Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 18fed Ionawr, 2018 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

Datganodd y Cynghorydd Sir A. Watts fuddiant personol, nad yw'n rhagfarnu yng nghyswllt eitem agenda 9 gan fod perthynas yn glaf allanol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cas-gwent.

Datganodd y Cynghorydd Sir L. Guppy ddiddordeb personol, nad yw'n rhagfarnu yn eitem agenda 9 fel aelod o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Cofnodion:

3.

Cyhoeddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau pdf icon PDF 144 KB

Derbyniodd y Cyngor gyhoeddiad y Cadeirydd.

Nid oedd unrhyw ddeisebau.

Cyhoeddodd y Cynghorydd Sir P. Murphy ddatganiad am ansolfedd diweddar Carillion Ccc:

Bydd y Cyngor yn gwybod fel canlyniad i sylw helaeth yn y wasg yr wythnos hon yr aeth Carillion Ccc yn ansolfedd ynghyd â nifer o'i  is-gwmnïau yn y gr?p. Deallwn y bydd pob cwmni yn parhau i weithredu, gan ddarparu parhad gwasanaethau cyhoeddus tan rybudd pellach. Fodd bynnag mae'n llai clir ar hyn o bryd sut y bydd hyn yn effeithio ar gadwyn gyflenwi'r cwmni a'r goblygiadau ehangach i'r sector preifat a'r sector cyhoeddus yn ehangach yn y Deyrnas Unedig.

Nid yw'r cyhoeddiad yn effeithio'n anuniongyrchol ar Gyngor Sir Fynwy ar hyn o bryd ond mae'n cydnabod fod gan y cyhoeddiad oblygiadau eang i'r sector cyhoeddus. Ni effeithiwyd fawr ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus hyd yma, gan fod gwasanaethau yn aml wedi eu is-gontractio i gyflenwyr llai neu mewn rhai achosion eu cadw mewn partneriaeth gyda chontractwyr mawr eraill. Cydymdeimlwn gyda'r cyrff sector cyhoeddus y mae ansolfedd Carillion wedi effeithio arnynt neu y bydd yn effeithio arnynt. Nid oes gan y Cyngor Sir unrhyw gontractau gyda Carillion Ccc nac unrhyw un o'i is-gwmnïau. Nid oes gennym ychwaith unrhyw gynlluniau ar y gweill gyda nhw ar gyfer y dyfodol.

Gwerthfawrogwn y bydd y sector preifat yn teimlo'r effaith hefyd, ac mae'n amser anodd yn gyffredinol. Dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf disgwyliwn y bydd mwy o eglurdeb am ystyr y cyhoeddiad hwn mewn gwirionedd wrth i effaith y gadwyn cyflenwi gael ei ddeall yn well. Mae'r Awdurdod yn parhau i gael mynediad i'w rwydweithiau ehangach i gael mwy o ddirnadaeth a gwybodaeth. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gyda Swyddfa'r Cabinet i asesu cysylltiad Carillion ar draws y sector cyhoeddus. Mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cynnal ymchwil i ddeall effeithiau ar y gadwyn cyflenwi yn well. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth sydd ar gael yn gyfyngedig a sbeciannol ar hyn o bryd.

Mae'r Awdurdod yn croesawu dialog cynnar gyda chwmnïau yng nghadwyn gyflenwi Carillion yr effeithir yn niweidiol arnynt ac a all gael anhawster yn anrhydeddu unrhyw ymrwymiadau cyfredol neu'r dyfodol i'r Awdurdod.

Bu sylw hefyd yn y wasg eleni i Interserve Ccc, gyda'i is-gwmni Interserve Construction Limited wedi eu contractio i adeiladu ysgolion cyfun Trefynwy a Chil-y-coed. Adroddodd Interserve Ccc gostau ychwanegol i'w fuddsoddwyr fis Medi diwethaf ar ôl iddo adael y sector ynni-ar-gyfer-gwastraff a arweiniodd wedyn at gwymp ym mhris ei gyfranddaliadau ar ôl rhybuddio y byddai'n torri cyfamodau benthyciadau banc. Gwelodd hyn y cwmni yn cyhoeddi rhybuddion am lifogydd. Mae'r banciau'n ddilynol wedi ad-drefnu dyledion y cwmni ac mae'r cwmni hefyd wedi cyhoeddi dyfarnu contractau sylweddol ers hynny. Mae mantolen y cwmni wedi gwella erbyn hyn.

Mae gan yr Awdurdod warant cwmni rhiant gyda Interserve Ccc ar gyfer adeiladu'r ddwy ysgol. Cafodd yr Awdurdod hefyd sicrwydd gan gyfarwyddwyr Interserve fod popeth yn iawn a bod y cynllun strategol cywir gan y cwmni ar gyfer symud ymlaen.

Edrychwn ar y wasg yn rheolaidd i  ...  view the full Agenda text for item 3.

Edrychwn  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Nid oedd unrhyw faterion ar gyfer y fforwm agored i'r cyhoedd.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion ar gyfer y fforwm agored i'r cyhoedd.

5.

To confirm the minutes of the meeting held on 14th December 2017 pdf icon PDF 298 KB

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

6.

To receive the minutes of the Public Service Board meeting held on 8th November 2017 pdf icon PDF 226 KB

Derbyniodd y Cyngor gofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2017.

7.

Derbyn rhestr weithredu'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2017 pdf icon PDF 148 KB

Derbyniodd y Cyngor restr weithredu'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2018.

Mynegodd y Cynghorydd Howarth ei siom na all y gynrychiolaeth o'r Cyngor hwn yng Nghymdeithas Tai Sir Fynwy gyfeirio at faterion a godwyd gan y Cyngor. Gofynnodd i Gynghorwyr gael rhestr o gyfrifoldebau ar gyrff allanol a'r hyn y gellir ei ddisgwyl ganddynt yn y rôl honno. Cytunodd y Prif Swyddog Gweithredol baratoi nodyn ar hyn i roi eglurdeb. Ychwanegodd y gall Aelodau gysylltu'n uniongyrchol â swyddogion Tai Sir Fynwy ar gyfer materion seiliedig ar ward.

Nododd y Cynghorydd Batrouni bod y gr?p gweithredu yn ymwneud â thlodi mislif wedi cwrdd ers y Cyngor diwethaf a bod ganddo gynllun gweithredu yn ei le.

8.

Adroddiad Prif Swyddog, Adnoddau:

8a

Cynllun Gostwng y Dreth Gyngor 2018/19 pdf icon PDF 126 KB

Derbyniodd y Cyngor adroddiad i gyflwyno trefniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Gostwng y Dreth Gyngor a'i gymeradwyo ar gyfer 2018/19 ac i gadarnhau, yn absenoldeb unrhyw ddiwygiadau neu welliannau, y cynhelir newidiadau uwchraddio blynyddol bob blwyddyn heb fod angen mabwysiadu holl Gynllun Gostwng y Dreth Gyngor.

Mewn ymateb i gwestiwn clywsom fod gennym 5768 yn hawlio gostyngiad treth gyngor ar hyn o bryd, a 39,000 o aelwydydd treth gyngor. Y sefyllfa ariannol yng nghyswllt gostwng y dreth gyngor yw bod gwariant ychydig dan £6m a'r budd o 10% yn golygu colled o £600,000.

Yn nhermau darpariaeth nid yw'r ffigurau'n rhoi ystyriaeth i effaith bosibl ymestyn y credyd cynhwysol.

Yn nhermau sicrwydd mae swyddogion yn gweithio’n ddiflino i ddynodi a helpu'r rhai sydd â hawl i'r gostyngiad.

Penderfynodd y Cyngor i gytuno ar yr argymhellion:

Nodigwneud Rheoliadau Cynllun Gostwng y Dreth Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) ("Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig") 2013 gan Lywodraeth Cymru ar 26 Tachwedd 2013.

Mabwysiadu'r darpariaethau o fewn y Rheoliadau uchod (y "Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig") ac unrhyw reoliadau uwchraddio blynyddol yng nghyswllt y cynllun ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 yn cynnwys yr elfennau ar ddisgresiwn a gymeradwywyd yn flaenorol fel cynllun lleol y Cyngor o 1 Ebrill 2018.

9.

BWRDD IECHYD PRIFYSGOL ANEURIN BEVAN - AILGYNLLUNIO GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL AR GYFER POBL H?N - DRAFFT YMATEB I'R YMGYNGHORIAD pdf icon PDF 142 KB

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd ddrafft ymateb Cyngor Sir Fynwy i ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan parthed Ailgynllunio Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl H?n er cymeradwyaeth a'i gyflwyno i'r Bwrdd erbyn y dyddiad cau ar gyfer ymatebion o 26 Ionawr 2018.

Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd y Prif Swyddog nad oedd wedi bod yngl?n â thrafodaethau ar y sefyllfa ar wasanaethau traws-ffin. Yn nhermau'r asesiad o'r effaith ar ansawdd, mae'r ymateb i'r ymgynghoriad yn cyfeirio at y papur bwrdd a ystyriwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy'n sôn fod asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yn cael ei ddatblygu yn hytrach na bod wedi'i orffen.

Cefnogodd y Cynghorydd Easson yr ymateb cryf ond teimlai y dylai adlewyrchu pryderon am anghenion Ysbyty Cas-gwent ac angen cynyddol gofal cymdeithasol.

Hysbysodd y Prif Swyddog yr Aelodau am gr?p llywio i ddatblygu dyfodol cadarnhaol ar gyfer gwasanaethau yn ne'r sir, a gaiff hefyd ei adlewyrchu ym Mardy a Monnow Vale. Soniodd am hanes cryf gwasanaethau integredig o fewn y sir.

Soniodd y Cynghorydd Watts am y problemau'n gysylltiedig â chludiant ar gyfer cleifion gyda dementia yn y sir.

Nododd y Prif Swyddog Gweithredol na thrafodwyd hyn yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Penderfynodd y Cyngor i gytuno ar yr argymhelliad:

Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r drafft ymateb i'r ymgynghoriad a atodir (Atodiad 1) i'w gyflwyno i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Dogfennau ychwanegol:

10.

Rhestr o Gynigion

Nid oedd unrhyw hysbysiadau am gynigion.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw hysbysiadau am gynigion.

11.

Cwestiynau i aelodau

11a

Gan y Cynghorydd Sir M. Groucutt i'r Cynghorydd Sir B. Jones

Gohiriwyd y cwestiwn.

Cofnodion:

Gohiriwyd y cwestiwn.

11b

Gan y Cynghorydd Sir R. Roden i'r Cynghorydd Sir R. John

A all yr Aelod Cabinet ein diweddaru ar gynnydd y gwaith adeiladu yn Ysgol Gyfun Trefynwy a'r cyswllt gyda'r gymuned leol?

Dywedodd y Cynghorydd Roden ei fod yn falch i ddweud fod y prosiect ar amser a hefyd ar gyllideb. Disgwylir y bydd yr ysgol yn cael ei chwblhau ym mis Medi 2018 a bydd dymchwel a chwblhau rhai gweithiau allanol wedyn. Bydd yr ysgol yn rhoi amgylchedd dysgu hyblyg a digidol-gyfoethog ar gyfer pobl ifanc a'r staff, ac rydym yn hyderus y bydd yn ateb y newidiadau yn anghenion addysg nawr ac i'r dyfodol. Bydd yn adnodd dinesig gwirioneddol i Drefynwy a'r cylch, ac yn rhywbeth y gall y gymuned a busnesau lleol hefyd eu defnyddio er eu budd. Mae'r adeilad yn un cyfeillgar i'r amgylchedd gyda graddiad rhagoriaeth gwyrdd. Mae 80% o'r costau cynhyrchu'n cael eu talu i isgontractwyr yn seiliedig o fewn cylch 25 milltir o'r ysgol. Fel rhan o'r rhaglen budd cymunedol, mae nifer o brosiectau cymunedol yn derbyn buddsoddiad megis adnewyddu'r danffordd i'r clwb rhwyfo. Mae nifer o brentisiaethau ar y safle yn ogystal â hyfforddiant a phrofiad gwaith ar gyfer pobl leol. Mae cael dau brosiect, yr ysgol a'r ganolfan hamdden, yn rhedeg wrth ochr ei gilydd yn heriol iawn. Talodd deyrnged i'r athrawon a'r tîm arweinyddiaeth a fu'n oddefgar iawn. Yn nhermau cyswllt, mae gan y Tîm Ysgol y 21ain Ganrif dudalen Twitter, cyfrif Facebook, yn gohebu'n rheolaidd gyda phreswylwyr lleol, a hysbysfwrdd a blwch awgrymiadau ar y safle. Gweithredwyd ar geisiadau lle'n bosibl. Mae swyddog penodol ar gyfer cyfathrebu.

Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Roden pa gamau y mae contractwyr yn eu cymryd i ostwng s?n a llwch.

Mewn ymatebodd dywedodd y Cynghorydd John y bu s?n o'r safle ac wrth i'r gwaith fynd rhagddo a bod yr adeilad yn dal d?r, byddem yn disgwyl i'r s?n gael ei gynnwys o fewn yr adeilad yn y dyfodol. Fodd bynnag, diolchodd i'r gymuned leol am eu goddefgarwch drwy gydol y gwaith adeiladu. Mae'r cynllun rheoli adeiladu yn nodi oriau creiddiol ar gyfer gweithio ar y safle adeiladu ac mae'n galluogi rhai gweithgareddau i ddigwydd y tu allan i'r oriau hyn os oes angen. Digwyddodd hyn ddwywaith dros y 4 mis diwethaf ac nid oes unrhyw waith pellach ar y rhaglen fydd angen hyn. Mae gorsaf rheoli amgylcheddol ar y safle'n gyson yn monitro rheoli golau, llygredd a swn, gan roi cofnodion manwl. Caiff y ffyrdd eu hysgubo'n rheolaidd a gosodwyd tarmac ar y brif ffordd cludo.

12.

Nodi dyddiadau'r cyfarfodydd dilynol:

Nododd y Cyngor ddyddiadau cyfarfodydd a phenderfynwyd y cynhelir cyfarfod y Cyngor ym mis Mawrth am 2pm ar 1 Mawrth 2018, oherwydd pwysau'r agenda.

Roedd peth rhwystredigaeth am newid dyddiadau cyfarfodydd.