Agenda

Cyngor Sir - Dydd Iau, 29ain Mehefin, 2017 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

3.

Cyhoeddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau pdf icon PDF 205 KB

4.

Datganiadau o Fuddiant

5.

Derbyn cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 16eg o Fai 2017 pdf icon PDF 79 KB

6.

Derbyn cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar y 18fed o Fai 2017 pdf icon PDF 186 KB

7.

Derbyn y Rhestr Gweithred o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar y 18fed o Fai 2017 pdf icon PDF 66 KB

8.

Rhestr o Gynigion

8a

Cynnig o'r Cynghorydd Sir A. Easson

Yn dilyn cynrychiolaeth gan rieni yn fy Ward, a Wardiau cyfagos, sydd wedi dangos pryder bod y Cabinet ym mis Rhagfyr y flwyddyn ddiwethaf wedi cytuno dargyfeirio arian adran 106 o adnewyddu Parc Castroggi yng Nghil-y-coed i'r cae ATP yn y Ganolfan Hamdden.  Maen nhw’n dweud bod hi’n bryd adnewyddu a chredant eu bod yn cael eu hanwybyddu; bydd y parc yn cael ei defnyddio’n well os oedd yr offer o safon.  Dwedodd y Cabinet, ar ôl cael ei herio, ac yn dilyn cyngor swyddog, y bydd arian adran 106 o’r Safle White Hart, ar ôl iddo gael ei ddatblygu, yn cael ei glustnodi am y gwaith sydd angen ym Mharc Castroggi.  Rydw i felly yn dod â chynnig i’r Cyngor, yn chwilio am gymorth i anfon arian o gronfeydd wrth gefn, i ddychwelyd y parc i safon uchel gyda’r adnabyddiaeth a’r hyder y bydd yn cael ei adfer o arian adran 106, yn llawn, maes o law.

 

8b

Cynnig o'r Cynghorydd Sir D. Batrouni

Bydd newidiadau pensiwn sy’n cael eu cyflwyno gan lywodraeth y DU i gydraddoli oedran pensiwn menywod a dynion yn golygu gall nifer o fenywod yn Sir Fynwy colli oddeutu £38,000 - £48,000 o gymharu â menywod ymddeolodd yn 60 oed. Mae’r Cyngor hwn yn nodi'r effaith negyddol y bydd hyn yn ei gael ar fywydau'r menywod sy'n cael eu heffeithio, gan wneud hi'n anos iddynt wirfoddoli yn eu cymunedau lleol ac i gynnig amser i'w teuluoedd.  Gall hyn gynyddu pwysau ar wasanaethau cyngor, e.e. gofal cymdeithasol, a defnydd gwirfoddolwyr i helpu'r Cyngor darparu rhai o'i wasanaethau. Felly, bydd y Cyngor yn ysgrifennu llythyr i lywodraeth y DU yn amlinellu’i bryderon ac yn dangos cefnogaeth am y cynnig 63 yw’r 60 newydd. Cyfaddawd yw’r cynnig, a fydd yn galluogi pob menyw a ganwyd ar neu ar ôl y 6ed o Ebrill 1953 hyd at y 5ed o Ebrill 1960 i ymddeol ar eu penblwyddi 63 oed. Bydd unrhyw un a ganwyd ar ôl y dyddiad yna'n dilyn amserlen y Ddeddf 2011.

9.

Adroddiadau'r Pennaeth Cyllid

9a

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2016-2017 pdf icon PDF 204 KB

9b

Contractau Dim Oriau Cyngor Sir Fynwy pdf icon PDF 199 KB

10.

Cwestiynau Aelodau:

10a

O'r Cynghorydd Sir A. Watts i'r Cynghorydd Sir P. Murphy

Maint o’n hadeiladau cyhoeddus, o fewn ein portffolio eiddo, sy’n cydymffurfio â safonau deddfwriaeth y Senedd yngl?n â gosod systemau chwistrellu? 

10b

O'r Cynghorydd Sir G. Howard i'r Cynghorydd Sir B. Jones

Yn dilyn adolygiad meysydd parcio'r flwyddyn ddiwethaf a'r cynnig i gyflwyno pwynt siarsio i geir trydanol yng Nghas-gwent, a fuasai'r Aelod Cabinet yn amlinellu'i ymrwymiad, unrhyw gynigion ac amserlen i ymestyn y cynnig i holl ardal y Sir?

 

Rwyf yn gofyn ar ran etholwr sydd wedi prynu car trydan Nissan yn ddiweddar ac sy'n teimlo nad yn unig y byddai’n gyfleus i drigolion i gyflwyno rhwydwaith o bwyntiau siarsio ond buasai efallai’n annog mwy o berchnogaeth o gerbydau o’r fath. Yn ogystal, buasai unrhyw dwristiaid i'r ardal efallai'n cael eu hannog i dreulio ychydig oriau yn ein trefi a phentrefi, wrth i’w ceir ail-lenwi.  

 

Fel y bydd y Cyng. Jones yn ymwybodol, nid oes rhaid i’r Awdurdod hwn gynnig allfeydd siasio’n uniongyrchol oherwydd eu bod yn cael eu sefydlu’n aml gan gwmnïau eraill bydd yn derbyn ffrwd refeniw; serch hynny bydd ei gadarnhad y bydd CSF’n ymgysylltu â a galluogi’r fath darpariaeth yn cael ei groesawu. 

 

 

10c

O'r Cynghorydd Sir D. Batrouni i'r Cynghorydd Sir R. John

Beth yw tair blaenoriaeth yr Aelod Cabinet am addysg yn Sir Fynwy?

 

Maint o gynorthwyon dosbarth mewn ysgolion yn Sir Fynwy sydd wedi'u diswyddo’n orfodol yn ystod blynyddoedd academaidd (i) 2012/13 (ii) 2013/14 (iii) 2014/15 (iv) 2015/16?

 

Maint o gynorthwyon dosbarth mewn ysgolion yn Sir Fynwy sydd wedi cymryd diswyddiad gwirfoddol yn ystod blynyddoedd academaidd (i) 2012/13 (ii) 2013/14 (iii) 2014/15 (iv) 2015/16?

 

Maint o ysgolion sy’n cynllunio diswyddiadau gorfodol y flwyddyn academaidd hon?

 

 

10d

O'r Cynghorydd Sir D. Batrouni i'r Cynghorydd Sir P. Jones

Beth yw barn y weinyddiaeth newydd o gyllidebau cyfun am ofal cymdeithasol yn seiliedig ar ffiniau byrddau iechyd?

 

 

10e

O'r Cynghorydd Sir D. Batrouni i'r Cynghorydd Sir S. Joness

Pryd all y Cyngor disgwyl gweld cynllun y weinyddiaeth i daclo amddifadedd yn y sir?