Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 14eg Rhagfyr, 2017 10.00 am

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

Cyhoeddiad Cadeirydd a derbyn deisebau pdf icon PDF 155 KB

Cofnodion:

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i Aelodau am eu cyfraniadau i elusennau'r Cadeirydd eleni.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas ddeiseb ar ran Gr?p Dewch â Phwll Nofio Awyr Agored Parc Bailey yn Ôl a ofynnodd i Gyngor Sir Fynwy ystyried anghenion preswylwyr Sir Fynwy yng nghyswllt Parc Bailey a'i gyfleusterau.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Howarth ddeiseb ar ran preswylwyr Dan-y-Coed, Clydach a ofynnodd am ymchwiliad llawn am yr arglawdd sy'n cael ei adeiladu tu ôl i fyngalos Dan-y-Coed, a godwyd heb ymgynghoriad.

 

Nodwyd y newid yn aelodaeth Bwrdd Cymdeithas Tai Sir Fynwy. Cadarnhaodd y Cynghorydd Batrouni ei fod yn aelod.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Charlie-Jade Atkins o Wasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy oedd yn bresennol i gyflwyno gwybodaeth i'r Cyngor am gystadleuaeth ysgolion cynradd, a gofynnodd i Aelodau ymweld ag ysgolion yn eu wardiau ynghyd â gweithiwr ieuenctid ac esbonio'r hyn a wnânt. Gofynnid i'r plant wedyn dynnu lluniau ohonynt a gaiff wedyn eu cynnwys mewn cystadleuaeth. Roedd aelodau'n awyddus i gymeradwyo'r syniad ac yn fodlon cymryd rhan.

 

Croesawyd Paul Sullivan, a gyflwynodd fanylion rhaglen Gwneuthurydd Chwarae Ysgolion Cynradd. Mae dyfarniad Gwneuthurydd Chwarae yn gwrs chwe awr sy'n canolbwyntio ar gyfathrebu, arweinyddiaeth, trefniadaeth a gwytnwch, ac fe'i hanelwyd at blant blwyddyn 5 a 6. Mewn ymateb i gwestiynau, clywsom y caiff y rhaglen ei chyllido 100% drwy Chwaraeon Cymru ac y caiff ei hadolygu bob blwyddyn. Mae'r gost y flwyddyn yn £110,000. Lle nad yw plant yn dymuno cymryd rhan, mae'r rhaglen yn ceisio dynodi ffyrdd i gefnogi mewn ffyrdd eraill gyda digonedd o weithgaredd, canfod ardaloedd maent yn eu hoffi a chynyddu hyder. Yng nghyswllt goblygiadau tywydd byddai'r tîm yn ystyried y defnydd gorau o ofod, p'un ai yw hynny'n neuaddau ysgol neu ystafelloedd dosbarth. Canmolodd aelodau'r tîm a chydnabod y gamp o fod yr awdurdod cyntaf ym Mhrydain i gynnal y cynllun.

 

Mae nifer gyfartal o wrywod a benywod drwy'r rhaglen wirfoddolwyr. Rhoddwyd enghreifftiau llwyddiannus o ran deilliannau yn nhermau Anghenion Dysgu Ychwanegol a phrydau ysgol am ddim. Mae Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd yn cydnabod mesurau effaith a nododd y cysylltiad gyda'r eitem ar y gweill.

 

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion ar gyfer y fforwm agored cyhoeddus.

 

 

5.

Cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar y 9fed o Dachwedd 2017 pdf icon PDF 177 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2017 a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

 

Nodwyd cywiriad ar dudalen 8. Dylai brawddeg olaf 11.4 ddarllen

Foddbynnag ym mhob blwyddyn bu tanwariant yn y gyllideb tu allan i'r sir sydd wedi mwy na gwrthbwyso'r ffigurau hyn.

 

Mynegodd Aelodau rwystredigaeth am ddiffyg rhestr weithredu ar yr agenda.

 

6.

Adroddiadau'r Prif Swyddog am Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd

6a

Cyflwyniad Diogelu

Cofnodion:

Derbyniodd Aelodau gyflwyniad ar ymwybyddiaeth yn tanlinellu pwysigrwydd diogelu. Diolchodd y Prif Swyddog i'r rhai a fu'n ymwneud â'r cyflwyniad a thanlinellu pwysigrwydd bod pawb o fewn y Cyngor yn ymwybodol.

 

6b

Polisi Gwirfoddoli pdf icon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid y Polisi Gwirfoddoli. Diben yr adroddiad yw rhoi safle cadarn ar bolisi Gwirfoddoli sy'n berthnasol  bob maes gwasanaeth/busnes yn cynnwys ysgolion.

 

Mewn ymateb i sylwadau am yswiriant, dywedwyd wrth y Cyngor fod swyddogion yswiriant yn ystyried hyn ar hyn o bryd er mwyn dynodi datrysiadau. Mae gwiriadau DBS ar gyfer gwirfoddolwyr yn rhad ac am ddim heb unrhyw gostau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog ei bod yn hyderus fod y systemau yn eu lle i sicrhau mai'r bobl sy'n cael gwybodaeth yw'r rhai a ddylai fod yn gwneud hynny.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a chanmolodd yr Arweinydd Gwirfoddoli ar y polisi cryf a chadarn.

 

Yn nhermau adolygiad, caiff pob polisi ei fonitro a'i ddiweddaru'n gyson. Caiff addasrwydd y polisi ei asesu'n flynyddol a'i adfywio bob 3-5 mlynedd.

 

Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhelliad:

 

Bod y Cyngor yn mabwysiadu'r Polisi Gwirfoddoli a'i gylchredeg i bob maes gwasanaeth/busnes a'i gymeradwyo i gyrff llywodraethu i'w mabwysiadu cyn gynted ag sydd modd.

 

 

 

6c

Adroddiad gwerthuso diogelu pdf icon PDF 456 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol yr Adroddiad Arfarnu Diogelu:

 

·       Gwerthuso cynnydd blaenoriaethau allweddol Cyngor Sir Fynwy ar ddiogelu yn y cyfnod Ebrill - Hydref 2017, yn defnyddio mesurau a ddynodwyd i amlygu cynnydd, dynodi risgiau a nodi camau gwella clir a blaenoriaethau ar gyfer datblygiad pellach.

·       Hysbysu'r Aelodau am effeithlonrwydd diogelu yn Sir Fynwy a'r gwaith sy'n mynd rhagddo i gefnogi nodau'r Cyngor wrth amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn risg o niwed a chamdriniaeth.

·       Hysbysu Aelodau am y cynnydd tuag at gyflawni'r safonau ym Mholisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2017

 

Mewn ymateb i gwestiynau, clywsom y cafodd adroddiad eithriad DBS ei symud o chwarterol i gyfnodol oherwydd pwysigrwydd y gwiriad o ran y broses recriwtio diogelach ac nid yw'n addas aros am wiriad chwarterol, ac i sicrhau y caiff risgiau uniongyrchol eu trin.

 

Yn nhermau trin materion yn ymwneud ag unigrwydd mewn gofal cymdeithasol oedolion, byddai hyn yn dod dan y dull ataliol i ddiogelu a chyflwynwyd gweithlu llesiant sy'n gweithio gyda phobl sy'n unig ac ynysig i'w cysylltu gyda gwasanaethau a chyfleoedd cymdeithasol neilltuol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Batrouni am sicrwydd y byddai'r fframwaith yn dynodi gwendidau neu doriadau. Ymatebodd y Prif Swyddog drwy ddweud fod yr adroddiad yn anelu i fod yn werthusiad onest o ble'r ydym arni ar hyn o bryd. Disgwylir adroddiad adolygu ym mis Ebrill 2018. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Pratt i'r tîm gwasanaethau cymdeithasol, yn benodol ar gyfer y gwaith a wneir yn Llanelli Hill.

 

Mae'r Gr?p Cyfeirio Allanol wedi rhoi pwynt defnyddiol, a gellir anfon y cofnodion at Aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am arolwg asedau Faithful a Gould o Ysgol Cas-gwent, dywedodd y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd y byddai'n gofyn i'r Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc am ymateb.

 

Roedd pryder y bu'r Cyngor yn comisiynu gwasanaethau heb broses rheoli a sicrwydd ansawdd seiliedig ar risg ar draws pob darparydd. Mewn ymateb, clywsom fod mwyafrif y lleoliadau a wneir mewn Gwasanaethau Plant yn mynd drwy gonsortiwm comisiynu 'Pedair C' ar draws De Cymru ar gyfer i ddarparwyr ddod i fframwaith ac y cynhelir gwiriadau achredu, ansawdd a diogelu. Mae swyddog contractau yn gwneud peth o'r gwaith hwnnw yn Gwasanaethau Plant ar gyfer y darparydd y contract bant. Symudir hyn i'r swyddogaeth comisiynu mewn Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Yn nhermau'r asesiad fod gwendidau pwysig mewn gwasanaethau diogel, cydnabuwyd fod ystod enfawr o wasanaethau'n ymwneud â diogelu ac y dengys dadansoddiad fod diogelu yn rhan o'r cyfan ond nad oes gennym ddarlun llawn fel Cyngor. Cynhelir archwiliad mewnol o'r holl raglen yn y flwyddyn newydd.

 

Cytunodd y Cyngor i gytuno ar yr argymhelliad:

 

Nodi'r risgiau diogelu allweddol a chymeradwyo'r camau gwella blaenoriaeth a nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Cymeradwyogwerthusiad y cynnydd diogelu a nodir yn Atodiad 5 yr adroddiad.

 

7.

Adroddiad y Swyddog Monitro

7a

Diweddariad i'r cyfansoddiad pdf icon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynoddyr Aelod Cabinet dros Lywodraethiant adroddiad i'r Cyngor ei ystyried a mabwysiadu'r newidiadau arfaethedig i gyfansoddiad y cyngor. Cafodd yr uchafbwyntiau arfaethedig eu dangos mewn gwyrdd yn yr adroddiad a atodwyd.

 

Mynegwyd y gwnaed y penderfyniadau'n flaenorol ac nad oedd dim na chafodd ei weld o'r blaen.

 

Hysbyswydyr Aelodau y byddai fersiwn wedi'i diweddaru yn hygyrch drwy'r Hyb, yn ogystal â chadw copi caled canolog yn Neuadd y Sir.

 

Penderfynodd y Cyngor i gytuno ar yr argymhelliad:

 

Mabwysiadu'rddogfen a atodwyd fel cyfansoddiad y cyngor.

 

 

8.

Adroddiadau'r Pennaeth Polisi a Llywodraethiad:

8a

Rhagbrawf Pwyllgor Ardal Bryn Y Cwm pdf icon PDF 150 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Lywodraethiant adroddiad er mwyn gofyn am gymeradwyaeth y cyngor am welliant dros dro i'r cyfansoddiad fyddai'n rhoi hawliau pleidleisio i aelodau cynghorau tref a chymuned ar Bwyllgor Ardal Bryn y Cwm.

 

Mewn pleidlais, cytunodd y Cyngor ar yr argymhellion:

 

Bod y cyngor yn cytuno ar welliant dros dro i gyfansoddiad Pwyllgor Ardal Blaen y Cwm i ganiatáu hawliau pleidleisio i aelodau cynghorau tref a chymuned sy'n eistedd ar gynllun peilot gwaith yr ardal, yn diweddu ym Medi 2018.

 

Bod cworwm Pwyllgor Ardal Blaen y Cwm yn chwarter yr holl nifer yr aelodau o 23.

 

9.

Adroddiadau'r Dirprwy Prif Weithredwr

9a

Bargen Ddinesig pdf icon PDF 241 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredydd adroddiad, gyda'r diben o ddiweddaru’r Cyngor ar rai elfennau allweddol o fewn y rhaglen Bargen Ddinesig.

 

Ers ffurfio'r rhaglen Bargen Ddinesig bu Cyngor Sir Fynwy yn cynnal swydd Cyfarwyddwr Interim y  Rhaglen, yn perfformio swydd cyflog a dognau. Mae'r Cyd-gabinet yn awr eisiau cadarnhau'r rôl yma ac yn gofyn os byddai Cyngor Sir Fynwy yn barod i gynnal y swydd. Daw'r cyllid o'r Fargen Ddinesig ac nid Cyngor Sir Fynwy. Nid yw'r adroddiad yn gofyn am ymrwymo i unrhyw gyfraniad ariannol. Mae prosesau i'w dilyn lle  mae cynghorau yn fodlon symud ymlaen ar gyfer unrhyw swyddi dros £100k, ac mae'r adroddiad hwn yn ceisio bodloni'r gofyniad hwnnw. Mae'n debyg mai arweinwyr y 10 cyngor fyddai'r panel penodi, a byddid yn dilyn prosesau Cyngor Dinas Caerdydd i raddau helaeth.

 

Cynigiodd yr Aelod yr argymhelliad a nodi pwysigrwydd person sylweddol a fyddai'n sylfaenol i lunio rhaglen waith y Fargen Ddinesig.

 

Mynegodd y Cynghorydd Watts bryder y caiff y cyflog ei seilio ar berfformiad a chyflenwi. Dywedodd yr Arweinydd y bydd cyd-swyddfogaeth craffu ac y disgwylir i'r canlyniadau gael eu cyflwyno dros gontract tair blynedd.

 

Os yw Cyngor Sir Fynwy yn lletya'r swydd, nid yw'n debygol y byddai'r person yn seiliedig yn Sir Fynwy. Pe byddai swyddog o Gyngor Sir Fynwy yn llwyddiannus, gofynnodd y Cynghorydd Howarth am i'r swydd gael ei llenwi cyn gynted ag sy'n bosibl.

 

Penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion:

 

Ceisio cymeradwyaeth i Gyngor Sir Fynwy letya'r contract dros dro/cyfnod sefydlog ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig am gyfnod tair blynedd o 1 Ebrill 2018. Caiff natur y contract ei benderfynu gan benodi ymgeisydd llwyddiannus a bydd un ai ar sail secondiad neu sail apwyntiad cyfnod sefydlog.

 

I adrodd y rôl hon i'r Cyngor a chadarnhau cymeradwyaeth y Cyngor i gyflogi swydd dros £100,000 y flwyddyn.

 

Dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2016, fel y'i diwygiwyd yn 2014, oherwydd y bydd cydnabyddiaeth ariannol arfaethedig Cyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig dros £100,000, mae rheidrwydd hysbysu'r Cyngor am yr angen am y swydd.

 

Oherwydd y trefniadau secondiad/contract cyfnod sefydlog a ddynodwyd uchod, ni fydd cyflogwr presennol yr ymgeisydd llwyddiannus yn hysbys nes y cwblhawyd y broses recriwtio, felly mae angen i'r swydd gael ei chadarnhau gan ba bynnag Gyngor yw'r cyflogwr, a dim ond cynnig amodol y gellid ei wneud hyd nes bod hyn yn digwydd. Byddir yn rhoi adroddiad diweddaru i'r Cyngor yn dilyn y broses recriwtio a dethol penodiad.

 

 

10.

Rhestr o Gynigion

10a

Cynnig gan y Cynghorydd Sir K. Williams

Bydd y cyngor hwn yn edrych i fuddsoddi yn ein hadran gweithrediadau yn ystod rownd nesaf trafodaethau cyllideb. Byddwn yn edrych i fuddsoddi oddeutu £250,000 yn ein gweithrediadau strydlun a phriffyrdd er mwyn cynyddu’r gallu i weithredu cynhaliaeth priffyrdd a thiroedd i’r lefel sydd wedi disgwyl ohonom gan drethdalwyr cyngor.   Bydd y gr?p Llafur a’r weinyddiaeth Geidwadol yn cymryd rhan mewn trafodaeth ystyrlon i gwblhau hyn. 

 

 

Cofnodion:

Bydd y cyngor yn edrych ar fuddsoddi yn ein hadran gweithrediadau yn ystod cylch nesaf trafodaethau'r gyllideb. Byddwn yn anelu i fuddsoddi tua £250,000 yn ein gwaith golwg strydoedd a phriffyrdd i gynyddu'r gallu i wneud gwaith cynnal a chadw priffyrdd a thiroedd i'r lefel a ddisgwylir gennym gan drethdalwyr y Cyngor. Bydd y gr?p Llafur a'r weinyddiaeth Geidwadol yn cymryd rhan mewn trafodaeth ystyrlon i gyflawni hyn.

 

Eiliodd y Cynghorydd Batrouni y cynnig.

 

Nodwyd y pwyntiau dilynol yn ystod y drafodaeth:

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet yr awgrymiadau gan y Gr?p Llafur ar sut i ganfod cyllid i gynyddu'r gyllideb. Ychwanegodd y byddai'n gweithio gyda'r Gr?p Llafur i wneud hynny. Awgrymodd fod yn rhaid gwneud awgrymiadau gyda chostau erbyn 31 Ionawr 2018.

 

Roedd yr Arweinydd yn adnabod ac yn cydymdeimlo gyda'r materion a gofynnodd i'r wrthblaid ddod ynghyd a chreu cyllideb amgen.

 

Tanlinelloddarweinydd yr wrthblaid y cafodd cyllidebau amgen eu hanwybyddu'n flaenorol.

 

Credai'rAelod Annibynnol y Cynghorydd Blakebrough ei  bod yn dda i'r ddwy ochr gydweithio yn neilltuol gan fod San Steffan a Chaerdydd wedi mynd â'r arian mae'r gymuned leol gymaint o'i angen. Cytunodd gyda'r cynnig mewn egwyddor a diolchodd i'r Cynghorydd Williams am godi'r mater.

 

Roeddpryderon ymysg Aelodau am y gyllideb ar gyfer priffyrdd a seilwaith a hefyd yr oedi wrth weithredu'r model darpariaeth amgen.

 

Canmolodd  Cynghorydd Webb y gwasanaeth rhagorol o fewn ei ward.

 

Cafodd y cynnig ei drechu mewn pleidlais.

 

10b

Cynnig o'r Cynghorydd Sir D. Batrouni

Ers codi’r cwestiwn am dlodi mislif, mae'r gr?p Llafur wedi derbyn gwybodaeth anecdotaidd bod hyn yn broblem yn Sir Fynwy.  Felly, mae'r gr?p Llafur yn gofyn i’r Cyngor i weithio gydag ysgolion uwchradd lleol a banciau bwyd er mwyn canfod graddfa'r angen yn Sir Fynwy ac i helpu, lle bo'n briodol, darparu cynhyrchion glanweithiol i fenywod a merched. Dylai’r cyngor hefyd ystyried y strategaeth gyfredol o ddarparu peiriannau gwerthu am gynhyrchion glanweithiol mewn ysgolion a'r gost fesul uned. . Yn ogystal, rydym yn gofyn i’r cyngor ystyried defnydd cynhyrchion cynaliadwy mewn ffurf cynhyrchion gellir eu hailddefnyddio a bioddiraddadwy, gan fod y DU yn cynhyrchu 200,000 tunnell o wastraff olew mewn ffurf cynhyrchion glanweithiol sy’n cael eu taflu i ffwrdd bob blwyddyn.   Yn olaf, bod y Cyngor yn penderfynu, fel mater o bolisi ac ar sail drawsbleidiol, cael gwared â thlodi mislif yn Sir Fynwy.

 

Cofnodion:

Ers codi'r cwestiwn am dlodi mislif, clywodd y gr?p Llafur ei fod yn broblem yn Sir Fynwy. Felly mae'r gr?p Llafur yn gofyn i'r Cyngor weithio gydag ysgolion cyfun a banciau bwyd lleol er mwyn canfod maint yr angen yn Sir Fynwy ac i helpu, lle'n briodol, i ddarparu cynnyrch sanidol ar gyfer menywod a merched. Dylai'r cyngor hefyd ystyried y strategaeth bresennol o ddarparu peiriannau gwerthu ar gyfer cynnyrch sanidol mewn ysgolion a'r gost fesul uned. Yn ychwanegol, gofynnwn i'r cyngor ystyried defnyddio cynnyrch cynaliadwy ar wedd cynnyrch y medrir eu hailddefnyddio a phydradwy, gan fod y Deyrnas Unedig yn cynhyrchu 200,000 tunnell fetrig o wastraff seiliedig ar olew ar wedd cynnyrch sanidol sy'n cael eu taflu bob blwyddyn. Yn olaf, mae'r Cyngor yn penderfynu'n gadarn, fel mater o bolisi ac ar sail trawsbleidiol, i ddileu tlodi mislif yn Sir Fynwy.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Batrouni y cynnig gan ddiolch i'r Aelod Cabinet am yr ymateb yng nghyfarfod blaenorol y Cyngor, a dywedodd y bu llawer o negeseuon gan y gymuned yn dilyn y cyfarfod yn cadarnhau fod hyn yn broblem. Ychwanegodd y dywedwyd wrtho fod nyrsys mewn ysgolion cyfun yn dosbarthu cynnyrch sanidol ac wedi bod yn gwneud hynny am flynyddoedd, rhai'n talu amdanynt o'u poced eu hunain. Gofynnodd a dylai'r Cyngor fod yn meddwl am gostau a maint elw peiriannau gwerthu yn yr ysgolion uwchradd.

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd D. Evans.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Cynghorydd S. Jones, Aelod o'r Cabinet, ei bod yn hollol ymroddedig i ddileu tlodi mislif a chynigiodd gynnig gyda gwelliant:

 

Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gydag ysgolion, banciau bwyd a phob asiantaeth berthnasol i ganfod maint yr angen yn Sir Fynwy  a thrwy weithio mewn partneriaeth byddwn yn dynodi sut y gallwn gefnogi'r rhai y mae tlodi misglwyf yn effeithio arnynt. Fel rhan o'r ymagwedd yma, byddwn yn ystyried defnydd cynnrych cynaliadwy ar wedd cynnyrch y gellir eu hailddefnyddio a phydradwy ac mae'r Cyngor hwn yn parhau'n ymroddedig i weithio gyda'n holl bartneriaid tuag at ddileu tlodi mislif yn Sir Fynwy.

 

Esboniodd y Cynghorydd S. Jones ei bod wedi cynnwys 'pob asiantaeth' yn ei chynnig gyda gwelliant gan gyfeirio at ysgolion cynradd a'u rhaglen Tyfu Lan, cymdeithasau tai ac elusennau eraill. Cadarnhaodd iddi fod mewn cysylltiad gyda mudiad Wings a gobeithiai roi hyder ei bod yn gweithredu ar y mater. Esboniwyd y cafodd y cyfeiriad at beiriannau gwerthu ei ddileu gan mai polisi Llywodraeth Cymru yw hynny ac nid ein strategaeth ni i'w hystyried. Clywsom mai dim ond un ysgol gyfun yn Sir Fynwy sydd â pheiriant gwerthu, eto mae pob ysgol yn cynnig cynnyrch sanidol am ddim fel rhan o'u hystafelloedd llesiant. Ychwanegodd y Cynghorydd Jones y byddai'n parhau i weithio ar yr agenda hwn ar ran menywod a merched Sir Fynwy.

 

Trafododd y Cyngor y cynnig gyda gwelliant:

 

Mynegodd y Cynghorydd Batrouni bryder am ddileu'r geiriau 'darparu' a 'pholisi' gan y byddai'n hyn yn cael ei weld fel galluogi ond nid gweithredu ein hunain.

 

Roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 10b

11.

Cwestiynau Aelodau

11a

O'r Cynghorydd Sir S. Woodhouse i'r Cynghorydd Sir R. John

Pa asesiad ydy’r Aelod Cabinet wedi gwneud o’r goblygiadau i ysgolion yn Sir Fynwy o doriadau Llywodraeth Cymru i’r Grant Gwella Addysg? 

 

Cofnodion:

Pa asesiad a wnaeth yr Aelod Cabinet o oblygiadau toriadau Llywodraeth Cymru i'r Grant Gwella Addysg i ysgolion Sir Fynwy?

 

Diolchodd y Cynghorydd R. Jones, Aelod o'r Cabinet, i'r Cynghorydd Woodhouse am y cwestiwn ac atebodd y caiff y Grant Gwella Addysg ei ddosbarthu i ysgolion drwy'r consortia addysg, EAS, ac y defnyddir arian ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau gwerthfawr gwella ysgolion megis hyfforddiant athrawon a staffio cyfnod sylfaen. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi toriadau i'r gronfa ac nid yw wedi rhoi unrhyw eglurdeb am ba agweddau o'r Grant a gaiff eu torri ac mae pryder sylweddol ymysg penaethiaid ysgol Sir Fynwy am effaith y toriadau yn, yn arbennig ar ein disgyblion mwyaf bregus. Ychwanegodd ei fod wedi cwrdd gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg ac wedi mynegi'r pryder, ac esboniodd y caiff y Grant Gwella Addysg a nifer o grantiau eu symud i'r grant cefnogi refeniw, sydd hefyd yn cael ei dorri yn Sir Fynwy. Mae'r Cynghorydd John wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet i ailadrodd ei phryderon a gofyn bod Llywodraeth Cymru yn ailystyried. Mae'r Cyng John yn cydnabod fod arian cyhoeddus yn brin ond nododd fod gan Lywodraeth Cymru gronfeydd wrth gefn yn gyfanswm o dros £300m a'u bod hefyd newydd dderbyn dros £1.2b o gyllideb y Canghellor. Gallai rhan fechan iawn o hynny ddiogelu'r Grant Gwella Addysg, cefnogi athrawon i gyflwyno'r cwricwlwm a helpu i'w cefnogi yn eu gwaith i wella safonau yn ysgolion yn Sir Fynwy.

 

Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cyng Woodhouse i Aelodau gael gwybod am yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a'u bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y mater yma.

 

12.

O'r Cynghorydd Sir A. Webb i'r Cynghorydd Sir S. Jones

A yw’r Aelod Cabinet wedi derbyn ateb i’r cynnig cafodd ei gymeradwyo yng nghyfarfod llawn y Cyngor oedd yn cefnogi blaenoriaeth i Sir Fynwy gael darpariaeth band llydan yn rownd nesaf cyllid Llywodraeth Cymru.

 

 

 

Cofnodion:

A yw'r Aelod Cabinet wedi derbyn ymateb i'r cynnig a gymeradwywyd yng nghyfarfod llawn y Cyngor ym mis Medi sy'n cefnogi rhoi blaenoriaeth i Sir Fynwy am ddefnyddio band eang yng nghylch nesaf cyllid Llywodraeth Cymru?

 

Diolchodd y Cynghorydd S. Jones, Aelod o'r Cabinet, i'r Cynghorydd Webb am y cwestiwn a ddywedodd na fu unrhyw ateb ffurfiol yn nhermau'r ymgynghoriad ond bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi crynodeb o ymatebion gan bawb yr ymgynghorwyd â nhw. Fel rhan o'n hymateb i'r ymgynghoriad fe wnaethom ofyn am i beth o'r cyllid o £80m gael ei dynnu lawr i'r Cyngor hwn. Ni fu unrhyw ymateb gan Lywodraeth Cymru hyd yma ond byddwn yn dal i wthio ar hynny. Gwyddom y bydd dros 10% o aelwydydd heb fynediad i Fand Eang Cyflym Iawn, sy'n is na chyfartaledd Cymru. Ni wyddom os caiff y 1600 annedd ym mhrosiect AB eu cynnwys yn y cylch nesaf. Yn nhermau p’un ai a fyddwn yn cael blaenoriaeth, gwyddom fod gennym £80m yn mynd ymlaen fel rhan o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gyfan. Mae Sir Fynwy mewn ardal gynnig gyda Phowys, Sir y Fflint, Wrecsam, Bro Morgannwg, Caerdydd a Chasnewydd ac ar lefel 3 o 5 lefel, felly dim yn flaenoriaeth uchel ar y cam yma. Mae'r Cynghorydd Jones yn awyddus i weithio ar draws y pleidiau i ddatrys y mater hwn.

 

 

13.

Adroddiad y Pennaeth Gweithrediadau

13a

Ceisio gwahardd y cyfryngau a'r cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem ganlynol o fusnes yn unol ag Adran 100A o'r Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn cynnwys y wybodaeth fel y'i diffinnir ym Mharagraff 4 o Amserlen 12A o'r Ddeddf [Atodir barn y Swyddog Priodol] pdf icon PDF 32 KB

Cofnodion:

Ceisio gwahardd y cyfryngau a'r cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem ganlynol o fusnes yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn cynnwys y wybodaeth fel y'i diffinnir ym Mharagraff 4 Amserlen 12A y Ddeddf [Atodir barn y Swyddog Priodol]

 

13b

HoV Meddiannu Gwastraff Bwyd - Arfarniad o'r Gwahoddiad i Gyflwyno Tendrau Cychwynnol ac Adnabod y Cynigydd Dewisol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor er mwyn rhoi gwybodaeth i'r Cyngor ar y broses ar gyfer tendro a dyfarnu contract ar gyfer darparu gwasanaethau trin gwastraff bwyd ar ran Cyngor Sir Fynwy, CBS Blaenau Gwent a CBS Torfaen a cheisio cymeradwyaeth i ddynodi'r cynigydd a ffafrir a symud ymlaen i gamau olaf y dyfarniad contract.

 

Yn dilyn trafodaeth cytunodd y Cyngor i gytuno ar yr argymhellion:

 

Bod y Cyngor yn derbyn adroddiad gan swyddogion ar y broses tendr hyd yma a beth yw'r camau nesaf wrth ddyfarnu'r contract.

 

Bod y Cyngor yn cefnogi dynodi'r cynigydd a ffafrir a bod swyddogion yn symud ymlaen i negodi a dyfarnu contract yn amodol ar i CBS Blaenau Gwent a CBS Torfaen hefyd gymeradwyo'r cynigydd a ffafrir.