Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Oedolion - Dydd Mawrth, 26ain Ebrill, 2016 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd Cynghorydd Sir fuddiant personol, manteisiol dan God Ymddygiad Aelodau fel Aelod Bwrdd o Adran Dai Sir Fynwy.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

3.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 158 KB

·         Special meeting – 1st March 2016

·         Ordinary meeting – 8th March 2016

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Dethol Oedolion a gynhaliwyd ar 1af Mawrth ac fe’u llofnodwyd fel cofnod cywir gan y Cadeirydd.

 

Cytunwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Dethol Oedolion a gynhaliwyd ar 8fed Mawrth ac fe’u llofnodwyd fel cofnod cywir gan y Cadeirydd.

 

Wrth wneud hynny, nodwyd bod nifer o gamgymeriadau teipograffyddol yn sillafiad enw Mrs Hudson. Cywirwyd hyn ers hynny drwy’r system Modern.Gov. Gofynnwyd hefyd fod gofal yn cael ei gymryd i beidio â chymysgu aelodau cyfetholedig a Chynghorwyr Sir. 

 

 

 

4.

Community Connections Befriending Scheme ~ Discussion on how the "Community Connections Befriending Scheme" is assisting people to avoid social isolation

Cofnodion:

Rhoesom groeso i Miranda Thomson, Rheolwr, Cynllun Cyfeillio Cysylltiadau Cymunedol, a oedd yn bresennol i ddarparu gwybodaeth ar y gwasanaeth i’r Pwyllgor Dethol Oedolion.

 

Prosiect a ariennir gan y loteri yw’r Cynllun Cyfeillio Cysylltiadau Cymunedol i fynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol ac unigrwydd i bobl h?n ar draws Sir Fynwy. Mae’n brosiect Canolfan Gymunedol Bridges, sefydliad elusennol annibynnol lleol wedi’i leoli yn Nhrefynwy.  Mae’r cynllun yn recriwtio gwirfoddolwyr ac yn eu paru gyda phobl sy’n ynysig, gan eu cefnogi hefyd i i fynd allan i’r gymuned.

 

Roedd y cynllun wedi bod yn rhedeg am ?// a hanner o flynyddoedd a gyda’r grant loteri’n dirwyn i ben gwnaed cais am gyllid pellach.

 

Edrychodd yr Aelodau ar ffilm fer a gwahoddwyd hwy i wneud sylwadau.

 

Craffu Aelodau:

 

Ychwanegodd Arweinydd Newid Arferion, Newid Bywydau fod canlyniadau gweithio gyda’r cynllun Cysylltiadau Cymunedol wedi bod mor gadarnhaol yr argymhellwyd ei dreiglo i weddill yr Hybiau fel bod yr holl Sir yn elwa o’r agwedd gadarnhaol.

 

Gwnaeth swyddog sylw, bod manteision y cydweithredu i ni fel Cyngor wedi rhoddi i dîm Y Sir sy’n Gwasanaethu elfen o hyder yn y modd rydym yn galluogi ac yn cefnogi gwirfoddolwyr.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir P. Farley fuddiant personol, manteisiol fel ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Lesiant Henoed Cas-gwent.

 

Gwnaeth yr Aelodau sylw fod y cynllun yn tynnu sylw at y ffaith fod nifer o bobl fregus iawn yn y Sir, a chwestiynodd a oedd gwirfoddolwyr yn ymwybodol o gefndir ac anghenion yr oedolion bregus. Mewn ymateb fe glywsom, yngl?n â pharatoi, roedd gwirfoddolwyr wedi  derbyn cwrs cynefino, gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os yw person yn gweithio un i un gydag oedolyn bregus, roedd angen darparu geirdaon, a derbyn hyfforddiant. Cymeradwywyd yr hyfforddiant gan swyddogion Cyngor Sir Fynwy.  Byddai’r hyfforddiant a’r cymorth hefyd yn cael eu mabwysiadu gan y cynllun ceir oedd ar y gweill. Byddai’n rhaid i wirfoddolwyr sy’n gyrru, fel rhan o’r cynllun cyfeillachu, ddarparu copïau o’u dogfennau ac fe roddid iddynt dempled o lythyr ar gyfer yswirwyr.  Roedd therapyddion galwedigaethol wrth law i ddarparu cyngor yngl?n â’r ffordd i fynd i mewn ac allan o gerbydau, a’r modd gorau o gefnogi pobl.

 

Awgrymodd Aelod, lle’r oedd gofal un i un, gallai fod yn fanteisiol bod dau berson yno i roi cymorth ychwanegol.

 

Holodd Aelod beth fyddai’r canlyniad petai’r cais am gyllid yn aflwyddiannus. Mewn ymateb clywsom na fyddai’r cynllun yn gallu parhau yn yr un ffordd, gan y byddai’r cynllun yn cyflogi staff  a heb gydlynwyr prosiect ni fyddai’n bosibl cwrdd â’r gwirfoddolwyr na’u cefnogi. Roedd y cynllun yn edrych ar y ffordd i gefnogi grwpiau cymdeithasol a oedd yn bodoli eisoes pe na bai’r nawdd yn cael ei gymeradwyo, ac a allai asiantaethau eraill fabwysiadu’r perthnasau un i un.  Gobeithid derbyn cyllid drwy’r Gronfa Ofal Annibynnol. Nodwyd bod y cais am gyllid o £250,000, dros gyfnod o ddwy flynedd, a byddai’n cyflogi pedwar aelod o staff. 

 

Holodd Aelod a oedd sefydliadau eraill tebyg ar draws Lloegr a Chymru, y  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

I adolygu y Polisi Rhaniadau Tai pdf icon PDF 171 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyniasom adroddiad oddi wrth Reolwr y Sector Tai Preifat er mwyn i Aelodau ystyried y gwelliant arfaethedig i’r polisi dyrannu cyffredin rhwng y Cyngor a Sir Fynwy, Cymdeithasau Tai Melin a Siartr.

 

Materion Allweddol:

 

Er nad oedd bellach yn berchen unrhyw stoc dai, mae’r Cyngor yn dal i gadw cyfrifoldeb statudol ar gyfer dynodi’n strategol yr angen am dai ac arwain ar yr holl gamau gweithredu lleol i ymateb yn effeithiol i’r angen hwn. Parthed hyn, mae’r Gofrestr Dai (Sir Fynwy) yn dal yn gyfrifoldeb  cyfreithiol y Cyngor.

 

Craffu Aelodau:

 

Gwnaeth Aelod sylw bod gwaith amaethyddol fynychaf yn cael ei wneud gan beiriannau, ac roedd mwy o reswm y byddai ffermwyr llaeth angen tai yn nes i’r fferm, a allai fod yn rheswm am lai o angen heddiw i ailgartrefu gweithwyr amaethyddol.

 

Cwestiynwyd, am fod y polisi wedi cael ei gymeradwyo gan y cymdeithasau tai lleol perthnasol, a oedd unrhyw fewnbwn ychwanegol yn angenrheidiol. Cynghorodd y Cadeirydd ein bod yn derbyn yr adroddiad at ddibenion cynghorol.

 

Nodwyd bod aelodau’r Pwyllgor dan anfantais am nad oeddent wedi derbyn yr atodiadau gyda’r agenda. Cytunodd y Pwyllgor, lle’r oedd gwybodaeth ychwanegol yn angenrheidiol, gadawyd hyn i’r Cadeirydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan Aelod, clywsom yng nghyd-destun ffoaduriaid o Syria y gofynnwyd i Gyngor Sir Fynwy glustnodi eiddo i deulu y disgwylid iddo gyrraedd ym Mehefin neu yng Ngorffennaf. Mae CSF wedi cytuno i gartrefu 20 teulu dros 20 mlynedd.

 

Holodd Aelod fel y gellid mynd i’r afael â rhenti uchel yn y sector preifat. Eglurodd y swyddogion, yn y newidiadau arfaethedig i’r polisi dyrannu, lle’r oedd pobl yn gweithio ond yn ymdrechu i gael dau ben llinyn ynghyd, roedd yn bosib hawlio taliad tai dewisol, a symud i fand 3, angen canolig o ran tai. Ychwanegodd y Rheolwr Tai ac Adfywio mai rhan o gyfrifoldeb y tîm Tai Sector Preifat newydd fyddai cyrraedd sefyllfa i allu dynodi tai preifat ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr aros ynghyd ag ymgeiswyr digartref.

 

Clywsom y byddai sesiwn galw heibio ar Fai 10fed 2016 lle gwahoddid landlordiaid i fynychu er mwyn cwrdd â’r tîm a derbyn gwybodaeth ynghylch gofynion trwyddedu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch eiddo gaiff eu gosod yn breifat clywsom ei bod yn anodd dweud a fu cynnydd neu ostyngiad ond roedd y farchnad rhenti’n ymddangos fel petaent yn parhau i godi, a brofodd yn sialens i’r tîm. Roedd brwydr barhaus i ddynodi eiddo, ac nid oedd digon i gefnogi’n dyletswyddau.

 

Eglurodd y swyddogion y cymhellwyd landlordiaid a oedd yn gosod tai’n breifat i ddefnyddio’n gwasanaethau yn hytrach nag asiantiaid lleol drwy gynnig ystod eang o wasanaethau atodol, megis staff unigol profiadol, nifer o gronfeydd cyllido a chymorth tai. Roedd swyddogion yn eiddgar i ddatblygu gwasanaethau newydd yn ôl yr angen.

 

Gyda chyflwyno trwyddedu gallai fod cyfle i Gyngor Sir Fynwy gyflwyno cyrsiau, ond nid oedd hyn wedi’i drafod hyd yn hyn. Darparwyd cyrsiau ar hyn o bryd drwy Rent Smart Wales ynghyd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

I ystyried y Canllawiau Archwilio wedi ei gynghyrchu gan y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer: pdf icon PDF 136 KB

·         Archwilio newidiadau I Wasanaethau Cymunedol

·         Archwilio Asesiadau Effaith Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyniasom adroddiad oddi wrth y Rheolwr Craffu er mwyn ystyried y cyfarwyddyd i Graffu a gynhyrchwyd gan y Comisiynydd Pobl H?n parthed Newidiadau Craffu i Wasanaethau Cymunedol a Chydraddoldebau Craffu ac Asesiadau Effaith ar Hawliau Dynol.

 

Materion Allweddol:

 

Mae’r Comisiynydd Pobl h?n wedi ysgrifennu i awdurdodau lleol i gyflwyno’r gwaith a gynhaliwyd i gynhyrchu cyfarwyddyd i Gynghorau ar y modd i graffu Newidiadau i  Wasanaethau Cymunedol ac ‘Asesiadau Effaith Cydraddoldebau a Hawliau Dynol’.

 

Mae’r Comisiynydd yn cydnabod y bydd amserau ariannol heriol yn gosod penderfyniadau anodd i Gynghorau ynghylch y modd i ddarparu ar gyfer ein cymunedau wasanaethau o ansawdd sy’n hygyrch yn lleol ac mae wedi cynhyrchu cyfarwyddyd i grafwyr llywodraeth leol i’w cynorthwyo wrth ystyried penderfyniadau allweddol a pholisïau sy’n effeithio ar bobl h?n. Mae’r cyfarwyddyd yn argymell yr angen i ystyried yn ofalus oblygiadau penderfyniadau er mwyn amddiffyn pobl fwyaf bregus cymdeithas.

 

Mae’r cyfarwyddyd yn darparu amlinelliad defnyddiol i grafwyr yn y modd y gellir cymhwyso egwyddorion ‘Asesiadau Effaith Cydraddoldebau a Hawliau Dynol’ i benderfyniadau a pholisïau sy’n effeithio ar bobl h?n, o ystyried y boblogaeth gynyddol sy’n heneiddio.

 

Gallai Aelodau Craffu ddymuno ystyried fel y gallant blannu egwyddorion o’r fath i mewn i’w dull o graffu; o bosib drwy ddatblygu strategaeth gwestiynu i’w chymhwyso i graffu testunau perthnasol, neu drwy ystyried cadernid ‘Asesiadau Effaith Cydraddoldebau a Hawliau Dynol’ ynghyd  â dilysrwydd tystiolaeth mewn asesiadau o’r fath i gefnogi gwneud-penderfyniadau.

 

Craffu Aelodau:

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at y cyfle, nid yn unig i ymateb, ond y potensial i hybu ac annog, ac awgrymodd y dylai Aelodau oedi a meddwl a yw’r cwestiynau a osodwyd yn gwneud synnwyr, ac a oedd yr asesiadau a wnaed yn ateb y diben.

 

Tra gallai’r cyfarwyddyd gymryd yn ganiataol bod gan bob awdurdod Gydgysylltydd Strategaeth Pobl H?n, nid dyma’r sefyllfa o angenrheidrwydd. Mynegodd yr Aelodau bryder, heb  Gydgysylltydd penodol, gallai fod llai o gyfle i sicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi ar y modd y mae polisïau a phenderfyniadau’n effeithio ar bobl h?n. Cynghorodd y Cadeirydd bod angen i’r broses graffu, felly, sicrhau ei bod yn hyrwyddo hawliau pobl h?n wrth graffu penderfyniadau a pholisïau.

 

Eglurodd y Rheolwr Craffu y byddai cyfarfod o’r Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf ac Oedolion yn mynd i’r afael â thrafodaethau â phartneriaid. Awgrymwyd rhoi yn y dyddiadur gyfarfod yn y dyfodol i ystyried rôl y gwahanol bartneriaethau ac fel cânt eu cydgysylltu.

 

Y casgliad cyffredinol oedd bod angen i asesiadau fod yn fwy cadarn a bod angen eu craffu’n well. Yng nghyd-destun asesiadau, awgrymodd y swyddog Polisi dros Gydraddoldeb, wrth ystyried penderfyniadau, gallai crafwyr ddymuno ystyried pwy mae’r penderfyniad yn eu heffeithio a’r dystiolaeth sy’n cefnogi a oes goblygiadau cadarnhaol neu negyddol i bobl h?n. Gallai Aelodau ystyried ar ba gyfnod yr ymgynghorwyd â gwahanol  grwpiau a defnyddwyr gwasanaeth. Gallai fod cwestiynau mwy manwl yn ogystal ynghylch nodau’r cynnig. Byddai hyn yn gymorth i gyflawni craffu mwy  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Rhaglen Waith Pwyllgor Dethol Oedolion pdf icon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniasom y rhaglen waith i’r dyfodol ar gyfer y Pwyllgor Dethol Oedolion. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Cyfarfod arbennig i’w gynnal ar ddydd Mawrth 17eg Mai 2016 am 10.00am i drafod Strategaeth Ofalwyr Sir Fynwy. Rhoddodd y Cynghorydd Sir R. Edwards ymddiheuriadau rhag blaen.

·         Cyfarfod ar y cyd i’w arwain gan y Pwyllgor Dethol Pobl Ifanc i’w gynnal ar ddydd Iau 19eg Mai 2016 am 10.00am i drafod craffu partneriaeth. Rhoddodd y Cynghorydd Sir R. Edwards ymddiheuriadau rhag blaen.