Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Penodiad i rôl Swyddog Monitro / Pennaeth Cyfreithiol Cofnodion: Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau am eu presenoldeb ac eglurodd mai diben y sesiwn oedd penodi Swyddog Monitro. Trafodwyd newidiadau strwythurol yng nghyfarfod y Cabinet cyn y cyfarfod, ac fe’i hystyrid yn amser priodol i wneud trefniadau parhaol am Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol.
Clywsom fod y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol cyfredol a’r Swyddog Monitro Dros Dro, Mr. R. Tranter, wedi bod drwy broses gyfweld drwy gydol y bore a’i fod nawr yn bresennol i’w gyfweld gan y Cyngor llawn.
Croesawyd yr ymgeisydd a roddodd gyflwyniad ac a gyfwelwyd gan y Cyngor. Gofynnwyd i’r ymgeisydd wedyn adael y siambr.
Amlinellodd y Prif Weithredwr yr adborth a dderbyniwyd. Argymhellodd Arweinydd y Cyngor ein bod yn cynnig y swydd i Mr. Tranter, ac eiliwyd hyn gan Arweinydd yr Wrthblaid. Cytunodd yr Aelodau’n unfrydol â’r argymhelliad.
Dychwelodd Mr. Tranter i’r cyfarfod, derbyniodd y penodiad, a llongyfarchwyd ef gan Aelodau a swyddogion.
|