Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 16eg Mai, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd datganiadau o fuddiant.

 

2.

Ethol Cadeirydd y Cyngor am Flwyddyn Ddinesig 2024/25

Cofnodion:

Agorodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Sir Meirion Howells y cyfarfod a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i’r Cyngor am y gyfle i gynrychioli’r Cyngor a thynnodd sylw at nifer o ddigwyddiadau a fynychwyd yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

 

Manteisiodd Arweinwyr Grwpiau ar y cyfle i annerch y Cyngor gan fynegi diolch i’r Cyngor Sir Howells am ei flwyddyn yn y swydd fel Cadeirydd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Mary Ann Brocklesby ac eiliodd y Cynghorydd Sir Paul Griffiths bod y Cynghorydd Sir Su McConnell yn cael ei hethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2024/25.

 

Pan roddwyd y mater i bleidlais, cytunwyd ethol y Cynghorydd Sir Su McConnell yn Gadeirydd. Gwnaeth a llofnododd y Cynghorydd Sir McConnell y Datganiad Derbyn Swydd a diolchodd i Aelodau am eu cefnogaeth. Diolchodd i’r Cyngor am y cyfle a chyflwynodd Roger Harris fel ei chydweddog ar gyfer y flwyddyn yn y swydd.

 

3.

Penodi Is-gadeirydd y Cyngor am Flwyddyn Ddinesig 2024/25

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Paul Griffiths ac eiliodd y Cynghorydd Sir Mary Ann Brocklesby bod y Cynghorydd Sir Peter Strong yn cael ei benodi’n Is-gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2024/25.

 

Pan roddwyd y mater i’r bleidlais penderfynwyd penodi’r Cynghorydd Sir Peter Strong fel Is-gadeirydd. Gwnaeth a llofnododd y Cynghorydd Sir Strong y Datganiad Derbyn Swydd. Diolchodd i’r Cyngor am eu cefnogaeth a chyflwynodd y Cynghorydd Sir Jackie Strong fel ei gydweddog am y flwyddyn.

 

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2024 pdf icon PDF 475 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2024.

 

5.

Ethol Arweinydd y Cyngor Sir a derbyn hysbysiad o ddirprwyadau yr Arweinydd (penodiadau i'r Cabinet)

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Sir Maria Stevens y Cynghorydd Sir Mary Ann Brocklesby fel Arweinydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2024/25. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir John Crook.

 

Nid oedd enwebiadau pellach a phan roddwyd y mater i bleidlais cafodd y Cynghorydd Sir Mary Ann Brocklesby ei phenodi yn Arweinydd.

 

Cyhoeddwyd mai penodiadau i’r Cabinet oedd:

· Cynghorydd Sir Paul Griffiths – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Economi a Bywyd Cynaliadwy

· Cynghorydd Sir Ben Callard – Aelod Cabinet dros Adnoddau

· Cynghorydd Martyn Groucutt – Aelod Cabinet dros Addysg.

· Cynghorydd Sir Ian Chandler – Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch

· Cynghorydd Sir Catrin Maby – Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

· Cynghorydd Sir Angela Sandles – Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu

 

https://www.youtube.com/live/YrqGJZgQOOw?si=LOuBgZOZmq5S98U3&t=173

 

 

https://www.youtube.com/live/YrqGJZgQOOw?si=LOuBgZOZmq5S98U3&t=173

 

6.

CYNRYCHIOLAETH GRWPIAU GWLEIDYDDOL - ADOLYGIAD pdf icon PDF 275 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu yr adroddiad er mwyn i’r Cyngor adolygu cynrychiolaeth gwahanol grwpiau gwleidyddol ar y cyrff y mae’r Cyngor yn gwneud apwyntiadau iddynt.

 

Penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r adroddiad fel adolygiad dan Adran 15 Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac i ddyrannu pwyllgorau cyffredin gyda’r niferoedd a ddangosir isod yn cynrychioli cydbwysedd gwleidyddol.

 

Pwyllgor

Llafur

Cymru

Ceidwadwyr

Cymreig

Gr?p Annibynnol

Gr?p Annibynnol Gwyrdd

Craffu (x4) (9)

16

15

3

2

Trwyddedu a Rheoleiddio (12)

6

5

1

0

Cynllunio (16)

8

6

1

1

Gwasanaethau Democrataidd (12)

6

4

1

1

Llywodraethiant ac Archwilio  (8) (ac eithrio aelodau lleyg)

4

3

1

0

Hawl Cronnus (84)

40

33

7

4

 

https://www.youtube.com/live/YrqGJZgQOOw?si=NWuxGGc-FKq3xBcx&t=1502

 

 

7.

Penodiadau i Bwyllgorau pdf icon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu yr adroddiad er mwyn penodi pwyllgorau ynghyd â’u haelodaeth a’r cylchoedd gorchwyl yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.

 

Penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:

 

Bod y pwyllgorau yn cael eu penodi ynghyd â’u haelodaeth fel a nodir yn yr adroddiad, a’u cylchoedd gorchwyl a atodir fel apwyntiadau.

 

Penododd y Cyngor y Cynghorydd Sir David Jones fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

https://www.youtube.com/live/YrqGJZgQOOw?si=eslRRgcV-BrQFYqe&t=1605

 

 

8.

Penodiadau i Gyrff Allanol pdf icon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelodau Cabinet yr adroddiad i’r Cyngor i benodi cynrychiolwyr i wasanaethu ar gyrff allanol.

 

Penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:

 

Bod y Cyngor yn nodi’r penodiadau a wnaed yn ei CCB 2024 ar gyfer tymor y Cyngor ac yn cadarnhau neu ddiwygio’r apwyntiadau sydd angen eu hadnewyddu’n flynyddol yn ogystal â chadarnhau penodiadau i swyddi newydd.

 

https://www.youtube.com/live/YrqGJZgQOOw?si=N59UGO0kZoE33NqS&t=1777

 

 

9.

PWYLLGOR SAFONAU - PENODI AELODAU ANNIBYNNOL pdf icon PDF 203 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu yr adroddiad i benodi dau aelod annibynnol i Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

 

Penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:

 

Bod y Cyngor yn penodi Andrew Blackmore a Ruth Price fel Aelodau Annibynnol o Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

 

https://www.youtube.com/live/YrqGJZgQOOw?si=SchnosgAF8VmyD2S&t=2113

 

10.

Cwestiynau Aelodau:

11.

Gan y Cynghorydd Sir Lisa Dymock i'r Cynghorydd Sir Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg

A all yr aelod cabinet dros addysg roi diweddariad ar y cynlluniau i ymestyn Ysgol Gynradd yr Archesgob Rowan Williams a phryd fydd cyllid A106 yn dod ar gael ar gyfer datblygiad Heol yr Eglwys?

 

 

Cofnodion:

A all yr aelod cabinet dros addysg roi diweddariad ar y cynlluniau i ymestyn Ysgol Gynradd yr Archesgob Rowan Williams a phryd fydd cyllid A106 yn dod ar gael ar gyfer datblygiad Heol yr Eglwys?

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet nad yw Ysgol Gynradd yr Archesgob Rowan Williams yn ysgol a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol a’i bod yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru a gynorthwyir yn wirfoddol, ac felly mai Ymddiriedolaeth Esgobaeth Mynwy yw perchennog yr adeiladau. I sicrhau y caiff y bartneriaeth ei datblygu’n briodol, mae swyddogion wedi cwrdd gyda Phennaeth yr ysgol, Cadeirydd y Llywodraethwyr a’r Ymddiriedolaeth Esgobaethol i drafod cyllid Adran 106 a gofynnwyd i Gyngor Sir Fynwy fynd â’r prosiect ymlaen ar eu rhan.

 

Cadarnhawyd y penodwyd penseiri i wneud prif gynllun o’r safle ac i roi opsiynau i gynyddu capasiti yr ysgol a darparu llety ar gyfer meithrinfa nas cynhelir a gofal plant cofleidiol. Caiff y gwaith hwn ei gwblhau o fewn y tri mis nesaf.

 

Nodwyd, er y derbyniwyd cyllid Adran 106 Heol yr Eglwys, y caiff cyllid Heol Crug ei dderbyn fel a phan y caiff tai eu gwerthu yn unol â’r cytundeb Adran 106.

 

https://www.youtube.com/live/YrqGJZgQOOw?si=r1w7cNd3i0ao1y5b

 

12.

Gan y Cynghorydd Sir Lisa Dymock i'r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

A all yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd roi diweddariad ar pryd y caff Heol Crug (o’r B4245 i’r Brif Heol Porthysgewid) ei chodi i safon ddigonol a diogel ar gyfer defnyddwyr ffyrdd?

 

Cofnodion:

A all yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd roi diweddariad ar pryd y caff Heol Crug (o’r B4245 i’r Brif Heol Porthysgewid) ei chodi i safon ddigonol a diogel ar gyfer defnyddwyr ffyrdd?

 

Ymddiheurodd yr Aelod Cabinet na chafodd y broblem ei datrys. Esboniwyd y caiff Heol Crug ei harchwilio bob tri mis ac y codid unrhyw bryderon yn ymwneud â diogelwch ond yn anffodus nid oedd rhoi wyneb newydd yn uchel ar y rhestr o flaenoriaethau wyneb newydd ar hyn o bryd.

 

Cafodd cyllid ychwanegol ei neilltuo ar gyfer priffyrdd i fynd i’r afael â chynllunio clytio bach.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai’n codi’r mater gyda swyddogion.

 

Mewn ymateb croesawodd y Cynghorydd Sir Dymock sgyrsiau pellach am y defnydd o Heol Crug.

 

https://www.youtube.com/live/YrqGJZgQOOw?si=NFv0Ch3wixhdCXog&t=2390

 

13.

Gan y Cynghorydd Sir Richard John i'r Cynghorydd Sir Mary Ann Brocklesby, Arweinydd y Cyngor

Pa gyngor cyfreithol gafodd y cabinet ers cyfarfod diwethaf y cyngor am dendr y weinyddiaeth ar gyfer cynnyrch llaeth?

 

Cofnodion:

Pa gyngor cyfreithiol gafodd y cabinet ers cyfarfod diwethaf y cyngor am dendr y weinyddiaeth ar gyfer cynnyrch llaeth?

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd y gofynnwyd am gyngor cyfreithiol a’r cyngor a gafwyd oedd bod y Cyngor wedi gweithredu’n briodol ac yn gyfreithlon. Cyfeiriodd at y cynnig a basiwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor Llawn a bwriad y weinyddiaeth i adolygu’r cyflenwad llaeth a chynnyrch llaeth ac i gynnal caffaeliad ar wahân i Fframwaith Cymru Gyfan, gyda’r amcan o gyflawni mwy o gynaliadwyedd lleol a datgarboneiddio.

 

Fel cwestiwn atodol, cyfeiriodd y Cynghorydd Sir John at gamgymeriadau a wnaed yn y dogfennau tendrau gwreiddiol a gofynnodd pa newidiadau a ddisgwylid i’r dogfennau tendro hynny a fyddai’n cael eu rhannu gyda darpar gynigwyr ar gyfer y contract.

 

Atgoffodd yr Arweinydd y Cyngor fod y Fframwaith Cymru Gyfan ar gyfer caffael bwyd yn cael ei gydlynu gan Gyngor Fwrdeistref Sirol Caerffili ac y bu’r tendr yn gyffredinol ac yn cynnwys pob ysgol bosibl.

 

https://www.youtube.com/live/YrqGJZgQOOw?si=taCJdZGtgnK121Wv&t=2580

 

 

14.

Gan y Cynghorydd Sir Jane Lucas i'r Cynghorydd Sir Paul Griffiths, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Dirprwy Arweinydd Datblygu Economaidd

Pa drafodaethau a gafodd yr aelod cabinet gyda grwpiau busnes lleol am barcio am ddim yn Nhrefynwy?

 

Cofnodion:

Pa drafodaethau a gafodd yr aelod cabinet gyda grwpiau busnes lleol am barcio am ddim yn Nhrefynwy?

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet iddo gael cyfarfodydd rheolaidd gyda chynrychiolwyr busnes pob tref. Cafodd heriau a chyfleoedd eu trafod yn y cyfarfod diwethaf ar 19 Mawrth 2024. Yn y cyfarfod hwnnw roedd yr Aelod Cabinet wedi cyhoeddi y cynhelid adolygiad o gostau parcio ar draws y Sir. Nid oedd unrhyw atgof am unrhyw gynnig penodol yn y cyfarfod hwnnw am barcio am ddim yn Nhrefynwy.

 

Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Sir Lucas i’r Aelod Cabinet fynychu cyfarfod cyhoeddus i drafod pryderon yn uniongyrchol, a chytunodd i hynny.

 

https://www.youtube.com/live/YrqGJZgQOOw?si=5HEe8sB4f3N1ibk_&t=2848

 

15.

Gan y Cynghorydd Sir Tomos Davies i'r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

Gofyn i’r Aelod Cabinet gadarnhau cyfanswm nifer yr achosion tipio anghyfreithlon a gofnodwyd yn y flwyddyn ddiwethaf a nifer yr erlyniadau llwyddiannus. 

 

Cofnodion:

Gofyni’r Aelod Cabinet gadarnhau cyfanswm nifer yr achosion tipio anghyfreithlon a gofnodwyd yn y flwyddyn ddiwethaf a nifer yr erlyniadau llwyddiannus. 

 

Atebodd yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu y bu 633 digwyddiad yn ystod y flwyddyn 2023-24, a gymerodd 4.8 diwrnod i’w clirio ar gyfartaledd. Mae’r ffigur hwn yn cynnwys y digwyddiadau mwy, anos eu cyrraedd a’r rhai sydd angen gwasanaethau arbenigol. Yr amser ymateb arferol yw 1 diwrnod.

 

Yn ystod y cyfnod hwn cyhoeddwyd un hysbysiad cosb sefydlog ac mae nifer o ymchwiliadau yn parhau.

 

Bwriedir cynnal gweithdy i Aelodau yn y dyfodol agos i drafod gorfodaeth ym meysydd tipio anghyfreithlon, sbwriel a baw c?n.

 

Fel cwestiwn atodol gofynnodd y Cynghorydd Davies i’r aelod Cabinet ymrwymo i ymchwilio os gallai Cyngor Sir Fynwy gymryd safiad mwy ymosodol i atal troseddwyr a gwarchod ein mannau cyhoeddus. Fe wnaeth hefyd wahodd yr Aelod Cabinet i edrych ar arfer gorau mewn awdurdodau cyfagos.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet bob Aelod i gymryd rhan yn y gweithdy a gynhelir.

 

https://www.youtube.com/live/YrqGJZgQOOw?si=pdLEIzBH-CRlOges&t=3180

 

 

16.

Gan y Cynghorydd Sir Tomos Davies i'r Cynghorydd Sir Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg

Gofyn i’r Aelod Cabinet roi diweddariad i rieni y 17 plentyn y gwrthodwyd lle iddynt yn Ysgol Gynradd Gilwern am sut mae’r awdurdod yn bwriadu cefnogi a darparu ar gyfer y disgyblion hyn.

 

Cofnodion:

To aGofyni’r Aelod Cabinet roi diweddariad i rieni y 17 plentyn y gwrthodwyd lle iddynt yn Ysgol Gynradd Gilwern am sut mae’r awdurdod yn bwriadu cefnogi a darparu ar gyfer y disgyblion hyn.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg gydymdeimlad gyda’r rhai a fethodd sicrhau ysgol dewis cyntaf ar gyfer eu plentyn.

 

Dywedodd fod Ysgol Gynradd Gilwern yn ysgol gyda 210 lle gyda 7 gr?p blwyddyn. Esboniodd:

·       Bod 17 o blant wedi methu cael lle yn y dosbarth derbyn

·       O’r 17 plentyn yma, bod 7 yn y dalgylch,

·       10 yn byw yn nalgylch ysgolion eraill o fewn clwstwr ysgolion y Fenni,

·       4 o’r 10 plentyn gyda chysylltiadau sibling at yr ysgol ond yn byw tu allan i’r dalgylch, ac yn unol â pholisi derbyn yr ysgol, mae gan blant o fewn y dalgylch flaenoriaeth dros y rhai allan o’r dalgylch ond gyda chysylltiadau sibling.

 

Mae swyddogion yn y tîm derbyn yn parhau i gefnogi’r 17 teulu ac wedi dynodi lleoedd ar gyfer pob plentyn mewn ysgolion eraill.

 

Cafodd pob un o’r 7 plentyn sy’n byw yn y dalgylch gynnig lle mewn dewis arall a nodwyd ar y ffurflen gais.

 

O’r pedwar plentyn gyda chysylltiadau sibling, cafodd 2 gynnig dewisiadau eraill, a chafodd 2 gynnig lle yn Ysgol 3-19 Brenin Harri VIII.

 

Ar gyfer rhai allan o’r dalgylch heb gysylltiadau sibling, o’r chwech ymgeisydd arall cafodd pedwar gynnig lle yn y dewisiadau eraill a chynigiwyd lle i 2 yn Ysgol 3-19 Brenin Harri VIII.

 

Croesawodd y Cadeirydd unrhyw fanylion pellach i’w rhoi mewn ysgrifen.

 

Fel cwestiwn atodol gofynnodd y Cynghorydd Sir Davies os y byddai’r Aelod Cabinet y rhoi llwybr cyflym i apeliadau i gael datrysiad prydlon a chau ar gyfer y teuluoedd cysylltiedig. Gofynnodd hefyd os y byddai’r Aelod Cabinet yn cwrdd gyda rhieni i drafod.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at y data gan y bwrdd iechyd sy’n dangos hon fel blwyddyn anarferol yn yr ysgol a’r unig flwyddyn lle mae cynnydd sydyn. Ni allai roi sicrwydd am apeliadau gan fod honno yn broses annibynnol ond rhoddodd sicrwydd y byddai’n ceisio sicrhau fod y panel apeliadau yn cael ei gynnull cyn gynted byth ag y bo modd.

 

https://www.youtube.com/live/YrqGJZgQOOw?si=2C_2Ab57q7MWw1ea&t=3440

 

 

https://www.youtube.com/live/YrqGJZgQOOw?si=2C_2Ab57q7MWw1ea&t=3440

 

 

 

17.

Gan y Cynghorydd Sir Tomos Davies i'r Cynghorydd Sir Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu

Gofyn i’r Aelod Cabinet roi diweddariad ar gynnig y Cyngor Sir i gynnal Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn y sir.

 

Cofnodion:

Gofyni’r Aelod Cabinet roi diweddariad ar gynnig y Cyngor Sir i gynnal Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn y sir.

 

Roedd yr Aelod Cabinet yn cydnabod llwyddiant Eisteddfod 2016 a dywedodd, ar ôl mynegi diddordeb i’r corff sy’n dyrannu’r safleoedd ar gyfer yr Eisteddfod, y cawsom ein hysbysu na fuom yn llwyddiannus yn ein datganiadau diddordeb i gynnal Eisteddfod yn y sir hyd at 2030. Fodd bynnag, cawsom ein hysbysu fod posibilrwydd cryf y gallwn gynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn gynnar yn y degawd nesaf. Mae’n debyg y bydd y panel yn gwneud penderfyniad terfynol y flwyddyn nesaf.

 

https://www.youtube.com/live/YrqGJZgQOOw?si=2IXlKx6XzLM_nd5H&t=4077

 

 

18.

Cwestiwn brys gan y Cynghorydd Sir Paul Pavia i'r Cynghorydd Sir Martyn Groucutt, Aelod Cabinet dros Addysg

A wnaiff yr Aelod Cabinet roi diewddariad ar ddatblygiad ysgol newydd Brenin Harri VIII?

 

Cofnodion:

A wnaiff yr Aelod Cabinet roi diweddariad ar ddatblygiad ysgol newydd Brenin Harri VIII?

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at y datganiad a wnaed i bob Cynghorydd ar 7 Mai 2024.

 

Fel cwestiwn atodol gofynnodd y Cynghorydd Pavia pa gamau a gymerir i sicrhau na fydd yr oedi ychwanegol yn cael effaith niweidiol ar gyrhaeddiad addysgol disgyblion yn Ysgol Brenin Harri VIII a hefyd Ysgol y Ffin. Pa fesurau gaiff eu rhoi ar waith i hwyluso pontio llyfn i’r cyfleusterau newydd a gwell?

 

Esboniodd Aelod Cabinet fod gan y contractwyr fwy o staffio ac y bu rhai mân newidiadau i’r dyluniad i roi mwy o gladin na brics. Y canlyniad cyffredinol yw oedi o bum mis i’r trosglwyddo, y dyddiad arfaethedig yw 17 Ebrill 2025, cyn gwyliau’r Pasg, a heb unrhyw gynnydd mewn costau.

 

https://www.youtube.com/live/YrqGJZgQOOw?si=tBVafWIhwk_kxjB2&t=4238

 

 

19.

Cyfarfod nesaf - 20 Mehefin 2024

Cofnodion:

Noted.