Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Oedolion - Dydd Mawrth, 20fed Medi, 2016 10.00 am

Lleoliad: Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Fe ddatganodd y Cynghorydd Sir A. Wintle fuddiant personol, di-ragfarn fel Cyfarwyddwr Cymdeithas Tai Sir Fynwy. 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Doedd dim cwestiynau gan aelodau o'r cyhoedd.

 

3.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 135 KB

Cofnodion:

Fe gadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2016 fel cofnod cywir ac fe'u llofnodwyd gan y Cadeirydd.  Am eglurdeb yn y dyfodol, fe ofynnwyd bod y rhestr o'r sawl a oedd yn bresennol yn gwahaniaethu rhwng cynghorwyr, swyddogion ac eraill a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

4.

Diwygio Lles a Thaliadau Tai ar Ddisgresiwn pdf icon PDF 278 KB

Cofnodion:

Fe esboniwyd y byddai'r drafodaeth ar eitemau 4-8 yn canolbwyntio ar y polisi Diwygio Lles a Thaliadau Tai yn ôl Disgresiwn. Roedd yr eitemau wedi cael eu cynnwys i ddarparu diweddariad ar newidiadau lles i gynorthwyo Aelodau i graffu cyn gwneud penderfyniad ar y polisi, gan nodi bod 18 mis wedi mynd heibio ers iddynt graffu ddiwethaf.  Rhagwelwyd y byddai'r eitemau ar yr agenda yn gorgyffwrdd.

 

5.

Trosolwg o Newidiadau Diwygio Lles

Cofnodion:

Cefndir:

 

Fe groesawyd Sue Harris, Rheolwr Partneriaethau Lleol ar gyfer Casnewydd a Sir Fynwy, yr Adran Gwaith a Phensiynau, i'r cyfarfod i ddarparu trosolwg o'r Newidiadau Diwygio Lles. 

 

·         Fe ddarparwyd diweddariad ar Gredyd Cynhwysol ac fe nodwyd y lansiwyd y cynllun ym mis Ebrill 2013, a'i bod ar gael mewn Canolfannau Byd Gwaith ac yn cael ei hawlio gan 280,000 o bobl.  Fe esboniwyd bod y cynllun heb gael ei rolio allan yn llawn yn yr ardal hon ac yn sgil hyn, pobl sengl nad sy'n berchen ar d? yw'r hawlwyr yn Sir Fynwy.  Ar ben hynny, fe hysbyswyd Aelodau bod amryw ddiwygiadau llesiant eraill wedi digwydd a'r nod yw datblygu gwasanaeth mwy personol i bawb.  Er gwybodaeth, fe esboniwyd, o dan y cynllun budd-daliadau cyfredol, ar gyfer pob 100 person sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, bod 113 hawlydd yn symud i mewn i waith sy'n cynrychioli gwelliant.

 

·         Fe hysbyswyd Aelodau bod rhai newidiadau eraill ar fin cael eu cyflwyno megis cael gwared â chyfradd uwch y Credyd Cynhwysol ar gyfer y plentyn cyntaf a'r gyfradd is ar gyfer plant dilynol.  Bydd y cyfraddau hyn yn cael eu disodli gyda chyfradd safonol ar gyfer pob plentyn o fis Ebrill 2017. Fe esboniwyd y bydd hawliadau cyfredol yn parhau fel Credyd Cynhwysol ond bydd hawliadau newydd gan deuluoedd gyda dau blentyn neu fwy yn cael eu cyfeirio yn ôl i Gredydau Treth tan fis Tachwedd 2018 ac yna'n dychwelyd i Gredyd Cynhwysol.  Mae'r mesur hwn er mwyn sicrhau bod y system Credyd Cynhwysol yn gweithio'n gywir. 

 

·         Bydd y symudiad a reolir o hawliadau cyfredol ar gyfer Credyd Cynhwysol yn cael ei ohirio i gychwyn ym mis Gorffennaf 2019 a bydd wedi'i gwblhau ym mis Mawrth 2022.  Mae disgwyl cyflwyniad llawn y cynllun yn yr ardal hon yn ddiweddarach eleni bellach wedi cael ei ohirio.  Mae disgwyl bydd gwasanaeth Credyd Cynhwysol llawn ar gael mewn pum Canolfan Byd Gwaith y mis o fis Mehefin 2017.

 

·         Fe ddarparwyd gwybodaeth ar gapio budd-daliadau, sy'n cynrychioli un o'r materion mawr gyda diwygiadau llesiant.  Fe esboniwyd bod budd-daliadau ar hyn o bryd wedi'u capio ar £26,000 y flwyddyn ar gyfer rhieni sengl a chartrefi mewn cyplau, a £18,200 ar gyfer pobl sengl.  O fis Tachwedd 2016, bydd budd-daliadau'n cael eu capio ar £20,000 ar gyfer cyplau a £13,500 ar gyfer pobl sengl sy'n byw yn eu llety eu hunain.  Fe nodwyd bod disgwyl y bydd hyn yn effeithio ar 88,000 cartref yn genedlaethol yn y flwyddyn gyntaf.  Yn lleol, mae disgwyl y bydd hyn yn effeithio ar 90 cartref yn Sir Fynwy a 160 cartref yn Nhorfaen. Fe esboniwyd bod rhai eithriadau i'r cap budd-daliadau megis ar gyfer pobl sy'n hawlio credydau treth gwaith, taliadau annibyniaeth personol, lwfans gweini ayyb. 

 

·         Mae sgan wedi cael ei wneud ac mae'r Adran Gwaith a Phensiynau'n gweithio gyda Chynghorau i drafod pa gefnogaeth gellir ei gynnig i'r sawl a effeithir arnynt.  Fe esboniwyd bod cyswllt wedi cael ei wneud â'r cartrefi yr effeithir arnynt.  Mae awdurdodau lleol yn ymweld â'r  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Trafodaeth gyda Chyngor Sir Fynwy ar effaith Taliadau Tai ar Ddisgresiwn mewn atal digartrefedd

Cofnodion:

Cefndir:

 

Fe ddarparodd Michele Morgan, Cymdeithas Tai Sir Fynwy, ychydig o gyd-destun i esbonio effaith y Diwygiad Lles ar denantiaid Tai Sir Fynwy. 

 

Fe esboniodd hi, pan gyflwynwyd y dreth ystafell wely yn 2013, fe effeithiwyd ar dua 400 o denantiaid a bod hyn bellach wedi gostwng i 284 oherwydd bod rhai wedi dewis symud i gartref llai o faint, bod oedran y plant yn caniatáu iddynt gael eu hystafell wely eu hunain a bod rhai wedi dod o hyd i waith.  Fe ychwanegodd hi fod yr ôl-daliadau ar gyfer y 284 o denantiaid a effeithiwyd gan y dreth ystafell wely ar lefel o £51,000.  O'r 284, mae tri chwarter angen llety un ystafell wely os ydynt yn barod i symud i gartref llai o faint.  Fe esboniwyd bod prinder lletyau un ystafell wely yn y Sir, felly nid yw symud i gartref llai o faint yn opsiwn i nifer. 

 

Fe hysbyswyd aelodau, o'r 284, bod 133 tenant wedi derbyn Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn i fodloni'r diffyg mewn budd-daliadau tai (sydd werth, ar gyfartaledd, £9.66 yr wythnos).  Fe ychwanegwyd na fod y Taliad Tai yn ôl Disgresiwn yn ddigon i dalu cyfanswm y dreth ystafell wely a bod angen i'r tenant gyfrannu'r gweddill o'u budd-daliadau. 

 

Fe hysbyswyd aelodau bod 64 Taliad Tai yn ôl Disgresiwn yn dod i ben y mis hwn a bod Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn gweithio gyda thenantiaid i gynorthwyo gyda'r ceisiadau newydd. Bydd 90 tenant yn cael eu heffeithio gan y cap budd-daliadau is o fis Tachwedd 2016.  Fe esboniwyd mai dim ond 5 sydd wedi'u heffeithio ar hyn o bryd ac y bydd hyn yn codi i 23 ym mis Tachwedd.  Teuluoedd gyda 3 neu fwy o blant yw'r rhain gan fwyaf.  Fe hysbyswyd aelodau mai'r effaith posib ar y 23 cartref oedd colled o dros £2,000 yr wythnos (£109,000 y flwyddyn). 

 

Fe atgoffwyd aelodau bod yr ardal hon heb gael ei heffeithio'n llawn eto gan Gredyd Cynhwysol a bod 17 hawlydd Lwfans Ceisio Gwaith sengl, gyda phob un ohonynt mewn ôl-ddyled.

 

Fe gyflwynwyd ambell astudiaeth achos i ddangos sut mae Taliadau yn ôl Disgresiwn wedi cael eu defnyddio yn y Sir.  Fe ofynnwyd am gadarnhad o'r ymagwedd gan gydnabod y bwriad i liniaru'r effaith ar y Cyngor.  Fe nodwyd y byddai newidiadau pellach yn effeithio ar y landlord, gan greu galw newydd yn ychwanegol at y gefnogaeth i deuluoedd a oedd eisoes yn cael ei darparu a phwysau ar gyllideb gan arwain at ostyngiad mewn taliadau.

 

Fe fynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad am gyflwyno'r astudiaethau achos.

 

Craffu gan Aelodau

 

Yn dilyn y cyflwyniad, fe wahoddwyd Aelodau i gyflwyno sylwadau.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn am yr astudiaeth achos gyntaf, fe gadarnhawyd bod y 2 blentyn wedi dod yn rhai sy'n derbyn gofal a'u bod yn annhebygol o ddychwelyd. Fe nodwyd y byddai hyn yn rhoi baich ariannol sylweddol ar y Cyngor.  Fe holwyd beth fyddai'n digwydd pe bai'r plant yn cael eu cymryd i mewn i ofal dros dro yn unig a'u bod  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Diweddariad ar effaith newidiadau budd-dal yn Sir Fynwy a chraffu ar y polisi Taliadau Tai ar Ddisgresiwn

Cofnodion:

Cefndir:

 

Fe ddarparodd y Pennaeth y Gwasanaeth Budd-daliadau ar y Cyd ar gyfer Sir Fynwy a Thorfaen darluniad i ddangos effaith y Diwygiadau Lles gan ganolbwyntio fwy ar Sir Fynwy a beth sy'n cael ei wneud i gynorthwyo a chefnogi cwsmeriaid.

 

Fe gyflwynwyd fersiwn diwygiedig o'r Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn ar gyfer ai argraffu cyn cyfarfod y Cabinet ar 2 Tachwedd 2016.

 

Craffu gan Aelodau

 

Yn dilyn y cyflwyniad, fe wahoddwyd Aelodau i gyflwyno sylwadau.

 

           Fe eglurwyd, pan ddaw'r taliadau tai yn ôl disgresiwn i ben ar ôl chwe mis, gellir gwneud cais am estyniad.

 

           Fe gadarnhawyd bod taliadau rhent a dderbynnir o fudd-daliadau tai a thaliadau tai yn ôl disgresiwn yn cael eu talu'n uniongyrchol i Gymdeithas Tai Sir Fynwy. Mae 17 hawlydd Credyd Cynhwysol a 120 hawlydd budd-dal Tai, am gyfnod prawf, yn derbyn taliad uniongyrchol. Mewn ymateb i gwestiwn, fe gadarnhawyd bod yna ganlyniadau cymysg gyda'r cyfnod prawf a bod y sawl mewn ôl-ddyled o dros 8 wythnos yn cael eu tynnu allan o'r cyfnod prawf.

 

           Fe gadarnhawyd bod dadansoddiad yn cael ei wneud o incwm a gwariant.

 

              Fe nododd Aelod bod prinder llety llai addas a nododd bod angen y Sir angen diwydiant a llety rhad ac mae dyletswydd y Cyngor oedd ceisio datrys hyn.  Fe nodwyd bod y targed o 35% ar gyfer llety rhad ar ddatblygiadau wedi cael ei ostwng.

 

Fe esboniodd y Pennaeth Cynllunio a Thai mai'r polisi yn y Cynllun Datblygu Lleol yw targed o 35% ym mwyafrif y sir ond bod polisi cenedlaethol yn gofyn ein bod yn ystyried dichonoldeb datblygwr.  Mae yna becyn cymorth ac ymagwedd gymeradwy sy'n cydnabod bod rhaid i awdurdodau lleol ganiatáu i ddatblygwyr wneud elw neu ni fyddant yn adeiladu o gwbl.  Fe gytunwyd y byddai'n ddefnyddiol cael cyfarfod ar y cyd o'r Pwyllgor hwn a'r Pwyllgor Cynllunio gyda chynrychiolwyr Tai. 

 

Fe hysbyswyd Aelodau y byddai Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygiad yn cyfarfod â'r Pwyllgor Cynllunio ar ddiwedd mis Medi. Bydd yr Adroddiad Perfformiad Cynllunio Blynyddol yn cael ei gyflwyno cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a hefyd yr Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Fe nododd Aelod ei fod yn cytuno gyda'r pwynt ar dai fforddiadwy gan ychwanegu bod y gallu i ddatblygwr wneud elw yn dibynnu ar y pris prynu a dalwyd i'r tirfeddiannwr. Os yw'r Sir yn mynnu bod 35% o dai fforddiadwy, bydd rhaid i'r datblygwr, mewn trafodaeth â'r tirfeddiannwr, gymryd hynny i ystyriaeth o ran y gost a delir i'r tirfeddiannwr.  Fe gadarnhaodd Aelod y farn wrthwynebol gan ddweud ei bod ddim bob tro'n bosib cyflawni'r targed o 35% os nad yw'n ddichonadwy ar gyfer y datblygwyr.

 

 

 

 

 

8.

Trafodaeth ar y gwasanaeth cynhwysiant ariannol newydd yn seiliedig o fewn y Tîm Opsiynau Tai pdf icon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cefndir:

 

Fe groesawyd y Swyddog Tai ac Adfywio i'r cyfarfod i gyflwyno adroddiad i ddarparu trosolwg o Wasanaeth Cynhwysiant Ariannol atal digartrefedd y Cyngor, sy'n llunio rhan o'r Gwasanaeth Opsiynau Tai.

 

Craffu gan Aelodau:

 

·         Gan gyfeirio at gyfarfod blaenorol, fe ofynnwyd pa gydweithio oedd wedi digwydd neu a gynigir rhwng y gwahanol fudiadau sy'n cyflwyno gwasanaethau cefnogaeth tai ac a oedd unrhyw gynlluniau i uno gwasanaethau. Fe gadarnhawyd bod dim ymgais wedi bod i ddarparu un porth gwasanaeth ond bod pob asiantaeth yn cydweithio yn rheolaidd, gyda chyfleoedd i gydweithio mwy.  Roedd cydnabyddiaeth bod gwasanaethau'n gallu gorgyffwrdd o ddydd i ddydd ac fe ddarparwyd esiamplau.  Fe nododd y Cadeirydd y dylid ystyried opsiynau i gydweithio mwy neu ddarparu un porth.  

 

·         Fe groesawodd Aelod rôl y swyddog cynhwysiant ariannol gan gydnabod ei bod yn faes pwysig iawn o'r gwasanaeth rheng flaen.

 

·         Fe holodd y Cadeirydd sut roedd y risgiau i weithwyr unigol yn cael eu lliniaru. Fe nodwyd bod gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy systemau gweithio unigol cadarn.  Fe ddisgrifiodd y swyddog cynhwysiant ariannol y system tracio mae hi'n ei defnyddio.  Roedd y Cadeirydd wedi'i galonogi gan yr atebion a roddwyd.  Cynigwyd bod system briodol yn cael ei roi ar waith er mwyn cydnabod yr angen am system rhybuddio gorfforaethol hygyrch i adnabod cleientiaid a chartrefi y gallai peri risg i weithwyr unigol.  Fe drafododd y Pwyllgor yr amryw systemau sydd ar gael ac fe'i hysbyswyd hefyd bod Torfaen yn gweithredu model tebyg i ddiogelu ei gweithlu ac fe gytunwyd i archwilio'r opsiynau.

