Agenda

Cyngor Sir - Dydd Iau, 29ain Chwefror, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

Cyhoeddiad y Cadeirydd pdf icon PDF 327 KB

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 18fed o Ionawr 2024 pdf icon PDF 479 KB

5.

CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2024-28 pdf icon PDF 485 KB

Dogfennau ychwanegol:

6.

ADOLYGU POLISI MRP 2023/24, STRATEGAETH CYFALAF 2024/25, STRATEGAETH Y TRYSOLRYS 2024/25 pdf icon PDF 763 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.

ADRODDIAD AR GYNIGION AR DRETH Y CYNGOR pdf icon PDF 518 KB

8.

DYDDIADUR CYFARFODYDD 2024/25 pdf icon PDF 20 KB

Dogfennau ychwanegol:

9.

PWYLLGOR SAFONAU -PENODI AELOD O GYNGOR CYMUNED pdf icon PDF 201 KB

Dogfennau ychwanegol:

10.

PENODI FFORWM MYNEDIAD LLEOL SIR FYNWY pdf icon PDF 288 KB

Dogfennau ychwanegol:

11.

CYTUNO AR ENW’R YSGOL GYNRADD EGIN CYFRWNG GYMRAEG NEWYDD YN NHREFYNWY pdf icon PDF 128 KB

12.

CYNIGION I’R CYNGOR:

12a

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Lisa Dymock

Mae Sir Fynwy’n falch o’i threftadaeth ac yn ystyried bod bwyd a ffermio o bwys mawr nawr ac yn y dyfodol. Bydd pawb yma’n fwy nac ymwybodol o’r pwysau ar ein ffermwyr sy’n deillio o bolisïau amrywiol, o TB i reoliadau NVZ a’r polisi diweddaraf sy’n achosi poen difesur yw’r SFS – mae’r meini prawf y bydd yn rhaid i ffermwyr eu bodloni yn anghyraeddadwy a bydd yn ychwanegu pwysau aruthrol ar ein ffermwyr.

 

Gofynnaf i’r cyngor hwn alw ar Lywodraeth Cymru i oedi am funud o ran yr ymgynghoriad presennol a gweithio gyda ffermwyr, undebau ffermwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn dod o hyd i ffordd ymlaen sy’n gweithio i bawb - un nad yw’n cosbi ein ffermwyr a’u cymunedau ond yn hytrach, un sy’n eu cefnogi.

 

Rydym yn deall pwysigrwydd gwarchod ein amgylchedd a dylid rhoi ystyriaeth gyfartal i hyn, ond heb beryglu diogelwch ein bwyd wrth i ffermwyr gael eu gwthio allan o’r diwydiant.

 

13.

CWESTIYNAU’R AELODAU

13a

Gan y Cynghorydd Sir Richard John i’r Cynghorydd Sir Angela Sandles , Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu

Pa ymgysylltu wnaeth y cyngor gyda chanolfannau hamdden yn ystod yr ymgynghoriad ar gyllideb 24-25

 

13b

Gan y Cynghorydd Sir Fay Bromfield i’r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

A oes modd i’r Aelod Cabinet roi gwybod am unrhyw atgyweiriadau sydd wedi’u cynllunio i Ffordd Brynbuga os gwelwch yn dda, yn enwedig y rhan o Langybi i Frynbuga.

 

 

13c

Gan y Cynghorydd Sir Richard John i’r Cynghorydd Sir Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg

Sut fydd y Cyngor yn cefnogi disgyblion sy’n agored i niwed yn ystod blwyddyn ariannol 24-25?

 

13d

Gan y Cynghorydd Sir Jane Lucas i’r Cynghorydd Sir Paul Griffiths, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygiad Economaidd, Dirprwy Arweinydd

Pa gamau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i gefnogi busnesau canol tref Trefynwy yn ystod yr amhariad diweddar?

 

13e

Gan y Cynghorydd Sir Tony Kear i’r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

Yn wyneb y llifogydd a welwyd y gaeaf diwethaf ac eto ers cyfnod y Flwyddyn Newydd, hoffwn ofyn i’r Aelod Cabinet pa feddwl ymlaen a chamau rhagweithiol sy’n cael eu cymryd er mwyn mynd i’r afael â llifogydd lleol a llifogydd yng nghefn gwlad Sir Fynwy

 

13f

Gan y Cynghorydd Sir Tony Kear i’r Cynghorydd Sir Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg

O ystyried y toriadau arfaethedig i gyllidebau ysgolion yn 24/25, pa sicrwydd y gall yr Aelod Cabinet ei roi disgyblion a’u rhieni yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Brynbuga, sydd yn fy Ward, na fydd ansawdd pryd amser cinio’r plant a maint y dognau’n cael eu heffeithio

 

 

14.

CYHOEDDI DATGANIAD AR Y POLISI TÂL FEL SY’N OFYNNOL GAN Y DDEDDF LLEOLIAETH pdf icon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol: