Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Nid oedd cwestiynau oddi wrth aelodau’r cyhoedd.
|
|
Adroddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau. PDF 252 KB Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor a nodi adroddiad y Cadeirydd.
Ni chyflwynwyd unrhyw ddeisebau.
Cydnabu’r Cyngor y Faner Enfys wedi’i hanner-gostwng, a ystyrid yn briodol o gofio’r amgylchiadau yn Orlanda lle saethwyd a lladdwyd 50 o bobl mewn clwb nos. Mynegodd y Cadeirydd fod meddyliau diffuant y Cyngor gyda pherthnasau a ffrindiau’r rheiny oedd yn y trychineb. Cynhaliodd y Cyngor funud o dawelwch.
Cynghorodd y Cadeirydd fod nifer o bobl ar draws Sir Fynwy wedi’u hanrhydeddu yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, ac estynnodd longyfarchiadau i’r canlynol:
· Y Capten Gyrnol Andrew Tuggey, Is-Arglwydd Raglaw Gwent, a ddyfarnwyd y CBE; · Mr. J. Rowlands, a ddyfarnwyd y BEM am ei wasanaeth i Neuadd Goffa Hood; · Sarah Byford, a ddyfarnwyd yr MBE; · Mrs. Jane Hart, a ddyfarnwyd yr MBE.
Clywsom y newydd trist am yr Aelod Seneddol Llafur Jo Cox yr ymosodwyd arni, ac a gollodd ei bywyd yn hwyrach, yn Swydd Efrog. Talodd y Cyngor barch iddi mewn munud o dawelwch.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan Aelodau.
|
|
Cadarnhau a llofnodi cofnodion y dilynol: |
|
Dydd Mercher, 4 Mai 2016 - Cyfarfod Arbennig PDF 10 KB Cofnodion: Cofnodwyd, cafwyd yn gywir a llofnodwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 4ydd Mai 2016.
|
|
Dydd Mawrth, 10 Mai 2016 - Cyfarfod Blynyddol PDF 74 KB Cofnodion: Cofnodwyd, cafwyd yn gywir a llofnodwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10fed Mai 2016.
|
|
Dydd Iau, 12 Mai 2016 - Eitemau Gohiriedig PDF 181 KB Cofnodion: Cofnodwyd, cafwyd yn gywir a llofnodwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 12fed Mai 2016.
Wrth wneud hynny nodwyd y pwyntiau canlynol: Tynnodd yr Aelodau sylw at yr angen am gr?p gweithredu i’w gynnwys gyda’r agenda a phwysigrwydd gweithredoedd yn cael eu diweddaru.
Cywiriadau i eitem 19 - Cadarnhau’r ymateb ysgrifenedig i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr adran newydd arfaethedig ôl draffordd yr M4 ( copi ynghlwm) ac ystyried pa sylw pellach, os oes un, y dymunai Aelodau ei anfon i Lywodraeth Cymru. Gwahoddwyd Aelodau i gadarnhau’r ymateb ysgrifenedig i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.
Tudalen 15 - lle gwneir cyfeiriad at y gefnffordd, dylid nodi rhan o’r B4245 yng Ngwndy, sydd i fod i ddod yn gefnffordd.
Tudalen 15 – dylai cydgysylltu â llywodraeth Cymru gyfeirio’n benodol at fecanwaith cydgysylltu ffurfiol rhwng Swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Sir, ac nid eu contractwyr.
Mynegodd Aelod siom gyda chynnwys y llythyr a gyflwynwyd wedi’r ddadl, ynghyd â rhwystredigaeth na chafodd y llythyr ei gylchynu i’r holl Aelodau. Nid ystyrid ansawdd y llythyr yn foddhaol.
Mewn ymateb cynghorodd Aelodau’r Cabinet y byddai’r llythyr yn cael ei ail-ddrafftio.
Cywiriad i Dudalen 11 - Categori C - Cydbwyllgorau a Chwmnïau Awdurdod Lleol:
Dylai nodi: Gofynnodd Aelod iddo gael ei gofnodi y penodir dau aelod i Archwiliad y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a’r Pwyllgor Sicrhau Risg.
|
|
Derbyn cofnodion y dilynol: |
|
Cofnodion cyfarfod dydd Llun 21 Mawrth 2016 y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 146 KB Cofnodion: Derbyniasom, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 21ain Mawrth 2016.
|
|
Cofnodion cyfarfod dydd Iau 26 Mai 2016 y Pwyllgor Archwilio PDF 94 KB Cofnodion: Derbyniasom, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 26ain Mai 2016.
|
|
Hysbysiadau Cynnig Dim wedi'u derbyn Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw hysbysiadau cynnig gan Aelodau.
|
|
Adroddiadau Pennaeth Polisi ac Ymgysylltu: |
|
Diweddariad ar Raglen Adsefydlu Syriaid PDF 88 KB Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Cyngor ddiweddariad ar Raglen Adsefydlu Syriaid, y diben oedd:
· Rhoi diweddariad i’r Cyngor parthed y trefniadau ar gyfer rhan chyngor Sir Fynwy yn Rhaglen y Swyddfa Gartref ar Adsefydlu Syriaid.
Diolchwyd i’r Cynghorwyr Hacket Pain, Crook a Taylor am eu cyfraniad i’r rhaglen.
Yn ystod trafodaeth nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Byddai’n fuddiol hysbysu aelodau lleol o ffoaduriaid yn dod i’w hardal, er mwyn iddynt gadw llygad. · Nodwyd bod Aelodau’n falch i glywed bod swyddogion wedi cydnabod argymhellion a wnaed gan y gr?p gorchwyl a gorffen a’u bod wedi edrych tuag at awdurdodau eraill a oedd wedi derbyn ffoaduriaid dan y rhaglen adsefydlu ac i fudiadau ehangach y trydydd sector. Dymunodd yr Aelodau fynegi diolch i’r swyddogion am gymryd amser i ddilyn yr argymhellion hyn. Nodwyd bod cydweithwyr yn OXFAM wedi bod o gymorth sylweddol, yn arbennig parthed cefnogaeth benodol i ffoaduriaid benywaidd. · Nodwyd bod darparu Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn cyfeirio at y teulu cyfan ac nid plant yn cychwyn yn yr ysgol yn unig. · Mynegodd Aelod ddiolch i’r Cyngor am ysgwyddo’r rhaglen, ac ychwanegodd y bu cynrychiolaeth lawn, yn edrych ar bob posibiliad. · Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r gr?p ac awgrymodd y byddai Seminar Aelodau arall yn fuddiol, er mwyn rhoi manylion i bob Aelod. · Ni phenderfynwyd eto a fyddem yn cymryd rhan mewn cynllun plant amddifad.
Penderfynodd y Cyngor gytuno argymhellion o fewn yr adroddiad.
Bod y Cyngor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth baratoi at gyrhaeddiad y ffoaduriaid cyntaf o Syria yn haf 2016; a bod y gweithgor Aelodau/Swyddogion yn parhau i oruchwylio’r trefniadau ar gyfer yr adeg pan gyrhaeddant. |
|
Adroddiadau i'r Pennaeth Cynllunio: |
|
Mabwysiadu Cynllun diwygiedig Dirprwy Cynllunio PDF 274 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Cyngor gynnig i ddiwygio Cynllun Dirprwyo Cynllunio. Y diben oedd i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Dirprwyo Cynllunio diwygiedig.
Wrth ystyried yr adroddiad, nodwyd:
· Cyfeiriodd Aelod at ddirprwyo swyddogion i ymateb ar ran y Cyngor i geisiadau am drwydded gweithredwr Cerbydau Nwyddau Trwm. Roedd pryder ynghylch pobl heb fod yn ymwybodol o geisiadau o’r fath, a chredid ei bod yn bwysig bod pobl leol yn ymwybodol o’r mater hwn. Gofynnwyd i Aelodau ystyried yn ddwys bod ceisiadau o’r fath yn mynd i’r Cyngor. · Ystyriwyd newid i’r pwerau gorfodi fel un o’r rhannau mwyaf buddiol o’r Mesur Cynllunio, a dylid ei ddefnyddio’n llawn.
Penderfynasom gytuno’r argymhellion o fewn yr adroddiad.
· Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Dirprwyo Cynllunio diwygiedig ynghlwm wrth yr adroddiad, i’w fabwysiadu gan y Cyngor. · Bod Pennaeth Cynllunio’n cael ei awdurdodi i ddiweddaru’r dogfennau uchod yn y dyfodol parthed cywiriadau ffeithiol i deitlau swyddi.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2015-2016 PDF 257 KB Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Cyngor Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2015/16 a 2014/15.
Ar ran y Pwyllgor Archwilio, cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio’r adroddiad blynyddol yn cwmpasu 2014/2015 a 2015/2016 i’w ystyried gan y Cyngor.
Dangosodd yr adroddiad fod gwaith y Pwyllgor wedi bod yn werthfawr ac yn gynhyrchiol ac mae’n rhoi sicrwydd i’r Cyngor ynghylch gweithgarwch y Pwyllgor wrth reoli materion ariannol a materion eraill yn effeithiol gan yr Awdurdod.
Yn ystod trafodaeth nodwyd y canlynol:
· Gofynnwyd am eglurhad a oedd aelod lleyg y Pwyllgor Archwilio wedi’i gyfethol neu wedi’i benodi. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’n cynghori maes o law. · Cytunwyd, petai’r Pwyllgor Archwilio’n credu y byddai sefydlu is-bwyllgor yn cyfoethogi gwaith y pwyllgor, archwilid hyn wrth i’r angen godi. Ystyriodd Aelod y byddai’r is-gr?p yn drafodaeth bellach i geisio mwy o wybodaeth, a adroddid nôl i’r pwyllgor, a’i gofnodi fel arfer.
Penderfynasom dderbyn yr adroddiad.
|
|
Cwestiynau Aelodau: |
|
gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i'r Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain Faint o athrawon cymwys cyfwerth ag amser llawn oedd mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yn (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 a (iv) 2015? Cofnodion: Gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i’r Cynghorydd E.J. Hacket Pain:
Faint o athrawon cymwys cyfwerth oedd mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yn (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 a (iv) 2015?
Mewn ymateb, cyflwynodd y Cynghorydd Hacket Pain waith papur gyda’r ffigyrau y gwnaed cais amdanynt. Rhoddwyd manylion fel a ganlyn::
(i) 629 (ii) 636 (iii) 633 (iv) 608
|
|
gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i'r Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain Faint o staff cefnogaeth cyfwerth ag amser llawn oedd mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yn (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 a (iv) 2015? Cofnodion: Gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i’r Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain:
Faint o staff cymorth llawn amser cyfwerth oedd mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yn (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 a (iv) 2015?
Mewn ymateb, cyflwynodd y Cynghorydd Hacket Pain y ffigyrau canlynol:
(i) 522 (ii) 534 (iii) 543 (iv) 512
Fel cwestiwn atodol gofynnodd y Cynghorydd Batrouni a oeddem yn monitro’r ffigyrau hyn, ac os oeddem, pa mor aml?
Mewn ymateb eglurodd y Cynghorydd Hacket Pain fod ffigyrau’n cael eu monitro’n rheolaidd ond heb eu monitro yn y modd penodol y gofynnwyd amdanynt. Felly roedd tipyn o waith wedi’i neilltuo i ddarparu’r wybodaeth.
|
|
gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i'r Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain: Pa ganran o athrawon ysgol gymerodd absenoldeb salwch mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yn ystod (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 a (iv) 2015? Cofnodion: Gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i’r Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain:
Beth oedd canran yr athrawon ysgol a gymerodd absenoldeb oherwydd salwch mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yn ystod (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 a (iv) 2015?
Mewn ymateb eglurodd y Cynghorydd Hacket Pain y cyfrifid absenoldebau hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn, a darparodd y ffigyrau canlynol:
(i) 64% (ii) 57% (iii) 65% (iv) 59%
Roedd y ffigyrau hyn yn cael eu monitro’n rheolaidd a dynodwyd meysydd cymorth.
|
|
gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i'r Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain: Beth oedd cyfanswm nifer y dyddiau salwch a gymerodd athrawon mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yn ystod (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 a (iv) 2015? Cofnodion: Gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i’r Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain:
Beth oedd cyfanswm nifer y diwrnodau yn absennol oherwydd salwch a gymerwyd gan athrawon mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yn ystod (i) 2012, (ii) 2013, (iii) 2014 and (iv) 2015?
Mewn ymateb cyflwynodd y Cynghorydd Hacket Pain y ffigyrau canlynol:
(i) 5344 (ii) 4781 (iii) 4837 (iv) 4644
Nodwyd bod y ffigyrau’n rhedeg o Fedi i Fedi yn unol â’r flwyddyn academaidd.
|
|
gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i'r Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain: Beth oedd maint cyfartalog dosbarthiadau mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy ar Gyfnod Allweddol (i) 1, (ii) 2, (iii) 3, (iv) 4 a (v) 5? Cofnodion: Gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni i’r Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain:
Beth oedd cyfartaledd maint dosbarthiadau mewn ysgolion a gynhelir yn Sir Fynwy yng Nghyfnod Allweddol (i) 1, (ii) 2, (iii) 3, (iv) 4 a (v) 5?
Mewn ymateb cyflwynodd y Cynghorydd Hacket Pain y ffigyrau canlynol:
Cyfnod Allweddol 1
(i) 24 (ii) 25 (iii) 25 (iv) 26
Cyfnod Allweddol 2
(i) 26 (ii) 25 (iii) 26 (iv) 26
Cyfnod Allweddol 3
(i) 26 (ii) 26 (iii) 25 (iv) 26
Eglurodd y Cynghorydd Hacket Pain na ddarparwyd ffigyrau Cyfnod Allweddol 4, yn bennaf oherwydd bod llawer o amser swyddogion wedi’i dreulio i ddarparu’r ffigyrau, ac wrth gyrraedd Cyfnod Allweddol 4, gan edrych ar flynyddoedd TGAU a Lefel A, roedd ffigyrau penodol yn anodd dod o hyd iddynt.
Ychwanegodd y Cynghorydd Hacket Pain fod y ffigyrau wedi lefelu yn 2014 a 2015. Wrth edrych ar Gynllun Busnes y Gwasanaeth Cyflawni Addysg, o’u cymharu â’r rheiny yn ein consortiwm, roedd Sir Fynwy’n gyntaf ar draws y blynyddoedd hynny yn y cyfnod sylfaen gyda chynnydd o 5%. Roedd cyfnod Allweddol 2 yn 1af yn 2012 a 2013, 2il yn 2014 ac yn 1af yn 2015 gyda chynnydd o 6%. Cyfnod Allweddol 4,1af eto ar draws yr awdurdodau.
Gofynnodd y Cadeirydd i ystadegau’r GCA gael eu cylchynu i’r holl Aelodau.
Fel cwestiwn ategol, gofynnodd y Cynghorydd Batrouni am eglurhad na fyddai’n derbyn y wybodaeth y gofynnodd amdani ar gyfer Cyfnodau Allweddol 4 a 5. Eglurodd y Cynghorydd Hacket Pain y gellid dod o hyd i’r wybodaeth, ond parthed amser swyddogion, roedd pryder faint fyddai cost y cwestiwn i’r Cyngor.
|
|
ADRODDIAD EITHRIEDIG gan y Pennaeth Cynllunio: |
|
Tŷ Caerwent, Caerwent Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Cyngor adroddiad ar gynnydd y prosiect a chynnig gweithredu ynghylch y Gorchymyn Prynu Gorfodol parthed T? Caerwent.
Yn dilyn trafodaeth penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion yn yr adroddiad.
|