 

·         Fe gadarnhaodd y swyddog cynhwysiant ariannol ei bod hi wedi cysylltu â'r Gwasanaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a gwasanaethau perthnasol eraill a bod ganddi gymhwyster cymorth cyntaf ac iechyd meddwl. Mewn ymateb i gwestiwn, fe gadarnhawyd bod ganddi'r hawl i fynd at feddyg.

 

·         Fe holodd y Cadeirydd, ac fe gytunwyd, y byddai'n ddefnyddiol gofyn i'r Cabinet ystyried buddsoddi ariannu ychwanegol i gefnogi taliadau tai yn ôl disgresiwn er mwyn lleihau effaith y newidiadau, atal digartrefedd a phlant rhag dod yn rhai sy'n derbyn gofal.  Fe ddarparwyd eglurhad bydd y polisi diwygiedig ar daliadau tal yn ôl disgresiwn yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.  Mewn perthynas â'r newidiadau arfaethedig, fe drafodwyd pwysigrwydd cronfa'r taliadau tai yn ôl disgresiwn.

 

·         Fe dynnwyd sylw at y prif newidiadau i'r polisi taliadau tai yn ôl disgresiwn ac fe'i pasiwyd ymlaen am gymeradwyaeth y Cabinet. 

 

9.

Monitro Cyllideb

Cofnodion:

Fe dderbyniodd y Pwyllgor Datganiad Rhagolwg Alldro Cyfnod 1 2016/17 Monitro Refeniw a Chyfalaf. Diben yr adroddiad yw rhoi gwybodaeth i Aelodau ar sefyllfa rhagolwg alldro refeniw yr Awdurdod ar ddiwedd cyfnod 1 sy'n cynrychioli gwybodaeth ariannol mis 2 ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Bydd yr adroddiad hefyd yn cael ei ystyried gan y Pwyllgorau Dethol fel rhan o'u cyfrifoldeb:

 

• i asesu a oes monitro effeithiol o gyllidebau'n digwydd,

• i fonitro i ba raddau mae cyllidebau'n cael eu gwario yn unol â'r gyllideb a gytunwyd a fframwaith y polisi,

• i herio rhesymoldeb gor neu danwariant arfaethedig, a

• i fonitro cyrhaeddiad enillion effeithiolrwydd a ragwelir neu gynnydd mewn perthynas â chynigion ar arbedion.

 

10.

Craffu ar yr adroddiad Monitro Cyllideb ar gyfer Cyfnod 1 pdf icon PDF 703 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe gyflwynodd y Rheolwr Cyllid yr adroddiad a thynnu sylw at y ffaith ei bod yn darparu ciplun ariannol o Fis 2.

 

Fe esboniwyd bod y gyllideb Gofal Cymdeithasol a Thai yn dynodi gorwariant o £1.1 miliwn yn seiliedig ar amcangyfrifon a data go iawn.  Mae'r gyllideb portffolio ar gyfer ardal Dethol i Oedolion yn dynodi gorwariant o £462,000.  Y rhagolwg cyffredinol ar gyfer yr awdurdod yw £1.386 miliwn ym Mis 2.  Fe dynnwyd sylw at y gwahaniaethau a restrir yn yr adroddiad a hefyd i'r gyllideb cyfalaf fach sy'n cyfeirio'n bennaf at waith cynnal a chadw rheolaidd e.e. ym Mharc Maerdy a Severnview.

 

O ran arbedion, fe esboniwyd bod yr arbedion mandad o £12,000 (Mandad A24) ar y trywydd cywir.  Mae Mandad A34, arbediad o £628,000 yn ymwneud â newid arferion wedi cael ei newid i un â chyfradd RAG Ambr oherwydd gorwariant o £462,000.  Mae'r gorwariant wedi cael ei briodoli i Dîm Oedolion Cas-gwent.  Fe gynghorwyd Aelodau bod yna risg na fyddai'r arbedion a fandadwyd yn cael eu cyflawni.

 

Craffu gan Aelodau

 

·         Fe holwyd a oedd unrhyw beth o fewn y wybodaeth a ddarparwyd y dylai achosi pryder yn benodol i Aelodau.  Fe gadarnhawyd bod data mwy diweddar yn nodi'r gorwariant sylweddol parhaus yn Nhîm Oedolion Cas-gwent ac y bydd cynllun adfer yn cael ei baratoi.

 

·         Fe holodd Aelod a fydd y cynnig i gau cartref gofal yn Swydd Gaerloyw yn cael effaith andwyol.  Fe gadarnhawyd bod nifer o drigolion Sir Fynwy yn y cartref a bod yr awdurdod wrthi'n edrych am leoliadau o fewn y Sir neu jyst dros y ffin.  Fe gadarnhawyd bod y pris a dalwyd am y cytundeb yn bris teg a dderbyniwyd gan y cartref.  Y gobaith yw dod o hyd i leoliadau tebyg i drigolion.  Rhagwelwyd mai isel fyddai'r effaith andwyol ar gyllid.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn, fe gadarnhawyd bod tanwariant yn y gyllideb staffio yn ymwneud â chael staff banc i gyfro cyfnodau o salwch.  Fe gofiwyd bod mandad wedi bod yn 2014 i leihau hawl g?yl y banc ar gyfer staff nad oedd eto wedi cael ei roi ar waith.

 

·         Fe groesawodd Aelod yr adroddiad yn gynnar yn y flwyddyn a chyd-destun yr amcangyfrifon a'r data go iawn.  Fe nodwyd bod nifer o ysgolion yn y sir yn rhagweld y bydd cronfeydd wrth gefn yn cael eu gwagio eleni.

 

·         Fe fynegwyd hyder bod rheolwyr gwasanaeth yn mynd i'r afael â materion yn briodol. 

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn, fe gadarnhawyd bod y swyddi cydlynwyr cymunedol yng ngogledd a de'r sir yn rhai dros dro. Fe ddarparwyd esboniad bod y swyddi arfer cael eu hariannu trwy gronfeydd wrth gefn ond eu bod bellach wedi cael eu symud i'r gronfa gofal canolraddol.  Mae'r swyddi yn ganlyniad i gynigion i system ariannu dros dro.  Fe nodwyd y bydd rhai swydd ychwanegol yn cael eu llenwi erbyn mis Tachwedd.

 

 

11.

Blaenraglen Gaith Pwyllgor Dethol Oedolion pdf icon PDF 265 KB

Cofnodion:

Fe dderbyniwyd y Blaenraglen Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Dethol Oedolion.

 

·         Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: Mae trefniadau'n parhau i gadarnhau dyddiad i gynrychiolwyr fynychu'r Pwyllgor.

 

·         Mae'r trefniadau'n parhau o ran dyddiad i ymweld â Charchar Brynbuga.

 

·         Rhaglen Eiddilwch Gwent: Pwyllgorau Craffu Oedolion Gwent Gyfan i gwrdd i ystyried adroddiad Swyddog Archwilio Cymru ar 21 Hydref yn Nh? Penallta, Tredomen.   Gwahoddiad i bob aelod o'r Pwyllgor Dethol Oedolion i fynychu.

 

·         Dyddiad cyfarfod ar y cyd y Pwyllgor Dethol Oedolion a'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc wedi newid i 22 Tachwedd 2016.

 

 

 

 

12.

Cynllunydd Gwaith y Cabinet a'r Cyngor pdf icon PDF 412 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd Cynllunydd Gwaith y Cabinet a'r Cyngor.

 

13.

Nodi dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf sef 8 Tachwedd 2016 am 10.00am

Cofnodion:

Dydd Mawrth 8 Tachwedd 2016 am 10.00am