Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Oedolion - Dydd Mawrth, 11eg Ebrill, 2017 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiad o fuddiant gan Aelodau.

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

3.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol

4.

Cyd-bwyllgor Dethol (Craffu'r Gyllideb) - 31 Ionawr 2017 pdf icon PDF 156 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y Cyd-bwyllgor Dethol (Craffu'r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 31ain Ionawr 2017 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

5.

Cydbwyllgorau Dethol Plant a Phobl Ifanc ac Oedolion: 6 Chwefror 2017 pdf icon PDF 165 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y Cyd-bwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a’r Pwyllgor Dethol Oedolion a gynhaliwyd ar 6ed Chwefror 2017 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

6.

Pwyllgor Dethol Arbennig Oedolion (Tai Fforddiadwy) - 14 Chwefror 2017 pdf icon PDF 195 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Dethol Arbennig Oedolion (Tai Fforddiadwy) a gynhaliwyd ar 14eg Chwefror 2017 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

7.

Cydbwyllgor Dethol (Model Darpariaeth Amgen) - 27 Chwefror 2017 pdf icon PDF 179 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor Dethol (Model Darpariaeth Amgen) a gynhaliwyd ar 27ain Chwefror 2017 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

8.

Pwyllgor Dethol Oedolion: 28 Chwefror 2017 pdf icon PDF 179 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Dethol Oedolion a gynhaliwyd ar 28ain Chwefror 2017 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

9.

Gwariant Grant Cefnogi Pobl pdf icon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun

Pwrpas yr adroddiad yw i Aelodau’r Pwyllgor ystyried cynigion Rhaglen   Grant Cefnogi Pobl (RhGCP) ar gyfer 2017/18 a chytuno’r Cynllun Gwariant arfaethedig.

 

Materion Allweddol

Mae’r Dyraniad Grant Dangosol ar gyfer 2017/18 yn awgrymu y bydd y lefel gyllido’r un fath ag ar gyfer 2016/17 - £2,039,175.00. Mae gan fwyafrif contractau RhGCP Sir Fynwy ddyddiad terfynu/adolygu ar Fawrth 2019.

 

Mae’r canllawiau a gysylltir â’r Grant yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau sicrhau bod natur y Cyllid Grant yn ddeiliadaeth ynghyd ag yn niwtral o ran oedran. Mae’r galw am gefnogaeth yn seiliedig ar dai i bobl h?n wedi lleihau gyda’r amrywiad contract o 10% a ganiateir yn cael ei weithredu yn y prif gontract i bobl h?n yn dod i ben, y darparwr wedi rhoi rhybudd ei fod yn terfynu’r contract.  

 

Bydd cefnogaeth i bobl h?n wedyn ar gael drwy’r model yn seiliedig ar le a’r Porth. Gwasanaeth generig cymorth fel y bo’r angen yw hwn ac mae dadansoddiad o’r deilliannau a gyflenwir gan y gwasanaethau generig yn dangos y darperir cymorth i’r holl gategorïau cefnogi ac felly, yr holl nodweddion gwarchodedig. Rheolir y trefniadau pontio drwy’r Porth a fydd yn sicrhau y caiff yr holl bobl sydd ar hyn o bryd yn derbyn cymorth eu hanghenion wedi’u hailasesu ac y cânt wedyn eu cyfeirio at y gwasanaeth cyflenwi priodol a fydd yn cwrdd â’u hanghenion.  

 

Yn 2016/17, datblygwyd dwy fenter beilot bwysig – cymorth i’r Di-gartref a llesiant a chymorth cynhwysiant cymdeithasol, y ddwy fenter o fewn y mentrau’n seiliedig ar le. Tra nad aeth y mentrau rhagddynt yn llawn tan Fedi/Hydref 2016, bu cynnydd sylweddol yn y deilliant a gyflawnir. 

Bydd mynediad i bobl h?n yn bennaf nawr drwy’n gwasanaeth Porth gyda’i weithwyr cymorth cysylltiedig yn y timoedd yn seiliedig ar leoedd.

 

Dynodwyd sefyllfaoedd yn ddiweddar lle nad aeth y rhaglen Cefnogi Pobl i’r afael yn llawn ag anghenion pobl iau a phobl sy’n gadael gofal. Mae’n bwysig cymryd camau gweithredu cadarnhaol i sicrhau bod y nodwedd fregus a gwarchodedig hon yn cael ei chefnogi’n briodol. Neilltuir adnodd dynodedig yn y cynllun gwariant.

 

Mae’r rhan fwyaf o’r contractau’n rhedeg tan fis Mawrth 2019; mae lefelau cyllido’n dal heb eu newid, ac mae’r fenter yn seiliedig ar leoedd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol iawn i’r rheiny sydd angen cymorth yn y cymunedau. Mae’r ffordd newydd hon o weithio’n caniatáu i gymorth gael ei ddarparu yn seiliedig ar angen a heb ei gysylltu’n unig â’r fan lle mae person yn byw. 

 

Mae demograffeg Sir Fynwy wedi gwneud ein pobl h?n yn angen blaenoriaethol, fodd bynnag, mae’r anghenion cymorth ar gyfer y categori hwn wedi newid dros y blynyddoedd ac maent wedi lleihau. Mae gweithio mwy clos rhwng y gwasanaethau Oedolion a’r Personau Iau wedi dangos bod angen cymorth pellach wedi’i dargedu at bobl ifanc yn gadael gofal.

 

Craffu Aelodau

Cyflwynodd Arweinydd Cefnogi Pobl a Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion gyd-destun yr adroddiad. Yn dilyn y cyflwyniad, gwnaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Cyflwyniad gan y Cyngor Iechyd Cymunedol

Cofnodion:

Materion Allweddol

Gwahoddwyd y Prif Swyddog ar gyfer Cyngor Iechyd Cymuned Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) i’r cyfarfod i roddi diweddariad ar waith y Cyngor Iechyd Cymuned. 

 

Craffu Aelodau

Ar ôl derbyn y cyflwyniad, gwnaeth yr Aelodau sylwadau a holi cwestiynau fel a ganlyn:

 

Cyfeiriodd Aelod at swyddogaeth y CIC yn cynrychioli buddiannau’r cyhoedd i’r BIPAB a gofynnodd beth oedd ei safiad ar symud unedau mân anafiadau yn Sir Fynwy i Ysbyty Nevill Hall.  Ymatebwyd bod y CIC yn chwarae rhan flaenllaw, yn gweithio gyda BIPAB, gan weithredu unrhyw newidiadau mewn gwasanaeth er mwyn sicrhau y caiff safbwyntiau cleifion eu hystyried. 

 

Holwyd ymhellach sut mae aelodau’r cyhoedd i dderbyn a mewnbynnu gwybodaeth gan nad yw cyfarfodydd y CIC yn agored i’r cyhoedd.  Mewn ymateb, eglurwyd bod ymwybyddiaeth o’r CIC yn her ac yn uchel ar ei agenda ond ychwanegodd, pan fydd pobl angen ei wasanaethau, tueddant i ddod o hyd iddo (mae’r ffaith i dros 500 o achwyniadau ynghylch gwasanaethau BIPAB gael eu trin mewn blwyddyn yn dystiolaeth o hyn). Yn ychwanegol, eglurwyd bod gan y CIC 42 o aelodau (10 yn byw yn Sir Fynwy) a disgwylir iddynt ymgysylltu â’r cyhoedd fel rhan o’u swyddogaeth. Mae rhestr o ddigwyddiadau dros y flwyddyn i annog rhyngweithiad mewn e.e. fforymau lleol, clybiau cinio ayyb. 

 

Cadarnhawyd bod cyfarfodydd chwarterol CIC yn agored i’r cyhoedd a chânt eu hysbysebu i gymell pobl i fynychu. Ychwanegwyd bod llefydd gwag ar hyn o bryd a chroesewir aelodau newydd.

 

Gofynnodd Aelod i ba raddau roedd y CIC yn effeithiol wrth ymdrin â phryderon cleifion (e.e. oriau meddygfa Meddyg Teulu, practisau gwag, cyflenwi y tu allan i oriau) a beth ellir ei wneud mewn gwirionedd. Mewn ymateb, eglurwyd, pan fydd CIC yn ymwybodol o broblemau, gall wneud argymhellion i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a fydd yn darparu cynllun gweithredu i ddatrys y problemau a godwyd. Cadarnhawyd bod cynaliadwyedd Meddygon Teulu’n broblem fawr a bod y CIC yn bresennol mewn cyfarfodydd panel mynych gyda Gofal Sylfaenol ac yn eistedd yn annibynnol ar y pwyllgor meddygol lleol i sicrhau bod prosesau teg mewn perthynas â’r materion hyn. Ychwanegwyd bod arolwg mynediad Meddygon Teulu ar gael ar lein a gallai rhai ymatebion arwain at ymchwilio pellach ac ymgysylltu gyda chleifion.

 

Awgrymodd Aelod y gellid darparu clinig iechyd misol ym marchnad da byw Rhaglan ar gyfer asesiad iechyd sylfaenol. Cytunwyd y byddai’r CIC yn trosglwyddo’r awgrym hwn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.  

 

Nodwyd bod y CIC yn dal swyddogaeth o gefnogi pobl ag achwyniadau ynghylch gwasanaethau BIPAB. Dywedwyd bod rhai cleifion yn ei chael yn anodd gwneud cwynion, ac ychwanegwyd bod y CIC yn rhy agos i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan felly nid oedd pwynt achwyn. Cyfeiriodd yr Aelod ymhellach at ymchwil a wnaed yn flaenorol gan y CIC ar amserau aros mewn clinigau ysbyty gan gwestiynu safon y gwaith.  

 

Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y CIC yn sefydliad statudol annibynnol. Cydnabuwyd bod angen parhaus i arddangos annibyniaeth y CIC gan  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Adroddiad gan gynrychoilydd y Pwyllgor Dethol Oedolion ar Fforwm Iechyd a Llesiant Pobl Hŷn Carchar Brynbuga pdf icon PDF 980 KB

Cofnodion:

Materion Allweddol

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor Dethol wedi cynnal ymweliad defnyddiol â Charchar Brynbuga a chyn hynny roedd Aelod wedi mynychu cyfarfod o Fforwm Iechyd a Llesiant Personau H?n Carchar Brynbuga ac reodd wedi ysgrifennu adrodddiad i’w ystyried gan y Pwyllgor Dethol.

 

Craffu Aelodau

Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad, gwnaeth yr Aelodau sylwadau:

 

Gwnaeth aelod sylwad bod carcharorion wedi dweud eu bod yn cael bywyd yn undonog am gyfnodau maith a chwestiynodd a oedd celf a chrefft ar gael. Eglurodd cynrychiolydd ar ran y Carchar fod nifer o wahanol weithgareddau a mentrau wedi cychwyn a’u bod wedi’u derbyn yn dda. Gobeithir y bydd diddordeb yn y gweithgareddau hyn yn cynyddu.

Eglurwyd, mewn ymateb i gwestiwn ynghylch clinigau arbenigol, bod BIPAB wedi cytuno i gyflwyno achos busnes ar gyfer clinig ffisiotherapi i gael ei ddarparu yn y carchar. Ychwanegwyd bod rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar wedi dechrau ac mae’n profi’n boblogaidd, fel mae’r sesiynau ioga. Gobeithir hefyd gyflwyno sesiynau ym Mhrescoed. Eglurwyd bod y Carchar wedi buddsoddi  mewn hyfforddiant ffrindiau gyda Recoup a threfnir hyfforddiant staff maes o law, ac ar gyfer carcharorion sy’n dymuno ymgymryd â’r swyddogaeth. Croesawyd y wybodaeth a ddarparwyd.

Text Box: Sylwadau’r Cadeirydd Diolchwyd i’r Aelod am ddarparu adroddiad clir ac adeiladol. Nodwyd yr ymddangosid bod cynnydd wedi’i wneud. Awgrymwyd bod pwysigrwydd y materion hyn yn haeddu’u cynnwys ar raglenni gwaith y dyfodol. Diolchwyd i gynrychiolydd y carchar am fynychu’r cyfarfod.

 

 

 

12.

Rhestr Weithredu pdf icon PDF 8 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Rhestr Weithredu

 

13.

Pwyllgor Dethol Oedolion - Blaenraglen Gwaith pdf icon PDF 201 KB

Cofnodion:

Nodwyd bod ychydig eitemau na chawsant sylw yn ystod y flwyddyn a fydd yn cael eu hychwanegu i’r Flaenraglen Waith fel deilaog barhaus gyda BIPAB, craffu parhaus o wasanaethau strôc a chynnal deilaog gyda’r CIC. Bydd ymdrechion yn parhau  i wahodd swyddogion perthnasol, rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaeth i ddarparu’r persbectif llawnaf o bob pwnc a chyfarfodydd ystyrlon a pherthnasol.

 

Diolchodd y Pwyllgor i’r Cadeirydd am ei waith rhagorol fel Cadeirydd y Pwyllgor, am ei wybodaeth a’i synnwyr digrifwch. Ymatebodd y Cadeirydd ei bod wedi bod yn fraint cael bod yn Gadeirydd y Pwyllgor. Diolchodd i’w Is-gadeirydd, y Cynghorydd R. Harris, i’r Aelodau ac i’r Aelodau Cyfetholedig. Diolchodd i Julie Boothroyd a thîmcyfan y Gwasanaethau Cymdeithasol a chroesawodd y gonestrwydd a ddangoswyd  wrth ymchwilio a llunio gwasanaethau. Diolchodd i’r Tîm Gwasanaethau Democrataidd am glerco’r cyfarfodydd a mynegodd ei werthfawrogiad arbennig i Hazel Ilett, y  Rheolwr Craffu am ei chyfarwyddyd a chynllunio gwaith y Pwyllgor mewn modd digymar. Cydnabu Julie Boothroyd waith y Pwyllgor.

 

Mynegodd y Cynghorydd Sir P. Jones, yn ei swyddogaeth fel Cadeirydd, ei diolchiadau i Hazel Ilett a Richard Williams am eu gwaith gyda Phwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc.

 

Ymatebodd Aelodau’r Pwyllgor mewn cytundeb â’r sylwadau a wnaed.

 

14.

Rhaglen Waith y Cabinet a'r Cyngor pdf icon PDF 239 KB

Cofnodion:

Nodwyd Rhaglen Waith y Cabinet a’r Cyngor

15.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf