Agenda and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Llun, 9fed Hydref, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Nodwyd y dirprwyo dilynol dros Aelodau ar gyfer y cyfarfod:

·        Y Cynghorydd Sir Jill Bond dros y Cynghorydd Sir Laura Wright

·        Y Cynghorydd Sir Alistair Neill dros y Cynghorydd Sir Tomos Dafydd Davies

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd datganiadau buddiant.

 

3.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 39 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2023.

 

4.

Prosiect Chi sy'n Penderfynu

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Democratiaeth Leol wrth yr Aelodau na fedrai Swyddogion oedd yn mynd i gyflwyno’r eitem fynychu oherwydd salwch a chytunodd y Cadeirydd i wahodd y Swyddogion i’r cyfarfod nesaf.

5.

Newidiadau i'r fformat o gofnodion pdf icon PDF 136 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol yr eitem sy’n gofyn i Aelodau ystyried y newidiadau i ffurf y cofnodion ar gyfer pwyllgorau fel eu bod mewn ffurf tebyg i’r hyn a gyflwynwyd ar gyfer y Cyngor llawn

 

https://www.youtube.com/live/jvPBazOBYjM?feature=shared&t=109

 

Cytunodd y Pwyllgor i gymeradwyo’r newidiadau i ffurf y cofnodion a rhoi cysondeb ar draws pob pwyllgor.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd Aelodau y byddai’r Pwyllgor yn adolygu’r ffurf mewn 12 mis i sicrhau ei fod yn effeithiol a hygyrch ar gyfer cynghorwyr yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd. Fe wnaethom hefyd nodi’r cyfle i Gadeiryddion Craffu gyflwyno eu sylwadau i’r adolygiad.

 

6.

Sianel Timau Aelodau a'r Sgyrsfot pdf icon PDF 132 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Democratiaeth Leol ddiweddariad ar sianel Teams Aelodau a’r sgyrsfot ers y diweddariad blaenorol.

 

https://www.youtube.com/live/jvPBazOBYjM?feature=shared&t=2497

 

Nododd Aelodau y newidiadau a wnaed i sianel Teams Aelodau a’r Sgyrsfot.

 

Cytunwyd y caiff dolen i sianel Teams Aelodau ei ymestyn i’r holl Gynghorwyr Sir gyda manylion gan y Rheolwr Democratiaeth Leol ar sut i gael mynediad iddo a’i ddefnyddio. Byddir yn dod ag adroddiad cynnydd i’r cyfarfod nesaf.

 

7.

Ymweliad Safle Allweddol - Llafar

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Democratiaeth Leol ddiweddariad llafar am drefnu taith o’r Sir a safleoedd allweddol ar gyfer Aelodau.

 

https://www.youtube.com/live/jvPBazOBYjM?feature=shared&t=2741

 

Cytunodd Aelodau y dylid rhannu’r daith dros nifer o ddyddiau i gynnwys safleoedd allweddol ym mhob rhan o’r Sir. Cytunwyd y byddai’r Rheolwr Democratiaeth Leol yn cydlynu gyda’r Cadeirydd i ddynodi safleoedd a dyddiadau posibl ar gyfer y daith.

 

 

8.

Dyddiad y cyfarfod nesaf - 22ain Ionawr 2024

Cofnodion:

Nodwyd.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyflwyno unrhyw eitemau ar gyfer eu hystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

https://www.youtube.com/live/jvPBazOBYjM?feature=shared&t=3273

 

Awgrymodd y Cadeirydd gynnwys Rhestr o Gwynion a Chanmoliaeth i Aelodau ei nodi yn y cyfarfod nesaf.