Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau fforwm agored i'r cyhoedd.
|
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd a Derbyn Deisebau PDF 158 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Sir P. Jones ddeiseb i'r Cadeirydd ar ran preswylwyr Rhaglan a lofnodwyd gan 1067 o bobl yn gofyn am fesurau diogelwch ar ffordd osgoi'r A40.
Cyflwynodd y Cynghorydd Sir J. Watkins ddeiseb i'r Cadeirydd ar ran preswylwyr Heol yr Eglwys, Cil-y-coed a defnyddwyr yr ysgol ar y ffordd, yn gofyn am leoliad croesi diogel a phwynt gollwng ar gyfer yr ysgol.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Derbyniwyd datganiadau buddiant gan y Cynghorwyr Sir P. Clarke, B. Strong, S.B. Jones yng nghyswllt eitem 10c, Velothon 2018. Derbyniwyd datganiadau buddiant gan y Cynghorydd Sir D. Evans yng nghyswllt eitem 9a, newidiadau MHA mewn rheolau ac estyniad i loches TAW. |
|
I gadarnhau'r cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar y 27ain o Orffennaf 2017 PDF 265 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2017 a chawsant eu llofnodi gan y Cadeirydd.
Wrth wneud hynny, gwnaeth y Cynghorydd Sir Batrouni welliant i dudalen 10, oedd yn dweud i Lywodraeth Cymru gyfrannu cyfanswm o £2m. Roedd y Cyng Batrouni wedi golygu i hyn gyfeirio at y cynnig hamdden ar gyfer y pwll a bu cyfanswm y cyfraniad mewn gwirionedd yn £40m.
|
|
I nodi'r rhestr weithred o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar y 27ain o Orffennaf 2017 PDF 76 KB Cofnodion: Diolchodd y Cynghorydd Sir D. Blakebrough i'r arweinydd am ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yng nghyswllt y cynnig blaenorol parthed cynigion pensiwn '63 yw'r 60 newydd', fodd bynnag mynegodd ei siom at ymateb y Llywodraeth. Cytunodd yr arweinydd i'r cais gan y Cynghorydd Blakebrough i ymateb i'r Llywodraeth yn gofyn am ymateb mwy manwl. |
|
Rhestr o Gynigion |
|
Cynnig o'r Cynghorydd Sir G. Howard Mae Cyngor Sir Fynwy'n croesawu’r cadarnhad o Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ac Isadeiledd, Ken Skates AS, bod dyluniadau rhagarweiniol am groesfan cerddwyr ar Bont Llanelen yn awr wedi’u drafftio. Mae'r Cyngor yn credu bod y sefyllfa ar hyn o bryd lle does dim dewis i gerddwyr heblaw am ddodi eu hunain yn erbyn llifiau traffig trwm gyda blaenwelededd gwael yn beryglus dros ben ac yn anamddiffynadwy. O ganlyniad, anogir Llywodraeth Cymru rhoi'r flaenoriaeth uchaf i'r cynllun hwn ac mae'r Cyngor yn cynnig ei gymorth i helpu gweithredu datrysiad chwim.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Sir G. Howard ei gynnig i'r Cyngor parthed y fynedfa i gerddwyr ym Mhont Llanelen.
Eiliwyd y cynnig. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiadau, cyfrifon archwiliedig Cyngor Sir Fynwy 2016/17 (Cymeradwyaeth Ffurfiol) ac Adroddiad ISA260 - Cyfrifon MCC i'r Cyngor gan arweinydd y Cyngor ar ran yr Aelod Cabinet dros Adnoddau.
Mynychodd Terry Lewis y cyfarfod ar ran Swyddfa Archwilio Cymru a rhoddodd drosolwg i aelodau o'r cyfrifon. Hysbysodd aelodau eu bod yn hapus gyda'r cyfrifon ac ni chododd unrhyw bryderon. Diolchodd i'r swyddog am y cymorth ar hyd yr adolygiad a chroesawodd gyflwyno'r cyfrifon iddynt ynghynt na'r disgwyl.
Cododd aelodau bryderon am gyllideb ysgolion yn arbennig ddiffygion ysgolion yn y dyfodol. Dywedodd y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc y gwneir gwelliannau sylweddol i ostwng y diffygion a bod cefnogaeth ac ymrwymiad parhaus gyda phenaethiaid ysgol i barhau'r gostyngiad.
Holodd y Cynghorydd Batrouni pam fod yr awdurdod wedi derbyn mwy o dreth gyngor nag a ddisgwylid i ddechrau a hefyd pam nad oedd yr awdurdod wedi talu cymaint â'r disgwyl ar fudd-daliadau treth gyngor. Hysbysodd y Pennaeth Cyllid y Cyngor y caiff y sylfaen treth gyngor ac amcangyfrifon eu llunio ym mis Rhagfyr y flwyddyn flaenorol ac y gallant newid yn dibynnu ar nifer y tai a gafodd eu codi/y preswylir ydynt yn yr ardal. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid hefyd y caiff budd-daliadau treth gyngor eu harwain gan y galw felly gall ddibynnu ar nifer y bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaeth fel y gwneir y gwariant ei hun.
Penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad. |
|
Adroddiadau'r Prif Swyddog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai |
|
Cymdeithas Tai Sir Fynwy - Newid i reolau ac estyniad i loches VAT PDF 495 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor gan yr Aelod Cabinet dros Fenter, Arloesedd a Hamdden yng nghyswllt newidiadau Cymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA) i reolau a lloches TAW. Croesawodd yr Aelod Cabinet hefyd Brif Weithredwr MHA, John Keegan a'r Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Steve Higginson i'r cyfarfod.
Amlinellodd John Keegan yr adroddiad a hysbysodd y Cyngor oherwydd newidiadau yn y ffyrdd mae Llywodraeth Cymru yn deddfu yng nghyswllt landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, bod angen adolygu ei fframwaith reoleiddiol a gostwng nifer aelodau'r Cyngor ar fwrdd MHA.
Cododd aelodau bryderon am ostwng nifer yr aelodau ar y bwrdd a'u gallu i ddal MHA i gyfrif. Yn ychwanegol, mae aelodau eisiau ymrwymiad gan MHA y byddai eu ffocws yn parhau o fewn yr ardal awdurdod lleol ac na fyddent yn ceisio ehangu tu allan i'r Sir.
Cynigiodd yr Aelod Cabinet dros Fenter, Arloesedd a Hamdden welliannau i'r argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad a phleidleisiodd aelodau ar wahân ar bob argymhelliad.
Yn gyntaf, rhoddwyd i bleidlais fod aelodau'n cytuno i ymrwymo i weithred amrywiad i ymestyn Cytundeb Gosod yn Erbyn TAW a gytunodd aelodau. Ymatalodd y Cynghorydd Sir V Smith o bob pleidlais ar yr eitem yma.
Yn ail, dywedodd y gwelliant a gynigiwyd gan yr Aelod Cabinet dros Fenter, Arloesedd a Hamdden, a eiliwyd, y dylai'r argymhelliad ddarllen 'bod aelodau'n cytuno i MHA wneud newidiadau i reolau i ostwng y 4 aelod a enwebir gan y Cyngor ar hyn o bryd i 2, ac wrth wneud yr apwyntiadau bydd Cyngor Sir Fynwy yn ymdrechu i ddiwallu'r set sgiliau sydd eu hangen gan MHA. Pleidleisiodd yr aelodau dros gytuno i'r argymhelliad.
Yn olaf, cynigiwyd ac eiliwyd argymhelliad newydd, hefyd gan yr Aelod Cabinet, sy'n dweud y bydd 'MHA yn ymrwymo i femorandwm dealltwriaeth fod eu hymrwymiad i Sir Fynwy yn parhau ac yn croesawu adroddiad yn flynyddol gan uwch reolwr o MHA i'r Cyngor'. Pleidleisiodd yr aelodau i dderbyn yr argymhelliad.
|
|
Adroddiad y Prif Swyddog, Enterprise |
|
Cam 2'r Cynllun Gwella - 2016/17 PDF 89 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Lywodraethiant Gam 2 y Cynllun Gwella i'r Cyngor.
Cafodd Aelodau drosolwg o'r adroddiad yn nodi pa mor dda mae'r awdurdod yn gweithredu ar bum mesur penodol. Drwyddi draw dywedwyd fod tri amcan yn gwneud cynnydd da a dau fesur yn gwneud cynnydd digonol. Mae Sir Fynwy yn un o'r cynghorau sy'n perfformio orau yng Nghymru gyda llawer o wasanaethau'n perfformio'n dda fodd bynnag mae meysydd ar gyfer gwella yn dal i fod yn cynnwys ymweliad i ganolfannau hamdden a thai fforddiadwy.
Holodd y Cynghorydd Batrouni os dylai Tai gael ei adran ei hun mewn cynlluniau gwella yn y dyfodol oherwydd y pwysau ar y maes a nodau llesiant yr awdurdod. Ychwanegodd fod bellach Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, gallai bod yn ddefnyddiol i ddatblygu mesurau allweddol i asesu llwyddiant y portffolio yn erbyn y Ddeddf Llesiant. Roedd y Cynghorydd hefyd yn siomedig i weld fod y bwlch uchaf yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru yn ennill TGAU rhwng y disgyblion hynny sydd â hawl i brydau ysgol am ddim a'r rhai nad oes ganddynt hawl i brydau ysgol am ddim.
Cododd Aelodau hefyd bryderon am drefniadau cyllido y dyfodol ar gyfer yr awdurdod a sut y gellid cynnal safonau o fewn y cynllun gwella os nad oes cyllid ar gael i ddarparu'r gwasanaethau, yn arbennig mewn ysgolion.
Cytunodd yr Arweinydd gydag aelodau na all yr awdurdod ddibynnu ar Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol i ddal ati i ddarparu gwasanaethau yn yr un ffordd.
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Lywodraethiant fod yn rhaid i'r awdurdod wneud pethau yn wahanol i gynnal y safonau presennol.
Pleidleisiodd yr aelodau i gytuno ar yr argymhellion yn yr adroddiad.
|
|
Cymeradwyaeth o Gyllideb Cyfalaf am ddarpariaeth Cerbydau Gwastraff ac Ailgylchu PDF 162 KB Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: GadawoddCynghorydd Sir A. Easson y cyfarfod am 15:26
Gadawodd y Cynghorwyr Sir B. Strong, S.B.Jones and P. Clarke yr ystafell pan ystyriwyd yr eitem hon oherwydd buddiant personol neu fuddiant yn rhagfarnu.
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Fenter, Arloesedd a Hamdden adroddiad i'r Cyngor ar Velothon 2018. Hysbysodd yr Aelod Cabinet fod y digwyddiad eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth gan y pedwar awdurdod lleol sy'n ymwneud â'r digwyddiad.
Er y bu heriau dechreuol gyda threfnu'r digwyddiad, nodwyd y gwnaed gwelliannau bob blwyddyn i fynd i'r afael â phryderon yr awdurdod. Ar gyfer 2018, mae'r trefnwyr wedi dileu'r ras pro a ddylai ostwng oedi mewn ardaloedd oherwydd cau ffyrdd, yn arbennig yn ardal Gofilon. Mae swyddogion hefyd yn gweithio gyda threfnwyr y digwyddiad i geisio cynnal ras fer yn dechrau ym Mrynbuga ac yn gorffen yng Nghaerdydd.
Canmolodd yr Aelod Cabinet dîm cyfathrebu'r awdurdod am roi beiciau lliwgar o amgylch ardal Brynbuga sydd wedi ennyn diddordeb ymwelwyr i'r ardal hyd yn oed tu allan i'r digwyddiad.
Cododd aelodau bryderon am gefnogi'r digwyddiad heb wybod pa ffyrdd y cynigir eu cau a'r amseriadau. Codwyd pryderon hefyd am sbwriel a chyfleusterau toiled a'r angen i'r awdurdod wneud gwaith glanhau y dylai gael ei wneud gan drefnwyr y digwyddiad.
Pleidleisiodd y Cyngor i dderbyn yr adroddiad. |
|
Cwestiynau Aelodau |
|
O'r Cynghorydd Sir D.Batrouni i'r Cynghorydd Sir P. Murphy Faint o erwau o dir Cyngor sydd wedi cael ei werthu gan y Cyngor yn (i) 2016-17 (ii) 2015-16 (iii) 2014-15?
Cofnodion: Ymatebodd arweinydd y Cyngor i'r cwestiwn yn absenoldeb yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fel sy'n dilyn:
Gwerthodd y Cyngor gyfanswm o 170.4 erw ers 2014. Daeth 155 erw o werthu dwy o ffermydd y Cyngor. Gwerthwyd 6.08 erw ar gyfer dibenion tai. Gwerthwyd 9.05 erw ar gyfer datblygiad masnachol. Mae'r awdurdod yn gweithredu ar hyn o bryd ar werthu safleoedd Fferm Rockfield a Heol Crug sy'n gyfwerth â 16 erw ychwanegol.
Gofynnodd y Cynghorydd Batrouni faint o dir a werthwyd dan A123 Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cytunodd yr arweinydd i anfon yr wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ond nodwyd fod yn rhaid i unrhyw werthiant dan y trefniant gan y Cyngor llawn ymlaen llaw.
|
|
O'r Cynghorydd Sir P. Pavia i'r Cynghorydd Sir P. Fox Bydd Arweinydd y Cyngor yn gwneud datganiad yngl?n â'r hyn y mae’r awdurdod yn ei wneud i hyrwyddo a datblygu prosiectau isadeiledd trafnidiaeth strategol yn ne'r sir, i wella iechyd a lles preswylwyr Cas-gwent? Cofnodion: Ymatebodd yr arweinydd i'r cwestiwn fel sy'n dilyn:
Mae gan Gyngor Sir Fynwy gynllun trafnidiaeth lleol sy'n nodi meysydd allweddol a llif traffig drwy'r Sir. Mae'r cynllun yn cynnwys adolygiad o'r gwasanaethau trên a bws o Gas-gwent yn ogystal ag uwchraddio llwybrau seiclo a llwybrau troed.
Mae'r Cabinet hefyd wedi sefydlu Gr?p Trafnidiaeth Strategol sy'n lobio darparwyr gwasanaeth i gynyddu mynediad i wasanaethau.
Cadarnhaodd yr arweinydd ei fod eisoes wedi cwrdd gydag arweinwyr Cyngor Fforest y Ddena a Swydd Caerloyw i drafod ffordd osgoi Cas-gwent a'r angen i adolygu seilwaith o fewn yr ardal oherwydd cyfleoedd y Fargen Ddinesig, yn ogystal â'r cynnig i ddileu tollau ar Bont Hafren.
Cytunodd yr arweinydd hefyd i roi ymrwymiad i gwrdd gyda Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth i dynnu sylw at y materion hyn. |
|
Gwarant Taliad i Lywodraeth Cymru - Prosiect Bargen Ddinas Lled-ddargludydd Cyfansawdd PDF 170 KB Gwahardd y cyfryngau a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod ystyriaeth yr eitem fusnes hon ar y sail ei bod yn cynnwys datgeliad tebygol o wybodaeth eithriedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor adroddiad Gwarant Taliad i Lywodraeth Cymru - Prosiect Lled-ddargludydd Cyfansawdd y Fargen Ddinesig gan yr Arweinydd. Amlinellodd yr adroddiad yr angen i Sir Fynwy, fel yr awdurdod arweiniol ar y prosiect gyda'r Fargen Ddinesig, i ddarparu gwarant taliad o £2 miliwn i Lywodraeth Cymru i brynu safle ar gyfer y prosiect Lled-ddargludydd Cyfansawdd. Er mai Sir Fynwy sy'n cymeradwyo'r warant fel awdurdod arweiniol ar y prosiect, nodwyd y caiff y rhwymedigaeth ar gyfer y swm ei rannu ymysg pob awdurdod sydd wedi llofnodi'r Fargen Ddinesig.
Anerchodd y Prif Weithredwr y Cyngor a dywedodd, oherwydd amerlenni tyn iawn ar y prosiect, fod y Cabinet wedi cymeradwyo penderfyniad a fyddai fel arall wedi ei wneud gan y Cyngor Llawn. Mynegodd Aelodau bryderon ar y broses ac roeddent yn awyddus i sicrhau na chaiff penderfyniadau eu symud o'r Cyngor Llawn yn rheolaidd yn y dyfodol. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai penderfyniadau sydd angen eu gwneud gan y Cyngor Llawn yn cael eu gwneud yn y Cyngor Llawn.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y prosiect yn gyfle mawr i'r ardal a'i fod wedi cymryd 16 mis o amser Prif Swyddog i'w gyflenwi. Yn ychwanegol, er y caiff y prosiect ei gyflenwi tu allan i'r ardal ac na all yr awdurdod hawlio budd am y prosiect na gweld effeithiau uniongyrchol yng nghynllun gwella'r awdurdod, bydd y buddion diriaethol o filoedd o swyddi a chyfleoedd busnes llawn yn cael effaith gadarnhaol yn yr ardal.
Hysbysodd y Dirprwy Brif Weithredwr y pwyllgor fod busnesau yn Sir Fynwy eisoes yn gweld buddion oherwydd y prosiect ac yn cymryd rhan mewn cadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu a chyfleoedd.
Ar y cyfan, roedd aelodau yn llwyr gefnogi'r prosiect a'r cyfleoedd y mae'n eu rhoi i'r ardal.
|