Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir F. Taylor fuddiant nad oedd yn rhagfarnu fel Aelod Cymuned Annibynnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a gadawodd y cyfarfod yn ystod datganiad a gyflwynwyd gan yr Arweinydd ynghylch Iechyd Meddwl Oedolion H?n.
Cymerodd yr Arweinydd y cyfle i ddiweddaru’r Cyngor ar ail-ddylunio arfaethedig y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion H?n yng Nghas-gwent. Bu pryderon a godwyd gan Aelodau ac ymgynghoriad hirfaith gyda chyfraniadau grymus o Sir Fynwy. Deallwyd y byddai BIPAB yn cwrdd ar 21ain Mawrth 2018, y papurau’n argymell cau Ward St. Pierre yng Nghas-gwent. Sicrhaodd yr Arweinydd yr Aelodau y byddai ymateb ysgrifenedig cryf yn cael ei gyflwyno cyn bod y bwrdd yn cwrdd, a byddai’r ymateb yn cael ei gylchynu i’r holl Aelodau.
Roedd yr Aelodau’n frwd i fynegi’u dicter a’u rhwystredigaeth i’r ymateb a gyflwynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn enwedig gan nad oedd yr adroddiad yn adlewyrchu anghenion Sir Fynwy.
|
|
Cynllun Busnes Y Fargen Ddinesig PDF 267 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynoddyr Aelod Cabinet yr adroddiad i amlinellu’r camau nesaf ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd yn dilyn cymeradwyaeth Cytundeb Gweithio ar y Cyd (CGC) Prifddinas Ranbarth Caerdydd (PRC), Fframwaith Sicrwydd a Chynllun Gweithredu Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd a sefydlu Cabinet Rhanbarthol ar 26 Ionawr 2017. Yn ogystal, cyflwyno Cynllun Busnes y Cytundeb Gweithio ar y Cyd (CGC) a argymhellir i’r Cyngor i’w gymeradwyo gan y Cabinet Rhanbarthol.
Cefnogodd y Gr?p Llafur yr argymhelliad. Wrth wneud hynny cododd y Cynghorydd Batrouni gwestiynau o gwmpas y cyfarwyddyd ar fetrigau ac asesiadau ar allbynnau a chanlyniadau. Gofynnodd fel y credir bod y Fargen Ddinesig wedi ychwanegu at Werth Ychwanegol Gros yn hytrach na ffactorau eraill megis gostyngiad mewn tollau’r bont. Cododd bryderon hefyd ynghylch perthynas Sir Fynwy â Bryste, a Metro Plus.
Ymateboddyr Arweinydd bod y Fframwaith Asesu wedi cael ei gymeradwyo, a bod cytundeb gweithio ar y cyd wedi cael ei gytuno mewn cyfarfod blaenorol. Ychwanegodd ei fod eisiau i bobl ifanc gael y cyfle i weithio yn Sir Fynwy, a byddai’r rhanbarth yn gweithio’n glos gyda Bryste yn y dyfodol.
SiaradoddAelod am y cyfleoedd ar gyfer y rhanbarth, a Sir Fynwy. Tra mae’r Fargen Ddinesig yn gynllun rhanbarthol, mae cyfleoedd i Sir Fynwy o’i few, a chwestiynwyd a oeddem eisoes yn gwneud digon i gael y fargen orau ar gyfer pobl Sir Fynwy.
Gofynnwyd am fanylion o gwmpas trefniadau craffu.
AwgrymoddAelod y dylid trefnu cyflwyniad i’r Aelodau ynghylch Metro. Cytunodd yr Arweinydd y byddai hyn yn fuddiol.
Rhodd y Prif Weithredwr sicrwydd a gwybodaeth bellach i’r Aelodau.
O’iroddi i bleidlais penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhelliad:
Bod y Cyngor yn cymeradwyo Cymeradwyaeth Cynllun Busnes Gweithio ar y Cyd fel yr argymhellwyd gan y Cabinet Rhanbarthol i’w fabwysiadu fel y ‘Cynllun Busnes CGC’ ffurfiol.
|
|
Cynllun Datblygu Lleol PDF 897 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet adroddiad i geisio cymeradwyaeth y Cyngor i gychwyn gwaith ar fframwaith polisi cynllunio newydd i lunio a datblygu dyfodol ein Sir a’i swyddogaeth yn y rhanbarth, yn unol â phwrpas y Cyngor o adeiladu cymunedau cynaliadwy a chadarn. Yn benodol, gofynnir am gymeradwyaeth y Cyngor i gychwyn gweithio ar Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd ar gyfer Sir Fynwy, cymeradwyo’r Cytundeb Darparu gan gynnwys Cynllun Cynnwys Cymunedau ar gyfer ymgynghoriad targedig am bedair wythnos, a chytuno rhan o Gynllun Datblygu Strategol De-ddwyrain Cymru (CDS).
Cynghorodd y Cynghorydd Batrouni fod y Gr?p Llafur yn cefnogi adolygiad llawn, gan ychwanegu ei fod yn adlewyrchu methiant y Cyngor hwn i gwrdd ag anghenion tai Sir Fynwy. Ychwanegodd i’r adolygiad fethu â chymryd i ystyriaeth symud Tollau pont Hafren, a’r twf mewn poblogaeth.
Ymateboddyr Aelod Cabinet nad oedd safleoedd strategol arfaethedig wedi dod ymlaen fel y rhagwelid.
Mynegwyd bod angen ymgynghoriad ehangach, yn ymestyn i’r cyhoedd ac i gynnwys ardal Caerloyw.
Eglurodd y swyddogion, yng nghyd-destun y cynllun cyfredol, hunan-adlewyrchodd yr adolygiad ar y rheswm paham nad oedd safleoedd wedi dod ymlaen. Mae rhesymau cymhleth y tu ôl i hyn ond mae safleoedd yn gwneud cynnydd i ddod ymlaen. Yng nghyd-destun amcanestyniadau, cwmpasodd adroddiad yr adolygiad agweddau eraill sydd angen edrych arnynt, gan gynnwys tollau. Os cymeradwyir yr adolygiad gan y Cyngor, y man cychwyn fyddai edrych ar opsiynau ar gyfer twf. Yng nghyd-destun ymgynghoriad roedd y swyddogion yn edrych ar ymgysylltu â chymaint â phosib o grwpiau.
Awgrymoddrhai Aelodau y gallai adolygiad byr fod yn well opsiwn. Eglurwyd, petai hyn yn digwydd, byddai dal yn rhaid i ni alinio gyda’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a byddai hyn yn cymryd ein cynllun cyfredol ymlaen i 2030. Ni fyddai’r cynllun tymor byr yn goresgyn yr heriau presennol.
Tynnoddyr Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol sylw at y Strategaeth Cynnwys Cymunedau a’r agwedd gynhwysfawr y byddwn yn ei chymryd i ymgysylltu â chymunedau. Mae’n crybwyll yn benodol y grwpiau anodd eu cyrraedd. Anogodd Aelodau unigol i ddod ymlaen ag awgrymiadau ar y modd i hwyluso’r broses.
Argymhellwydffurfio gr?p llywio trawsbleidiol i fynd i’r afael ag amcanion yn ymwneud ag isadeiledd.
Anogoddyr Arweinydd bod angen inni gymryd rheolaeth o’n tynged ein hunain ac nid oedd yn cytuno â gweithio ar y cyd ar Gynllun Datblygu Lleol gydag awdurdodau eraill.
Gadawodd y Cynghorydd Sir A. Webb y cyfarfod am 15:00pm
Mewnymateb i gwestiwn clywsom mai pris cyfartalog t? yn Sir Fynwy bellach yw’r uchaf yng Nghymru gyfan ar £307,000, sy’n cymharu â chyfartaledd Cymru o £186,000.
Gadawodd y Cynghorydd Sir F. Taylor y cyfarfod am 15:25pm.
Tynnoddyr Aelod Cabinet y drafodaeth i’w therfyn gan ddweud mai’r CDLlon yw’r cyfrwng i helpu gyda’r broblem ddemograffig. Roedd yn fodlon gyda’r ymgysylltu trawsbleidiol ac roedd eisiau cynnwys Aelod bwrdd ar ... view the full Cofnodion text for item 4. |