Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 19eg Ebrill, 2018 5.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

3.

Cyhoeddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau pdf icon PDF 204 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor gyhoeddiad y Cadeirydd.

 

Nid oedd unrhyw ddeisebau.

 

 

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fater ar gyfer fforwm agored i’r cyhoedd.

5.

Cadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir:

5a

6ed Mawrth 2018 pdf icon PDF 711 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd a llofnodwyd gan y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 6ed Mawrth 2018.

 

 

5b

19eg Mawrth 2018 pdf icon PDF 135 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd a llofnodwyd gan y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 19eg Mawrth 2018.

 

 

Wrth wneud hynny, dywedodd y Cynghorydd S. Jones ei bod wedi cyflwyno’r ddeiseb ar ran y Cynghorydd L. Dymock.

 

6.

Derbyn cofnodion Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus 30ain Ionawr 2018 pdf icon PDF 100 KB

Cofnodion:

Nododd y Cyngor gofnodion cyfarfod Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 30ain Ionawr 2018.

 

7.

Derbyn cofnodion Pwyllgor Bwrdd y Gwasanaethau Democrataidd 15fed Ionawr 2018 pdf icon PDF 92 KB

Cofnodion:

Nododd y Cyngor gofnodion cyfarfod Bwrdd y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 15fed Ionawr 2018.

 

Cytunwyd i barhau i dderbyn y cofnodion hyn yn y Cyngor.

8.

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio 11eg Ionawr 2018 pdf icon PDF 115 KB

Cofnodion:

Nododd y Cyngor gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 11eg  Ionawr 2018.

 

Cytunwyd i barhau i dderbyn y cofnodion hyn yn y Cyngor.

 

 

 

9.

Nodi Rhestr Weithredu'r Cyngor Sir pdf icon PDF 56 KB

Cofnodion:

Nododd y Cyngor y rhestr weithredu.

 

10.

Adroddiad y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc:

10a

Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc pdf icon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yr Adroddiad Blynyddol, gyda’r bwriad o hysbysu’r Cyngor o’r cynnydd a wnaeth y system addysg yn y deuddeg mis blaenorol ers yr adroddiad diwethaf. Mae’r cyfnod cofnodi hwn yn cynnwys cyfnod yr arholiadau a ddiweddodd yn Awst 2017.

 

Yn dilyn y cyflwyniad croesawyd sylwadau.

 

Cydnabu’r swyddogion bwysigrwydd arolygu’r polisi dalgylch.

 

Mae dangosyddion yn cael eu datblygu o gwmpas Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf sy’n well ar gyfer adnabod cynnydd ymhlith y bobl ifanc hynny. Mae cydweithwyr Dechrau’n Deg yn gweithio’n glos gydag ysgolion ac adnabod plant y  gynnar yn rhan o’r rhaglen, gan alluogi cymorth ysgol i barhau i weithio gyda’r teuluoedd hynny.

 

Croesawodd Cadeirydd Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc yr adroddiad a chymeradwyodd y cyflawniadau, ond cydnabu’r meysydd  ar gyfer gwelliant, sef teuluoedd yn cael eu herio’n economaidd, a phlant dan anfantais neu blant sy’n derbyn gofal. Ychwanegodd bod angen astudiaeth fanwl i berfformiad Prydau Ysgol am Ddim, lle mae patrwm cyson dros gyfnod o amser, lle mae Sir Fynwy’n un o’r perfformwyr gwaethaf yng Nghymru. Cytunodd y Prif Swyddog bod y bwlch perfformiad yng Nghyfnod Allweddol 4 yn rhy eang, a bod angen magu dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd rhwng Cyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4.

 

Mynegodd Arweinydd yr Wrthblaid ei ddiolch i’r Prif Swyddog am yr adroddiad a dywedodd y dylem fod yn hynod falch o ystadegau Cyfnod Allweddol 3, a byddai hyn yn brawf fel y symudant i mewn i Gyfnod Allweddol 4. Roedd angen mwy o sicrwydd arno ynghylch y lefelau o gwmpas Prydau Ysgol am Ddim. Cododd bryderon ynghylch llesiant staff, ac fel y caiff hwnnw ei fesur, gan ddweud bod tua 77 o swyddi cynorthwywyr addysgu wedi’u colli dros y 3 i 4 blynedd ddiwethaf, yn arwain at bwysau ychwanegol ar y gwasanaeth 1 i 1 gyda phlant dan anfantais. Tynnodd sylw hefyd at yr angen i feithrin gofal ym maes cyfiawnder cymdeithasol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog, parthed lleisiant staff, cynhelid cyfarfodydd gyda phenaethiaid yn barhaus. Roedd digwyddiad llesiant a gynhaliwyd yn ddiweddar wedi tynnu sylw at y maes hwn. Ychwanegodd bod Prydau Ysgol am Ddim yn faes allweddol i ganolbwyntio arno yn arbennig yng Nghyfnod Allweddol 4.

 

Anogwyd swyddogion i gydnabod pwysigrwydd adnabod dyslecsia a dyspracsia, gan yr awgrymwyd bod ysgolion y wladwriaeth yn caniatáu i’r disgyblion hyn gael eu hanwybyddu. Gofynnwyd am eglurhad ar bolisi adnabod a chefnogi’r rheiny â dyslecsia ac am fanylion yr ystadegau. Cytunodd y swyddog ddarparu ymateb ysgrifenedig.

 

Cydnabu’r Swyddog yr heriau y tynnwyd sylw atynt ynghylch polisi derbyn Ysgol Gilwern a chydnabu bwysigrwydd mynychu ysgol leol. Byddai’n rhaid mynd i’r afael â deinameg y polisi.

 

Tynnodd Aelodau sylw at bwysigrwydd addysg gorfforol yn enwedig yng ngoleuni gordewdra adeg plentyndod. Clywsom am lwyddiant ac effeithiau’r Rhaglen Arweinyddiaeth Chwaraeon. Cydnabuom bwysigrwydd gweithgareddau awyr agored.

 

Nodwyd newidiadau yn y fframwaith arolygu.

 

Codwyd pryderon ynghylch diffyg datblygiad Ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghas-gwent, a cheisiwyd sicrwydd  ynghylch cadw plant Cas-gwent. Sicrhaodd y Prif Swyddog fod Ysgol Cas-gwent  ...  view the full Cofnodion text for item 10a

11.

Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc

11a

Dyddiadur cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2018/19 pdf icon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor adroddiad er mwyn cytuno dyddiadur drafft o gyfarfodydd ar gyfer 2018/19.

 

Gwnaed y sylwad y dylai’r dyddiadur gael ei ddwyn gerbron y Cyngor i’w gymeradwyo ar ddyddiad cynharach er mwyn rhoi digon o amser ar gyfer argraffu copïau papur.

 

Gwnaethyr aelodau gais ein bod yn osgoi newid dyddiadau cyfarfodydd.

 

Wedipleidlais penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:

 

Bod dyddiadur y cyfarfodydd ar gyfer 2018/19, fel yr atodir, yn cael ei dderbyn.

 

11b

Newid Enw Pwyllgor Ardal Bryn y Cwm pdf icon PDF 108 KB

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad i’r Cyngor er mwyn ceisio cymeradwyaeth i newid enw Pwyllgor Ardal Bryn y Cwm, o Fedi 2018. 

 

Wedipleidlais penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo newid enw Pwyllgor Ardal Bryn y Cwm i Bwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy.

 

12.

Cwestiynau Aelodau:

12a

Oddi wrth y Cynghorydd Sir P. Pavia i'r Cynghorydd Sir R. John

 

 

A fydd yr Aelod Cabinet dros Addysg gystal â darparu diweddariad ar ddatblygiad Cynllun Strategaeth Cymraeg mewn Addysg yr Awdurdod?

 

 

 

 

Cofnodion:

A fyddai’r Aelod Cabinet dros Addysg gystal â darparu diweddariad ar ddatblygiad Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg yr Awdurdod?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Sir John fod y Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg wedi’i gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Hydref 2017. Ers hynny bu trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar nifer o fân newidiadau ynghylch ein hymrwymiadau i weithio gyda chymunedau i archwilio tystiolaeth o alw am Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ardal Sir Fynwy.   Croesawodd unrhyw gyfraniadau oddi wrth Aelodau ynghylch y galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg.

 

Fel ychwanegiad gofynnodd y Cynghorydd Pavia, o ystyried datganiad diweddar Llywodraeth Cymru bod 15 o’r 22 o awdurdodau wedi’u cymeradwyo, pa rwystrau oedd yn atal yr awdurdod rhag bwrw ymlaen â’r cymeradwyo. Hefyd o gofio bod y Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg gwreiddiol wedi ategu'r cynllun amlinellol strategol yn sylweddol o ran ariannu ysgolion ar gyfer Ysgolion y 21 Ganrif, pa effaith y mae unrhyw oedi neu newidiadau posibl yn eu cael ar ddatblygu'r achos busnes ar gyfer ysgol Brenin Harri'r VIII?

 

Ymatebodd y Cynghorydd John fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda Llywodraeth Cymru ynghylch sut i ysgogi'r galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a sut rydym yn dangos tystiolaeth o'r galw hwnnw.  Ychwanegodd na fu unrhyw effaith ar ein cynigion Band B sydd wedi'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau eu bod yn gefnogol iawn i'r math o ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yr ydym yn ei gynnig ar gyfer Band B.  Mae ymgynghoriadau eang yn parhau, gan gychwyn trafodaethau cadarnhaol a diddorol.

 

 

12b

Oddi wrth y Cynghorydd Sir P. Pavia i'r Cynghorydd Sir P. Jones

A fydd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd  gystal â gwneud datganiad ynghylch penderfyniad Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i dynnu yn ei hôl ddarpariaeth Iechyd Meddwl i Oedolion H?n sy’n Gleifion mewn Ysbytai o’r Sir?

 

 

Cofnodion:

A fydd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gystal â gwneud datganiad ynghylch penderfyniad Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i dynnu darpariaeth Cleifion Mewnol Iechyd Meddwl Oedolion H?n o'r Sir?

 

Atebodd y Cynghorydd Sir P. Jones fod CSF yn ymateb yn llawn i ymgynghoriad yr ABUHB ar ddyfodol iechyd meddwl oedolion h?n a oedd yn nodi cyfres o wrthwynebiadau, wedi’u cefnogi gan dystiolaeth, i'r ymgynghoriad ar y gwasanaethau cleifion mewnol ledled Gwent.  Ymatebodd y Cynghorydd Jones ar ran y Cyngor gyda chais ffurfiol bod y trefniadau interim presennol yn parhau i ganiatáu i waith integredig gael ei wneud rhwng awdurdodau lleol, y Bwrdd Iechyd a phartneriaid eraill.  Yn anffodus, penderfynodd y Bwrdd Iechyd ar 21 Mawrth 2018 gymeradwyo'r opsiwn a ffefrir sydd wedi arwain at gau ward St. Pierre yn Ysbyty Cas-Gwent.  Mae trigolion Sir Fynwy sydd angen gwasanaethau dementia i gleifion mewnol yn cael y gwasanaethau hyn naill ai ym Mlaenau Gwent neu yng Nghasnewydd.  Roedd yn bryder nad oedd yr holl safbwyntiau wedi'u cyflwyno ar adeg gwneud y penderfyniad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod yn parhau i fod yn siomedig iawn gyda phenderfyniad y Bwrdd Iechyd ac rydym o'r farn nad yw'r penderfyniad er lles y bobl fwyaf agored i niwed yn Sir Fynwy.  Gofynnwyd i'r Bwrdd Iechyd fynychu'r cyfarfod hwn o'r Cyngor i egluro’u sefyllfa ymhellach.  Roeddent yn gwrthod mynychu'r Cyngor ond byddant yn mynychu cyfarfodydd Dethol yn y dyfodol. Ystyriwyd a oes achos cryf dros herio'r Bwrdd Iechyd yn gyfreithlon drwy broses adolygiad barnwrol, ond rydym yn ymwybodol o'r berthynas hirdymor gyda phartner allweddol.

 

Mewnperthynas â dyfodol Ysbyty Cas-gwent, mae gwaith eang yn mynd rhagddo i ddatblygu hyb iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar gyfer y boblogaeth yn ne Sir Fynwy.  Caiff y gwaith hwn ei adrodd yn ôl i'r Cyngor ym mis Medi 2018.

 

Roedd y Cynghorydd Pavia o'r farn bod yr holl broses wedi'i phenderfynu o’r cychwyn a'r ffaith nad oedd uwch arweinwyr y Bwrdd Iechyd yn barod i ddod i'r Cyngor i gyfiawnhau eu penderfyniad a rhoi diweddariad ar y cau yn dangos eu haerllugrwydd a pha mor ddi-gyswllt y maent fel corff cyhoeddus.  Fel ychwanegiad, gofynnodd a oedd y Cynghorydd Jones mewn sefyllfa i rannu'r cyngor cyfreithiol a dderbyniwyd.

 

Cytunodd y Cynghorydd Jones dderbyn a rhannu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani.

 

12c

Oddi wrth y Cynghorydd Sir P. Pavia i'r Cynghorydd Sir P. Fox

A fydd Arweinydd y Cyngor gystal â gwneud datganiad yn dilyn lansiad Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru ar ddiwygio Llywodraeth Leol?

 

 

Cofnodion:

A fydd Arweinydd y Cyngor gystal â gwneud datganiad yn dilyn lansio Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru ar ddiwygio Llywodraeth Leol?

 

Dywedodd y Cynghorydd Sir Fox fod y Papur Gwyrdd, yn dwyn yr enw Cryfhau Llywodraeth Leol a Darparu ar Gyfer Pobl, wedi'i gyhoeddi ar 20 Mawrth 2018 a disgwylir ymatebion erbyn 12fed Mehefin 2018.  Mae Ysgrifennydd y Cabinet am ddatganoli mwy o bwerau a rhyddid i gynghorau lleol.  Mae'r papur yn sôn am ddymuno gweld cynghorau cynaliadwy ac yn credu y dylai llywodraeth leol gael ei pharchu gan gymunedau y maent yn eu cynrychioli.Roedd yr arweinydd yn croesawu'r teimladau hyn.

 

Foddbynnag, ychwanegodd fod y Papur Gwyrdd yn fwy o ailwampio’r  cynlluniau roedd Leighton Andrews wedi ceisio’u gweithredu. Anghytunodd yr Arweinydd gyda’r sylwadau yn y papur ac roedd wedi rhannu ei feddyliau yn uniongyrchol gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Sir Fynwy yn brawf bod awdurdodau llai yn gallu cyflawni ac yn gallu gwneud yn dda.  Felly, pan fyddwn yn cyrraedd y papur, mae'r ffocws yn troi at yr un hen ddadleuon a dyfyniadau y mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn bryd edrych o ddifrif ar greu llai o awdurdodau lleol mwy, ac mae'r papur yn awgrymu'r 3 opsiwn canlynol:

 

1. Uno gwirfoddol

2. Dull graddol o weithredu gyda’r cynharaf i fabwysiadu yn uno'n gyntaf.

3. Unrhaglen uno gynhwysfawr.  Credwyd mai dyma'r opsiwn a ffefrir.

 

Dywedoddyr Arweinydd fod codi'r ddadl hon eto yn peri gofid i bawb mewn Llywodraeth Leol, ac yn tynnu sylw.  Ailadroddodd ei farn barhaus nad yw creu awdurdodau mawr yn ateb pob problem fel y cred Llywodraeth Cymru.  O ystyried maint y cyfyngiadau ariannol a wynebwn, byddent yn fychan iawn yn erbyn y costau o uno.  Rydym eisoes yn symud ymlaen ar blatfform rhanbarthol ac mae'r Fargen Ddinesig yn enghraifft wych.  Byddai tanseilio'r rhain ar hyn o bryd yn anghywir ac yn gosod darpariaeth gwasanaeth yn ôl yn hytrach na'i symud yn ei blaen.  Byddai creu cynghorau newydd yn bygwth y Fargen Ddinesig sydd wedi'i sefydlu.

 

Dywedoddyr Arweinydd bod codi’r ddadl eto’n anghysurus i bawb mewn Llywodraeth Leol, ac yn tynnu sylw. Ailfynegodd ei safbwynt parhaus nad yw creu awdurdodau mawr yn ddelfryd mae LlC yn grediniol ohoni. Yng ngraddfa’r cyfyngiadau ariannol sydd gennym byddent yn fychan iawn o gymharu â chostau uno. Rydym eisoes yn symud ymlaen ar lwyfan rhanbarthol, ac mae’r Fargen Ddinesig yn  enghraifft wych. Byddai tanseilio’r rhain nawr yn anghywir ac yn gwthio cyflenwi gwasanaethau tuag yn ôl yn hytrach na’i ddatblygu. Byddai creu cynghorau newydd yn bygwth y Fargen Ddinesig a sefydlwyd.

 

Argymhelloddyr Arweinydd fod y Cyngor yn cynnal dadl lawn neu’n cynnal seminar i lunio ymateb.

 

Cymerodd y Cyngor  y cyfle i longyfarch y Dirprwy Brif Weithredwr ar ei phenodiad fel Cyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig.