Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Oedolion - Dydd Mawrth, 24ain Ionawr, 2017 10.00 am

Lleoliad: Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Fe ddatganodd y Cynghorydd Sir A.Wintle fuddiant personol, di-ragfarn mewn perthynas ag eitem 4 a 5 fel aelod o fwrdd Cymdeithas Tai Sir Fynwy.

 

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol

3.

Cydbwyllgor Dethol Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc - 22 Ionawr 2016 pdf icon PDF 193 KB

Cofnodion:

Fe gadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Dethol Oedolion ar y Cyd a'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2016 ac fe'u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

4.

Pwyllgor Dethol Arbennnig Oedolion - 29 Tachwedd 2016 pdf icon PDF 183 KB

Cofnodion:

Fe gadarnhawyd cofnodion cyfarfod arbennig y Pwyllgor Dethol Oedolion a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2016 ac fe'u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

5.

Pwyllgor Dethol Oedolion - 13 Rhagfyr 2016 pdf icon PDF 302 KB

Cofnodion:

Fe gadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2016 ac fe'u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

6.

Trafodaeth ar Daliadau Dai yn ôl Disgresiwn pdf icon PDF 77 KB

Cofnodion:

 

6.   Trafodaeth ar Argymhellion ar Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn

 

 

Cyd-destun:

Fe fynychodd y Cynghorydd Sir P. Hobson, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Dai, y cyfarfod mewn ymateb i lythyr a anfonwyd gan y Cadeirydd yn cynnwys argymhellion i'r Cabinet yn dilyn craffu cyn-penderfynu ar y Polisi Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn fel rhan o'i graffu ehangach o ddiwygio lles. 

 

Argymhellion:

1.    Fe argymhellir bod y Cabinet yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i gytuno i gynyddu'r arian y mae'n ei buddsoddi yn y gronfa Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn , gan gydnabod yr effaith amlwg mae'r ariannu wedi cael ar bobl agored i niwed a'r risgiau a goblygiadau o beidio â chefnogi pobl trwy ostwng budd-daliadau ymhellach, yn enwedig o ran atal digartrefedd a phlant yn cael eu cymryd i mewn i ofal y Cyngor.

2.    Gan gymryd fod llawer o'r gwaith hwn yn cael ei gyflwyno mewn awyrgylch cartref, argymhellir bod y Cabinet yn cydnabod yr angen am system rybuddio gorfforaethol hygyrch i adnabod cleientiaid a chartrefi y gallai fod yn risg i weithwyr unigol. Dealla'r Pwyllgor bod Torfaen yn gweithredu model tebyg i ddiogelu ei gweithlu.

3.    Argymhella'r Pwyllgor bod pob asiantaeth sy'n gweithio ym maes budd-daliadau, megis y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r Cyngor yn ystyried y potensial i rannu arfer gorau ac archwilio cyfleoedd i greu effeithiolrwydd ac economïau wrth ddarparu gwasanaethau cynghori ar lesiant.

4.    Ar ben hynny, argymhella'r Cyngor cyfarfod ar y cyd gyda'r Pwyllgor Cynllunio i ystyried y berthynas rhwng digartrefedd, budd-daliadau tai a'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy yn Sir Fynwy.

 

Ymatebion i argymhellion gan Weinidog y Cabinet

1.    Fe ystyriodd y Cabinet yr argymhelliad ac nid yw'n bwriadu cynyddu'r gyllideb ar gyfer y Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn ar hyn o bryd.  Rhagwelir na fydd y gofynion ar y gyllideb hon yn cael eu huchafu a bod anghenion a gofynion yn cael eu bodloni yn sgil hyn.  O ran yr effaith a'r risg o beidio â chefnogi pobl, fe nodwyd bod y Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn wedi cynorthwyo sefydlogrwydd mewn cartrefi a fyddai dan fygythiad fel arall.  Fe ychwanegwyd mai cyfrifoldeb Llywodraeth Ganolog yw polisi llesiant a newid ym mudd-daliadau; mae awdurdodau lleol yn mynd i'r afael ag effeithiau'r newidiadau gyda'r Cabinet yn monitro'r galw ar y gyllideb wrth i newidiadau ddigwydd. 

 

Fe esboniodd y Swyddog Tai a Chymunedau bod y gefnogaeth a ddarperir gan Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn arwyddocaol yn Sir Fynwy am resymau fforddiadwyedd yn ôl adborth gan asiantaethau. Fe gytunwyd i dderbyn adroddiadau monitro mwy manwl ac aml er mwyn darparu gwybodaeth gliriach ar gyfer y Pwyllgor.  Fe ychwanegwyd y gellir rhagweld mwy o bwysau ar y gyllideb y flwyddyn nesaf wrth i'r newidiadau i reoleiddiad symud yn eu blaenau (Cap Budd-daliadau - trothwy is a newidiadau i reoliadau Budd-daliadau Tai ar gyfer pobl sengl, dan 35, mewn tai cymdeithasol).

 

2.    O ran y cwestiwn o aelodau o staff yn gweithio mewn awyrgylch a allai fod yn beryglus (cartrefi), fe gynghorwyd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cyllid Cyfalaf: Grant Cyfleusterau Anabl a Diogelwch yn y Cartref pdf icon PDF 443 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

7.   Cyllid Cyfalaf: Cyfleusterau Anabl a Grant Diogelwch yn y Cartref

 

Cyd-destun:

 

Darparu diweddariad ar y gyllideb gyfalaf a ddarparwyd i gefnogi grantiau cyfleusterau anabl a grantiau Diogelwch yn y Cartref a'r effaith ar berfformiad cyffredinol y gwasanaeth ac ar wasanaethau a ddarperir gan Ofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

 

Materion Allweddol:

 

1.         Mae dyletswydd statudol ar y Cyngor i ddarparu grantiau cyfleusterau anabl o fewn chwe mis o dderbyn cais dilys.  Gall methiant i wneud hynny arwain at her gyfreithiol.  Mae ganddo ddisgresiwn hefyd i ddarparu grantiau Diogelwch yn y Cartref.  Ers 2006, mae cyllideb gyfalaf o £600,000 wedi cael ei darparu'n flynyddol i gyflwyno'r ddau fath o grantiau. Yn gyffredinol, fe rannir y grant yn £500,000 i gefnogi grantiau cyfleusterau anabl a £100,000 i gefnogi grantiau Diogelwch yn y Cartref. 

 

2.         Ar gyfer pob grant cyfleusterau anabl mae uchafswm o £36,000 a thra bod y mwyafrif tua £4,500, bob blwyddyn fe ddarperir nifer o grantiau mawr, cymhleth i fodloni anghenion plant gydag anableddau cymhleth ac yn fwyfwy ar gyfer oedolion sy'n anabl yn sgil trawma neu afiechydon dirywiol.  Trwy adborth gan gleientiaid, mae'n hysbys bod addasiadau wedi cael effaith arwyddocaol ar ansawdd bywyd ymgeiswyr a gofalwyr. Hefyd, mae sgôr o 95% yn cael ei gyflawni'n rheolaidd o ran boddhad cwsmeriaid.

 

3.         Mae grantiau Diogelwch yn y Cartref wedi'u bwriadu ar gyfer gwaith llai megis canllawiau, grisiau isel a mân addasiadau, yn aml yn costio llai na £250 ond sy'n gwneud cartref yn fwy diogel ar gyfer preswylydd anabl.  Yn aml maen nhw'n cael eu comisiynu i hwyluso dod allan o'r ysbyty, neu i leihau'r risg o gwympo ac anafiadau a allai olygu bod rhaid i'r person fynd i'r ysbyty.  Mae'r ddau grant yn chwarae rôl allweddol wrth hwyluso dod allan o'r ysbyty ac atal derbyniadau.

 

4.         Ar ben yr effaith ar gleientiaid sy'n gorfod aros yn hirach er mwyn i'r addasiadau gael eu cwblhau, mae gan y diffyg blynyddol o gyllid a'r ymrwymiad llawn cynharach fyth (fel arfer yn yr hydref) effeithiau andwyol ar berfformiad mewn perthynas â grantiau cyfleusterau anabl sy'n Ddangosydd Perfformiad Allweddol sy'n cael ei fonitro'n agos gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill. 

 

5.         Mae dewisiadau amgen i grantiau cyfleusterau anabl a grantiau Diogelwch yn y Cartref yn bodoli ond does yr un mor ddeniadol â chymorth grant.Er hyn, mae rhai darpar ymgeiswyr yn dewis parhau gyda'r gwaith angenrheidiol ar eu traul eu hun.  Gweler Atodiad 1 ar gyfer yr opsiynau eraill sydd ar gael. 

 

Craffu gan Aelodau:

Fe nodwyd na fod y dyraniad cyfredol o £600,000 yn ddigonol i fodloni'r galw blynyddol a bod y gyllideb fel arfer wedi cael ei ymrwymo cyn Nadolig.  Fe ddarparwyd amcangyfrif a oedd yn nodi bod y gyllideb £500,000 yn rhy isel i fynd i'r afael â'r llwyth gwaith wrth gefn.  Ar ddechrau mis Ionawr roedd 19 cais yn aros am grant cyfleusterau anabl ac mae hyn bellach wedi codi i 44 heddiw, gyda deufis o'r flwyddyn ariannol i ddod.  Gellid derbyn hyd at 70 atgyfeiriad erbyn diwedd y flwyddyn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Drafft Gynigion Cyllideb Cyfalaf 2017/18 i 2020/21 pdf icon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Craffu ar y gyllideb cyfalaf a gynigir ar gyfer 2017/18 a'r cyllidebau cyfalaf dangosol ar gyfer y tair blynedd 2018/19 i 2020/21.

 

Materion Allweddol:

Materion yn ymwneud â'r Cynllun Arian Cyfalaf Tymor Canolig

·         Mae'r rhaglen gyfalaf pedair blynedd yn cael ei hadolygu bob blwyddyn a'i diweddaru i gymryd unrhyw wybodaeth newydd sy'n berthnasol i ystyriaeth.

 

·         Prif gydran y Cynllun Arian Cyfalaf Tymor Canolig ar gyfer y blynyddoedd nesaf yw Rhaglen Ysgolion y Dyfodol. Mae'r Cyngor yn ddiweddar wedi cymeradwyo cyllido pellach ar gyfer y rhaglen yn ei gyfarfod ar 20 Hydref 2016.

 

·         Mae nifer o feysydd eraill ble mae ymrwymiad i fuddsoddi. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae'r cynlluniau'n eistedd y tu allan i'r rhaglen wrth i waith symud yn ei flaen i adnabod y gofynion cyllido.  Sef:

 

-       Pwll Trefynwy - ymrwymiad i ail-ddarparu'r pwll yn Nhrefynwy o ganlyniad i raglen Ysgolion y Dyfodol.

 

-       Hyb y Fenni - ymrwymiad i ail-ddarparu'r llyfrgell gyda'r Siop Un Stop yn y Fenni er mwyn cwblhau'r gwaith o greu Hyb ym mhob un o'r trefi.

 

-       Grantiau Cyfleusterau Anabl - mae'r galw am grantiau lawer uwch na'r gyllideb ar hyn o bryd. Mae gwaith ar y gweill i asesu lefel y buddsoddiad sydd ei angen i facsimeiddio'r effaith a'r budd i'r sawl sy'n derbyn y grant.

 

-       Dêl y Ddinas - mae 10 Awdurdod yn rhanbarth Dinas Caerdydd yn edrych ar botensial Dêl y Ddinas gwerth £1.2 biliwn. Mae cytundeb i ymrwymo i'r rhaglen hon yn cael ei geisio ar draws y rhanbarth ym mis Ionawr 2017 a byddai'n cael effaith ar y Cynllun Arian Cyfalaf Tymor Canolig. Mae'r effaith posib ar gyllidebau awdurdodau unigol yn cael eu modelu ar hyn o bryd cyn gwneud penderfyniadau ar brosiectau a phroffiliau penodol er mwyn i awdurdodau ddechrau adlewyrchu'r ymrwymiad yn eu Cynlluniau Arian Tymor Canolig.

 

-       Bloc J ac E - Mae'r rhaglen o ail-drefnu'r swyddfeydd yn cael ei hystyried i weld a oes yna ddatrysiad a fyddai'n galluogi uno safleoedd Magwyr a Brynbuga, gan ryddhau cyllid i dalu am y buddsoddiad angenrheidiol er mwyn caniatáu defnyddio'r blociau.

 

·         Mae strategaeth sy'n galluogi cynnwys y rhaglen graidd, Ysgolion y Dyfodol a'r cynlluniau uchod yn cael ei datblygu. Er gwaethaf hyn, bydd nifer sylweddol o risgiau sydd heb unrhyw botensial i'w hariannu o fewn y Cynllun Arian Cyfalaf Tymor Canolig ac mae risg sylweddol yn gysylltiedig â hyn.  Mae'r Cabinet eisoes wedi asesu'r risg hon.

·         Y polisi cyfredol yw bod cynlluniau newydd yn gallu cael eu hychwanegu at y rhaglen, dim ond os yw'r achos busnes yn dangos eu bod yn hunan-ariannu neu os bennir bod y cynllun yn flaenoriaeth uwch na chynlluniau cyfredol yn y rhaglen ac felly yn eu disodli.

 

·         Yn y grynodeb, mae'r materion a'r risgiau canlynol wedi cael eu hadnabod:

 

-       Rhestr hir o risgiau wrth gefn - isadeiledd, eiddo, gwaith DDA, hawliau tramwy cyhoeddus, fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 o'r adroddiad.  Does dim o'r risgiau hyn yn gynwysedig yn y Cynllun Arian Cyfalaf Tymor Canolig cyfredol, ac  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

DRAFFT GYNIGION CYLLIDEB 2017/18 ER YMGYNGHORIAD - Pwyllgor Dethol Oedolion pdf icon PDF 318 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

9.   CYNIGION CYLLIDEB DRAFFT 2017/18 AR GYFER YMGYNGHORIAD - Pwyllgor Dethol Oedolion

 

Cyd-destun:

 

·         Darparu cynigion drafft manwl o'r arbedion sy'n ofynnol yn y gyllideb i fodloni'r bwlch rhwng yr adnoddau sydd ar gael a'r angen i wario yn 2017/18, at ddibenion ymgynghori.

·         Ystyried cyllideb 2017/18 o fewn cyd-destun y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac ymddangosiad blaenoriaethau i arwain gweithgareddau trwy Sir Fynwy y Dyfodol.

 

Materion Allweddol:

 

Fe graffodd y Pwyllgor Dethol ar gynigion cyllideb y Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol a Thai fel yr amlinellwyd yn Atodiad 3F o'r adroddiad, a oedd yn cyfateb i arbediad o £236,024.

 

Fe ddarparwyd gwybodaeth gefndir gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol bod yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar refeniw a chostau gweithredu, sy'n wahanol i'r adroddiad blaenorol yn seiliedig ar gyllidebau cyfalaf. Fe esboniwyd, yn hanesyddol, bod proses o fandad wedi cael ei roi ar waith ble mae swyddogion yn cynnig mandadau ac yn gweithredu arnynt.  Mae'r ymagwedd hon wedi cael ei hadolygu i herio rheolwyr gwasanaeth i gynnig awgrymiadau i wneud e.e. arbedion 5% neu 10% i wneud gwasanaethau'n fwy cynaliadwy.  Fe aethpwyd i'r afael â hyn ar draws pob cyfarwyddiaeth ac fe grëwyd rhestr gynhwysfawr o gynigion yn unol â hyn, gyda rhai yn ddichonadwy a rhai yn llai realistig.

 

Fe ddarparwyd cyd-destun ychwanegol bod problem cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi cael ei datrys yn hytrach na darparu Cynllun Ariannol Tymor Canolig pedair blynedd i ganiatáu ychydig o hyblygrwydd ar gyfer y weinyddiaeth newydd yn dilyn yr etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017.

 

Fe ychwanegwyd bod modd rhagweld cyllid o Lywodraeth Ganol yn well wrth gydnabod natur wledig y Sir, fodd bynnag y canlyniad gorau oedd cyllideb sefydlog (0%) er gwaethaf y pwysau blynyddol o gynnydd mewn cyflogau, cynnydd yn y gost o fyw a chynnydd mewn chwyddiant cytundebol ac ati.  Fe dynnwyd sylw at yr adroddiad, para 3.2 tybiaethau cyllideb ar gyfer y flwyddyn. Fe dynnwyd sylw at y ffaith, pe na fyddai unrhyw newidiadau yn cael eu cyflwyno, byddai'n arwain at bwysau o £2.5 miliwn y flwyddyn nesaf oherwydd chwyddiant. Ar ben hynny, roedd pwysau o fewn y gwasanaethau wedi cael eu hystyried, e.e. ble nad oedd mandadau wedi dod i'r fei fel y'u cynlluniwyd yn wreiddiol, ac fe adolygwyd y sefyllfa.  Bydd y pwysau'n codi i £4 miliwn yn unol â hyn. Nid oes arbedion o £4 miliwn wedi cael eu gwneud mewn gwasanaethau oherwydd cynigion MRP i symud ymlaen gydag arbedion papur yn lle.  Mae'r ymagwedd hon yn darparu lle o £1.5 miliwn ond mae'n ymhlyg bod arbedion yn dal i gael eu gwneud.  Fe dynnwyd sylw at y ffaith bod canran yr arbedion arfaethedig a gyflwynir gan reolwyr yn amrywio. Mae gwaith ar y gyllideb ac arbedion yn parhau. 

 

Gofynnwyd i aelodau ystyried y cynigion ar yfer arbedion o fewn cylch gorchwyl Oedolion (Atodiad 3f).

 

Fe ddarparodd yr Aelod Cabinet, Adnoddau, eglurhad bod cydnabyddiaeth o natur wledig y sir wedi dyrannu cyllid ychwanegol ond nid yw wedi newid y sefyllfa ariannol gyffredinol.  Mae'r Sir yn parhau  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Pwyllgor Dethol Oedolion - Blaen-gynllun Gwaith pdf icon PDF 227 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd fersiwn diweddaraf y Cynllun Gwaith at y Dyfodol.  Wrth wneud hynny, fe gytunwyd ar yr amserlen ganlynol o gyfarfodydd:

 

6 Chwefror 2017: Cyd-bwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc a'r Pwyllgor Dethol Oedolion i graffu ar yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth. 

 

14 Chwefror 2017: Cyd-bwyllgor yr Economi a Datblygiad, Pwyllgor Dethol Cymunedau a'r Pwyllgor Dethol Oedolion (gydag un o'r Pwyllgorau Dethol yn cynnal y cyfarfod, dim penderfyniad ar ba un eto) gyda'r Pwyllgor Cynllunio i graffu ar y canlynol:

           

·         Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol ar dai fforddiadwy 

·         Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy: yr ymagwedd arfaethedig at gael mynediad at lety yn y sector rhentu preifat er mwyn atal digartrefedd

·         Atal Digartrefedd - Cynllun Gwarantu Rhent (elfen o Wasanaeth Gosod Sir Fynwy)

 

Holodd Aelod o'r Pwyllgor pam fod Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygiad wedi cymryd cyfrifoldeb o'r Pwyllgor Dethol ar Gymunedau Cryf.  Esboniwyd bod y Pwyllgor Dethol ar Gymunedau Cryf yn gyfrifol am graffu ar ddarpariaeth Tai, cylch gorchwyl y Pwyllgor Dethol Oedolion yw digartrefedd, diwygiadau lles a thai fforddiadwy a bod gan yr Economi a Datblygiad gyfrifoldeb dros ganrannau tai fforddiadwy datblygwyr yn y Cynllun Datblygu Lleol, felly mae yna themâu sy'n gorgyffwrdd. Mae'r cyfarfod ar y cyd hwn wedi cael ei drefnu i osgoi dyblygiad.

 

27 Chwefror 2017: Cyd-bwyllgorau Dethol Arbennig i graffu ar y Model Cyflwyno Amgen

 

28 Chwefror 2017: Pwyllgor Dethol Oedolion

 

31 Ionawr 2017:  Cyd-bwyllgorau Dethol i graffu ar y Gyllideb

 

Fe holodd y Cadeirydd am y broses o beth sy'n digwydd ar ôl i Bwyllgor Dethol anfon argymhelliad i'r Cabinet a nodwyd y byddai'r Bwrdd Cydlynu yn ystyried y mater hwn.

 

 

 

11.

Cynllunydd Gwaith Cabinet a Chyngor pdf icon PDF 461 KB

Cofnodion:

Fe nodwyd Cynllunydd Gwaith y Cabinet a'r Cyngor.

12.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod ensaf sef dydd Mawrth 28 Chwefror 2017 am 10.00am