Agenda and minutes

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Llun, 12fed Mehefin, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Conference Room - Usk, NP15 1AD. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Nodi penodi’r Cynghorydd Sir Ann Webb yn Gadeirydd.

Cofnodion:

Nodwyd.

 

2.

Penodi Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Sir Peter Strong yn Is-Gadeirydd.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim

 

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 322 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20fed Mawrth 2023.  Wrth wneud hynny, nodwyd y dylai’r paragraff canlynol nodi Medi 2026:

 

Roedd pryder ynghylch y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (SACRE) yn cael ei ddisodli gan y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (SAC), o ystyried y byddai SACRE yn dal i fodoli tan fis Medi 2024. Sicrhaodd y Prif Swyddog yr Aelodau y byddai SAC a SACRE yn cael eu cynnwys dan un pwyllgor, a allai gael ei alw'n SAC/SACRE. Dywedodd y Swyddog Monitro y dylid cyfeirio unrhyw bryderon pellach at y swyddogion perthnasol.

 

5.

Sianel Teams a Chatbot Pob Cynghorydd

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Rheolwr Democratiaeth Leol at fan penodol ar gyfer Aelodau ar y fewnrwyd lle'r ydym yn uwchlwytho dogfennau megis canllawiau, hyfforddiant anwytho a recordiadau o seminarau.  Hysbyswyd yr aelodau bod sianel Teams benodol wedi'i chreu ac y bydd yn cael ei chyflwyno'n weddol fuan a chawsant arddangosiad. 

 

Gwahoddwyd yr aelodau i ddefnyddio'r sianel am ychydig wythnosau a rhoi adborth.

 

O ran adnoddau cydnabuwyd bod datblygiad y system yn caniatáu mynediad i wybodaeth y tu allan i oriau ac mai dyma'r ffordd ddigidol o symud ymlaen. Mae popeth wedi’i osod i fyny a byddai bellach yn fater o fonitro a diweddaru.

 

Roedd ychydig o bryder ynghylch y defnydd o AI.

 

Croesawodd y Pwyllgor y sianel a’r chatbot ac roedd yn edrych ymlaen at ei defnyddio.  Cytunwyd y byddai diweddariad yn dod i’r cyfarfod nesaf.

 

 

 

 

 

6.

Pwyllgorau Ardal

Cofnodion:

Agorodd y Cadeirydd drafodaeth ar y posibilrwydd o ailsefydlu Pwyllgorau Ardal.

Roedd y Cyngor Cymuned lleol wedi ystyried hwn yn fforwm defnyddiol ac roeddynt yn awyddus i ailsefydlu Pwyllgor Ardal Gwy Isaf.

 

Roedd safbwyntiau cymysg ar Bwyllgorau Ardal:

 

·        Roedd y Pwyllgorau Ardal yn fwy o siop siarad ac nid oeddent yn ddefnydd effeithiol o amser.

·        Roeddent wedi bod yn ddefnyddiol pan oedd grantiau'n cael eu rhoi i grwpiau lleol

·        Roedd presenoldeb swyddogion wedi bod yn broblemus.

·        Roedd statws y cyfarfod yn golygu nad oeddent yn cael eu cymryd o ddifrif.

·        Roedd y materion a oedd yn cael eu codi yn bwysig

·        Gall Pwyllgorau Craffu wahodd partneriaid allweddol perthnasol er mwyn cael ddiweddariadau.

·        Mae Fforwm Ardal Glannau Hafren wedi'i sefydlu ac yn cael ei ystyried yn llwyddiant.

 

Penderfynwyd y dylai Aelodau allu sefydlu fforwm anffurfiol, ond ni fyddai hyn yn digwydd yn gyffredinol a dim ond pan fo angen.

 

 

7.

Dyddiad y cyfarfod nesaf – 9 Hydref 2023

Cofnodion:

Nodwyd.

 

Cytunwyd i drefnu taith o amgylch y Sir ym mis Medi.