Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Doedd dim datganiadau o fuddiant gan Aelodau.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Doedd dim aelodau o’r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.
|
|
Derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2016 PDF 93 KB Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2016 fel cofnod cywir ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.
|
|
Nodi rhestr gweithredu y cyfarfod blaenorol PDF 172 KB Cofnodion: Fe nodom restr gweithredu’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2016.
|
|
Datganiad y Gweinidog/Diwygio Llywodraeth PDF 161 KB Cofnodion: Fe groesawom Frank Cuthbert, Pennaeth Tîm Democratiaeth, Amrywiaeth a Chydnabyddiaeth, Llywodraeth Cymru i’r cyfarfod a oedd yn bresennol i annerch y pwyllgor mewn perthynas â’r datganiad diwethaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.
Yn dilyn cyflwyno’r Datganiad, gwahoddwyd Aelodau i’w drafod a chyflwyno sylwadau. Wrth wneud hynny, fe nodom y pwyntiau canlynol:
· Fe groesawyd y datganiad gan aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. · Roedd aelodau’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y broses ymgynghori ac fe awgrymwyd y byddai amserlen bendant yn cynorthwyo’r drafodaeth. Roedd disgwyl y byddai amserlen yn ymddangos yn y papur ymgynghori. · Roedd gan aelodau ddiddordeb yng nghyfansoddiad y Panel Annibynnol ac fe ofynnwyd a fyddai modd rhannu gwybodaeth pan fo’n bosib. · Mynegwyd pryder yn ymwneud â’r ansicrwydd gwleidyddol o ran cyflwyno’r Bil newydd yn gynnar, a’r perygl ei fydd yn rhedeg i mewn i flwyddyn nesaf y cynulliad. · Trafodaeth aelodau ail-drefnu’r cynghorau trefi a chymunedau, a chyfeirio at uno cynghorau’r cymunedau i mewn i un cyngor tref. · Esboniodd y Prif Swyddog y byddai Dêl y Ddinas yn dilyn ffurf cydbwyllgor cabinet, a fyddai’n annog cyd-weithio ac yn gweld systemau cyflwyno rhanbarthol yn cael eu cyflwyno. · Pwysleisiodd aelod y dylai Sir Fynwy fod yn rhan ganolog o’r system metro.
Diolchodd y Cadeirydd i Mr. Cuthbert am fynychu a nododd bod aelodau’n cydnabod bod rhaid i unrhyw newidiadau ymwneud â gwella canlyniadau ar gyfer ein dinasyddion.
|
|
Drafft Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cydnabyddiaeth Ariannol Cymru PDF 188 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol Adroddiad Blynyddol Panel Cydnabyddiaeth Cynnar Cymru (IRP). Nodwyd bod y cynigion yn cynnwys cynnydd bach (£100) yng nghyflog sylfaenol Cynghorwyr Sir a dim cynnydd i gyflogau uwch (oni bai am y cynnydd yn y cyflog sylfaenol). Gwahodd adborth ac fe godwyd y pwyntiau canlynol:
· Ceisiwyd eglurhad mewn perthynas â’r £150 ar gyfer pob aelod (£500 mewn achosion arbennig). Esboniwyd mai cynnydd yng nghyflog sylfaenol y Cynghorydd Sir oedd y £100. Gellir dyfarnu’r £150 i gynghorau trefi a chymunedau mewn achlysuron arbennig. · Awgrymwyd y dylid cynyddu’r lwfans cyfrifoldebau gofalu o £403. Gan ddatgan buddiant, roedd y Cynghorydd Sir D. Edwards yn cefnogi’r farn bod £403 yn swm annigonol y mis gan nodi bod gofalwyr, ar gyfartaledd, yn cael tâl o £12.00 yr awr a nodwyd y dylid tynnu sylw IRP at hyn. Awgrymwyd y dylid cyflwyno pryderon am lefel y Lwfans Gofalwyr fel rhan o’r ymateb i ymgynghoriad y Panel. · Cwestiynwyd y gynrychiolaeth ar Awdurdod y Parciau Cenedlaethol, gan nodi nad oedd yn glir os dylai cynrychiolwyr gynrychioli Sir Fynwy yn gyffredinol neu’n fwy penodol trwy fyw yn a chynrychioli ward sydd o fewn y Parc Cenedlaethol. Cwestiynwyd hefyd os ddylai Sir Fynwy gael mwy na dau gynrychiolydd, fel sydd ganddi ar hyn o bryd, oherwydd mai’r ail ardal fwyaf o fewn y Parc Cenedlaethol ydyw. Darparwyd ymateb bod cyd-daro rhwng cynrychiolaeth leol a chydbwysedd gwleidyddol gan gyfeirio at Ddeddf yr Amgylchedd sy’n nodi y dylai awdurdodau lleol, wrth gyflwyno enwebiadau i Awdurdod y Parciau Cenedlaethol, benodi aelodau sy’n cynrychioli wardiau o fewn y Parc Cenedlaethol. Nid yw hyn yn mynd y tu hwnt i allu awdurdodau lleol benodi aelodau i bwyllgorau / cyrff ar y cyd i adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol. Mae hyn yn gallu achosi problemau pan nad yw aelodau’n byw yn ardal y Parc Cenedlaethol. Nodwyd ei fod yn debygol y byddai cynrychiolaeth Cyngor Sir Fynwy ar Awdurdod y Parciau Cenedlaethol yn gostwng i un aelod yn y dyfodol. · Mynegwyd pryder y byddai’n anodd annog pobl i ddod yn gynghorwyr sir yn y dyfodol gan nodi’r llwyth gwaith amrywiol mewn gwahanol gynghorau. Derbyniwyd bod gan wahanol gynghorau lwythi gwaith, ardaloedd ward a phoblogaethau gwahanol, a chadarnhawyd hefyd bod dim cynghorau trefi na chymunedau yng Nghaerdydd. Soniwyd hefyd am anallu rhai gweithwyr amser llawn i ystyried y rôl yn nhermau ymarferol gyda chyflog sylfaenol o £13,400, a’r tebygolrwydd dilynol o golli allan ar ymgeiswyr o ansawdd da. Teimlwyd bod hwn yn bwynt pwysig i’w godi. Cytunwyd bod yr angen i ddenu pobl addas i rôl cynghorydd sir yn bwynt pwysig gan ychwanegu bod cyd-daro rhwng y dichonoldeb o ddod yn gynghorydd yn nhermau ymarferol a’r pwrs cyhoeddus ac er mwyn cael cynghorwyr amser llawn, byddai cyfyngiadau ariannol yn gofyn bod llai o bobl yn ymgymryd â’r rôl. · Mewn perthynas â’r ymgyrch ar Amrywiaeth, mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda chyflogwyr i annog, a rhyddhau, gweithwyr i ymgymryd â’u dyletswyddau fel cynghorwyr. · Nodwyd bod y Mesur Llywodraeth Leol yn caniatáu i gynghorwyr osod amserau eu cyfarfodydd. Nodwyd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Diweddariad ar Lywodraethiant Cymunedol Cofnodion: Fe gyflwynodd y Prif Swyddog Menter adroddiad ar Lywodraethiant Cymunedol. Adroddwyd y byddai’r sylwadau sy’n codi o’r cyflwyniad ar y papur, a drafodwyd yn y Gweithdy ar Wasanaethau Democrataidd ym mis Medi, yn cael eu hystyried gan y Cyngor ym mis Rhagfyr 2016 cyn ymgynghoriad ac ymrwymiad pellach gyda’r Pwyllgorau Ardal cyfredol.
Cadarnhawyd bod tri o'r pedwar Pwyllgor Ardal wedi ystyried yr adroddiad a bod sylwadau amrywiol wedi bod hyn yn hyn, rhai cadarnhaol yn bennaf. Tra bod cysondeb yn bwysig, mae cydnabyddiaeth na fod un datrysiad sy’n addas i bawb. Bydd pob opsiwn yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor ym mis Rhagfyr.
Mae ymgynghorydd annibynnol wedi cael ei gyflogi i wneud gwaith mwy penodol i ddarparu opsiynau mwy manwl i gynnwys cylchoedd gorchwyl, hawliau pleidleisio ac adolygiad o Dîm y Lle Cyfan, ei ymrwymiad a’i waith ar lefel gymunedol.
Bydd y Pennaeth Democratiaeth, Ymrwymiad a Gwelliant yn cyfarfod â’r Gweithgor Aelodau a nododd Opsiwn 2 fel yr hoff fodel (gydag ychwanegiad un cynrychiolydd o’r cynghorau trefi neu gymunedau) er mwyn sicrhau bod cytundeb ar y cynigion a’u bod yn barod i gael eu hystyried gan y Cyngor. Cadarnhawyd mai Aelod ddylai gynrychioli’r cyngor tref neu gymuned, nid y Clerc.
Cytunwyd mai un o’r prif faterion oedd diben, canlyniadau a chynnydd gyda rolau a llinellau adrodd clir ar gyfer Clystyrau a'r Lle Cyfan, a hefyd sut i weithio ar y cyd i ddatrys problemau. Cytunwyd y byddai gan Aelodau’r cyfle i weld y ddogfen ddrafft cyn iddo gael ei hystyried gan y Cyngor.
Cytunwyd bod eglurder yn bwysig wrth symud ymlaen gyda’r gwaith a bod angen cylch gorchwyl ar y cyfarfodydd clwstwr er mwyn osgoi dyblygu gwaith.
|
|
Diweddariad ar Amrywiaeth mewn Democratiaeth Cofnodion: Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi hyrwyddiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth, gan annog pobl i gael eu hethol yn gynghorwyr sir. Nodwyd bod gan y Cyngor hwn rhaglen fentora anffurfiol. Yn ystod digwyddiad yr wythnos ddiwethaf fe lansiwyd ail gyfnod y rhaglen. Cydnabuwyd bod rhai pobl yn cael eu hatal rhag sefyll i fod yn gynghorydd weithiau oherwydd rhwystrau a’r her yw sut i gael pobl o wahanol gefndiroedd i sefyll. Fe godwyd y pwyntiau canlynol:
· Nodwyd bod angen gwneud llawer mwy o ran addysg, dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Cytunwyd bod Amrywiaeth mewn Democratiaeth yn rhaglen dda i fod yn rhan ohoni.
· Diolchwyd i’r aelodau a gymerodd ran. Roedd cydnabyddiaeth ar gyfer yr ymgyrch barhaus i gyflawni amrywiaeth ymhlith aelodau ac enwebeion pleidiau.
· Adroddwyd y byddai arolwg ymadael (ar gyfer y sawl nad oedd yn sefyll eto) ac arolwg pellach o’r holl ymgeiswyr a oedd yn sefyll mewn etholiadau cymunedol a sirol yn cael eu cynnal i adnabod pwy gafodd eu hethol ai peidio gyda’r nod o lunio proffil o rolau etholiadau Llywodraeth Leol 2017 o’i gymharu â rhai etholiadau 2012.
· Awgrymwyd y dylid ychwanegu ystyried rhaglen addysg a dinasyddiaeth at raglen waith y dyfodol er mwyn cynyddu dealltwriaeth o rôl ym mywyd cyhoeddus.
· Nodwyd bod angen i hyfforddiant ar gyfer Swyddogion ac Aelodau ar gydraddoldeb ystyried y newidiadau yn niwylliant dros y degawd nesaf. Awgrymwyd y gellid darparu gwasanaeth iaith arwyddion ym mhrif gyfarfodydd y cyngor.
|
|
Hysbysebu Etholiad 2017 PDF 372 KB Cofnodion: Fe roddwyd ystyriaeth i daflen A4 arfaethedig i’w gylchredeg gyda gorchymyn y drech gyngor i hyrwyddo cyfranogiad yn yr etholiadau sydd ar y gweill, nodyn atgoffa i bobl pleidleisio a gwybodaeth arall. Gwahoddwyd aelodau i argymell pethau i’w cynnwys i’r Rheolwr Democratiaeth Leol. Bydd y Tîm Cyfathrebu hefyd yn adolygu’r daflen i’w wneud yn ddogfen fwy deniadol.
Fe nodwyd bod yna dudalen we benodol ar etholiadau y flwyddyn nesaf gan gynnwys cyfleuster enwebu ar-lein.
Holwyd a oedd unrhyw gyllideb ar gael i ddarparu taflen arall, nid i’w ddosbarthu ar yr un pryd o reidrwydd, i hyrwyddo rôl cynghorydd sir a darparu gwybodaeth ar yr oriau a dreulir yn y swydd ar gyfartaledd ynghyd â’r lwfansau sydd ar gael. Trafodir a fyddai modd dosbarthu’r daflen gyda’r llythyrau cofrestru a anfonir i bob cartref ym mis Chwefror ac fe esboniwyd bod Llywodraeth Cymru heb gyhoeddi cyllideb ar gyfer llythyrau’r flwyddyn nesaf eto. Os oes cyllideb ar gael, byddai’n hawdd cynnwyd taflen.
|
|
Trafod cynllun gwaith y dyfodol Cofnodion: Derbyniwyd cynllun gwaith y dyfodol. Ychwanegwyd yr eitemau canlynol:
· Taflen wybodaeth ar rôl cynghorydd sir, amser a dreulir gan gynghorydd sir yn y rôl a’r lwfansau sydd ar gael. · Amserlen o weithgareddau i annog pobl i bleidleisio – gwahoddwyd aelodau i gymryd rhan a chofrestru eu diddordeb i wneud hynny gyda’r Cadeirydd. · Ymateb Ffurfiol i’r Adroddiad y Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol. (Atgoffwyd aelodau eu bod hefyd yn gallu anfon ymatebion unigol).
|
|
Nodi dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf sef 2.00pm ddydd Llun 23 Ionawr 2017 Cofnodion: Dydd Llun 23 Ionawr 2016 am 2.00pm
|
|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |