Lleoliad: Remote Meeting. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Nodi penodiad y Cynghorydd Sir David Evans fel Cadeirydd Cofnodion: Nodwyd.
|
|
Penodi Is-gadeirydd Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Sir S. Woodhouse y Cynghorydd Sir J. Treharne i fod yn Is-gadeirydd, ac eiliwyd yn briodol gan y Cynghorydd Sir David Jones.
Penodwyd y Cynghorydd Sir J. Treharne yn Is-gadeirydd.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion ar gyfer y fforwm agored i’r cyhoedd.
|
|
Pwyllgorau Ardal Cofnodion: Anerchodd y Prif Swyddog Pobl a Llywodraethiant a Swyddog Monitro y Pwyllgor i hysbysu am y gweithgor arfaethedig i drafod Pwyllgorau Ardal. Cytunwyd y cynhelir y cyfarfod cyntaf ar 28 Gorffennaf 2021. Bydd hyn yn gyfle i ystyried newidiadau deddfwriaethol sy’n dod i rym a’n galluogi i feddwl yn fwy eang am y gwersi a ddysgwyd o gyfnod Covid.
Maes i’w ystyried fydd sut mae Clystyrau yn gweithio a’r cyswllt sy’n digwydd o fewn y grwpiau hynny gyda’n Cynghorau Cymuned.
Cytunwyd gwahodd y Pennaeth Menter a Bywiogrwydd Cymunedol i gyfarfod y gweithgor.
|
|
Amrywiaeth mewn Democratiaeth Leol PDF 269 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol adroddiad i’r Pwyllgor i ystyried cynllun gweithredu ac, unwaith y cytunwyd arno, i wneud argymhelliad i’r Cyngor Llawn fod Cyngor Sir Fynwy yn ymrwymo i ddod yn Gyngor Amrywiol fel y nodwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Mae’n bwysig ystyried nad oes gennym fawr o reolaeth dros rai elfennau o’r ymrwymiad, ond mae’r cyfan wedi eu cysylltu yn yr un cynllun gweithredu.
Argymhellir ein bod yn penodi llysgennad amrywiaeth ym mhob gr?p gwleidyddol, ac argymhellwyd os ydym yn gwneud hynny y dylai’r llysgenhadon hynny ddod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Byddai hyn yn sicrhau fod y Pwyllgor yn derbyn adborth ac yn sicrhau y byddwn yn gwybod pe byddai angen newid y cynllun gweithredu ac ymrwymiadau.
Croesawodd yr Aelodau y cynigion yn yr adroddiad a nododd fod Cyngor Sir Fynwy eisoes yn cyflawni llawer ohonynt.
Croesawodd y Cynghorydd Watkins fod amrywiaeth yn cael ei hyrwyddo, gan gydnabod fod cynrychiolaeth dda o gynghorwyr gwryw a benyw ar Gyngor Sir Fynwy. Ychwanegodd y dylai Cyngor Sir Fynwy ymdrechu i wella cynrychiolaeth a chyfranogiad o gymunedau BAME.
Byddai cysgodi a mentora ar sail aelod-i-aelod ac mae’n rhywbeth a awgrymwyd yn dilyn rhaglen cynefino 2017.
Yn nhermau Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn mynychu sesiynau i roi profiad personol o fod yn gynghorydd, awgrymwyd y gellid ehangu hyn i Aelodau amrywiol i adlewyrchu sefyllfa bersonol yr ymgeiswyr.
|
|
Amserau ymateb i Aelodau Cofnodion: Codwyd mater amserau ymateb i sylw’r Pwyllgor mewn ymateb i bryderon a godwyd gan rhai aelodau. Roedd hefyd bryderon am offer technoleg gwybodaeth a mynediad i gyfarfodydd o bell.
Awgrymwyd y dylid anfon arolwg at bob aelod i ddynodi meysydd o gonsyrn.
Cytunodd Aelodau fod amserau ymateb gan swyddogion yn amrywio, ond nodwyd nad oedd unrhyw amserlen benodol.
Ychwanegodd y Cynghorydd Woodhouse y byddai cyfeiriadur cyfredol o fanylion cyswllt swyddogion yn fanteisiol.
Cytunodd y Rheolwr Democratiaeth Leol i anfon arolwg at aelodau i gael mwy o wybodaeth.
|
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol yr adroddiad i gytuno ar feysydd penodol i ddod â nhw i’r pwyllgor er mwyn sicrhau y caiff gwaith angenrheidiol ac wedi’i dargedu ei wneud cyn etholiadau lleol 2022 ac ar gyfer cynefino cynghorwyr newydd ar gyfer y tymor nesaf.
Materion a godwyd
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 213 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2021.
|
|
Nodi dyddiad y cyfarfod nesaf sef 12 Gorffennaf 2021 Cofnodion: Nodwyd.
Eitem Agenda – Trafodaeth ar weddïau yn y Cyngor Llawn.
|