Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd datganiadau o fuddiant.
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 48 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2022. Codwyd y pwyntiau dilynol:
Yng nghyswllt cwestiwn am daith o’r Sir cadarnhawyd fod swyddogion yn edrych ar opsiynau ac efallai y gellid ei drefnu ar gyfer y Flwyddyn Newydd.
Mae Gwasanaethau Cwsmeriaid wedi diweddaru eu polisïau i adlewyrchu’r trafodaethau am y cod ymddygiad.
Byddai’n well i faterion yn ymwneud ag Adroddiad Comisiynydd y Gymraeg gael ei ystyried mewn Cyfarfod Craffu.
|
|
Dyddiadur y Cyngor - 2023-24 PDF 21 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Lleol adroddiad er mwyn i’r pwyllgor adolygu dyddiadur cyfarfodydd 2023/24 ac argymell y dyddiadur i’r Cyngor ei gymeradwyo. Gofynnodd hefyd am sylwadau ar amseriad Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor.
Gofynnwyd am roi ystyriaeth i ymweliadau safleoedd cynllunio wrth osod dyddiadur cyfarfodydd.
Cytunodd aelodau y bu’n briodol cynnal dau gyfarfod ar wahân ar gyfer y CCB eleni oherwydd nifer y cynghorwyr newydd ond yn y dyfodol byddai cyfuno yn un cyfarfod yn ddigonol.
Awgrymwyd y dylid cynnal y cyfarfod ar un diwrnod, ond bod y diwrnod yn cael ei rannu.
Credid ei bod yn briodol cyhoeddi arolwg i aelodau i asesu barn ar amseriad cyfarfodydd ac y gallai’r broses hon gael ei dechrau yn y flwyddyn newydd. Dywedodd y Cynghorydd Sir Penny Jones fod y Cyngor wedi cytuno y byddid yn edrych eto ar y penderfyniad ar amseriad cyfarfodydd ym Mai/Mehefin 2023.
Pan roddwyd y mater i’r bleidlais penderfynodd y pwyllgor:
Argymell y dyddiadur cyfarfodydd ar gyfer 2023/2024 i’r Cyngor.
Bod y pwyllgor yn cyflwyno argymhellion i’r cyngor llawn y dylid cynnal y CCB fel un cyfarfod.
|
|
Adroddiad Drafft y Panel Tâl 2022-23 PDF 34 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol yr adroddiad i’r Pwyllgor i nodi cynnwys drafft adroddiad 2023-24 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Dywedwyd mai’r prif newidiadau oedd cynnydd mewn cyflog sylfaenol, a chynnydd bach mewn cyflogau ychwanegol.
Gellir bwydo barn y pwyllgor yn ôl i’r Panel Tâl. Nid yw’r adroddiad yn mynd i’r Cyngor Llawn.
Codwyd pryderon, o gofio’r argyfwng presennol mewn costau byw, nad dyma’r amser cywir i weithredu’r cynnydd mewn cyflogau. Awgrymwyd y dylai’r Cyngor ystyried y cynigion yn ofalus.
Ar y llaw arall, dywedwyd y gallai peidio rhoi tâl digonol i aelodau adlewyrchu’n wael mewn cynrychiolaeth ac na fyddai’n adlewyrchu’r gymuned yn gywir. Cydnabuwyd hefyd fod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar aelodau.
Roedd anesmwythder am y cynnydd oherwydd posibiliadau dileu swyddi staff oherwydd diffyg yn y gyllideb.
Tanlinellwyd ei bod yn bwysig bod hyn yn parhau’n broses annibynnol a dywedwyd na ddylem fynd lawr y llwybr o osod ein cyflogau ein hunain.
Penderfynodd y Pwyllgor i dderbyn yr argymhelliad.
Nododd y Cynghorwyr benderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
|
|
Newid y System Bleidleisio – Etholiadau Lleol PDF 109 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol yr adroddiad ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i gytuno ar fethodoleg ar gyfer adolygu a mesur awydd aelodau am newid i’r system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol.
Mae gan awdurdodau lleol tan 15 Tachwedd 2024 i gytuno i newid eu system bleidleisio, fodd bynnag mae angen nifer o brosesau gweinyddol yn cynnwys adolygiad etholiadol llawn ar gyfer Sir Fynwy i gyd, yn dilyn y drafodaeth i newid y system a chyn yr etholiad nesaf.
Cynigir Seminar Aelodau i ystyried effaith y newidiadau.
Nid oedd aelodau yn awyddus i gefnogi’r newidiadau ond deallant y byddai seminar yn mesur barn yn well.
Awgrymodd y Rheolwr Democratiaeth Leol y gallai anfon holiadur at bob aelod i osgoi seminar diangen. Os oedd yr ymatebion yn gofyn am hynny, yna gellid cynnal y seminar. Yn y ffordd honno ni fyddem yn gwastraffu amser gyda’r seminar os nad oes galw amdani.
Penderfynodd y Pwyllgor i dderbyn yr argymhelliad:
Bod Cynghorwyr yn cytuno i’r broses a nodir isod ar gyfer rhannu’r wybodaeth ar y newid gyda phob cynghorydd a phenderfynu os y dylai’r eitem fynd gerbron y cyngor llawn.
|
|
Papur Gwyn - Gweinyddu Etholiadol a Diwygio PDF 328 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol y ddogfen ymgynghori, gan dynnu sylw at agweddau penodol sy’n berthnasol i aelodau:
1. A ddylem ddychwelyd i dymor cyngor 4 blynedd yn hytrach na 5 mlynedd; 2. Hyfforddiant gorfodol ar gyfer Cynghorwyr.
Dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau, penderfynodd Llywodraeth Cymru y byddai cyfnod cynghorau yn 5 mlynedd o fis Mai 2022 ymlaen. Cytunwyd ar hyn gyda’r sefyllfa na fyddai trefnu etholiadau yn gwrthdaro. Gallwn anfon ymateb os yw’r Pwyllgor yn ystyried fod 5 mlynedd yn rhy hir.
Yn nhermau yr hyn yw a nad yw yn hyfforddiant gorfodol, wrth lunio’r datganiad swydd mae aelodau yn cytuno i gydymffurfio gyda’r cod ymddygiad sy’n gwneud hyn yn hyfforddiant gorfodol. Mae angen hyfforddiant gorfodol hefyd ar gyfer Cynllunio a Thrwyddedu. Mae’r papur yn gofyn pwy ddylai benderfynu pa hyfforddiant ddylai fod yn orfodol.
Credid y byddai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn sefyllfa well i benderfynu ar hyfforddiant gorfodol.
Dywedwyd bod diffyg hyfforddiant mewn deddfwriaeth yn ymwneud â phreifatrwydd a diogelu, a mynediad i wybodaeth, er enghraifft, ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.
Cytunwyd fod hyfforddiant yn bwysig i bob aelod ac y byddai’n fuddiol derbyn diweddariadau drwy gydol y cyfnod.
Nodwyd bod materion etholiad yn mynd ag amser o ddiwedd y cyfnod 3ydd flwyddyn, ac felly byddai cyfnod 5 mlynedd yn galluogi aelodau i gyflawni mwy.
|
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf – 23 Ionawr 2023 2023 Cofnodion: Nodwyd dyddiad y cyfarfod nesaf.
|