Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 2ail Awst, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Democratic Services 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnodion:

Derbyniasom ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Sir D. Blakebrough, D. Dovey a D, Edwards.

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir A. Webb fuddiant personol a manteisiol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau yn gysylltiedig â chais cynllunio DC/2016/00588 gan iddi fynychu digwyddiad yn y Cwrs Rasio yn Nhachwedd 2015. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio ar y cais.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir A. Webb fuddiant personol a manteisiol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau yn gysylltiedig â chais cynllunio DC /2015/01336 gan iddi’n flaenorol ddatgan buddiant mewn ceisiadau eraill yn gysylltiedig â’r safle hwn. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio ar y cais.

 

 

3.

I gadarnhau am gywirdeb cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 116 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 5ted Gorffennaf 2016 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

4.

Ystyried adroddiadau y Cais Cynllunio canlynol gan y Prif Swyddog - Menter ( copdau ynghlwm )

4g

CAIS CYNLLUNIO - DC / 2016 / 00588 - DYMCHWEL ARFAETHEDIG STAND A CHODI ADEILAD AML- DIBEN A GWAITH CYSYLLTIEDIG CHEPSTOW Cae Ras , CHEPSTOW Spectator NORTHERN pdf icon PDF 241 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar yr 11 amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad. Derbyniwyd gohebiaeth hwyr hefyd yn gysylltiedig â’r cais hwn.

 

Amlinellodd Cynghorydd Cymuned St Arvans Jonathan Richards, a oedd yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol:

 

·         Nid oedd gan y Cyngor Cymuned wrthwynebiad mewn egwyddor i’r cais.

 

·         Mae’r gwrthwynebiad yn benodol yn gysylltiedig â’r fynedfa arfaethedig i gerbydau.

 

·         Mae dwy fynedfa i gerbydau yng nghynigion y strategaeth a amlinellir yn adroddiad yr adran rheoli traffig. Mae gwrthwynebiad y Cyngor Cymuned yn uniongyrchol gysylltiedig ag 2il elfen y fynedfa arfaethedig lle bydd yn ofynnol i draffig groesi’r A466.

 

·         Mae’r glwyd fwyaf gogleddol o fewn parth 50 milltir yr awr ac mae’r Cyngor Cymuned yn ystyried hyn yn beryglus heb reolaeth ar y traffig.

 

·         Bydd y fynedfa o’r A466 yn croesi’r heol yn torri ar draws llwybr troed cyhoeddus a llwybr beicio a ddefnyddir yn rheolaidd.

 

·         Codwyd pryderon ynghylch amlder cynyddol defnydd yr adeilad, gan bryderu’n arbennig am y gofod parcio. Mae’r Cyngor Cymuned wedi cyflwyno gwrthwynebiadau ar hyn yn flaenorol.

 

·         Y prif bryder yw’r traffig ychwanegol yn croesi’r A466 y n mynd i mewn ac yn dod allan o’r maes parcio, yn croesi ar draws y llwybr troed a’r llwybr beicio. Bu trafferthion yno yn y faenorol gan fod y gwelededd yn wael wrth fynd i mewn a dod allan o’r maes parcio. 

 

·         Mae’r Cyngor Cymuned yn falch i weld bod adroddiad y Swyddog yn argymell adroddiad yr adran rheoli traffig ond yn cael nad yw’r amod arfaethedig a’r ddealltwriaeth o’r materion a godwyd, yn mynd i’r afael mewn gwirionedd â phryderon y Cyngor Cymuned.

 

Amlinellodd asiant yr ymgeisydd, Mr Steven Higgins, yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol:

 

·         Derbyniodd bod angen rhagor o waith ar y cynllun rheoli traffig ac yr aed i’r afael ag unrhyw ofynion ychwanegol.

 

·         Mae’r Kennel Club, sy’n helpu i ariannu’r datblygiad hwn, wedi gwneud cais am ddefnyddio’r glwyd hon fel y gall ymwelwyr oedrannus sy’n arddangos eu c?n ddod â’u c?n mewn cewyll cyn nesed at y cyfleusterau ag sydd yn bosibl.

 

·         Bydd y cyfleuster newydd yn dwyn manteision gweledol gyda chyfleuster modern newydd wedi’i adeiladu i’r pwrpas sy’n ategu’r dirwedd sy’n ddymunol donnog.

 

·         Bydd yr eisteddle’n ffurfio cam un o’r gwelliant i’r Cwrs Rasio.

 

·         Bydd y cyfleuster er budd y gymuned leol drwy ychwanegu ffynhonnell refeniw arall a bydd yn gobeithio annog ei ddefnyddio’n lleol.

 

·         Bydd y defnydd arfaethedig yn ategu cynnig y Cwrs Rasio ar adegau eraill ar wahân i ddiwrnodau rasio.

 

·         Ar ddiwrnodau rasio bydd yr eisteddle gaiff ei chodi o’r newydd yn dod â chyfleusterau ardderchog i’r Cwrs Rasio a bydd yn bwysig mewn amodau tywydd anffafriol.

 

·         Nid cynyddu nifer yr ymwelwyr yw’r amcan ond gwella profiad yr ymwelwyr sydd eisoes yn fynychwyr.

 

Wedi ystyried adroddiad yr ymgeisydd a’r safbwyntiau a fynegwyd, credai’r Aelodau fod y cynllun arfaethedig yn gynllun da a fyddai’n cynnig cyfleusterau gwell o fewn y  ...  view the full Cofnodion text for item 4g

4a

CAIS CYNLLUNIO - DC / 2013 / 00,474 - ESTYNIAD LLAWR CYNTAF I 5 a 5A CHIPPENHAMGATE STREET I DDARPARU UN , UN ANNEDD YSTAFELL WELY GYDA TAIR MANNAU PARCIO AR LEFEL Y DDAEAR 5 & 5A CHIPPENHAMGATE STREET, MONMOUTH NP25 3D pdf icon PDF 202 KB

Cofnodion:

Trafodwyd yr eitem hon yn gychwynnol ym Mhwyllgor Cynllunio Gorffennaf 2016 lle cynigwyd gan y Cynghorydd Sir A.M. Wintle a’i eilio gan y Cynghorydd Sir D.L.S. Dovey ein bod yn gohirio trafod cais DC/2013/00474 tan gyfarfod Awst er mwyn caniatáu i’r swyddogion gydgysylltu gyda’r ymgeisydd gyda’r bwriad o newid y wal allanol a’r deunyddiau to ac y dylid darparu rendrad gwyn â tho llechi.

 

Wedi trafod y cynlluniau diwygiedig, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir A. Wintle a’i eilio gan y Cynghorydd Sir R. Chapman bod cais DC/2013/00474 yn cael ei gymeradwyo ar yr amod y cyflwynir y cynlluniau diwygiedig, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

Ar gyfer cymeradwyo’r cais - - 13

Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0

Atal pleidlais – 0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod cais DC/2013/00474 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y cynlluniau diwygiedig, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

4b

CAIS CYNLLUNIO - DC / 2015 / 01336 - NEWID DEFNYDD I STORIO A THRWSIO CERBYDAU MODUR GOLAU ARFAETHEDIG . STORIO A THRWSIO HYD AT DDAU CERBYDAU MODUR HGV a threlar A PHARCIO ATODOL ARDALOEDD ( CYNLLUN DIWYGIEDIG ) TIR AC GWEITHDAI PRESENNOL, NEW SITE GWEITHDY BARN, ST Arvans , CHEPSTOW , NP16 6HE pdf icon PDF 332 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Pennaeth Cynllunio ar lafar eitem ychwanegol o ohebiaeth hwyr a geisiai ohirio’r eitem er budd ‘cyfiawnder naturiol’ fel y gallai gwrthwynebydd siarad. Cynghorwyd y Pwyllgor Cynllunio na wnaed y cais i siarad o fewn y terfyn amser a amlinellwyd yn y Protocol.

 

Yng ngoleuni’r ohebiaeth hwyr a dderbyniwyd ychydig cyn y cyfarfod, ac a ddosbarthwyd yn syth gan y swyddogion Cynllunio i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio ar gychwyn y cyfarfod, caniataodd y Cadeirydd seibiant o 10 munud yn y gweithgareddau er mwyn  rhoi mwy o amser i’r Aelodau graffu ar yr ohebiaeth hwyr cyn mynd ymlaen i ddelio â’r cais hwn.

 

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar bymtheg amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Derbyniwyd gohebiaeth hwyr hefyd parthed y cais hwn.

 

Wrth nodi manylion y cais, mynegodd yr Aelodau’u gwerthfawrogiad o’r pryderon a godwyd parthed y cais, yn nhermau tirwedd a niwsans. Nododd Aelod nad oedd unrhyw wrthwynebiad gan swyddfa AHNE, cyhyd ag y bod sgrinio’n cael ei gyflawni  a gofynnwyd sut gallem ni fonitro’n effeithiol a chynnal hyn. Mewn ymateb, cynghorodd y Pennaeth Cynllunio’r Pwyllgor nad oedd unrhyw amod yn cael ei argymell yn yr adroddiad ar gyfer cynllun rheoli’r dirwedd. Byddai Swyddog Monitro a Gorfodaeth y Tîm Rheoli Datblygu yn sicrhau y cydymffurfir â’r amod hwn ac y cynhelir ef, a phetai'r dirwedd heb ei chynnal neu’n marw, yna byddai pwerau gorfodi i gymryd camau gweithredu petai’r cais cynllunio’n cael ei ganiatáu.

 

Hysbyswyd ni hefyd gan y Pennaeth Cynllunio i wrthwynebiadau gael eu gwneud ynghylch oriau gweithio’r garej heb gael eu gorfodi. Ond ar hyn o bryd, nid oes amodau cynllunio yn eu lle i orfodi gan fod y defnydd heb ei awdurdodi.

 

Gofynnodd Aelod a aed i’r afael ag Achos yr Uchel Lys yn 2014. Mewn ymateb, dywedwyd wrthym yr aed i’r afael â chasgliadau’r Uchel Lys yn achos 2014 gan swyddogion a’u bod wedi rhoi ystyriaeth briodol i’r cais a dderbyniwyd ac a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio heddiw.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell bod cais DC/2015/01336 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar ddiwygio amod 7 i gyfeirio at gerbydau ‘ysgafn’, diwygio amod 15 i sicrhau y cedwir y cladin yn barhaol a nododd yr Aelodau fod y Swyddogion wedi cyflawni asesiad effaith amgylcheddol diwygiedig yng ngoleuni’r sylw at dwll y dwrgi.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

 

Ar gyfer cymeradwyo’r cais - 12

Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0

Atal pleidlais – 0

 

Cariwyd y cynnig.

.

 

Penderfynasom fod cais DC/2015/01336 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar ddiwygioamod 7 i gyfeirio at gerbydau ‘ysgafn’, diwygio amod 15 i sicrhau y cedwir y cladin yn barhaol a nododd yr Aelodau fod y Swyddogion wedi cyflawni asesiad effaith amgylcheddol diwygiedig yng ngoleuni’r sylw at dwll y dwrgi.

 

4c

CAIS CYNLLUNIO - DC / 2016 / 00320 - AILFODELU PRESENNOL ANNEDD MALLARD AVENUE CALDICOT pdf icon PDF 173 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y tri amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Mynegodd Arglwydd Faer Cil-y-Coed, hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, bryderon ynghylch y cais gan honni ei fod yn teimlo bod y to arfaethedig yn rhy uchel ac y byddai’r ailfodelu’n anghydnaws â’r ardal.

 

Wedi ystyried y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell ein bod yn cymeradwyo cais DC/2016/00320 yn amodol ar y tri amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

 

Ar gyfer cymeradwyo’r cais - 10

Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 3

Atal pleidlais – 0

 

Cariwyd y cynnig.

.

 

Penderfynasom fod cais DC/2016/00320 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y tri amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

4d

CAIS CYNLLUNIO - DC / 2015 / 01585 - TROSI TY GWREIDDIOL I 6 FFLAT ; ADDASU COACH HOUSE A STABLAU YN DDAU UNED BRESWYL AR WAHÂN . DYMCHWEL ESTYNIAD 1970 'S BLOCK , CODI 36 O UNEDAU PRESWYL ADEILADAU NEWYDD (GAN GYNNWYS 10 FFLAT YMDDEOL FFORDDIADWY A 2 FFORDDIADWY YMDDEOL BYNGALO ) THE HILL , PEN-Y - POUND , Y FENNI , NP7 7RP pdf icon PDF 244 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar yr ugain amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Roedd gohebiaeth hwyr hefyd wedi cael ei derbyn  parthed y cais hwn.

 

Nid oedd yr Aelod lleol dros Y Fenni yn bresennol, felly mynegodd aelod y ward gyfagos, sydd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei gefnogaeth i’r cais.

 

Codwyd pryderon gan Aelodau ynghylch y silffoedd ffenestri cefn ar gyfer y t? o fath  Earlswood. Cytunodd yr ymgeisydd, a oedd yn bresennol, ar lafar i’w darparu a bydd swyddogion yn sicrhau y dangosir y silffoedd ar gynllun diwygiedig cyn cyflwyno’r penderfyniad.

 

Wedi ystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod lleol, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir R. Harris ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell ein bod yn cymeradwyo cais DC/2015/01585 yn amodol ar yr ugain amod,  fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106, ychwanegiad o amod Priffyrdd a amlinellwyd mewn gohebiaeth hwyr ynghylch cynnal a chadw a rheoli’r fynedfa yn y dyfodol, ac amodau bioamrywiaeth y cyfeiriwyd atynt mewn gohebiaeth hwyr, ynghyd â’r cynllun diwygiedig yn dangos y silffoedd ffenestri ar wedd gefn y t? o fath  Earlswood cyn cyflwyno’r penderfyniad.  

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

 

Ar gyfer cymeradwyo’r cais - 13

Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0

Atal pleidlais – 0

 

Cariwyd y cynnig.

.

 

Penderfynasom fod cais DC/2015/01585 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr ugain amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106, ychwanegiad o amod Priffyrdd a amlinellwyd mewn gohebiaeth hwyr ynghylch cynnal a chadw a rheoli’r fynedfa yn y dyfodol, ac amodau bioamrywiaeth y cyfeiriwyd atynt mewn gohebiaeth hwyr, ynghyd â’r cynllun diwygiedig yn dangos y silffoedd ffenestri ar wedd gefn y t? o fath  Earlswood cyn cyflwyno’r penderfyniad.  

 

4e

CAIS CYNLLUNIO - DC / 2016 / 00301 - TROSI ARFAETHEDIG DIANGEN ADEILAD AMAETHYDDOL ( YSGUBOR 4 ) I DDEFNYDD PRESWYL FIVE LANES FARM , CAERWENT pdf icon PDF 242 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad ar   y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y pedwar amod ar ddeg, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Mynegodd yr Aelod lleol dros Gaerwent, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, ei gefnogaeth i’r cais.

 

Wrth nodi manylion y cais, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir R. Harris ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy a’i eilio gan y Cynghorydd Sir J. Higginson bod cais DC/2016/00301 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar y pedwar amod ar ddeg, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

 

Ar gyfer cymeradwyo’r cais - 13

Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0

Atal pleidlais – 0

 

Cariwyd y cynnig.

.

 

Penderfynasom fod cais DC/2016/00301 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pedwar amod ar ddeg, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

4f

CAIS CYNLLUNIO - DC / 2016 / 00494 - NEWID DEFNYDD GWESTY GYDA DEFNYDD C1 I A1 , A2 A DEFNYDD A3 AR Y LLAWR DAEAR ??GYDA DEFNYDD B1 I'R CYNTAF A'R AIL LLORIAU . GWESTY'R SWAN , CROSS STREET, Y FENNI , NP7 5ER pdf icon PDF 165 KB

Cofnodion:

Trafodwyd yr eitem hon yn gychwynnol yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio Gorffennaf 2016 lle cafodd ei gymeradwyo gan y Cynghorydd Sir M. Powell bod ystyried cais DC/2016/00494 yn cael ei ohirio i gyfarfod mis Awst i ganiatáu amser i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Tref Y Fenni ystyried y cais a chyflwyno sylwadau i Adran Gynllunio Cyngor Sir Fynwy.

 

Wrth nodi manylion y cais, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Clarke ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R. Chapman bod cais DC/2016/00494 yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar y pedwar amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

 

Ar gyfer cymeradwyo’r cais - 13

Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 0

Atal pleidlais – 0

 

Cariwyd y cynnig.

.

 

Penderfynasom fod cais DC/2016/00494 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y pedwar amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

5.

ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio - Apeliadau a Dderbyniwyd Penderfyniadau

5a

Y Mwnt , Heol Parc , Coed y Paen , Sir Fynwy NP4 0SY pdf icon PDF 153 KB

Cofnodion:

Derbyniasom adroddiad yr Arolygaeth Gynllunio sy’n cyfeirio at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle ar 14eg  Mehefin 2016, yn The Mount, HedolHeolHeol Parc, Coed y Paen, Sir Fynwy NP4 0SY.

 

Roedd yr apêl wedi’i gwrthod.

 

5b

Apeliadau a dderbyniwyd - 24 mis Mehefin - 21 Gorffennaf, 2016 pdf icon PDF 152 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr apeliadau a dderbyniwyd rhwng 24ain Mehefin a 21ain Gorffennaf 2016.

 

Hysbysodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Ffurfio-llefydd y Pwyllgor fod dyddiad wedi’i anfon i Aelodau’r Pwyllgor ar gyfer y daith ddylunio nesaf,  dydd Mercher, 14eg Medi 2016 a gofynnodd am awgrymiadau oddi wrth Aelodau am lefydd y byddent yn hoffi ymweld â hwy.

 

Hysbyswyd ni, cyn cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ym mis Hydref y byddem yn derbyn ymweliad gan y Prif Arolygwr Cynllunio a fydd yn rhoi cyflwyniad byr ynghylch datblygiadau o bwys  cenedlaethol.

 

Erbyn 2016 ar gyfer y Comisiwn Dylunio i Gymru gyda’r bwriad o hyfforddiant pellach yn 2017, manylion i ddilyn.

 

Ar ddydd Mawrth 27ain Medi 2016 am 1pm mae cyfarfod o’r Pwyllgor Dethol Economi a Datblygiad a gwahoddir Aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio i edrych ar berfformiad blynyddol yr adroddiad ac adroddiad monitro blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol.