Lleoliad: Conference Room - Usk, NP15 1AD. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd datganiadau o fuddiant.
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 35 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2023.
Hysbysodd y Rheolwr Democratiaeth Leol y pwyllgor y cafodd yr arolwg ynghylch cynnal seminar ar y system bleidisio ymateb 50% ac ymddangosai fod dymuniad i gynnal y seminar. Byddir yn cadarnhau dyddiad ar gyfer hyn maes o law.
|
|
Trafodaeth ar Drip Sirol yr Aelodau - Llafar Cofnodion: Agorodd y Rheolwr Democratiaeth Leol drafodaeth am gynllun cynharach i drefnu trip bws o amgylch y sir i ymweld â safleoedd allweddol. Croesawyd Dawn Sadler, Datblygydd Dysgu Sefydliadol, i drafod y cynlluniau ar gyfer y daith. Clywsom fod trefniant tebyg yn ei le ar gyfer staff newydd fel rhan o’r rhaglen sefydlu a chytunwyd y byddai hyn yn ddefnyddiol i Aelodau.
Roedd awgrymiadau am leoedd i ymweld â nhw yn cynnwys:
· Darpariaethau gofal · Canolfannau Croeso · Neuadd Sirol Trefynwy · Amgueddfeydd a Hybiau · Canolfan Hamdden Trefynwy
Nodwyd y caiff unrhyw oblygiadau i’r gyllideb eu cynnwys yn rhaglen sefydlu 2022.
Cytunwyd ceisio dyddiad ac amser addas fyddai’n gweddu i gynifer o Aelodau ag sydd modd, ac y cadarnheir lleoliadau i ymweld â nhw bryd hynny.
|
|
Amseriad Cyfarfodydd – dilyn lan PDF 132 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol yr adroddiad i gytuno ar fethodolesg a chwestiynau ar gyfer asesu anghenion aelodau ar gyfer amseriad cyfarfodydd cyngor llawn gyda golwg ar wneud argymhelliad i’r cyngor llawn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Roedd yr ymatebion yn cynnwys: · Cadw cyfarfodydd y Cyngor Sir am 2pm, gan roi cyfle i bobl weithio yn y bore. · Gallai dechrau am 5pm arwain at orffen yn hwyr iawn. · Rhoi gofod ar gyfer sylwadau Aelodau. · Angen bod mor gynhwysol ag sydd modd. · Cwestiwn i benderfynu os oes cyfrifoldebau gofalu arbennig. · Defnyddio’r cyfle i edrych ar hyd cyfarfodydd a therfynau siarad.
Gadawodd y Cynghorydd Sir Armand Watts y cyfarfod am 14:32pm.
Nodwyd y cynhelir cyfarfodydd y Cyngor Llawn bob chwe wythnos, gyda chyfle i ychwanegu Cyfarfod Arbennig pan fo angen.
Cytunodd y Pwyllgor i gytuno ar yr argymhelliad a byddai’n croesawu’r canlyniadau yn y cyfarfod nesaf.
I adolygu a chytuno ar y broses i sicrhau y bydd yn casglu’r wybodaeth sydd ei hangen i’r pwyllgor wneud argymhelliad gwybodus ar amseriad cyfarfodydd y Cyngor.
|
|
Poster Gwybodaeth Aelodau PDF 8 MB Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol yr wybodaeth yn dilyn trafodaeth yn y cyfarfod blaenorol. Cynlluniwyd rhestr gyda lluniau o Gynghorwyr gyda’r Tîm Cyfathrebu. Bydd hyn hefyd ar gael yn y Gymraeg a chaiff ei gylchredeg i’r holl staff a’i anfon at bob hyb.
Fel yn ein trafodaethau blaenorol mae dymuniad yn dal i fod i drefnu sesiwn cwrdd a chyfarch gyda phrif swyddogion ond ni chafodd hyn ei drefnu hyd yma.
Yn nhermau’r ffordd orau i gyfathrebu gyda’r cyhoedd, clywsom fod y Tîm Cyfathrebu’n gweithio ar Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd ar hyn o bryd.
Awgrymwyd hefyd ein bod yn cyfeirio at rôl Aelodau nad ydynt ar y Cabinet, tebyg i arweinwyr grwpiau, er mwyn tegwch.
Penderfynodd y Cyngor i dderbyn y Poster Gwybodaeth Aelodau.
|
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf – 20 Mawrth 2023 Cofnodion: Nodwyd dyddiad y cyfarfod nesaf.
|