Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 19eg Ionawr, 2017 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Democratic Services 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Adroddiad y Cadeirydd ac unrhyw ddeisebau sydd wedi eu derbyn pdf icon PDF 158 KB

Cofnodion:

Wrth agor y cyfarfod, fe longyfarchodd y Cadeirydd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd P. Fox ar ennill OBE.  Roedd Arweinwyr y Grwpiau’n awyddus i ddweud llongyfarchiadau eto. Fe ychwanegodd y Cynghorydd S. Howarth y dylid hefyd llongyfarch holl drigolion Sir Fynwy a dderbyniodd wobr.

 

Derbyniodd y Cyngor adroddiad y Cadeirydd.

 

Nid oedd unrhyw ddeisebau.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan Aelodau.

 

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion ar gyfer y fforwm agored i’r cyhoedd.

 

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2016 pdf icon PDF 165 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Howarth am wybodaeth ar gynnydd y ddeiseb a gyflwynwyd i’r Cyngor ar 1 Rhagfyr. Fe gytunodd y Prif Weithredwr i fynd ar drywydd hyn.

 

6.

Nodi rhestr weithredu y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2016 pdf icon PDF 61 KB

Cofnodion:

Fe nododd y Cyngor restr camau gweithredu y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2016.

 

Wrth wneud hynny, fe fynegodd y Cynghorydd Taylor siom na fod yr Aelodau wedi derbyn y wybodaeth ddiweddaraf o ran y mater yn ymwneud â chontractau dim oriau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio.

 

Fe gynghorodd y Cadeirydd, yn rhinwedd ei rôl fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, bod rhagor o wybodaeth wedi cael ei darparu i’r Pwyllgor Archwilio ac roedd disgwyl y byddai’n cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. Byddai adroddiad dilynol yn cael ei darparu i’r Cyngor maes o law.

 

7.

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio:

7a

Pwyllgor Archwilio 17 Tachwedd 2016 pdf icon PDF 124 KB

Cofnodion:

Fe nodom gofnodion y Pwyllgor Archwilio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2016.

 

7b

Pwyllgor Archwilio 15 Rhagfyr 2016 pdf icon PDF 197 KB

Cofnodion:

Fe nodom gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2016.

 

Wrth wneud hynny, fe ofynnodd y Cynghorydd Taylor bod y cyngor yn ymwneud â’r derminoleg mewn perthynas â chontractau dim oriau yn cael ei anfon ymlaen at bob Aelod er mwyn esbonio’r datganiad na fod Cyngor Sir Fynwy yn defnyddio contractau dim oriau.

 

Mewn ymateb i hyn, fe ychwanegodd y Cynghorydd Murphy bod ymateb llawn a chynhwysfawr wedi cael ei darparu ac a fyddai hefyd yn cael ei darparu i’r Pwyllgor Archwilio.

 

Fe fynnodd y Cynghorydd Taylor bod angen sicrwydd, oherwydd nid oedd yr ymateb wedi ateb y cwestiwn sylfaenol o beth fyddai’r Pwyllgor Archwilio yn edrych ar er mwyn sicrhau bod defnydd y Cyngor o gontractau dros dro yn addas.

 

8.

Rhestr o Gynigion

8a

Cynnig gan y Cynghorydd Sir R.J.W. Greenland

Mae'r Cyngor hwn yn croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Ei Mawrhydi y caiff tollau ar gyfer Pontydd Hafren eu haneru yn 2018. Ymhellach rydym yn cefnogi dileu'r holl dollau ar gyfer y ddwy bont gyda chostau cynnal a chadw y dyfodol yn cael eu talu o gyllideb gyffredinol cynnal a chadw ffyrdd y Deyrnas Unedig.

 

Roedd twristiaeth yn werth £187 miliwn i economi Sir Fynwy, gydag ymweliadau dydd wedi cynhyrchu £53 miliwn Disgwylir y bydd hyn yn cynyddu pan gaiff tollau eu gostwng neu eu dileu o gofio am dystiolaeth anecdotaidd fod tollau'n atal traffig coetsis ymwelwyr ac ymwelwyr dydd a thystiolaeth arolwg y dywedodd 22% o breswylwyr de orllewin Lloegr y byddent yn disgwyl gwneud mwy o ymweliadau i Gymru yn y deuddeg mis nesaf pe byddai tollau Hafren yn cael eu dileu.

 

Gan fod gan ymwelwyr dydd y potensial i gefnogi'r sector manwerthu annibynnol llewyrchus yn ne Sir Fynwy, mae hyn yn rhoi cyfleoedd pellach ar gyfer adfywio ein stryd fawr, llinyn allweddol yn ein gweithgareddau datblygu economaidd. Drwy ein cysylltiadau rheolaidd  gyda sefydliadau masnach a busnes yn y Sir byddwn yn parhau i weitho mewn partneriaeth i ddatblygu twf cynaliadwy yn y Sir.

 

Yn rhanbarthol, byddwn yn parhau i chwarae ein rhan yn natblygiad Prifddinas-ranbarth Caerdydd. Bydd adfywio economaidd ar ganol y llwyfan yn nyfodol Sir Fynwy, gan ddod â chyfleoedd newydd ar gyfer cynyddu ffyniant ledled y rhanbarth yn arbennig yng nghwmnïau technoleg newydd y dyfodol.

 

Ar yr un pryd rydym yn cydnabod y gallau gostwng tollau ddod ag anfanteision i Sir Fynwy. Byddwn yn parhau i fonitro pob problem bosibl a gweithredu'n unol â hynny i sicrhau'r canlyniadau gorau ar gyfer preswylwyr Sir Fynwy.

 

Mae'r Cyngor hwn felly'n ailgadarnhau ein bwriad i barhau i hyrwyddo Sir Fynwy fel y lle i adeiladu busnes o fewn de Cymru a gorllewin Lloegr tra hefyd yn hyrwyddo de Sir Fonwy fel cyrchfan siopa ansawdd uchel. Caiff y gweithgaredd hyrwyddo hwn ei gynyddu yn y misoedd i ddod wrth i'r gostyngiad yng nghost tollau ddod yn agosach. 

 

 

Cofnodion:

Fe groesawodd y Cyngor y cyhoeddiad gan Lywodraeth ei Mawrhydi y byddai’r tollau ar gyfer Pontydd Hafren yn cael eu haneru yn 2018. Ar ben hynny, rydym yn cefnogi cael gwared â’r tollau ar gyfer y ddwy bont gyda chostau cynnal a chadw pellach yn cael eu talu o gyllideb gyffredinol cynnal a chadw ffyrdd y DU.

 

Yn 2015, roedd twristiaeth gwerth £187 miliwn i economi Sir Fynwy, roedd ymweliadau undydd yn cynhyrchu £53 miliwn. Mae disgwyl i hyn gynyddu pan mae’r tollau yn cael eu gostwng neu eu dileu gan ystyried tystiolaeth anecdotaidd bod y tollau’n golygu bod llai o draffig coetsis ac ymwelwyr undydd yn ymweld a thystiolaeth arolwg a oedd yn dweud y byddai 22% o drigolion de orllewin Lloegr yn disgwyl gwneud mwy o dripiau i Gymru yn y deuddeg mis diwethaf pe byddai Tollau Pontydd Hafren yn cael eu dileu.

 

Gan fod gan ymwelwyr undydd y potensial i gefnogi’r sector masnach annibynnol sy’n ffynnu yn ne Sir Fynwy, mae hyn yn cyflwyno rhagor o gyfleoedd i adfywio ein strydoedd mawr, llinyn allweddol o’n gweithgareddau datblygiad economaidd. Trwy ein cysylltiadau rheolaidd gyda sefydliadau masnach a busnes yn y Sir, byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu twf cynaliadwy yn y Sir.

 

Ar yr ochr ranbarthol, byddwn yn parhau i chwarae ein rhan yn natblygiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, bydd adfywiad economaidd yn ganolog i ddyfodol Sir Fynwy, gan ddarparu cyfleoedd newydd i gynyddu ffyniant ledled y rhanbarth yn enwedig yng nghwmnïau technoleg newydd y dyfodol.

 

Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod y gallai gostwng y tollau fod yn anfanteisiol i Sir Fynwy. Byddwn yn parhau i fonitro’r holl faterion posib a gweithredu yn unol â’r rhain er mwy sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer trigolion Sir Fynwy.

 

Mae’r Cyngor hwn felly’n ail-ddatgan ein bwriad i barhau i hyrwyddo Sir Fynwy fel lle i adeiladu busnes o fewn de Cymru a gorllewin Lloegr tra hefyd yn hyrwyddo Sir Fynwy fel cyrchfan siopa o ansawdd. Bydd y gweithgareddau hyrwyddo hyn yn cael eu cynyddu yn y misoedd i ddod wrth i’r gostyngiad yn y tollau agosáu.

