Agenda

Cyngor Sir - Dydd Iau, 10fed Ebrill, 2025 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

Cyhoeddiad y Cadeirydd pdf icon PDF 255 KB

4.

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6ed Mawrth 2025 pdf icon PDF 904 KB

5.

Cwestiynau Cyhoeddus

5a

Cwestiwn a gyflwynwyd gan Anne Lynch

'Mae llais a rheolaeth - sy'n rhoi'r unigolyn a'i anghenion wrth wraidd ei ofal ac yn rhoi llais iddo, a rheolaeth dros gyrraedd y canlyniadau sy'n ei helpu i gyflawni lles - yn un o egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

O ystyried nifer y bobl - defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a'u gofalwyr - sydd wedi llofnodi ein deiseb, yn gofyn i ofal yn Ne Sir Fynwy aros gyda darparwyr lleol rhagorol, adnabyddus, a fyddai Cyngor Sir Fynwy yn cydnabod llais y llofnodwyr hyn ac yn galluogi defnyddwyr gwasanaeth i barhau i dderbyn gofal gan y gofalwyr lleol hysbys y maent yn ymddiried ynddynt?'

 

5b

Cwestiwn a gyflwynwyd gan Jane Moore

Mae 93% o weithlu Lougher wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y broses TUPE ac wedi dewis ymddeol neu chwilio am gyflogaeth arall i ffwrdd o faes gofal os na allant aros yn eu swydd bresennol gyda chwmni sy'n buddsoddi mewn staff lleol, defnyddwyr gwasanaethau lleol a'r gymuned leol.

 

A yw'r Cyngor wedi gwerthuso canlyniad y golled hon i'r gweithlu gofal a'r gymuned a pha fesurau y mae'r Cyngor yn eu gweithredu i leihau effaith negyddol y penderfyniad hwn ar y gymuned leol sy'n agored i niwed?

 

5c

Cwestiwn a gyflwynwyd gan Joseph Taplin

A yw'r Cyngor wedi cynnal asesiad effaith llawn - cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd - ar yr hyn y byddai colli Camlas Sir Fynwy a Vrycheiniog yn ei olygu i'n cymunedau, ac os na, pryd y bydd yn ymrwymo i wneud hynny?

 

6.

Adroddiadau i'r Cyngor

6a

Adolygiad o'r Cyfansoddiad pdf icon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

6b

Adolygiad Cyflog Uwch Arweinyddwyr pdf icon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.

Cynigion Cynghorwyr:

7a

Cyflwynwyd gan Gynghorydd Sir Jan Butler

Bod y cyngor hwn yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn ei wneud i economi Sir Fynwy.

 

Yn cydnabod bod iechyd a gweithrediad parhaus y gamlas yn hanfodol i lesiant ein trigolion a bod sicrhau ei dyfodol yn hanfodol i'r cymunedau sy'n ffynnu ar hyd ei llwybr.

 

Yn ei gwneud yn ofynnol i Arweinydd y Cyngor gynnull cyfarfod ar frys o'r holl sefydliadau allweddol i drafod datrysiad ac yn sicrhau bod pob Cynghorydd, gan gynnwys aelodau'r ward yr effeithir arnynt, yn cael gwybod am y datblygiadau.

 

7b

Cyflwynwyd gan Gynghorydd Sir Lisa Dymock

Mae'r Cyngor hwn:

 

Yn nodi ymrwymiad y weinyddiaeth yn y Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol i strategaeth gaffael gymdeithasol gyfrifol i hyrwyddo nwyddau a gwasanaethau a geir yn lleol.

 

 

Yn galw ar y weinyddiaeth i gynnal adolygiad llawn a thryloyw o'i phrosesau caffael er mwyn sicrhau maes chwarae teg i fusnesau bach a lleol.

 

 

 

 

8.

Cwestiynau'r Aelodau:

8a

O'r Cynghorydd Sir Tomos Davies i'r Cynghorydd Sir Sarah Burch, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth

Diweddariad ar Gynllun Teithio Egnïol yr awdurdod, gan gynnwys datblygu pont gerddwyr Llan-ffwyst.

 

 

8b

O'r Cynghorydd Sir Tomos Davies i'r Cynghorydd Sir Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu

I gadarnhau nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd ledled Sir Fynwy yn ystod y deuddeg mis diwethaf, gan gynnwys achosion o gerbydau oddi ar y ffordd.

 

 

8c

O'r Cynghorydd Sir Tomos Davies i'r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

To confirm the number of fixed penalty notices issued for littering and fly tipping offences for the financial year 2024/25.

 

8d

O'r Cynghorydd Sir Jackie Strong i'r Cynghorydd Sir Sarah Burch, Aelod y Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth

A all yr aelod o'r Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at ddatblygu Strategaeth Ddiwylliannol ar gyfer Sir Fynwy?

 

 

8e

O'r Cynghorydd Sir Jayne McKenna i'r Cynghorydd Sir Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu

Sut mae'r Cyngor yn gweithio gyda Heddlu Gwent a Thirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy i atal difrod i draciau a llwybrau?

 

8f

O'r Cynghorydd Sir Jayne McKenna i'r Cynghorydd Sir Sarah Burch, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth

Sut mae'r Cyngor yn sicrhau gwerth i drethdalwyr wrth gyflawni polisïau effeithiol i fynd i'r afael â digartrefedd?

 

8g

O'r Cynghorydd Sir Tudor Thomas i'r Cynghorydd Sir Sarah Burch, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth

Mae Ymddiriedolaeth y Gamlesi a'r Afonydd wedi mynegi pryder y bydd cyfyngiadau newydd a osodir ar ei gallu i echdynnu d?r o Afon Wysg yn golygu y gallai camlas Sir Fynwy a Brycheiniog fod ar gau yn ystod misoedd yr haf, sef y misoedd brig i dwristiaeth Cymru wrth gwrs. ??Mae'r Gamlas yn atyniad twristiaeth mawr i ymwelwyr yn ogystal â'i gwerth i drigolion ac i fywyd gwyllt. Pa gamau fydd y weinyddiaeth yn eu cymryd i gefnogi'r busnesau twristiaeth a hamdden a allai gael eu heffeithio?

 

8h

O'r Cynghorydd Sir Rachel Buckler i'r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

Mae Cyngor Sir Fynwy yn derbyn adroddiadau rheolaidd am bontydd sydd angen eu hatgyweirio gan drigolion a chynghorwyr cymuned, ond mae pontydd wedi'u difrodi ac yn pydru, gyda llawer o bontydd mewn cyflwr peryglus. Mae'r pontydd hyn yn hanfodol i gysylltedd cymunedau yn Sir Fynwy wledig mewn ardaloedd fel Llangwm a'r cyffiniau. Beth all yr Aelod Cabinet ei wneud i sicrhau bod y rhwydweithiau ffyrdd hanfodol hyn yn cael eu cadw ar agor ac nad yw'r strwythurau hanesyddol arwyddocaol hyn mewn perygl o ddiflannu am byth?

 

8i

O'r Cynghorydd Sir Rachel Buckler i'r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd

Mae cyflwr atgyweirio ffyrdd yn Sir Fynwy i’w weld ar bwynt argyfyngus. Anaml y mae adroddiadau rheolaidd gan Gynghorwyr Cymuned a thrigolion yn Ward Dyfawden yn arwain at lenwi tyllau yn y ffordd, clirio ceuffosydd a chadw rhigolau ar agor. Os caiff tyllau eu llenwi maent yn para am gwpl o wythnosau ac yna mae’r ffyrdd yn ôl i’r dechrau. Mae’r ffordd o Groesffordd Nantygelli i Lan-soe yn ward Dyfawden rwy’n ei chynrychioli yn enghraifft dda. Cyn bo hir, ni fydd hyd yn oed merlen a thrap yn gallu ei lywio. Beth fydd yr Aelod Cabinet yn ei wneud i newid cyfeiriad y trywydd trist hwn?