Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Cwestiynau Cyhoeddus PDF 322 KB Cofnodion: Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Matt Sidwell o Gyngor Cymuned Matharn i gyflwyno cwestiwn i'r Cyngor Sir mewn perthynas â'r toriadau arfaethedig yn y gyllideb ar gyfer Cludiant Ysgol.
Mae disgwyl i blant mor ifanc â 4 oed gerdded am awr bob ffordd o Fathern i’w hysgol, ar hyd cefnffordd brysur lle nad yw lled y llwybr troed yn caniatáu i 2 berson gerdded ochr yn ochr er diogelwch, a heb fannau croesi diogel ar yr A48, sy’n ymddangos yn beryglus ac yn anymarferol.
Gallai rhwystrau i gludiant ysgol arwain at 25 o gerbydau ychwanegol ar bob taith ar allt Pwllmeyric a chylchfan Larkfield, 2 fan cyfyng sydd eisoes yn llawn tagfeydd ar gyfer Cas-gwent, gan arwain at gynnydd sylweddol mewn tagfeydd a llygredd i dref sydd eisoes wedi’i llethu gan broblemau o’r fath.
Sut mae CSF yn bwriadu rheoli eu rhwymedigaethau iechyd a diogelwch, canllawiau effaith amgylcheddol, ac amddiffyn teuluoedd sydd eisoes yn cael trafferth gyda'r argyfyngau costau byw presennol a biliau cynyddol?
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sir Martyn Groucutt, am asesiad a gynhaliwyd gan arbenigwyr diogelwch ffyrdd annibynnol cymwys ac os oes awgrym bod llwybr yn anniogel, bydd cludiant yn cael ei ddarparu am ddim. Aeth ymlaen i egluro, yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y gyllideb, yr edrychwyd ar dri pheth ynghylch cludiant o’r cartref i’r ysgol, sef:
Fel atodiad:
Gyda’r strategaeth ddatgarboneiddio yn cael ei rhoi ar waith, sut y mae hynny’n gweithio pan fydd plentyn pedair oed yn cerdded i fyny Meyrick Hill, sydd â thagfeydd i Gyffordd Matharn, am 45 munud, ac yn anadlu allyriadau gwenwynig o draffig trwm llonydd.
Ailadroddodd yr Aelod Cabinet fod asesiadau’n cael eu cynnal gan arbenigwyr diogelwch ffyrdd annibynnol ac os mai eu cyngor nhw oedd y byddai plentyn yn cael ei roi mewn perygl meddygol, byddem yn gwrando ar y cyngor a byddai hynny’n faes o ddisgresiwn.
|
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd PDF 322 KB Cofnodion: Wedi ei nodi.
Arweiniodd y Cynghorydd Sir Simon Howarth funud o dawelwch mewn perthynas â’r rhai yn Syria a Thwrci a effeithiwyd gan y daeargryn diweddar.
|
|
Cyflwyniad gan Gyngor Ieuenctid Cyngor Sir Fynwy Cofnodion: Croesawodd a chyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol a Gweithgar ddau aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Fynwy a oedd yn bresennol i gyflwyno canlyniadau arolwg blynyddol o bobl ifanc ar draws y Sir o’r enw ‘Make Your Mark’, a chafwyd dros 2000 o ymatebion.
Yn dilyn y cyflwyniad, roedd Aelodau'r Cyngor Ieuenctid yn gobeithio cydweithio gyda'r Cyngor Sir i hyrwyddo'r testunau a amlygwyd. Gofynnwyd i'r Aelodau ddefnyddio'r canlyniadau i lunio a datblygu gwasanaethau; gwneud cais am arian a'i ddyrannu; rhannu’r canfyddiadau gyda phobl berthnasol a allai helpu i ymgysylltu â phobl ifanc a chychwyn newid.
Llongyfarchwyd yr Aelodau Ieuenctid ar eu cyflwyniad a'u hannog i barhau â'u gwaith.
|
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19eg Ionawr 2023 PDF 380 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 19eg Ionawr 2023. |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2ail Mawrth 2023 PDF 139 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 2ail Mawrth 2023. Wrth wneud hynny, nodwyd na chofnodwyd bod y Cynghorydd Sir Rachel Buckler yn bresennol. |
|
Adroddiadau’r Cyngor: |
|
PENDERFYNIAD AR Y DRETH GYNGOR A CHYLLIDEBAU REFENIW A CHYFALAF AR GYFER 2023/24 PDF 511 KB Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad yn amlygu'r newidiadau arfaethedig i'r gyllideb refeniw sydd wedi'u hymgorffori ers cyflwyno'r gyllideb i'r Cyngor ar 2ail Mawrth (atodiad 4).
Cynigiodd y Cynghorydd Sir y gwelliant canlynol:
Bod y gyllideb refeniw yn cael ei diwygio i gynnwys £49K pellach i gadw'r swydd 0.6 yn y tîm Seicoleg Addysgol yn ychwanegol at y darpariaethau yn yr atodiad a ddarparwyd heddiw.
Roedd cynigion y gyllideb yn awgrymu y byddai gyfwerth ag un swydd amser llawn yn cael ei ganfod o’r grant ADY a gadarnhawyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae'r system ADY newydd yn ehangu rôl y tîm Seicoleg Addysgol i gynnwys plant a phobl ifanc 0-3 oed ac 16-25 oed. Mae’r Cod ADY yn cyfeirio at rôl y Seicolegydd Addysgol drwy gydol y broses ADY gyfan gyda chyfrifoldebau ymgynghorol ac ymyraethol eang. Credwyd nad oedd cynigion y gyllideb bresennol yn cydnabod cyfrifoldebau ychwanegol yr Awdurdod Addysg Lleol o fewn y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018 newydd a’r Cod perthnasol.
Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Simon Howarth.
Gwrthwynebodd yr Aelod Cabinet Addysg y gwelliant, gan ddweud y byddai’n effeithio ar y rhai sy’n cefnogi anghenion addysg gyfoes.
Roedd y Cynghorydd Sir Richard John yn cydnabod bod y gwelliant wedi'i gyflwyno er lles y trigolion. Croesawodd symud tuag at wasanaeth cynhwysiant mwy integredig ac ystyriodd fod y gwelliant yn gais cymedrol; fodd bynnag roedd yn fwriad gan Gr?p y Ceidwadwyr i ymatal.
Yn dilyn pleidlais, trechwyd y gwelliant a pharhaodd y ddadl.
Nodwyd pryderon a mynegiadau o siom.
Nodwyd pwysigrwydd Cerddoriaeth Gwent.
Roedd pryderon na allai'r gyllideb priffyrdd fynd i'r afael â'r broblem o dyllau yn y ffordd ar draws y Sir.
Anogwyd y Weinyddiaeth i ofyn i Lywodraeth Cymru i roi sylw i'r cyllid y pen.
Roedd y sefyllfa wrth gefn yn bryder enfawr.
Roedd yr effeithiau ar ddarparu gofal cymdeithasol yn ddifrifol.
Yn dilyn pleidlais, pleidleisiwyd o blaid yr argymhellion fel y'u nodwyd yn yr adroddiad (7.1).
|
|
PREMIYMAU’R DRETH GYNGOR AR GYFER EIDDO SY’N WAG YN Y TYMOR HIR AC AIL GARTREFI PDF 177 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Adnoddau yr adroddiad er mwyn i’r Cyngor ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ynghylch premiymau’r dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi. Roedd yn ofynnol i’r Cyngor ystyried y cynigion dilynol i gyflwyno premiymau treth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi o 1af Ebrill 2024.
Roedd pryderon ynghylch yr ymateb i’r ymgynghoriad gan fod tua 400 o gartrefi wedi’u nodi, ac o’r 320 o ymatebion, dim ond 29 oedd yn un o’r 400.
Mewn ymateb i sylwadau ar ohirio'r cynnig, dywedwyd y bu llawer o sgyrsiau gyda phreswylwyr a oedd yn awyddus i weld y mater yn cael ei ddatrys. Hefyd, sicrhawyd yr Aelodau na fyddai swyddogion CSF yn argymell y cynnig os nad oeddent yn sicr y byddai'r systemau cywir yn cael eu gweithredu.
Ar ôl cael pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:
Nodi'r ymatebion a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad fel y manylir yn yr adroddiad hwn.
Bod y Cyngor yn defnyddio ei bwerau dewisol i gyflwyno premiwm treth gyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor ar raddfa symudol o 100% i 300% yn weithredol o’r 1af Ebrill 2024. Gyda phremiwm o 100% yn berthnasol i eiddo sy'n wag am flwyddyn, 200% Premiwm i eiddo sy’n wag am 2 flynedd a phremiwm o 300% i eiddo sy’n wag am 3 blynedd neu fwy.
Bod y Cyngor yn defnyddio ei bwerau dewisol i gyflwyno premiwm treth gyngor o 100% ar gyfer ail gartrefi o’r 1af Ebrill 2024 ac y bydd yn rhoi ystyriaeth bellach i’r effaith ar yr economi leol cyn defnyddio’r p?er hwnnw.
Bod y Cyngor yn nodi'r adborth a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg y manylir arno yn adran 13 ac yn cytuno i'r pwyntiau o sylwedd a godwyd, fel rhan o'r paratoadau ehangach ar gyfer cyflwyno premiymau'r dreth gyngor. |
|
Strategaeth Cyfalaf 2023/24 a Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2023/24 PDF 552 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Adnoddau yr adroddiad er mwyn i’r Cyngor gymeradwyo’r strategaethau rheoli Cyfalaf a Thrysorlys gan gynnwys y polisi darpariaeth isafswm refeniw a strategaethau benthyca a buddsoddi ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24. Roedd yr adroddiad yn crynhoi ac yn amlygu'r meysydd allweddol yn ymwneud â'r strategaethau, ynghyd â meysydd o oblygiadau allweddol a risgiau sy'n deillio ohono.
Gadawodd y Cynghorydd Sir Frances Taylor y cyfarfod am 17:38pm
Ar ôl cael pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:
Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2023/24 fel y gwelir yn Atodiad 1.
Bod y Cyngor yn cymeradwyo strategaeth rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24 fel y gwelir yn Atodiad 2, gan gynnwys: • Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw 2023/24 • Strategaethau Buddsoddi a Benthyca 2023/24
Cymeradwyo'r Dangosyddion Darbodus fel yr amlinellwyd drwy'r strategaethau ac a grynhoir yn Atodiad 3 a ddefnyddir i fonitro perfformiad swyddogaeth y trysorlys yn ystod 2023/24.
Bod y Cyngor yn derbyn cadarnhad bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi adolygu Strategaethau drafft 2023/24 ac wedi hynny wedi'u cymeradwyo i'r Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 16eg Chwefror 2023, a darparu'r adborth fel y nodir ym mharagraff 5 yr adroddiad hwn.
Bod y Cyngor yn cytuno y dylai'r Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit yn parhau i adolygu gweithgareddau Trysorlys y Cyngor ar gyfer 2023/24 ar ran y Cyngor drwy dderbyn ac ystyried adroddiadau diweddaru trysorlys chwarterol ac adroddiad diwedd blwyddyn. |
|
CYHOEDDI’R DATGANIAD AR BOLISI TÂL FEL SYDD EI ANGEN GAN Y DDEDDF LLEOLIAETH PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Adnoddau yr adroddiad er mwyn i’r Cyngor gymeradwyo cyhoeddi Polisi Tâl Cyngor Sir Fynwy, yn unol â’r Ddeddf Lleoliaeth.
Ar ôl cael pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:
Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Polisi Tâl ar gyfer y flwyddyn 1af Ebrill 2023 i 31ain Mawrth 2024. |
|
Cyfarfod Nesaf – 20fed Ebrill 2023 Cofnodion: Wedi ei nodi.
|