Agenda

Cyngor Sir - Dydd Iau, 7fed Rhagfyr, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datgan Buddiannau

3.

Cyhoeddiad y Cadeirydd pdf icon PDF 330 KB

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26ain Hydref 2023 pdf icon PDF 614 KB

5.

ADLEOLI GWASANAETH CYFEIRIO DISGYBLION DE SIR FYNWY pdf icon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR 2022/2023, GOFAL CYMDEITHASOL, DIOGELU AC IECHYD pdf icon PDF 774 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.

ADRODDIAD GWERTHUSO DIOGELU pdf icon PDF 961 KB

Dogfennau ychwanegol:

8.

MEWN ACHOS O'R ANGEN YN CODI - GALW I MEWN I DDATBLYGU DYFODOL CANOLFANNAU FY NIWRNOD, FY MYWYD

Dogfennau ychwanegol:

9.

Cynigion i'r Cyngor

9a

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sirol Paul Pavia

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:


• Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion. Bydd 1 o bob 8 dyn yn cael diagnosis, gan godi i 1 o bob 4 ar gyfer dynion Du.  Gall cymaint â 69% o'r rhai sy'n cael eu trin â llawfeddygaeth brofi anymataliaeth wrinol o ganlyniad.  

• Bydd 1 o bob 25 o ddynion dros 40 oed yn profi rhyw fath o ollyngiadau wrinol bob blwyddyn.  

• Bydd 1 o bob 20 o ddynion 60 oed neu h?n yn y DU yn profi anymataliaeth coluddyn.  

Yn aml, nid oes gan ddynion sydd angen gwaredu eu gwastraff iechydol (gan gynnwys padiau anymataliaeth, codenni, sgil-gynhyrchion gwastraff stoma, cathetr, colostomi, ileostomi) fynediad uniongyrchol i fin gwastraff iechydol mewn toiledau dynion.  

• Mae arolwg o ddynion sy'n byw gydag anymataliaeth yn datgelu bod 95% yn teimlo pryder oherwydd diffyg biniau gwastraff iechydol mewn toiledau dynion ar gyfer cael gwared â phadiau mewn modd hylan.  

• Mae bron i draean o'r dynion a arolygwyd wedi cael eu gorfodi i gario eu gwastraff iechydol eu hunain mewn bag.  

Mae'r Cyngor hwn yn credu:  

• y dylai dynion allu gwaredu cynhyrchion anymataliaeth yn ddiogel ac yn hylennol yn hawdd a gydag urddas ble bynnag maen nhw'n mynd.  

• y dylai dynion sydd angen gwaredu eu gwastraff iechydol gael mynediad uniongyrchol at fin gwastraff iechydol mewn toiledau dynion.  

Mae’r Cyngor hwn yn penderfynu:  

• Y dylai'r Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a'r Amgylchedd ystyried, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ddarparu o leiaf un bin hylendid iechydol ym mhob toiled dynion y Cyngor Sir – rhai’r cyhoedd ac yn adeiladau'r cyngor.  

• Annog darparwyr toiledau cyhoeddus a gweithleoedd eraill yn ein hardal i sicrhau bod biniau hylendid iechydol dynion ar gael yn eu cyfleusterau.  

• Cefnogi ymgyrch 'Boys need Bins' Prostate Cancer UK.   

• Y dylai Arweinydd y Cyngor ysgrifennu ar ran y Cyngor at ein AS ac AoS lleol yn gofyn iddynt gefnogi ymgyrch 'Boys Need Bins' elusen Prostate Cancer UK a gofyn i’r amryw Lywodraethau edrych i ddiweddaru unrhyw reoliadau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod 'dulliau addas ar gyfer gwaredu rhwymynnau iechydol' yn cael eu darparu ym mhob toiled.

 

9b

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sirol Richard John

Mae'r Cyngor hwn:

Yn nodi ymgynghoriad Cam 2 Llywodraeth Cymru ar Dreth Gyngor Decach

Yn cydnabod yr effaith andwyol y byddai opsiynau 2 a 3 Llywodraeth Cymru yn ei chael ar deuluoedd Sir Fynwy, gyda chynnydd o hyd at 16% yn nhreth y cyngor

Yn gofyn i'r Arweinydd ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwrthwynebu unrhyw newidiadau i'r dreth gyngor sy'n effeithio'n anghymesur ar drigolion Sir Fynwy.

 

10.

Cwestiynau'r Aelodau

10a

O'r Cynghorydd Sirol Louise Brown i'r Cynghorydd Sirol Paul Griffiths, Aelod Cabinet dros Economi Gynaliadwy.

Yn dilyn y cynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor ar gylchfan High Beech ar y 23ain Mehefin 2022, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am y cynnydd sy'n cael ei wneud i wella problemau tagfeydd traffig cylchfan High Beech?

 

10b

O'r Cynghorydd Sirol Louise Brown i'r Cynghorydd Sirol Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a'r Amgylchedd

Pa ystyriaeth y mae'r Aelod Cabinet wedi'i rhoi i ymestyn y cyfnod ymgynghori ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Lleol?

 

11.

Dyddiad y cyfarfod nesaf - 18fed Ionawr 2023