Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Nodwyd y dirprwyo dilynol dros Aelodau ar gyfer y cyfarfod: · Y Cynghorydd Sir Jill Bond dros y Cynghorydd Sir Laura Wright · Y Cynghorydd Sir Alistair Neill dros y Cynghorydd Sir Tomos Dafydd Davies
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd datganiadau buddiant.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 39 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2023.
|
|
Prosiect Chi sy'n Penderfynu Cofnodion: Dywedodd y Rheolwr Democratiaeth Leol wrth yr Aelodau na fedrai Swyddogion oedd yn mynd i gyflwyno’r eitem fynychu oherwydd salwch a chytunodd y Cadeirydd i wahodd y Swyddogion i’r cyfarfod nesaf. |
|
Newidiadau i'r fformat o gofnodion PDF 136 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol yr eitem sy’n gofyn i Aelodau ystyried y newidiadau i ffurf y cofnodion ar gyfer pwyllgorau fel eu bod mewn ffurf tebyg i’r hyn a gyflwynwyd ar gyfer y Cyngor llawn
https://www.youtube.com/live/jvPBazOBYjM?feature=shared&t=109
Cytunodd y Pwyllgor i gymeradwyo’r newidiadau i ffurf y cofnodion a rhoi cysondeb ar draws pob pwyllgor.
Wrth wneud hynny, cytunodd Aelodau y byddai’r Pwyllgor yn adolygu’r ffurf mewn 12 mis i sicrhau ei fod yn effeithiol a hygyrch ar gyfer cynghorwyr yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd. Fe wnaethom hefyd nodi’r cyfle i Gadeiryddion Craffu gyflwyno eu sylwadau i’r adolygiad.
|
|
Sianel Timau Aelodau a'r Sgyrsfot PDF 132 KB Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Democratiaeth Leol ddiweddariad ar sianel Teams Aelodau a’r sgyrsfot ers y diweddariad blaenorol.
https://www.youtube.com/live/jvPBazOBYjM?feature=shared&t=2497
Nododd Aelodau y newidiadau a wnaed i sianel Teams Aelodau a’r Sgyrsfot.
Cytunwyd y caiff dolen i sianel Teams Aelodau ei ymestyn i’r holl Gynghorwyr Sir gyda manylion gan y Rheolwr Democratiaeth Leol ar sut i gael mynediad iddo a’i ddefnyddio. Byddir yn dod ag adroddiad cynnydd i’r cyfarfod nesaf.
|
|
Ymweliad Safle Allweddol - Llafar Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Democratiaeth Leol ddiweddariad llafar am drefnu taith o’r Sir a safleoedd allweddol ar gyfer Aelodau.
https://www.youtube.com/live/jvPBazOBYjM?feature=shared&t=2741
Cytunodd Aelodau y dylid rhannu’r daith dros nifer o ddyddiau i gynnwys safleoedd allweddol ym mhob rhan o’r Sir. Cytunwyd y byddai’r Rheolwr Democratiaeth Leol yn cydlynu gyda’r Cadeirydd i ddynodi safleoedd a dyddiadau posibl ar gyfer y daith.
|
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf - 22ain Ionawr 2024 Cofnodion: Nodwyd.
Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyflwyno unrhyw eitemau ar gyfer eu hystyried yn y cyfarfod nesaf.
https://www.youtube.com/live/jvPBazOBYjM?feature=shared&t=3273
Awgrymodd y Cadeirydd gynnwys Rhestr o Gwynion a Chanmoliaeth i Aelodau ei nodi yn y cyfarfod nesaf.
|