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Roedd y Cynghorydd Batrouni yn gyffredinol yn cytuno gyda'r cynnig a nododd y byddai’r gostyngiad yn y tollau yn newyddion da i deithwyr, busnesau lleol a thwristiaeth. Gofynnwyd am eglurder ar yr agwedd o’r cynnig a oedd yn nodi bod y Cyngor yn cefnogi cael gwared â’r tollau oherwydd nid oedd yr ymgynghoriad wedi cefnogi cael gwared â’r tollau yn 2018. Fe ymatebodd y Cynghorydd Greenland gan ddweud mai’r modd cywir byddai cael gwared â rhwystr tollau yn gyfan gwbl er mwyn sicrhau masnach rydd rhwng Gorllewin Lloegr a Chymru, ond roedd yn deall barn yr Ysgrifennydd Gwladol.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Batrouni addasiad i’r cynnig, gan ychwanegu brawddeg i’r paragraff olaf, i ddarllen;

 

·         Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod y gallai gostwng y tollau ddod ag anfanteision i Sir Fynwy. Byddwn yn parhau i fonitro’r holl faterion posib a gweithredu yn unol â’r rhain er mwyn sicrhau’r canlyniadau  ...  view the full Cofnodion text for item 8a

9.

Adroddiad Pennaeth Democratiaeth, Ymgysylltu a Gwella

9a

Strategaeth Iaith Gymraeg 2017-2022 pdf icon PDF 354 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Strategaeth Iaith Gymraeg 2017 – 2022 i’r Cyngor, sydd wedi cael ei gynhyrchu yn unol â gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac yn benodol â Safon 145 a 146.

 

Yn ystod y drafodaeth, fe nodom y sylwadau canlynol:

 

Fe ofynnodd y Cynghorydd Blakebrough os oedd y cynnydd dros o 20 mlynedd o 2.3% i 9.9% yn cael ei ystyried yn gynnydd sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Fe ymatebodd y Cynghorydd Hobson gan ddweud y gwelwyd gostyngiad yn y niferoedd yn y cyfrifiad diwethaf, tra bod niferoedd Sir Fynwy wedi cynyddu. Roedd disgwyl gweld cynnydd uwch yng nghyfrifiad 2021 ac roedd hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad.

 

O ran cyllid, roedd pwynt 5.1 o’r adroddiad yn nodi bod dim cyllid ychwanegol neu oblygiadau Adnoddau Dynol yn deillio o’r strategaeth. Esboniodd Swyddog yr Iaith Gymraeg bod dim disgwyl gweld costau ar wahân i’r rhai a nodir yn y strategaeth. Roedd cyllideb o £13,000 cyn y Safonau, a oedd wedi cynyddu i £58,000, gyda gorwariant posib ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau yn ymwneud â goblygiadau Adnoddau Dynol y strategaeth, gofynnwyd am eglurder o ran gofynion y Gymraeg ar gyfer swyddi allweddol. Fe esboniodd Swyddog yr Iaith Gymraeg bod cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio yn y Cyngor yn rhan o gynllunio’r gweithlu. Byddai’r cyfarfod nesaf gyda’r DMTs yn edrych ar strwythurau staffio. O ran disgrifiadau swydd, ble roedd siaradwr Cymraeg yn hanfodol i’r rôl, byddai hyn yn rhan o’r meini prawf hanfodol ar y disgrifiad, fel gydag unrhyw swydd arall. O ran staff yn dysgu Cymraeg, mae ychydig o arian ar gael er mwyn hyfforddi staff ar y rheng flaen ar y dderbynfa, mewn hybiau ac ati.

 

Mynegodd Aelodau rhwystredigaeth yn ymwneud â’r Gymraeg yn cymryd blaenoriaeth dros y Saesneg, yn benodol ar alwadau ffôn ac arwyddion ffordd. Credwyd ei bod yn achos o’r lleiafrif yn gorchymyn y mwyafrif.

 

Fe gyfeiriodd y Cynghorydd Hayward at ragair yr adroddiad, a’r datganiad bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu i 8780 mewn 25 mlynedd a bod addysg Gymraeg gorfodol wedi bod mewn ysgolion am nifer o’r 25 mlynedd hynny. Y canfyddiad felly oedd bod y fenter wedi bod yn fethiant ac y byddai gwario rhagor o arian ar y fenter yn wastraff. Mewn ymateb i hyn, fe esboniodd yr Aelod o’r Cabinet wrth drin yr iaith fel ymarfer academaidd heb unrhyw gyfle i’w defnyddio y tu allan i’r awyrgylch honno, y byddai’n cael ei anghofio yn hawdd. Er mwyn cydymffurfio â’r polisi, y nod oedd bod yn ddeinamig a’i defnyddio y tu allan i awyrgylch yr ysgol.

 

Fe gadarnhaodd y Cynghorydd Hobson y byddai pryderon yn ymwneud ag arwyddion ffordd yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Comisiynydd a’r Gweinidog maes o law.

 

Fe ddarparodd y Prif Swyddog eglurder o ran y pryderon yn ymwneud â thargedau’r canrannau. 

 

Wrth gael ei roi i’r bleidlais, fe benderfynodd y Cyngor gytuno i’r argymhelliad yn yr adroddiad:

 

·         Bod y Cyngor yn cytuno i’r Strategaeth 5 Mlynedd hon fel sy’n  ...  view the full Cofnodion text for item 9a

10.

Adroddiad Pennaeth Cyllid

10a

Cynllun Gostwng Treth Gyngor 2017/18 pdf icon PDF 124 KB

Cofnodion:

Fe dderbyniodd y Cyngor adroddiad Cynllun Gostwng Treth Gyngor 2017/18.  Diben yr adroddiad hwn oedd:

·         Cyflwyno’r trefniadau er mwyn cyflwyno’r Cynllun Gostwng Treth Gyngor a’i gymeradwyo ar gyfer 2017/18.

·         Cadarnhau, yn absenoldeb unrhyw ddiwygiadau neu addasiadau, y bydd addasiadau uwchraddio blynyddol yn cael eu cynnal bob blwyddyn heb ofyniad i fabwysiadu’r Cynllun Gostwng Treth Gyngor cyfan.

 

Yn ystod y drafodaeth, fe nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

Fe esboniodd y Cynghorydd Batrouni, gyda diolch i Lywodraeth Lafur Cymru, y byddai pawb yn derbyn 100% o’u gostyngiad yn y Dreth Gyngor. Mewn ymateb i gwestiwn, fe glywsom fod 5850 o drigolion yn derbyn gostyngiad yn y dreth gyngor ar hyn o bryd. Gofynnwyd am wybodaeth ar ganlyniad yr arolwg ar y sawl sy’n cysgu ar y stryd.

 

Fe ofynnodd y Cynghorydd A. Watts am swm dyled y Dreth Gyngor, ac roedd diddordeb ganddo yn lefel y ddyled fesul band y Dreth Gyngor. Fe gynghorydd Mr Davies y byddai’n ceisio rhannu’r wybodaeth yma. Fe gynghorodd yr Aelod o’r Cabinet na fod yr adroddiad hwn yn cyfeirio at lefelau dyled a’i bod yn ymwneud â thalwyr y Dreth Gyngor yn cael ad-daliad o’r gost.

 

Wrth  gael ei roi i’r bleidlais, fe benderfynodd y Cyngor gytuno i’r argymhellion yn yr adroddiad:

 

·         Nodi’r Cynllun Gostwng Treth Gyngor a Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig (Cymru) ("y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig") 2013 gan Lywodraeth Cymru ar 26 Tachwedd 2013.

·         Mabwysiadu’r darpariaethau o fewn y Rheoliadau uchod ("y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig") ac unrhyw ‘reoliadau uwchraddio blynyddol’ mewn perthynas â’r Cynllun ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18 gan gynnwys yr elfen ddewisol a gymeradwywyd fel cynllun lleol y Cyngor o 1 Ebrill 2017.

 

11.

Adroddiad y Swyddog Monitro

11a

Pwyllgor Safonau - Penodi Aelodau Annibynnol pdf icon PDF 139 KB

Cofnodion:

Fe dderbyniodd y Cyngor adroddiad yn cynghori bod y Panel Penodiadau ar gyfer Aelodau Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau wedi cwrdd a’i bod yn argymell bod y Cyngor yn gwneud penodiadau. Fe fynegodd aelod annibynnol cyfredol o’r Pwyllgor Safonau ddymuniad i wneud ail derm, fel y caniateir gan y rheoliadau.

 

Fe benderfynodd y Cyngor i gytuno i’r argymhellion yn yr adroddiad:

 

·         Penodi Richard McGonigle a Richard Stow yn unol ag argymhellion y Panel Penodiadau i lenwi’r rolau gweigion ar gyfer aelodau annibynnol ar y Pwyllgor Safonau am gyfnod o chwe mlynedd.

·         Ail-benodi Trevor Auld am 4 blynedd arall fel aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau.