Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
Derbyn deisebau Cofnodion: Dim deisebau.
|
|||
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganodd yr Aelodau canlynol fuddiant personol nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 13.b Adolygiad o Drefniadau Cymunedau ac Etholiadau, parthed eu rolau fel Cynghorwyr Tref:
Y Cynghorwyr Sir D. Dovey; J. Pratt; J. Higginson; P. Jones; T. Thomas; M. Groucutt; L. Brown; J. Treharne; R. Harris; P. Clarke; D. Evans; P. Fox; D. Jones; M. Feakins; J. Becker; L. Guppy; R. Roden; P. Pavia; A. Easson; P. Murphy; B. Strong.
Datganodd y Cynghorydd Sir P. Fox fuddiant personol nad oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod trafodaeth ar eitem 15.a Cynllun Strategol Rheoli Asedau.
|
|||
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Nid oedd materion ar gyfer y fforwm agored i’r cyhoedd.
|
|||
I gadarnhau cofnodion cyfarfod Cyngor y Sir a'i gynhaliwyd ar y 19eg o Ebrill 2017 PDF 94 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 19eg Ebrill ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.
|
|||
I dderbyn rhestr Gweithredu'r Cyngor Sir PDF 36 KB Cofnodion: Nododd y Cyngor y Rhestr Weithredu.
Holodd y Cynghorydd Howarth a oedd ymateb i ddeiseb a gyflwynwyd ganddo yn flaenorol ynghylch materion Tai Sir Fynwy yng Nghlyddach, a Llywodraeth Cymru a Ffordd Blaenau’r Cymoedd. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr nad oedd hi wedi derbyn ymateb i lythyr ffurfiol a ysgrifennwyd at Gymdeithas Tai Sir Fynwy a byddai’n ailgysylltu ac yn adrodd nôl i’r Cyngor gydag ymateb. |
|||
I ethol Arweinydd y Cyngor ac i dderbyn hysbysiad o ddirwyo'r Arweinydd (apwyntiadau i'r Cabinet) Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Sir R.J.W. Greenland bod y Cynghorydd Sir P. A. Fox yn cael ei ethol fel Arweinydd y Cyngor. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Sir P. Murphy.
Nid oedd enwebiadau pellach, ac yn dilyn pleidlais fe gariwyd y cynnig.
Cyfleodd y Cynghorydd Fox ei ddiolch i’r Cyngor am ei ailethol gan ddweud ei bod yn anrhydedd fawr cael ei ethol fel Arweinydd Cyngor Sir Fynwy unwaith yn rhagor. Diolchodd i’r Dirprwy Arweinydd ac Aelodau’r Cabinet.
Diolchodd i’r Prif Weithredwr a’r Uwch Swyddogion.
Cyhoeddodd yr Arweinydd fod portffolio Aelodau’r Cabinet yn aros heb newid, fel a ganlyn:
Y Cynghorydd Sir P.A. Fox (Arweinydd) Awdurdodau Cyfan, Strategaeth a Chyfeiriad Y Cynghorydd Sir R.J.W. Greenland (Dirprwy Arweinydd) Menter Y Cynghorydd Sir P. Murphy Adnoddau Y Cynghorydd Sir S.B. Jones Gweithrediadau’r Sir Y Cynghorydd Sir S.L. Jones Cyfiawnder Cymdeithasol, Datblygu Cymunedol Y Cynghorydd Sir P. Jones Gofal Cymdeithasol, Diogelu, Iechyd Y Cynghorydd Sir R. John Plant a Phobl Ifanc Y Cynghorydd Sir P. Jordan Llywodraethu.
|
|||
Cynrychioliadau Grwpiau Gwleidyddol PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor i adolygu cynrychiolaeth grwpiau gwleidyddol gwahanol ar y cyrff y mae'r Cyngor yn gwneud penodiadau iddynt.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhelliad:
Derbyn yr adroddiad (a’r atodiadau) fel adolygiad o dan Adran 15 Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a phenodi'r pwyllgorau cyffredin gyda'r niferoedd a'r addasiadau fel y nodir isod:
|
|||
Apwyntiadau i Bwyllgorau PDF 74 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor adroddiad i benodi pwyllgorau ynghyd â'u haelodau a'u cylch gorchwyl yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.
Nodwyd nad yw'r Bwrdd Cydlynu bellach yn bodoli.
Cytunwyd y dylid ychwanegu argymhelliad i'r adroddiad, yn unol â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, bod Cadeirydd yn cael ei ethol yn y cyfarfod hwn.
