mae camau a mesurau yn eu lle i ddynodi problemau ar y camau cyntaf. Mae'r strategaeth hon yn canolbwyntio ar blant sy'n derbyn gofal, ond awgrymwyd y dylid cyfeirio at ataliaeth fel rhan o'r strategaeth.

 

Cytunwyd fod asiantaethau maeth yn ddrutach a'i bod yn anodd cystadlu gyda chyflogau ond rhoddir cefnogaeth mewn ffyrdd eraill. Bu bythefnos gofalwyr maeth a gynhaliwyd yn ddiweddar yn llwyddiannus gydag ymatebion cadarnhaol.

 

Dymunai Cadeirydd y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc gymeradwyo'r adroddiad, gan ddweud ei fod yn adlewyrchu arfer da iawn. Canmolwyd swyddogion ar y gwaith sy'n cael ei wneud.

 

Nodwyd y byddai'r Cynghorwyr Sir Blakeborough a Taylor yn rhannu rôl ar y Panel Rhianta Corfforaethol.

 

Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor i gytuno ar yr argymhellion:

 

·         Nodi cynnwys a bwriadau'r Strategaeth Rhianta a Chynllun Gweithredu Corfforaethol.

·         Nodi aelodaeth a chylch gorchwyl y Panel Rhianta Corfforaethol.

·         Ystyried y goblygiadau i bob aelod etholedig a'r cyngor ehangach.

 

13.

Rhestr o Gynigion

13a

Oddi wrth y Cynghorydd Sir T. Thomas

Mae Cyngor Sir Fynwy’n penderfynu cymeradwyo dogfen Just Food Y Fenni, Towards a Manifesto for Food Justice for Wales, a’i  chymeradwyo i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru.

 

Mae’r Cyngor yn cytuno i ofyn i Swyddogion adrodd ar ffyrdd y mae CSF eisoes yn cyfrannu at nodau’r maniffesto ac ar newidiadau mewn polisi a/neu arfer sydd eu hangen i gyflawni mwy.

 

 

Cofnodion:

Bod Cyngor Sir Fynwy yn penderfynu cymeradwyo dogfen Just Food y Fenni Tuag at Faniffesto ar gyfer Cyfiawnder Bwyd i Gymru a'i gymeradwyo i Gymdeithas Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru.

Mae'r Cyngor yn cytuno gofyn i swyddogion adrodd ar ffyrdd y mae Cyngor Sir Fynwy eisoes yn cyfrannu at nodau'r maniffesto ac ar newidiadau mewn polisi a/neu ymarfer sydd eu hangen i gyflawni mwy.

 

Cafodd y cynnig ei eilio a'i drafod:

 

Darllenodd y Cynghorydd Sir P. Jones ddatganiad ar ran y Cynghorydd Sir S. Jones yn diolch i'r Cynghorydd Thomas am y cynnig ac yn tynnu sylw at y materion pwysig yn ymwneud ag anghyfiawnder bwyd. Croesawyd sylwadau aelodau ar y mater. Yn nhermau'r cynnig mae'r Aelod Cabinet yn llwyr gefnogol i'r maniffesto ac yn croesawu'r cyfle i'w argymell i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd yn cyfeirio hyn at grwpiau eraill pan fydd yn mynychu sesiynau gyda rhanddeiliaid. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth bwyd ac mae swyddogion yn gweithio gyda phartneriaid i sefydlu fframwaith. Gofynnir i'r Gr?p Cyfiawnder Cymdeithasol i gysylltu gyda Just Food y Fenni a grwpiau eraill i sicrhau fod bwyd yn nodwedd bwysig.

 

Gwnaed sylwadau am natur wledig Sir Fynwy ac y byddai coleddu'r maniffesto yn gosod esiampl i weddill y wlad.

 

Edrychai'r Cynghorydd Murphy at adroddiad am eglurdeb am y polisi.

 

Pan gafodd ei roi i'r bleidlais, cafodd y cynnig ei gario.

 

 

13b

Oddi wrth y Cynghorydd Sir D. Batrouni

Mae’r Cyngor yn nodi:

  • Mae diffyg tai gwirioneddol fforddiadwy yn fater difrifol yn Sir Fynwy.
  • Mae miloedd o drigolion ar y gofrestr tai cymdeithasol.
  • Mae prisiau tai’n codi’n gyflym a byddant yn dal i wneud hynny pan ddaw tollau Pont Hafren i ben.
  • Mae’rrhan fwyaf o bobl ifanc yn cael eu prisio allan o fyth berchnogi’u cartref eu hunain.
  • Mae awdurdodau lleol yn Lloegr yn cynorthwyo i gwrdd â’r galw drwy gyfrwng Cwmnïau Tai Lleol (CTLl).
  • Rhagamcanir y byddai gan dros 50% o awdurdodau lleol Gwmni Tai Lleol erbyn 2020.

Mae’r Cyngor yn penderfynu:

  • Lluniocynlluniau ar unwaith i sefydlu CTLl yn Sir Fynwy, yn cael ei hwyluso drwy’n strategaeth Rheoli Asedau, drwy gyfrwng y pwyllgor Buddsoddi. 
  • Sefydluprif amcanion CTLl Sir Fynwy fel rhai i adeiladu cartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl leol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ganiatâd i addasu'r cynnig, sy'n awr yn darllen:

 

Ymddengys fod tir cyffredin ar draws y siambr fod angen i ni wneud mwy i wneud yn si?r fod pobl ar draws Sir Fynwy yn cael y cyfle ac yn gallu fforddio byw yn y lle hardd yr ydym yn byw ynddo. Ni fedrir gwadu fod gennym broblem gyda'r ochr gyflenwi yn y farchnad tai a'n bod yn gweld cynnydd mawr mewn prisiau, a bod hyn yn debygol o barhau i'r dyfodol rhagweladwy. Credaf y gall y cyngor wneud mwy. Credaf fod enghreifftiau yn Lloegr o gynghorau yn paratoi i fod yn fwy gweithredol yn y farchnad adeiladu tai drwy sefydlu cwmnïau tai y mae cynghorau'n berchen arnynt. Hoffwn weithio gyda fy nghydweithwyr, arweinwyr a'r Aelod Cabinet dros fisoedd yr haf gyda golwg ar gyflwyno cynnig seiliedig ar dystiolaeth i'r Cyngor ym mis Medi.

 

Mynegodd y Prif Weithredydd gefnogaeth i'r cynnig ar ran yr Arweinydd, ac o safbwynt swyddog.

 

Cefnogodd Arweinwyr Grwpiau'r cynnig ac maent yn hapus i gydweithio i sicrhau cynnydd ar y mater.

 

Pan gafodd ei roi i bleidlais, cafodd y cynnig ei gario.

 

14.

Cwestiynau Aelodau:

14a

Oddi wrth y Cynghorydd Sir A. Easson i'r Cynghorydd Sir R. John

Yng ngoleuni twf adeiladu tai ar draws Glan Hafren, a allai fod yn fwy na 1000 o dai hyd y gellir rhagweld, gyda phosibilrwydd yn y tymor hwy o hyd yn oed fwy o dai pan weithredir CDLl a adolygwyd. Pa gamau fydd yr Aelod Cabinet dros Addysg yn eu cymryd i ddiwallu’r angen cynyddol disgwyliedig am lefydd ysgol ar draws Glan Hafren?

 

Cofnodion:

Yng ngolau twf adeiladu tai ar draws Glannau Hafren a allai fod yn fwy na 1000 o dai yn y dyfodol rhagweladwy a photensial hirdymor am hyd yn oed fwy o dai gyda gweithredu Cynllun Datblygu Lleol wedi'i adolygu, pa gamau fydd Aelod Cabinet Addysg yn eu cymryd i ddarparu ar gyfer yr angen cynyddol a ddisgwylir am leoedd ysgol ar draws Glannau Hafren?

 

Dywedodd y Cynghorydd R. John fod yr Awdurdod Addysg Lleol yn ymgynghorai statudol i'r Cynllun Datblygu Lleol ac y bydd yn ymwneud yn llawn â datblygiad y cynllun hwnnw. Nid yw maint a lleoliad twf wedi'i benderfynu hyd yma. Bydd hynny'n sail i'r angen i gynyddu capasiti ysgolion yn yr ardaloedd a amlinellir. Mae'r tîm derbyn ysgolion yn gweithio'n agos gyda'r adran Cynllunio i ddeall math a maint datblygiadau newydd yn yr ardal. Lle mae capasiti annigonol o fewn y safleoedd ysgol presennol, caiff cytundebau Adran 106 eu negodi gyda datblygwyr. Ar hyn o bryd mae 601 o leoedd gwag yn ardal Cil-y-coed, gyda 260 ohonynt yn yr ysgolion cynradd.

 

Fel cwestiwn atodol

 

Fel rhan o raglen adeiladu Sudbrook cafodd swm o arian eisoes ei ymrwymo gan ddatblygwyr ar gyfer addysg. Bydd setliad pellach o Heol Crug. Pryd fyddwn ni'n cyflwyno cynlluniau penodol i ddefnyddio'r pecynnau hyn o arian? Ydych chi'n credu, er enghraifft, y gellir uwchraddio Ysgol Dewstow, a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer ysgol 420 lleoliad, ac yn y un modd Ysgol Durand. Ac ydych chi'n credu fod lle ar gyfer dalgylch newydd gan na fydd Ysgol Cil-y-coed yn ymdopi?

 

Atebodd y Cynghorydd John y cyflwynir dadansoddiad o ffigurau maes o law am y 601 o leoedd. Mae wedi mynychu cyfarfodydd gyda Chyngor Tref Cil-y-coed i drafod pryderon.

 

 

14b

Oddi wrth y Cynghorydd Sir A. Easson i'r Cynghorydd Sir P. Jones

Yng ngoleuni twf adeiladu tai ar draws Glan Hafren, a allai fod o bosib yn fwy na 1000 o dai hyd y gellir rhagweld, gyda phosibilrwydd yn y tymor hwy o hyd yn oed fwy o dai pan weithredir CDLl a adolygwyd, Pa gamau fydd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd yn eu cymryd i ddiwallu anghenion Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymunedau Glan Hafren? Yn enwedig gan na ragwelodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan unrhyw bryderon ynghylch Cyflenwi Gwasanaethau ar adeg yr ymgynghori cyfredol ar y CDLl?  

 

Cofnodion:

Yng ngoleuni twf adeiladu tai ar draws Glannau Hafren o efallai fwy na 1000 o dai yn y dyfodol rhagweladwy, gyda photensial yn y tymor hirach o hyd yn oed fwy gyda gweithredu'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, pa gamau fydd Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd yn eu hystyried ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ddarparu ar gyfer anghenion Iechyd a Gwasanaethau Cymunedol Cymunedau Glannau Hafren yn neilltuol gan nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi rhagweld unrhyw bryderon am ddarpariaeth gwasanaethau adeg yr ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol?

                                  

Dywedodd y Cynghorydd P. Jones fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ymgynghorai allweddol yn y Cynllun Datblygu Lleol a bod trafodaethau eisoes yn mynd rhagddynt i sicrhau fod ymgysylltu mwy effeithiol yn y Cynllun Datblygu Lleol nag yn y Cynllun Datblygu Lleol blaenorol, ac y bydd yn cymryd mwy o ran yn y cynllun sy'n dod i'r amlwg. Nid yw maint a lleoliad twf wedi'i benderfynu hyd yma felly nid oes unrhyw ffigurau ar gael. Mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd weithio gyda phob awdurdod am ehangu poblogaeth, a chynnydd mewn niferoedd, ac adlewyrchir hyn yn null adnoddau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

 

Fel cwestiwn atodol:

 

Wnewch chi ofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gwrdd gydag Aelodau i glywed ein pryderon? A hefyd fyddwch chi'n gallu atal y dirywiad araf yn Ysbyty Cas-gwent.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod yn parhau i hysbysu Aelodau am drafodaethau am Ysbyty Cas-gwent. Ategodd fod yn rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ymwneud gyda'r Awdurdod Lleol ar bob cam.

 

14c

Oddi wrth y Cynghorydd Sir A. Easson i'r Cynghorydd Sir B. Jones

Gyda’r twf mewn adeiladu tai a ragwelir ar draws Glan Hafren, a fydd yn cynyddu symudiadau traffig ac yn achosi problemau i isadeiledd y Priffyrdd. Pa gamau fydd yr Aelod Cabinet dros Weithrediadau’r Sir yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r anghenion am bolisi Trafnidiaeth Strategol realistig ar gyfer cerddwyr, beicwyr a gyrwyr ar draws Glan Hafren?

 

Cofnodion:

Gyda'r twf a ragwelir mewn adeiladu tai ar draws Glannau Hafren, fydd yn cynnwys symudiadau traffig ac yn achosi problemau ar gyfer y seilwaith priffyrdd, pa gamau y bydd Aelod Cabinet Gweithrediadau Sir yn eu cymryd i drin anghenion polisi trafnidiaeth strategol realistig ar gyfer cerddwyr, seiclwyr a gyrwyr ar draws Glannau Hafren?

 

Atebodd y Cynghorydd B. Jones bod yr Awdurdod Priffyrdd Lleol ac Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Leol yn ymgyngoreion statudol ar y Cynllun Datblygu Lleol ac y byddant yn ymwneud yn y cynllun wrth iddo ddatblygu. Nid yw maint a lleoliad twf wedi'i benderfynu hyd yma ac mae'r effaith ar gapasiti priffyrdd felly'n anhysbys, ac felly'r datrysiadau. Mae swyddogion o blaid datblygu Cynllun Trafnidiaeth Leol yn gyfochrog gyda'r Cynllun Datblygu Lleol i alinio a chydlynu'r gofynion priffyrdd, trafnidiaeth a teithio llesol yn y dyfodol. Bydd hyn yn bwydo mewn, fel sy'n briodol i'r Cynllun Trafnidiaeth Strategol ar sail ranbarthol.

 

Fel cwestiwn atodol:

 

Bu gostyngiad syfrdanol ers mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol cyfredol. Fyddech chi o blaid agor gorsaf Porthysgewin?

 

Atebodd y Cynghorydd Jones y byddai'n cefnogi.

 

14d

Oddi wrth y Cynghorydd Sir A. Easson i'r Cynghorydd Sir P. Fox

Yndilyn ymlaen o’m cwestiynau blaenorol, a ellwch chi fel Arweinydd y cyngor hwn, a hefyd gyda’ch safle ar Brosiect y Fargen Ddinesig, ddefnyddio’ch dylanwad i sicrhau bod y system Metro a phrosiectau cysylltiedig, yn cael eu gweithredu er budd llawn Cymunedau Glan Hafren (ac yn yr ymateb hwn dylai gynnwys Cas-gwent a thu hwnt).  Haedda poblogaeth amcanestynedig o bron 50000 o bobl yn cael ei rhannu gan draffyrdd, well cysylltedd trafnidiaeth â gweddill de Cymru a’r ffiniau.

 

Cofnodion:

Gohiriwyd.

 

14e

Oddi wrth y Cynghorydd Sir A. Easson i'r Cynghorydd Sir S. Jones

Yng ngoleuni adeiladu tai disgwyliedig ar draws Glan Hafren dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, a allai gynyddu’r boblogaeth hyd at 4000, a oes gan yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cymunedol weledigaeth hir dymor i greu profiad cadarnhaol ar gyfer Canol Tref Cil-y-coed i ddenu newydd-ddyfodiaid i’r Gymuned? 

Cofnodion:

Gohiriwyd.

 

14f

Oddi wrth y Cynghorydd Sir A. Easson i'r Cynghorydd Sir R. Greenland

O ganlyniad i adeiladu dros 1000 o dai a thwf yn y boblogaeth ar draws Glan Hafren a yw’r Aelod Cabinet dros Arloesi, Menter a Hamdden yn credu y bydd digon o gyfleusterau Hamdden ar gyfer y twf hwn yn y boblogaeth? Pa gamau gweithredu fydd eu hangen i sicrhau parhad gweithgareddau hamdden? 

 

Cofnodion:

Gohiriwyd.

 

14g

Oddi wrth y Cynghorydd Sir A. Easson i'r Cynghorydd Sir P. Jordan

O ystyried y newidiadau radical i'r etholaeth o ganlyniad i'r adeiladu tai a gynlluniwyd ac sy’n digwydd ar hyn o bryd ar draws Glan Hafren, a fyddai’r Aelod Cabinet dros Lywodraethu yn ystyried ei bod yn rhy gynnar ar yr adeg hon i weithredu newidiadau mewn Ffiniau Cymunedol, yn enwedig I Gil-y-coed a Portskewett?

 

 

 

Cofnodion:

Yng ngoleuni newidiadau sylweddol i'r etholaeth fel canlyniad i'r adeiladu tai sydd yn yr arfaeth ac yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar draws Glannau Hafren, a fyddai Aelod Cabinet Llywodraethiant yn ystyried ei bod yn rhy gynnar ar hyn o bryd i weithredu newidiadau i ffiniau cymunedol, yn arbennig yng Nghil-y-coed a Phorthysgewin?

 

Atebodd y Cynghorydd Jordan fod newidiadau mewn ffiniau cymunedol yn rhoi ystyriaeth i'r rhagolwg pum mlynedd o etholaethau a chynghorwyr a ddyrannwyd yn seiliedig ar y rhagolygon hynny. Mae'r adolygiad yn weithredol ar gyfer yr holl awdurdod ac mae'n hen bryd cael newidiadau i'r trefniadau. Os yw Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo'r cynigion yn dilyn yr ymgynghoriad ac argymhellion gan y Comisiwn Democratiaeth Leol a Ffiniau Cymru, yna gall yr Awdurdod adolygu cymunedau yn hytrach na chynnal adolygiad ar draws y sir a all adlewyrchu newidiadau mewn demograffeg mewn cymunedau unigol.

 

14h

Oddi wrth y Cynghorydd Sir A. Easson i'r Cynghorydd Sir P. Murphy

Bydd y cynnydd rhagamcanol hwn yn y bloblogaeth ar draws Glan Hafren yn gosod mwy o bwysau ar adnoddau Cyngor Sir Fynwy. Sut mae’r Cynghorydd Murphy yn bwriadu mynd i’r afael â’r pwysau ariannol ar gyllidebau Sir Fynwy i sylweddoli’r anawsterau a ddisgwylir a dyheadau Cymunedau Glan Hafren ar yr adeg hon o dwf, a beth fydd eich blaenoriaethau, a sut byddwch chi’n ymdrin â hwy? 

Cofnodion:

Bydd y cynnydd a ddisgwylir yn y boblogaeth ar draws Glannau Hafren yn gosod mwy o bwysau ar adnoddau Cyngor Sir Fynwy. Sut mae'r Cyng Murphy yn bwriadu mynd i'r afael â'r pwysau ariannol ar gyllidebau Sir Fynwy i wireddu'r anawsterau a ddisgwylir a dyheadau cymunedau Glannau Hafren yn y cyfnod hwn o dwf, a beth fydd eich blaenoriaethau, a sut fyddwch chi'n delio gyda nhw?

 

Atebodd y Cynghorydd Murphy ac wrth wneud hynny rhybuddiodd rhag rhoi'r gert o flaen y ceffyl. Byddai adeiladu tai newydd yn ychwanegu'n sylweddol at ein cynaliadwyedd ariannol. Mae'n debygol y byddai twf mewn poblogaeth a nifer aelwydydd yn gweld addasiadau ar i fyny yn setliad cyllid Llywodraeth Cymru, sy'n seiliedig ar boblogaeth.

 

Fel cwestiwn atodol:

 

Ydych chi'n ystyried y gall benthyca darbodus fod y ffordd angenrheidiol ymlaen i roi gwelliannau ar waith?

 

Atebodd y Cynghorydd Murphy fod yn rhaid i unrhyw fenthyca darbodus gael ei gefnogi gan achos busnes hollol gadarn, ac yr edrychir ar bopeth ar ei haeddiant.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.15pm.