Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan Aelodau. |
|
Penodi Prif Swyddog , Adnoddau Cofnodion: Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau am eu presenoldeb ac eglurodd mai diben y sesiwn oedd penodi Prif Swyddog, Adnoddau.
Fe’n cynghorwyd bod un ymgeisydd mewnol a gafodd gyfweliad gan Banel yn cynnwys yr Arweinydd, y Cynghorydd Batrouni, a’r Aelodau Cabinet Murphy a Hobson ar 26ain Mai 2016.
Y farn unfrydol oedd bod perfformiad Mr. Davies ar y diwrnod wedi rhagori ar y meincnod a ddefnyddir gan y Prif Weithredwr wrth ystyried penodi Prif Swyddog.
Cynghorwyd Aelodau mai’r dewisiadau’n dilyn y broses gyfweld fyddai:
I. Gwneud cynnig i benodi; II. Penderfynu na ddylid gwneud cynnig i benodi.
Cyflwynodd y pedwar cynghorydd a fu’n rhan o’r Panel ar 26ain Mai 2016 adborth cadarnhaol o’r cyfweliad. Yn dilyn trafodaeth croesawyd yr ymgeisydd a roddodd gyflwyniad ac a gyfwelwyd gan y Cyngor. Yna gofynnwyd i’r ymgeisydd adael y siambr.
Argymhellodd Arweinydd y Cyngor y dylid cynnig y swydd i Mr. Davies ac eiliwyd hyn gan y Dirprwy Arweinydd. Wedi’r bleidlais cytunodd yr Aelodau’n unfrydol â’r argymhelliad.
Dychwelodd Mr. Davies i’r cyfarfod, derbyniodd y swydd, a llongyfarchwyd ef gan yr Aelodau.
|