Enwebwyd y Cynghorwyr D. Evans, F. Taylor a J. Watkins ac ymatebodd y tri.
Yn dilyn pleidlais gudd, penodwyd y Cynghorydd Sir D. Evans fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
Dymunodd yr Arweinydd ychwanegu argymhelliad pellach mewn perthynas ag Atodiad Ch - Pwyllgor CYSAG, er mwyn cryfhau llywodraethu gwleidyddol a llywodraethu’r Swyddog. Cynigiodd fod yr Awdurdod yn penodi’r cadeirydd i’r Pwyllgor CYSAG, a gofynnodd i’r cadeirydd hwnnw fod yr Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc.
Roedd gwrthwynebiad i'r cynnig, yn enwedig o ystyried bod CYSAG bob amser wedi ethol person cadeirydd yn y dull arferol a gytunwyd o bleidlais ddemocrataidd.
Mynegodd yr Aelodau siom bod angen gosod cadeirydd i bwyllgor, ynghyd â diffyg ymateb y Swyddog i'r materion a godwyd.
Eglurodd y Cynghorydd Fox nad oedd unrhyw fwriad i newid cynrychiolaeth ar y pwyllgor, ac roedd yn dymuno dychwelyd y pwyllgor i fod yn gorff cytûn. Eglurodd y Prif Weithredwr fod gan y Cyngor y gallu i enwebu Cadeirydd ar gyfer CYSAG, a gofynnir iddynt bleidleisio ar hynny.
Awgrymwyd cynnal cyfarfodydd CYSAG yn Neuadd y Sir a'u cofnodi.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cafodd y cynnig ei gario.
Penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion yn yr adroddiad:
Bod y pwyllgorau’n cael eu penodi ynghyd â'u haelodaeth fel y nodir yn yr adroddiad.
Bod y Cynghorydd Sir D. Evans yn cael ei benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
|
|||
Penodiadau i Gyrff Allanol PDF 44 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor adroddiad i benodi cynrychiolwyr i wasanaethu ar gyrff allanol.
Cytunwyd y dylid cymryd yr adroddiad fel y mae, gydag eithriadau yn cael eu cyhoeddi.
Newidiadau i Gyrff Allanol:
Cyd-bwyllo Cofnodion Gwent: Y Cynghorydd Sheila Woodhouse yn lle'r Cynghorydd D. Edwards
Y Lluoedd Wrth Gefn a Chymdeithas y Cadetiaid ar gyfer Cymru: Y Cynghorydd L. Jones i gymryd lle'r Cynghorydd S. Jones
Gr?p Cynllunio Strategol De-ddwyrain Cymru: Y Cynghorydd Greenland i gymryd lle'r Cynghorydd Murphy
Pwyllgor Cist Gymunedol Sportlot Sir Fynwy: Y Cynghorydd Pavia i gymryd lle'r Cynghorydd Howarth.
Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan: Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent: Y Cynghorydd Easson i gymryd lle'r Cynghorydd J. Wartkins
Pwyllgor Neuadd Bentref Llandogo - nid yw bellach yn bodoli.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhelliad:
Bod y Cyngor yn gwneud penodiadau i'r cyrff allanol fel y nodir hwy yn yr atodlen atodedig, ac eithrio’r cydbwyllgorau a restrir yng Nghategori B, sy’n apwyntiadau Cabinet.
Y Cynghorydd D. Evans i gymryd lle'r Cynghorydd V. Smith.
|
|||
Cyflogau a thaliadau aelodau PDF 57 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor adroddiad i nodi penderfyniadau'r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2018/2019 a rhoi cyfle i'r Cyngor benderfynu pa rolau ddylai gael cyflog uwch.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion:
Bod yr aelodau'n nodi penderfyniadau canlynol y Panel:
i. Telir cyflog sylfaenol blynyddol o £ 13,600 i bob aelod yn dod i rym o 1 Mai 2018.
ii. Gallai’r Cyngor Sir dalu uwch gyflogau hyd at 17 aelod. Yn ychwanegol, gallai’r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd hefyd gael cyflog dinesig gan wneud cyfanswm o 19 o uwch gyflogau.
iii. Newid arall i'r adroddiad ar gyfer 2018-19 yw bod yr opsiwn ar gyfer talu lefelau amrywiol i aelodau'r Cabinet a chadeiryddion pwyllgorau wedi cael ei ddileu gydag un lefel o gyflog nawr yn daladwy i ddeiliaid swydd. a. Bydd aelodau'r Cabinet yn derbyn cyflog o £26,300 b. Bydd Cadeiryddion Pwyllgorau yn derbyn cyflog o £22,300
iv. Bydd lwfans gofal ar gyfer gofal plant ac oedolion dibynnol yn daladwy am gostau gwirioneddol a derbyniadau hyd at uchafswm o £403 y mis.
v. Telir ffioedd dyddiol o £256 (pro rata am ½ diwrnod) i Gadeiryddion Cyfetholedig y Pwyllgorau Safonau ac Archwilio
vi. Telir ffioedd dyddiol o £198 (pro rata am ½ diwrnod) i aelodau
cyfetholedigcyffredin y pwyllgorau Safonau, Craffu Addysg, Craffu Trosedd ac Anhrefn ac Archwilio
vii. Mae lwfansau teithio a chynhaliaeth wedi'u nodi yn yr adroddiad yn yr Atodiad
2.2 Bod yr Aelodau’n penderfynu:
i. Pa rolau ddylai ddenu cyflog uwch neu ddinesig, hyd at uchafswm o 19 gan gynnwys y pennaeth dinesig a’r dirprwy bennaeth dinesig.
ii. Lefel cyflog uwch neu ddinesig i'w thalu lle bo hynny'n briodol.
|
|||
Adroddiad y Prif Weithredwr |
|||
Diweddariad o'r Fargen Ddinesig PDF 96 KB Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor ar raglen y Fargen Ddinesig.
Yndilyn proses recriwtio a dethol gref, Kellie Beirne oedd yr ymgeisydd llwyddiannus. Fel y Corff Atebol, hwylusodd Cyngor Dinas Caerdydd broses recriwtio a dethol trylwyr gyda chynrychiolaeth drawsbleidiol o bob un o'r 10 awdurdod lleol.
Swyddbarhaol Kellie Beirne yw Dirprwy Brif Weithredwr. Bydd yn cychwyn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig, ar sail secondiad gan Gyngor Sir Fynwy, dros y rhai misoedd nesaf.
Mae swydd Cyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig wedi'i chynnwys ym Mholisi Taliadau Sir Fynwy a gyhoeddwyd ar gyfer 2018.
Penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:
Ceisiocymeradwyaeth i Gyngor Sir Fynwy gadarnhau secondiad Kellie Beirne (y Dirprwy Brif Weithredwr presennol) i’r swydd dros dro fel Cyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig am gyfnod o dair blynedd.
|
|||
Adroddiadau'r Dirprwy Prif Weithredwr: |
|||
Cytundeb Cyflawni'r Cynllun Datblygu Lleol PDF 629 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor adroddiad i ofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i gyflwyno Cytundeb Cyflawni (CC) Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy (CDLl) 2018-2033 i Lywodraeth Cymru ar gyfer cytundeb. Mae cymeradwyo’r CC gan lywodraeth Cymru’n sbarduno cychwyn CDLl newydd Sir Fynwy.
Codwyd pryderon ynghylch graddfeydd amser yn enwedig gyda gostyngiad yn nhollau’r bont, a’r effaith ar brisiau tai. Ymatebodd y swyddogion fod prosesau’n cyflwyno her yng nghyd-destun graddfeydd amser, gan gydnabod y cydbwysedd anodd rhwng cynllun cyflym a chynllun yn seiliedig ar ganlyniadau cadarn sy'n cwrdd â'r hyn mae’n cymunedau’n ei ddymuno. Byddai ymgynghoriadau cyflym yn lleihau'r broses ond a fyddai hynny'n gynllun da yn y pen draw.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhelliad:
Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Cytundeb Cyflawni i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
|
|||
Arolygiad o Gymunedau a Threfniadau Etholiadol PDF 59 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor adroddiad i geisio cymeradwyaeth i gyhoeddi a throsglwyddo i'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer ymgynghori a chymeradwyaeth derfynol, y cynigion drafft ar gyfer y trefniadau cymunedol ac etholiadol yn Sir Fynwy.
Penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhelliad:
Bod y Cyngor yn derbyn y cynigion terfynol a luniwyd gan y gweithgor ar gyfer yr Adolygiad o Gymunedau a Threfniadau Etholiadol.
Bod y Cyngor yn cymeradwyo cyhoeddi'r cynigion terfynol ar gyfer ymgynghori terfynol gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru fel corf annibynnol.
|
|||
Adroddiadau'r Prif Swyddog am Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: |
|||
Polisi Diogelu Corfforaethol PDF 80 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor adroddiad yn hysbysu'r Aelodau am rai newidiadau arfaethedig i'r Polisi Diogelu Corfforaethol a fabwysiadwyd ym mis Gorffennaf 2017:
• Yn gyntaf symleiddio ac adlewyrchu gofynion hyfforddiant fel yr amlinellir yn y Strategaeth Diogelu Dysgu a Datblygu • Yn ail sicrhau eglurder o fewn y disgrifiad rôl ar gyfer Arweinydd y Gyfarwyddiaeth Ddiogelu a chadarnhau mai'r gynrychiolaeth ar Gr?p Diogelu’r Awdurdod Cyfan yw Pennaeth Gwasanaeth neu’r Prif Swyddog.
Nid oes angen gwiriadau DBS ar Gynghorwyr yn gyfreithiol, fel y nodir ym Mholisi DBS Cyngor Sir Fynwy. Byddai angen gwiriad DBS ar y rheiny sy'n Llywodraethwyr Ysgol. Mae gwiriad DBS yn un elfen o ddiogelu.
Roedd y Prif Swyddog yn hyderus bod y data a ddelir yn cael eu diogelu ac rydym yn cydymffurfio â deddfwriaeth.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhelliad:
Argymhellir bod yr Aelodau'n cytuno ac yn mabwysiadu'r Polisi Diogelu Corfforaethol diwygiedig.
|
|||
Adroddiad y Prif Swyddog dros Adnoddau: |
|||
Cynllun Rheoli Asedau Strategol PDF 139 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet dros Adnoddau’r adroddiad i geisio
cymeradwyaeth y Cyngor i’r Strategaeth Rheoli Asedau,
Strategaeth Ffermydd y Sir a’r
Polisi Buddsoddi Asedau. Hysbysodd y Cyngor am welliannau i'r
adroddiad fel a ganlyn: Diwygiadau Arfaethedig i Eitem 15a ar yr Agenda Strategaeth Rheoli Asedau a Pholisïau Cefnogi
Rydym yn cynnig y gwelliannau canlynol i’r adroddiad uchod: Argymhellion: 1.1 Cymeradwyo’r Strategaeth Rheoli Asedau, Strategaeth Ffermydd y Sir a’r polisïau cefnogi.
1.2 Cytuno i fabwysiadu’r Polisi Buddsoddi mewn Asedau a chymeradwyo hyd at £50,000,000 o fenthyca darbodus i ariannu caffaeliadau dros gyfnod o dair blynedd.
1.3 Cytuno i ddiwygio’r Cyfansoddiad i gynnwys Pwyllgor Buddsoddi a fydd ag awdurdod dirprwyo i wneud penderfyniadau ar gaffael Asedau Buddsoddi fel y rhagnodwyd gan y Polisi Buddsoddi mewn Asedau.
1.4 Cytuno i ffurfio pwyllgor buddsoddi fel yr amlinellir yn 3.10 o’r adroddiad diwygiedig.
1.5 Dirprwyo awdurdod i Bwyllgor Buddsoddi i gymeradwyo Achosion Busnes, cymeradwyo gwariant ar gyfer arolygon diwydrwydd dyladwy ac adroddiadau a chytuno i gaffael asedau tir ac eiddo yn unol â meini prawf gwerthuso ac yn rhwym wrth adolygiadau perfformiad blynyddol.
1.6 Cymeradwyo sicrwydd yr arian wrth gefn a glustnodwyd i’r swm o £100,000 o dderbyniadau cyfalaf y gronfa wrth gefn, Cynhyrchu Derbyniadau Cyfalaf i ariannu costau cychwynnol diwydrwydd dyladwy cyn caffael.
Mae Paragraff 3.10 o’r adroddiad yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn: Dirprwyir gwneud penderfyniadau i Bwyllgor Buddsoddi a fydd yn cynnwys yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ac arweinwyr y ddwy wrthblaid fwyaf (3: 1: 1). Bydd y pwyllgor yn cael ei gefnogi gan y Prif Swyddog Adnoddau a chydweithwyr o adrannau’r Ystadau, Cyllid a’r Gwasanaethau Cyfreithiol. Bydd adroddiadau blynyddol ar berfformiad yn cael eu cyflwyno i'r pwyllgor Archwilio. Disgwylir y bydd cyngor arbenigol yn cael ei gymryd gyda chaffaeliadau cychwynnol i ychwanegu at arbenigedd a gallu.
Mae Paragraff 6.4 o’r Polisi Buddsoddi Asedau (tudalen 780 yn eich pecyn) of your bundle) wedi cael ei ddiwygio fel a ganlyn: 6.4 Cyflwynir yr Achos Busnes i’r Pwyllgor Buddsoddi a fydd yn cynnwys Arweinydd y Cyngor, y Dirprwy Arweinydd, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ac Arweinwyr y ddwy wrthblaid fwyaf (cydbwysedd gwleidyddol 3: 1: 1). Caiff y Pwyllgor ei gynghori gan y Prif Swyddog Adnoddau a Swyddogion o adrannau’r Ystadau, Cyllid a’r Gwasanaethau Cyfreithiol. Yn ystod trafodaeth nodwyd y pwyntiau canlynol: Mewn ymateb i bryder sicrhaodd yr Aelod Cabinet yr Aelodau nad oeddem yn benthyca mwy nag y gallem ei fforddio. Cadarnhaodd y Swyddogion, o ran y meini prawf gwerthuso, bod y dangosyddion perfformiad rydym ynghlwm wrthynt yn cael eu hesbonio ar dudalen 773 o'r pecyn agenda. Yn ogystal â pharchu safonau’r Cyngor, parthed y caffaeliadau penodol rydym yn bwriadu eu hyrwyddo, daw diweddariadau ar berfformiad drwy’r Pwyllgor Archwilio. Holwyd sut y byddai'r Arweinydd yn gallu bod yn rhan o'r Pwyllgor Buddsoddi o ystyried ei fuddiant dan Ffermydd y Sir. Cadarnhawyd y byddai'r Arweinydd yn parhau i ddatgan buddiant yn y maes hwnnw, ac ystyriwyd ei fod yn bwysig bod yr Arweinydd yn aelod o'r panel. ... view the full Cofnodion text for item 15a |
|||
Cwestiynau Aelodau: |
|||
O'r Cynghorydd Sir J.Pratt i'r Cynghorydd Sir S.B. Jones Mae cau'r A465 sydd wedi digwydd yn aml yn ddiweddar yn achosi dioddef afresymol ac annerbyniol i breswylwyr fy ward. A all yr Aelod Cabinet ddweud wrthym ni pam nad ydyn ni wedi gweld heddlu'n monitro'r sefyllfa neu'n ceisio lleihau cyflymder ac ymddygiad ymosodol modurwyr yn enwedig ar nosau a phenwythnosau pan fo'r ffordd wedi cau, os gwelwch yn dda? A allai alw ar yr Heddlu i gael presenoldeb mwy ar yr amseroedd hyn ar y lonydd bach hyn, yn enwedig ym Maesygwartha, gan fod llawer o’r traffig sydd fel arfer yn teithio ar hyd Blaenau’r Cymoedd yn teithio ar hyd beth yw hen ffordd dram yn y bôn. Mae’r preswylwyr yn grac dros ben bod y ffordd byth yn cael ei phlismona ac wedi troi’n ardal “heb gyfraith”
Cofnodion:
|
|||
O'r Cynghorydd Sir J.Pratt i'r Cynghorydd Sir S.B. Jones Nid yw’r preswylwyr dan sylw’n cael eu delio â’n effeithiol gan Lywodraeth Cymru ac mae preswylwyr yn goddef s?n annerbyniol e.e. roedd yn rhaid i’r fferm yng Nghwm Nant Gam goddef y peiriannau a daniwyd am 9yb ar fore Sul pythefnos yn ôl a pan mae Llywodraeth Cymru wedi cwrdd â phreswylwyr y fferm nid ydynt yn barod i’w digolledu am eu colledion. Maen nhw’n dweud wrth breswylwyr eu bod dros y gyllideb am y cynllun a bod dim arian. Nid yw’r Cyfarfodydd Cyswllt yn gweithio ac mae angen ymgysylltiad gwell ar lefel uwch. A fydd yr Aelod Cabinet yn cytuno i sefydlu Gr?p Ymgysylltu bod modd i breswylwyr fynychu? Dylai cofnodion o’r ‘Adolygiad Porth’ fod ar gael i Breswylwyr gan CSF ac mae angen i ni weld mecanweithiau gwell yn cael eu sefydlu er mwyn gwella cyfathrebiad a thryloywder. Mae preswylwyr wedi dweud wrthyf fi bod Rheolwr Cyswllt Costain yna yn eu barn nhw i gymryd beirniadaeth ac mae’n diogelu diddordeb corfforaethol. Mae angen Gr?p Ymgysylltu mwy effeithiol â phreswylwyr lleol sy’n gweithredu ar lefel uwch. A fydd yr Aelod Cabinet yn ystyried ac yn gweithredu hwn gan nad yw’r sefyllfa ar hyn o bryd yn gweithio ac mae’r preswylwyr yn cael eu hanwybyddu. Mae’r holl sefyllfa wedi torri.
situation is broken.
Cofnodion: Nidyw'r preswylwyr dan sylw’n cael eu trin yn effeithiol gan Lywodraeth Cymru ac mae’r trigolion yn gorfod dioddef s?n annerbyniol e.e. roedd yn rhaid i'r fferm yng Nghwm Nant Gam ddioddef peiriannau’n tanio am 9 o’r gloch ar fore Sul 2 wythnos yn ôl a phan fydd Llywodraeth Cymru wedi cwrdd â phreswylwyr y fferm, nid yw’n barod i wneud iawn am eu colledion. Ymateb y Llywodraeth i’r trigolion yw bod y cynllun dros y gyllideb ac nad oes arian yn weddill. Nid yw'r Cyfarfodydd Cyswllt cyfredol yn gweithio ac mae angen ymgysylltu'n well ar lefel uwch. A fydd yr Aelod Cabinet yn cytuno i sefydlu Gr?p Ymgysylltu y gall trigolion ei fynychu. Dylai CSF sicrhau bod cofnodion 'Adolygiad Gateway' ar gael i’r preswylwyr ac mae angen inni weld gwell mecanweithiau ar waith i wella cyfathrebu a thryloywder. Mae trigolion wedi dweud wrthyf fod Rheolwr Cyswllt Costain yno yn eu barn nhw i fod dan y lach a diogelu’r buddiant corfforaethol. Mae angen Gr?p Ymgysylltu mwy effeithiol gyda thrigolion lleol sy'n gweithredu ar lefel uwch. A wnaiff yr Aelod Cabinet ystyried a gweithredu hyn gan nad yw'r drefn bresennol yn gweithio a bod y trigolion yn cael eu hanwybyddu. Mae'r sefyllfa gyfan yn annerbyniol.
Ymatebodd y Cynghorydd B. Jones:
‘Ynghylch y tarf dywedir wrthyf fod gweithio ar y penwythnos a chau ffyrdd yn angenrheidiol er mwyn lleihau tarfu ar y cyhoedd sy'n teithio ond yn amlwg mae'n ychwanegu at y diflastod i drigolion yr ardal, er nad wyf yn si?r a yw 9:00 y bore’n ormodol o gynnar. Yn amlwg, mater i Lywodraeth Cymru yw iawndal ond byddwn yn synnu pe bai'r penderfyniad i beidio â dyfarnu iawndal yn gysylltiedig â chost y cynllun yn unig.
Gwn i gyfarfod cyhoeddus gael ei gynnal yn y gorffennol, a mynychodd rhai aelodau a Swyddogion y cyfarfod, a bu'r ymgynghoriad mwy diweddar trwy ddigwyddiad cyhoeddus Costain.
Osyw cyfarfod cyhoeddus neu aelodau o'r cyhoedd yn mynychu'r Gr?p Ymgysylltu’n ddefnyddiol, yna rwy'n hapus i drefnu hyn ond rwy'n amau ??y bydd aelodau'r cyhoedd am wybod beth y gellir ei wneud yn hytrach na mynychu cyfarfod. Felly cyn hynny, byddaf yn mynychu'r Gr?p Ymgysylltu nesaf ynghyd â Llywodraeth Cymru a'n Uwch Swyddogion, ac yn gwahodd yr AC, lle gallwn gytuno pa gamau sy'n ymarferol i geisio lliniaru'r sefyllfa ar gyfer trigolion. Hefyd i ddarparu llwyfan ar gyfer cwynion trigolion.
Fe ychwanegodd y Cynghorydd Pratt fod y prosiect hwn yn ymwneud â chronfeydd cyhoeddus ac yn holi pam nad yw pryderon preswylwyr yn cael eu hystyried ac awgrymir y dylai fod fforwm tryloyw ar lefel uwch na chaiff y contractwr ei redeg. Credwyd nad oedd y nodiadau a dderbyniwyd yn dilyn cyfarfodydd preswylwyr â Costain a Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu'n gywir y trafodaethau a gynhaliwyd.
Felsylw ategol ychwanegodd y Cynghorydd ... view the full Cofnodion text for item 16b |