Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 9fed Tachwedd, 2017 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion ar gyfer y fforwm agored gyhoeddus.

.

 

3.

Cyhoeddiad Cadeirydd a derbyn deisebau pdf icon PDF 158 KB

Cofnodion:

Mynegodd y Cadeirydd gydymdeimlad y Cyngor yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant, Gweinidog Llafur Cymru. Hefyd clywsom am golled drist cydweithiwr ar Gyngor Sir Fynwy, Mr. Gary Price. Cynhaliwyd munud o dawelwch ar gyfer y ddau.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Sir R. Greenland ddeiseb ar ran preswylwyr Devauden yn cyfeirio at ymestyn y terfyn amser 30 mya. Cydnabyddwn y nifer o ddeisebau mae'r Cyngor yn eu derbyn am faterion goryrru, a chytuno bod yn rhaid mynd i'r afael â hyn ar draws y Sir.

 

 

4.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir L. Guppy fuddiant personol nad oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt eitem 8.2, 8.3, 8.4 fel aelod o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir M. Powell fuddiant personol nad oedd yn rhagfarnu yng nghyswllt Eitem 8.4 fel Llywodraethwr Ysgol Brenin Harri VIII.

 

5.

Cadarnhau cofnodion cyfarfod Cyngor y Sir a'i gynhaliwyd ar y 21ain o Fedi 2017 pdf icon PDF 94 KB

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cyngor gofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 21 Medi a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.

 

Wrth wneud hynny nododd y Cynghorydd Clarke fod ei gyfnod fel cynrychiolydd ar Gymdeithas Tai Sir Fynwy wedi dod i ben. Cytunwyd y byddai'r Cynghorydd Batrouni yn cymryd y swydd hon dros dro.

 

6.

I dderbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio

6a

6ed o Orffennaf 2017 pdf icon PDF 134 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2017

6b

19eg o Fedi 2017 pdf icon PDF 171 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 19 Medi 2017.

 

7.

I dderbyn cofnodion y Pwyllgor Gwasanaethau Democratig

7a

5ed o Fehefin 2017 pdf icon PDF 91 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2017.

 

7b

11eg o Fedi 2017 pdf icon PDF 79 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 11 Medi 2017.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Howarth am eglurhad am fater offer technoleg gwybodaeth newydd ar gyfer Aelodau. Bydd y Prif Weithredwr yn ymateb mewn ysgrifen.

 

8.

Rhestr o Gynigion

8a

Cynnig gan y Cynghorydd Sir M. Groucutt

Mae Cyngor Sir Fynwy’n llongyfarch a chefnogi ymdrechion cyfredol pobl leol yn ardal Y Fenni sy'n ymgyrchu dros fynediad llawn i blatfformau gorsaf trenau'r Fenni. Mae’n credu bod hi’n warthus yn 2017 bod pobl gydag anabledd, yr henoed, rhieni gyda phlant ifanc mewn pramiau neu deithwyr gyda bagiau trwm dal heb fynediad.

 

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Network Rail a Threnau Arriva Cymru i weithredu mynediad llawn fel mater o frys. Mae’n galw ar y rheini sy’n gyfrifol i sicrhau bod cyllid digonol yn cael ei roi i’r neilltu i greu cyfleusterau a fydd yn galluogi pob teithiwr i gael mynediad rhydd i bob rhan o'r orsaf yn ystod oriau agor fel blaenoriaeth uchaf.

 

Cofnodion:

Mae Cyngor Sir Fynwy yn llongyfarch ac yn cefnogi ymdrechion presennol pobl leol yn ardal y Fenni sy'n ymgyrchu dros fynediad llawn i'r platfformau yng ngorsaf rheilffordd y Fenni. Mae'n credu ei bod yn gywilyddus yn 2017 nad yw hynny ar gael i bobl gydag anabledd corfforol, yr henoed, rhieni gyda phlant ifanc mewn cadeiriau gwthio, neu deithwyr gyda phaciau trwm. Geilw'r Cyngor ar Network Rail a Threnau Arriva Cymru i sicrhau mynediad llawn o'r fath fel mater o frys. Geilw ar y rhai sy'n gyfrifol i sicrhau y caiff cyllid digonol ei neilltuo i greu cyfleusterau fydd yn galluogi pob teithiwr i gael mynediad rhydd i bob rhan o'r orsaf yn ystod oriau agor fel mater o'r flaenoriaeth uchaf.

 

Cariwyd y cynnig yn dilyn trafodaeth.

 

 

8b

Cynnig o'r Cynghorydd Sir A. Easson a'r Cynghorydd Sir P. Pavia

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi dechrau ymgynghoriadau yngl?n â dyfodol Gwasanaethau Oedolion ledled Gwent.    Yr awgrym yw canoli gofal dementia i ysbytai ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd ac uned yn Nhorfaen; ar ôl i Ysbyty’r Faenor gael ei gomisiynu yn 2021. Mae hyn yn awgrymu cau Ward San Pierre yn Ysbyty Cas-gwent, sy’n cael ei ddefnyddio am ofal dementia ar hyn o bryd.  Buasai cefnogaeth am ofal dementia yng ngogledd Sir Fynwy’n bodoli yn Ysbyty Tri Cwm Hospital yng Nglyn Ebwy ac yn y de yn Ysbyty Sant Gwynllyw.

 

“Dwi’n cynnig bod y Cyngor hwn yn gweithio mewn cydweithrediad â BIPAB a CICAB i ddarganfod ffyrdd positif a blaengar o gael gwared â’r bygythiad hwn i Ysbyty Cas-gwent, sydd â 10 mlynedd ar ôl o’r fenter PFI i gwblhau’r contract, a dylid ehangu defnydd y cyfleuster hwn nid ei leihau. 

 

Cofnodion:

Cytunodd y Cadeirydd gymryd Cynnig 8.2 a 8.3 gyda'i gilydd ar gyfer trafodaeth:

 

Cynniggan y Cynghorydd Sir Easson:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi dechrau ymgynghori am ddyfodol Gwasanaethau Oedolion ledled Gwent. Yr awgrym yw canoli gofal dementia i ysbytai ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd ac uned yn Nhorfaen; ar ôl comisiynu Ysbyty'r Grange yn 2021. Byddai hyn yn awgrymu cau Ward St Pierre yn Ysbyty Cas-gwent a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer gofal dementia. Byddai cefnogaeth ar gyfer gofal dementia yng ngogledd Sir Fynwy yn Ysbyty'r Tri Chwm yng Nglynebwy ac yn y de yn St Woolos yng Nghasnewydd. Cynigiaf fod y Cyngor hwn yn cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan i ganfod ffyrdd cadarnhaol ac arloesol o dynnu'r bygythiad hwn i Ysbyty Cas-gwent sydd â 10 mlynedd o'r cynllun PFI i gwblhau'r contract, ac y dylai defnydd y cyfleuster hwn gael ei gynyddu ac nid ei ostwng."

 

Cynniggan y Cynghorydd Sir Pavia:

Mae Cyngor Sir Fynwy yn deall yr heriau demograffig sy'n wynebu'r sir dros y degawdau nesaf. Mae'n cydnabod y bydd y cynnydd yn nifer y bobl h?n yn anochel yn rhoi mwy o ofynion ar ein system iechyd a gofal cymdeithasol, gan fod poblogaeth sy'n heneiddio yn fwy tebygol o fod ag o leiaf un ac yn aml gyflyrau cronig lluosog fel dementia. Felly, mae'n bryderus am gynigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ailgynllunio gwasanaethau iechyd meddwl oedolion h?n, a allai o bosibl olygu cau ward dementia St. Pierre yn Ysbyty Cas-gwent a throsglwyddo cleifion i Ysbyty'r Tri Chwm yng Nglynebwy a St Woolas yng Nghasnewydd.

Geilwar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i:

1. Ddechrau ar ymgysylltu 'cadarn ac ystyrlon' gyda chleifion, rhanddeiliaid a chymunedau lleol yn Sir Fynwy, parthed ei gynigion ail-ddylunio a gwrando ar bryderon priodol y bydd unrhyw drosglwyddo gofal tu allan i'r sir yn naturiol yn ei gynhyrchu;

2. Cwrdd yn rheolaidd gyda'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd ac uwch swyddogion, i ymchwilio modelau newydd, a gyd-gynhyrchwyd a chynaliadwy o ofal ar gyfer oedolion h?n gydag afiechyd meddwl, fel rhan o brif gynllun strategol y Cyngor i ddarparu gofal cymdeithasol integredig ansawdd da ym mhob rhan o'r sir.

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd fod y Cyngor yn ymgyngoreion yn yr ymgynghoriad tri mis, ac y bydd yn cymryd rhan lawn a phenderfynol i gyflwyno'r achos dros y gwasanaethau gorau posibl ar gyfer pobl Sir Fynwy.

 

Cafwydtrafodaeth yn dilyn ymateb.

 

Ynnhermau proses fe'n hysbyswyd y bu'r adroddiad drwy'r Pwyllgor Dethol, yn ogystal â'r Cyngor. Mae seminar i Aelodau ar 16 Tachwedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i drafod cynigion. Cafodd aelodau eu hannog i fynychu.

 

Awgrymodd Aelod Cabinet Menter ychwanegu cofnodion o gyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus at agendâu'r Cyngor yn y dyfodol i sicrhau fod Aelodau’n hollol ymwybodol am  ...  view the full Cofnodion text for item 8b

8d

Cynnig o'r Cynghorydd Sir D. Batrouni

Bod y Cyngor hwn yn pryderu bod y toriad mewn termau real sydd wedi digwydd i ysgolion yn Sir Fynwy dros y pedair blynedd diwethaf yn anghynaladwy; y gall y toriadau hyn arwain at ostyngiadau yn y nifer o staff a lleihau perfformiad yr ysgolion hyn; ac mae felly’n ymrwymo i atal y toriadau parhaol hyn ac i gynyddu’r gyllideb addysg gyffredinol am 2018/19 gan o leiaf £1m i helpu lleddfu pwysau ariannol parhaol.   Bydd y gr?p Llafur yn gweithio gydag aelodau etholedig i gyd i weithredu’r cynnig hwn.”  

Cofnodion:

Bod y Cyngor hwn yn bryderus nad yw'r toriadau gwir dermau a osodwyd ar ysgolion yn Sir Fynwy am y pedair blynedd ddiwethaf yn gynaliadwy; y gallai'r toriadau hyn arwain at ostyngiadau staff a llesteirio perfformiad yr ysgolion hynny; ac mae felly'n gwneud ymrwymiad i atal y toriadau parhaus hyn ac yn lle hynny i gynyddu cyfanswm y gyllideb addysg ar gyfer 2018/19 gan o leiaf £1m i helpu lliniaru pwysau ariannol cyfredol. Bydd y gr?p Llafur yn gweithio gyda phob aelod etholedig i ddod â'r cynnig hwn i ffrwyth.

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Ymatebodd Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc drwy ddweud fod heriau ariannol sylweddol yn wynebu'r awdurdod a dywedodd mai Sir Fynwy yw'r awdurdod sy'n derbyn y setliad cyllid gwaethaf yng Nghymru. Roedd siom nad yw materion gwledig yn dal i gael eu cydnabod yn nhermau cyllid.

 

Mewn trafodaeth:

 

Dywedodd y Cynghorydd Blakebrough y dylem fynd yn ôl at Lywodraeth Cymru yng nghyswllt cyllid, ond dylai hefyd ystyried yr hyn y gallwn ei wneud fel awdurdod lleol, megis buddsoddi arian i gario'r ysgolion drwy'r amser heriol hwn. A allwn godi'r dreth cyngor am eleni i gynnwys cyllid ychwanegol i ysgolion?

 

Roedd y Cynghorydd Groucutt yn falch i eilio'r cynnig a chanmolodd yr athrawon a staff ar eu canlyniadau ardderchog. Wrth edrych ar ystadegau'r gwasanaeth cynghori, roedd yn glir fod safonau'n codi ar draws pob rhan o dde ddwyrain Cymru.

 

Gadawodd y Cynghorydd Becker y cyfarfod am 15:35

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Taylor welliant i'r Cynnig:

 

Bod y Cyngor hwn yn bryderus nad yw'r toriadau mewn gwir dermau a osodwyd ar ysgolion yn Sir Fynwy am y pedair blynedd diwethaf yn gynaliadwy. Bod y Cyngor hwn yn calibradu'n llawn ac yn asesu'r risgiau i brofiad addysgol ein plant. Yn neilltuol faterion o fynediad, safonau a deilliannau ar gyfer pob dysgwr a bod y Cyngor hwn yn cymryd camau priodol yn cynnwys, os oes angen, ailgalibreiddio'r gyllideb.

 

Yn dilyn trafodaeth ar y cynnig gyda'r gwelliant, a chael ei roi i bleidlais, cafodd y cynnig ei drechu.

 

Parhaodd aelodau i drafod y cynnig sylweddol. Pan gafodd ei roi i bleidlais cafodd y cynnig ei drechu.

 

 

 

 

 

 

 

8e

Cynnig o'r Cynghorydd Sir D. Batrouni

Bod y Cyngor hwn yn anghytuno â’r broses lle bod penderfyniad am ddyfodol dwy ysgol uwchradd yn Sir Fynwy wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru heb unrhyw ymgynghoriad â’r cyngor llawn, y Cabinet neu'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc; yn credu bod cynsail bryderus yn cael ei chreu lle nad ydy aelodau lleol, yn enwedig aelodau Cas-gwent yn yr enghraifft hon, yn hysbys i benderfyniadau mawr sy'n effeithio'u preswylwyr; yn poeni am y goblygiadau i Ysgol Cas-gwent; ac yn credu nad yw pob opsiwn wedi cael eu harchwilio o ganlyniad      

 

Cofnodion:

Bod y Cyngor hwn yn gresynu at y broses lle cyflwynwyd penderfyniad ar ddyfodol dwy ysgol gynradd yn Sir Fynwy i Lywodraeth Cymru heb unrhyw ymgynghoriad gyda'r cyngor llawn, y Cabinet na'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc, gan gredu ei fod yn gosod cynsail pryderus lle na chaiff aelodau lleol, yn arbennig aelodau Cas-gwent yn yr achos yma, eu hysbysu am benderfyniadau mawr sy'n effeithio ar eu preswylwyr; pryderon am y canlynaidau ar gyfer Ysgol Cas-gwent; ac yn credu na chafodd pob opsiwn eu hymchwilio fel canlyniad.

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Eglurodd y Prif Swyddog y byddai'r model buddsoddiad cydfuddiannol (MIM) yn golygu y byddai angen cynyddu buddsoddiad yn sylweddol a phenderfynwyd peidio symud ymlaen gyda'r MIM oherwydd nifer o gyfyngiadau.

 

Nodwyd y bu cyfleoedd i alw'r penderfyniad i mewn ond na ddigwyddodd hynny. Mewn ymateb i gwestiwn pam na ddaeth hyn i'r Cyngor i'w drafod yn llawn, dywedodd y Swyddog Monitro fod hwn yn benderfyniad a gymerwyd dan swyddogaeth y Cabinet.

 

Ar gael ei roi i bleidlais, trechwyd y cynnig.

 

Gadawodd y Cynghorydd Blakebrough a'r Cynghorydd Watts y cyfarfod am 17:10.

 

9.

Adroddiadau'r Prif Swyddog, Enterprise

9a

Presenoldeb o Bell am gyfarfodydd Cyngor pdf icon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor er mwyn ystyried newidiadau i'r cyfansoddiad fyddai'n galluogi Aelodau i gymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell.

 

Trafododd Aelodau yr agweddau cadarnhaol megis rhoi cyfle i Aelodau gydag ymrwymiadau eraill i fynychu; bod Cyngor Sir Fynwy yn gyngor sy'n arloesi; mae'n debygol mai dim ond dim ond i ychydig o Aelodau y byddai aelodaeth o bell yn weithredol a byddai'r rhan fwyaf o ddigon yn mynychu'n bresennol.

 

Nodwyd pwyntiau negyddol yn cynnwys materion technegol a chworwm cyfarfodydd a byddent yn cael eu datrys.

 

Mewn pleidlais, cytunodd Aelodau i gytuno ar yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

I fabwysiadu'r newidiadau i reolau 8 a 9 y Rheolau Sefydlog yng Nghyfansoddiad y Cyngor fel y'u manylir yn atodiad 3 yr adroddiad fel y bydd y cyngor yn caniatau presenoldeb o bell mewn cyfarfodydd o'r cyngor, ei bwyllgorau ac unrhyw gyfarfod arall o'r cyngor lle mae'r dechnoleg ar gael yn yr ystafell gyfarfod.

 

Diwygiwyd Paragraff 1.9 Rheolau Gweithdrefn Gweithredol yn y Cyfansoddiad i ganiatau presenoldeb o bell yng nghyfarfodydd y Cabinet.

9b

Amseru cyfarfodydd Cyngor pdf icon PDF 185 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor i ystyried yr argymhelliad gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, yn unol gyda Mesur Llywodraeth Leol Cymru, i adolygu amseriad cyfarfodydd llawn y Cyngor ar gyfer cyfnod presennol y Cyngor.

 

Ychwanegodd Aelod y Cabinet y caiff 10am hefyd ei ystyried fel opsiwn. Mewn pleidlais, cytunodd yr Aelodau y dylid ystyried 10am, 2pm a 5pm mewn cylch fel amserau ar gyfer y Cyngor.

 

Nodwyd pwysigrwydd canfod yr amser gorau i ddenu aelodau o'r cyhoedd i ymgysylltu a hyrwyddo hyblygrwydd.

 

Mewn pleidlais, cytunodd Aelodau i gytuno ar yr argymhelliad:

 

Bod cyfarfodydd y Cyngor llawn yn y dyfodol yn newid amserau cychwyn rhwng 10:00, 14:00 a 17:00 am gyfnod 12 mis, ac wedi hynny bydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn adolygu'r newid mewn amserau ac yn adrodd yn ôl i'r Cyngor gydag argymhellion pellach.

 

 

10.

Adroddiad Pennaeth Gweithrediadau

10a

Adroddiad Ailgylchu - Achos Busnes Terfynol, cymeradwyaeth gwariant cyfalaf ar gerbydau a bocsys pdf icon PDF 348 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor yn rhoi manylion yr achos busnes llawn ar gyfer yr Adolygiad Gwastraff ac Ailgylchu a adroddwyd i'r Cyngor ar 9 Mawrth 2017, i gynghori Aelodau am holl oblygiadau refeniw y gwasanaeth newydd a cheisio cymeradwyaeth i greu cyllideb cyfalaf ar gyfer caffael cerbydau yn 2017/18.

 

Nodwyd y pwyntiau dilynol yn ystod trafodaeth:

 

Mae newid yn natur y diwydiant a sut maent eisiau i'r eitem gael eu cyflenwi, ac felly newidiadau yn y ffordd y cyflenwn y gwasanaeth. Mae eisiau gwydr brwnt yn awr fel cynnyrch glân.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am faint cerbydau a'r problemau y gallant eu hachosi, clywsom y cafodd cerbyd ei adeiladu'n bwrpasol ar gyfer y prawf ac y defnyddir cerbydau llai lle bo angen. Gellir defnyddio 95% o ffyrdd gyda chassis safonol. Sefydlwyd llwybrau gyda gyrwyr ac mae swyddogion yn hyderus fod y cerbydau a'r llwybrau yn addas ar gyfer y gwasanaeth.

 

Diolchodd y Cynghorydd Howarth i breswylwyr Sir Fynwy am gyrraedd y targed ailgylchu. Holodd pam nad oedd y Pwyllgor Dethol wedi craffu ar yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i sylw am y cynnydd yn nifer y cerbydau, ychwanegodd y Pennaeth Gweithrediadau y byddai angen y cerbydau newydd beth bynnag yw canlyniad y drafodaeth.

 

Gadawodd y Cynghorydd M Powell y cyfarfod am 17:50

 

Mewn pleidlais, penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion:

 

Bod Aelodau'n derbyn ac yn cymeradwyo'r achos busnes terfynol a'r crynodeb o'r Adolygiad Gwastraff ac Ailgylchu (atodiad 1).

 

Ceisio cymeradwyaeth am gyllideb cyfalaf o £4.27m i gyllido caffael cerbydau ailgylchu a blychau sydd eu hangen i weithredu'r Adolygiad Ailgylchu fel yr adroddwyd i'r Cyngor ar 9 Mawrth 2017.

 

Ceisio cymeradwyaeth am gyllid 'buddsoddi i gynilo' ar gyfer defnyddio'r gwasanaeth newydd.

Councillor M. Powell left the meeting at 17:50

 

 

11.

Cwestiynau Aelodau

11a

O'r Cynghorydd Sir P. Pavia i'r Cynghorydd Sir R. John. John

A fydd yr Aelod Cabinet dros Addysg yn cyflwyno diweddariad yngl?n â gweithgareddau’r Gr?p Cyfeirio Allanol, a gafodd ei sefydlu gan y Cyngor yn dilyn Arolygiad Estyn o’r awdurdod yn 2015?

 

 

Cofnodion:

A fydd yr Aelod Cabinet dros Addysg yn rhoi diweddariad ar weithgareddau'r Gr?p Cyfeirio Allanol a sefydlwyd gan y Cyngor yn dilyn arolwg Estyn o'r awdurdod yn 2015?

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet:

 

Mae'r gr?p cyfeirio allanol yn parhau i roi cyngor ac arweiniad i'r Awdurdod yn dilyn y craffu dwys yn ystod adferiad Estyn. Mae gan y bwrdd gylch gorchwyl estynedig ac mae'n cynnwys pob maes o Wasanaethau Plant, Gofal Cymdeithasol ac Addysg. Edrychodd adolygiad o adroddiad y Prif Swyddogion ar gyfer SCH a Phlant a Phobl Ifanc ar heriau hunanarfarnu, cynnig cefnogaeth ym mha mor dda yr ydym yn adnabod ein hysgolion, a chynnig cyngor ar gamau i'w cymryd yn y dyfodol. Fe wnaeth hefyd drafod cynnydd mewn Gwasanaethau Plant yn nhermau diwygiadau a gwella. Bydd y gr?p yn cwrdd ar 29 Tachwedd pryd gaiff ddiweddariadau cynhwysfawr mewn gofal cymdeithasol ac addysg yn cwmpasu Gwasanaethau Plant. Byddant yn parhau i roi cyngor ar hunanarfarnu, yn arbennig yng ngoleuni'r fframwaith newydd ar wasanaethau addysg llywodraeth leol a bydd yn adolygu trefniadau newydd ar ddiogelu. Byddai'n hapus i roi adroddiad yn ôl i'r Cyng Pavia yn dilyn y cyfarfod nesaf.

 

Fel atodiad, dywedodd y Cynghorydd Pavia y dylai'r gr?p fod yn cyfarfod unwaith y flwyddyn a dylai gael ei weld i fod yn cwrdd yn gyfnodol ar hyd y flwyddyn. A all yr Aelod Cabinet roi ymrwymiad pellach y bydd cyfarfodydd cyfnodol ar hyd y flwyddyn? Hoffai hefyd wybod beth fyddai'r broses o recriwtio'r person ychwanegol.

 

11b

O'r Cynghorydd Sir A. Easson i'r Cynghorydd Sir R. Greenland

Yngl?n â grantiau Pwyllgor Ardal 2017/2018 wedi’i cyllidebu o £5000. Mae hanner ffordd trwy’r flwyddyn ariannol,  ond nid yw'r dyraniadau wedi'u rhyddhau er mwyn eu dosbarthu. Mae grwpiau lleol yn elwa o’r grantiau bach hyn. Byddwch chi’n eu rhyddhau mor gynted â phosib?

 

Cofnodion:

Yng nghyswllt grantiau £5,000 i'r Pwyllgor Ardal yng nghyllideb 2017/2018. Mae hanner ffordd drwy'r flwyddyn ariannol, eto ni chafodd y dyraniadau eu rhyddhau i'w dosbarthu. Mae grwpiau lleol yn manteisio o'r grantiau bach hyn. A fyddwch yn eu rhyddhau cyn gynted ag sy'n bosibl?

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet:

 

Yn dilyn adolygiad o lywodraethiant cymunedol ym mis Mawrth 2017, cytunodd y Cyngor i beilota adolygiad o Bwyllgorau Ardal ym Mryn y Cwm. Cynhelir y cynllun peilot dros gyfnod o ddeuddeg mis o fis Medi 2017 a bydd rhan o'r adolygiad yn cynnwys ymgynghoriad yng nghyswllt cydlynu strategol ar gyllid Grant Pwyllgor Ardal, i'w ddosbarthu'n gyfartal ymysg yr ardaloedd. Cynigir y caiff cyllid ei ddyrannu ar sail flynyddol, yn amodol ar dystiolaeth ar sut mae'n trin anghenion a blaenoriaethau lleol, yn cynyddu cyfleoedd ac effaith i'r eithaf e.e. defnyddio fel arian cytabeol a chyfrannu at amcanion llesiant y sir.

 

Yn dilyn cymeradwyo'r cynllun peilot ym mis Hydref 2017, cymeradwyodd y Cabinet ailstrwythuro'r tîm Lle Cyfan a Phartneriaethau i greu Tîm Datblygu Cymunedol a Phartneriaethau gyda ffocws newydd. Fel canlyniad, o gofio am adolygiad y Pwyllgor Ardal a chymeradwyo strwythur yn ddiweddar, cafodd pob Grant Pwyllgor Ardal eu hatal nes datblygir meini prawf newydd yn unol â'r canlyniadau cysylltiedig.

 

Fodd bynnag, mae Aelodau'n awyddus i fynediad barhau felly yn y cyfamser dylid anfon unrhyw geisiadau am Grant Cyfalaf Pwyllgor Ardal at Andy Smith, ein Rheolwr Buddsoddiad a Chyllid Strategol, fydd yn asesu'r ceisiadau a cheisio canfod ffynonellau eraill o gyllid lle'n briodol. Os na fedrir canfod cyllid arall, yna defnyddir cyllid y Grant Pwyllgor Ardal. Yna gall Aelodau yn y Pwyllgorau Ardal benderfynu p'un ai ydynt yn cefnogi'r cais. Aiff i Andy Smith ar y pwynt hwnnw.

 

Mewn ymateb i gwestiwn atodol, awgrymwyd y dylai unrhyw ymgeiswyr blaenorol na chafodd ymateb ail-gyflwyno eu cais.

 

 

11c

O'r Cynghorydd Sir A. Easson i'r Cynghorydd Sir R. Greenland

Ers 2008;

 

1) Maint o dai sydd wedi cael eu hadeiladu o flwyddyn i flwyddyn yn Sir Fynwy?

2) Maint o flwyddyn i flwyddyn oedd yn dai fforddiadwy?

3) Beth oedd y rhestrau aros o flwyddyn i flwyddyn dros yr un cyfnod?

Cofnodion:

Ers 2008:

1) Faint o dai gafodd a adeiladwyd bob blwyddyn yn Sir Fynwy?

2) Faint bob blwyddyn o'r rhain oedd yn gartrefi fforddiadwy?

3) Beth oedd y rhestri aros bob blwyddyn dros yr un cyfnod?

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet yr wybodaeth ddilynol:

 

Blwyddyn

Cyfanswm Anheddau a Gwblhawyd

Anheddau Fforddiadwy

a Gwblhawyd

Nifer Aelwydydd ar y Gofrestr Tai Gyfun

2008/09

327

91

2,528

2009/10

158

14

3,301

2010/11

267

61

2,919

2011/12

254

78

2,721

2012/13

342

49

2,831

2013/14

230

36

3,732

2014/15

205

17

2,867

2015/16

234

63

2,619

2016/17

238

47

3,253 (3182 fel ar 01/11/17)

Cyfanswm

2255

456

 

 

  • 2015/16                Band 4 – 36%; Band 5 – 36%   Cyfanswm 72%
  • 2016/17                Band 4 – 51%; Band 5 – 22%   Cyfanswm 73%

 

Ystyriwyd fod yr aelwydydd ym Mand 4 mewn cartrefi digonol a byddai'r rhan fwyaf o'r aelwydydd ym Mand 5 yn berchnogion cartref. Mae hyn yn gadael dim ond 28% o'r ffigur mewn angen tai gwirioneddol. Os gweithredir hynny i ffigur cofrestr tai gyfun heddiw, y cyfanswm fyddai 3,182 x 28% = 891 aelwyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn atodol, dosberthir yr wybodaeth ar ôl ei chasglu.

 

 

11d

O'r Cynghorydd Sir D. Batrouni i'r Cynghorydd Sir R. John

Gall yr Aelod Cabinet adroddi os oes unrhyw anghysondeb rhwng y gwariant tybiannol a gwirioneddol ar wariant AAA (SEN) ddirprwyedig yn (i) 2016/17 (ii) 2015/16 a (iii) 2014/15?

 

 

Cofnodion:

A all yr Aelod Cabinet ddweud os bu unrhyw wahaniaethau rhwng y gwariant tybiannol a'r union wariant ar wariant a ddirprwywyd ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig yn (i) 2016/17 (ii) 2015/16 a (iii) 2014/15?

Ymatebodd yr Aelod Cabinet:

 

Mae gennym ddyletswydd gofal i ddiwallu anghenion pob myfyriwr ac rydym yn llawn ddisgwyl i ysgolion wario'r elfen dybiannol o 5% o'u cyllid i gefnogi plant gydag angen lefelau Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy. Lle mae cytundeb fod angen yn uwch na'r lefelau hyn, bydd yr awdurdod lleol yn cyllido i gefnogi myfyrwyr unigol. Dirprwyir £3.3m y flwyddyn i ysgolion ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol fel cyfandaliad, a chyllid band ychwanegol. Mae'r awdurdod lleol yn cadw £300k wrth gefn yn y flwyddyn, a dyma'r unig beth cyfnewidiol. Yn y tair blynedd dan sylw, bu'r cyllid hwnnw'n uwch na lefelau'r gyllideb gan y symiau dilynol: 2014/15 £89,672; 2015/16 £105,404; 2016/17 £129,169.  Fodd bynnag yn yr holl flynyddoedd hynny bu tanwariant ar gyllideb y sir sydd wedi mwy na gwrthbwyso'r ffigurau hynny. 

. 

11e

O'r Cynghorydd Sir D. Batrouni i'r Cynghorydd Sir S. Jones

Pa asesiad, os o gwbl, ydy’r Cyngor wedi’i wneud o gyffredinolrwydd ‘period poverty' yn y sir?

 

 

Cofnodion:

Pa asesiad, os oes un, a wnaeth y Cyngor o amledd 'tlodi mislif' yn y sir?

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet y cwestiwn ac ymatebodd:

 

Ni chodwyd mater 'tlodi mislif' per se gyda'r Cyngor un ai drwy'r asesiad llesiant na'r asesiad anghenion poblogaeth.

 

Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn gwybod fod y broblem yn bodoli. Ar ôl siarad gyda phartneriaid ac asiantaethau fel y rhai sy'n rhan o gr?p FEDIP (a gaiff ei redeg gan Ian Bakewell), maent wedi awgrymu eu bod yn ymwybodol o'r broblem ond nad ydym o reidrwydd yn gwybod problem pa mor fawr ydyw. Os gweithredwn y data o arolwg Plan International mis Awst, yna gwyddom y bydd hyn yn broblem yn ein cymunedau gan fod yr adroddiad yn awgrymu fod un mewn deg o ferched 14-24 oed yn methu fforddio cynnyrch sanidol.

 

Byddwn yn gweithio gyda'n tîm Cymunedol a Phartneriaeth, drwy ein strategaeth cyfiawnder cymdeithasol, i ddynodi datrysiadau partneriaeth a chefnogaeth, yn cynnwys edrych ar arfer gorau fel prosiect Wings ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn atodol, dywedodd yr Aelod Cabinet ei fod yn gwerthfawrogi oherwydd natur tabw dybiedig y pwnc fod llawer o'r broblem yn debygol o gael ei than-adrodd. Byddwn yn gweithio gydag ysgolion, gan adeiladu ar y prosiect 'tyfu lan' a gynhelir mewn 21 o'n 30 ysgol gynradd, yn ogystal â thrwy bolisi presennol Llywodraeth Cymru i ymchwilio'r mater ymhellach a rhoi adroddiad yn ôl i'r Cyng Batrouni.