Lleoliad: Conference Room - Usk, NP15 1AD. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
Nodi penodi’r Cynghorydd Sir Ann Webb yn Gadeirydd. Cofnodion: Nodwyd.
|
|
|
Penodi Is-gadeirydd. Cofnodion: Penodwyd y Cynghorydd Sir Peter Strong yn Is-Gadeirydd.
|
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim
|
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20fed Mawrth 2023. Wrth wneud hynny, nodwyd y dylai’r paragraff canlynol nodi Medi 2026:
Roedd pryder ynghylch y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (SACRE) yn cael ei ddisodli gan y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (SAC), o ystyried y byddai SACRE yn dal i fodoli tan fis Medi 2024. Sicrhaodd y Prif Swyddog yr Aelodau y byddai SAC a SACRE yn cael eu cynnwys dan un pwyllgor, a allai gael ei alw'n SAC/SACRE. Dywedodd y Swyddog Monitro y dylid cyfeirio unrhyw bryderon pellach at y swyddogion perthnasol.
|
|
|
Sianel Teams a Chatbot Pob Cynghorydd Cofnodion: Cyfeiriodd y Rheolwr Democratiaeth Leol at fan penodol ar gyfer Aelodau ar y fewnrwyd lle'r ydym yn uwchlwytho dogfennau megis canllawiau, hyfforddiant anwytho a recordiadau o seminarau. Hysbyswyd yr aelodau bod sianel Teams benodol wedi'i chreu ac y bydd yn cael ei chyflwyno'n weddol fuan a chawsant arddangosiad.
Gwahoddwyd yr aelodau i ddefnyddio'r sianel am ychydig wythnosau a rhoi adborth.
O ran adnoddau cydnabuwyd bod datblygiad y system yn caniatáu mynediad i wybodaeth y tu allan i oriau ac mai dyma'r ffordd ddigidol o symud ymlaen. Mae popeth wedi’i osod i fyny a byddai bellach yn fater o fonitro a diweddaru.
Roedd ychydig o bryder ynghylch y defnydd o AI.
Croesawodd y Pwyllgor y sianel a’r chatbot ac roedd yn edrych ymlaen at ei defnyddio. Cytunwyd y byddai diweddariad yn dod i’r cyfarfod nesaf.
|
|
|
Pwyllgorau Ardal Cofnodion: Agorodd y Cadeirydd drafodaeth ar y posibilrwydd o ailsefydlu Pwyllgorau Ardal. Roedd y Cyngor Cymuned lleol wedi ystyried hwn yn fforwm defnyddiol ac roeddynt yn awyddus i ailsefydlu Pwyllgor Ardal Gwy Isaf.
Roedd safbwyntiau cymysg ar Bwyllgorau Ardal:
· Roedd y Pwyllgorau Ardal yn fwy o siop siarad ac nid oeddent yn ddefnydd effeithiol o amser. · Roeddent wedi bod yn ddefnyddiol pan oedd grantiau'n cael eu rhoi i grwpiau lleol · Roedd presenoldeb swyddogion wedi bod yn broblemus. · Roedd statws y cyfarfod yn golygu nad oeddent yn cael eu cymryd o ddifrif. · Roedd y materion a oedd yn cael eu codi yn bwysig · Gall Pwyllgorau Craffu wahodd partneriaid allweddol perthnasol er mwyn cael ddiweddariadau. · Mae Fforwm Ardal Glannau Hafren wedi'i sefydlu ac yn cael ei ystyried yn llwyddiant.
Penderfynwyd y dylai Aelodau allu sefydlu fforwm anffurfiol, ond ni fyddai hyn yn digwydd yn gyffredinol a dim ond pan fo angen.
|
|
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf – 9 Hydref 2023 Cofnodion: Nodwyd.
Cytunwyd i drefnu taith o amgylch y Sir ym mis Medi.
|