Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim |
|
Ethol Cadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2017/18 Cofnodion: Siaradodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Sir J. Higginson, gan ddiolch i bawb oedd wedi ei gefnogi yn ystod ei flwyddyn yn y swydd. Bu'r flwyddyn ddiwethaf yn anrhydedd i'r Cadeirydd a'i gonsort, a chynigiodd ddiolch diffuant i gydweithwyr am y cyfle. Nododd y Cadeirydd lwyddiant yr Eisteddfod a'r llongyfarchiadau a dderbyniwyd gan drefnwyr y digwyddiad. Ychwanegodd fod gennym ni fel awdurdod bob lle i fod yn falch o'r llwyddiant, gan sôn am waith caled swyddogion yn yr wythnosau a misoedd cyn y digwyddiad. Diolchodd yn neilltuol i'r staff a roddodd help gyda thiwtora Cymraeg i baratoi am yr araith agoriadol. Soniodd y Cadeirydd hefyd am ddigwyddiadau eraill amlwg yn cynnwys Garddwest y Frenhines ym Mhalas Buckingham, cyngerdd Cerddoriaeth Gwent yn Neuadd Albert, Coffau Tân Mawr Llundain ac ymweliadau brenhinol ar draws y sir. Clywsom hefyd am ddigwyddiadau arian ar gyfer elusennau'r Cadeirydd, T? Hafan a Sefydliad Dewi Sant.
Diolchodd y Cadeirydd i'r staff cwrtais ym mhob rhan o'r Awdurdod, gan werthfawrogi help amhrisiadwy Mrs. Linda Greer a Mrs. Julia Boyd. Mynegwyd diolch i Steve Barker, chauffeur y Cadeirydd.
Cynigiodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau a'i ddymuniadau gorau ar gyfer y cadeirydd newydd.
Siaradodd y Cynghorydd Sir P Fox a diolchodd i'r Cynghorydd Sir Higginson am ei flwyddyn yn y swydd, ynghyd â'i gonsort, Pauline Collier, am eu gwaith i'r Cyngor. Wrth fwrw golwg yn ôl ar flwyddyn y Cadeirydd yn y swydd, dywedodd iddi fod bleser gweithio wrth ochr Cadeirydd mor rhagorol, oedd bob amser yn cynnal cyfarfodydd teg, cytbwys a chynhyrchiol. Llongyfarchodd y Cynghorydd Higginson ar fod yn llysgennad gwych yn yr Eisteddfod a nododd y llu o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn yn arbennig wasanaeth coffa teimladwy Aberfan. Clywsom fod elusennau'r Cadeirydd wedi codi dros £5000 hyd yma.
Adleisiodd arweinwyr y grwpiau gwleidyddol, y Cynghorydd Sir D. Batrouni, S. Howarth a L. Guppy sylwadau'r Cynghorydd Fox.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir P. Fox ac eiliwyd gan y Cynghorydd P. Murphy bod y Cynghorydd Sir M. Powell yn cael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy am Flwyddyn Ddinesig 2017/18.
Gwnaeth y Cynghorydd Sir M. Powell a llofnodi Datganiad Derbyn Swyddfa, cafodd ei hurddo gyda'i Chadwyn Swydd gan y Cadeirydd sy'n ymadael, a chymerodd y Gadair.
Diolchodd y Cadeirydd newydd-etholedig i Aelodau am eu cefnogaeth a chyhoeddodd mai Mr. J. Powell fyddai ei chonsort; y Canon Mark Soady yn Gaplan; ac mae ei helusennau fyddai Cymdeithas Alzheimer ac Ambiwlans Awyr Cymru. Yn anffodus, nid oedd Mr. Powell yn medru bod yn bresennol a diolchodd y Cadeirydd i Mrs. E Hacket Pain oedd yn gweithredu fel Dirprwy Gonsort.
Yna cyflwynodd y Cadeirydd Fathodyn Swydd Cyn Gadeirydd i'r Cadeirydd sy'n gadael y swydd.
|
|
Penodi Is-gadeirydd y Cyngor Sir am Flwyddyn Ddinesig 2017/18 Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Sir R.J.W. Greenland ac eiliodd y Cynghorydd Sir S.L. Jones benodi'r Cynghorydd Sir P. Clarke yn Is-gadeirydd y Cyngor Sir am Flwyddyn Ddinesig 2017/18.
Cynigiwyd, fel gwelliant gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni a'i eilio gan y Cynghorydd Sir R. Harris, bod y Cynghorydd Sir K. Williams yn cael ei benodi yn Is-gadeirydd y Cyngor Sir am Flwyddyn Ddinesig 2017/18.
Mewn pleidlais, bwriwyd y pleidleisiau dilynol: Dros y Cynghorydd Sir Clarke: 26 Dros y Cynghorydd Sir Williams: 10
Penderfynwyd penodi'r Cynghorydd Sir P. Clarke fel Is-gadeirydd y Cyngor Sir am y Flwyddyn Ddinesig 2017/18.
Gwnaeth y Cynghorydd Sir Clarke a llofnodi Datganiad Derbyn Swydd, a chafodd ei urddo gyda'i Gadwyn Swydd gan y Cadeirydd, a chymerodd ei le fel Is-gadeirydd.
Diolchodd yr Is-gadeirydd i Aelodau am eu cefnogaeth a chynigiodd ei gefnogaeth i'r Cadeirydd newydd. Mrs. Jan Clarke fyddai consort yr Is-gadeirydd.
Daeth y cyfarfod i ben gyda chyflwyno'r Gadwyn Swydd i Ddirprwy Gonsort y Cadeirydd newydd, pendant i Gonsort y Cadeirydd sy'n ymadael a'r Gadwyn Swydd i Gonsort yr Is-gadeirydd newydd.
|
|
Gohirir yr eitemau dilynol i gyfarfod y Cyngor Sir a gynhelir ar 18 Mai 2017: Cofnodion: Penderfynwydgweddilli eitemau busnes i gyfarfod y Cyngor Sir a gynhelir ar 18 Mai 2017.
|