Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Oedolion - Dydd Mawrth, 20fed Mehefin, 2017 10.00 am

Lleoliad: Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

I nodi penodiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Cafodd y Cynghorydd Sir S. Howarth ei nodi fel Cadeirydd.

 

2.

I benodi Is-gadeirydd

Cofnodion:

Gohiriwyd apwyntiad yr Is-gadeirydd tan y cyfarfod nesaf.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb ei wneud.

 

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.

 

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol

6.

Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 4ydd Ebrill 2017 pdf icon PDF 182 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar y 4ydd o Ebrill 2017 eu cadarnhau a'u harwyddo gan y Cadeirydd.

 

7.

Pwyllgor Dethol Oedolion a gynhaliwyd ar 11eg Ebrill 2017 pdf icon PDF 159 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar yr 11eg o Ebrill 2017 eu cadarnhau a'u harwyddo gan y Cadeirydd.

 

8.

Rhaglen Grantiau Tai Cymdeithasol pdf icon PDF 180 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

Diben yr adroddiad hwn yw cyflwyno i’r Aelod Cabinet Sengl y newyddion diweddaraf ar gwblhau’r raglen Grant Tai Cymdeithasol am 2016/2017 ac i geisio cymeradwyaeth am y

Rhaglen GTC am 2017/2020 a’r Rhestr Cynllun wrth Gefn.

 

Cydnabyddir yn Sir Fynwy bod prisiau tai wedi codi i lefel tu hwnt i’r hyn

sy’n fforddiadwy i nifer o bobl leol.  Cyfartaledd pris tai ar hyn o bryd yw £276,000 (£177,200 o’i gymharu â Chymru) a’r chwartel isaf o gymhareb pris tai i incwm 

yw 9:1. Y nifer o ymgeiswyr ar y Gofrestr Tai Cyffredin ar hyn o bryd yw

3048. O ganlyniad, un o flaenoriaethau’r Cyngor yw darparu tai fforddiadwy mewn

ardaloedd trefol yn ogystal ag ardaloedd gwledig (Ffynhonnell y data:   Hometrack 23ain o Fai 2017).

 

Materion Allweddol:

Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol 2016/2017:

 

1. Y dyraniad Grant Tai Cymdeithasol am Sir Fynwy yn 2016/2017 oedd:

 

Prif Raglen GTC         £1,144,759

 

Cyflwynwyd cais gan Dai a Chymunedau i Lywodraeth Cymru am lithriad diwedd flwyddyn ychwanegol ac roeddent yn llwyddiannus yn ennill: 

 

Cyllid Ychwanegol £2,062,469

 

Y ffigwr terfynol a dynnwyd o Lywodraeth Cymru oedd £3,207,228.

 

2. Cwblhaodd Melin Homes achubiad morgais yn llwyddiannus gan ddefnyddio £98,000 o Grant Tai Cymdeithasol wedi'u Hailgylchu Sir Fynwy (RCG).  Effaith hyn oedd atal teulu rhag dod yn ddigartref.

 

3. Perfformiad bendigedig yw hwn sy'n gweld Sir Fynwy'n gwario 100% o'i ddyraniad grant yn ogystal â £2,062,469 o gyllid ychwanegol.  Yn 2016/17 cyfanswm y tai newydd oedd wedi’u cwblhau oedd 87. Mae 63 uned ychwanegol o'r Rhaglen Grant Tai Cymunedol yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd.

 

4. Cwblhawyd y Tai Fforddiadwy canlynol:

 

            Ysgol West End, Cil-y-coed 17

            Westgate, Llan-ffwyst (S106 Safle) 13

            Cae Meldon, Gilwern (S106 Safle – PCBB) 18

            Celli Cae Mawr (bwthyn wedi’i addasu) 1

            Mynyddbach 2

            Lôn Gwyrdd, Cil-y-coed 4

            Ysgol Tryleg (60/40 Safle) 9

            Clinig Heol Dixton, Trefynwy (S106 safle) 4

            Ysgol Rogiet 19

 

Rhaglen grant Tai Cymdeithasol 2017 – 2020

 

5. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau cyllid ychwanegol i helpu cyrraedd eu targed o 20,000 o dai fforddiadwy trwy gydol y tymor gweinyddiaeth hwn. Dyraniadau Sir Fynwy yw:

 

            2017/2018 Grant Tai Cymdeithasol £3,342,894

            Grant Cyllid Tai £1,810,055

            Cyfanswm £5,152,949

            2018/2019 Grant Tai Cymdeithasol £4,369,317

            Grant Cyllid Tai £1,037,615

            Cyfanswm £5,406,932

 

            2019/2020 Grant Tai Cymdeithasol £1,250,044

            Grant Cyllid Tai £716,213

            Cyfanswm £1,966,257

 

6. Trwy weithio’n agos gyda phartneriaid RSL mae Cyngor Sir Fynwy wedi gallu adeiladu rhestr cynllun wrthgefn iachus a dylai bod mewn sefyllfa i wario'r dyraniad hwn yn llawn.

 

Archwiliadau’r Aelodau:

Cyflwynodd Rheolwr Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol yr adroddiad a'r ystyriaeth ganlynol, gwnaeth yr Aelodau’r arsylwadau canlynol:

 

Gofynnodd Aelod a oes unrhyw ystyriaeth yn cael ei gwneud yngl?n â fforddiadwyedd tir mewn ardaloedd gwahanol ac os oedd, oes angen mwy o gyllid mewn rhai lleoliadau nac eraill (e.e. mewn ardaloedd awdurdod lleol) o ran Grant Tai Cymdeithasol a’r Grant Cyllid Tai.     Esboniwyd bod y grantiau sydd ar gael yn cael eu cyfrifo yn ôl Canllawiau ar Gostau Derbyniol Llywodraeth Cymru ac mae pob ardal o bob sir yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adroddiad Monitro Refeniw a Chyfalaf pdf icon PDF 805 KB

Cofnodion:

Cyd-destun:

Diben yr adroddiad hwn yw cynnig gwybodaeth i Aelodau yngl?n â safle alldro refeniw’r Awdurdod ar ddiwedd cyfnod adroddi 4 sy'n cynrychioli'r safle alldro ariannol am y flwyddyn ariannol 2016/17.

 

Argymelliadau sy’n cael eu Cyflwyno i’r Cabinet:

·         Bod Aelodau’n ystyried gorwariant alldro refeniw net o £884,000, gwelliant o £805,000 ar ragdybiaethau alldro chwarter 3.

·         Aelodau’n ystyried gwariant alldro cyfalaf o £40.03m yn erbyn cyllideb wedi’i diwygio o £40.98miliwn, ar ôl y llithriad arfaethedig o £17.5 miliwn, gan arwain at danwariant net o £951 mil.

·         Ystyried a chymeradwyo’r llithriad cyfalaf o £17.5m sydd wedi’i argymell (wedi'i fanylu yn atodiad 2), gan dalu sylw i’r cynlluniau a ddisgrifiwyd ym mharagraff 3.3.6 lle mae cais wedi’i wneud am lithriad gan y rheolwr gwasanaeth ond ni argymhellir i lithro (£198 mil).

·         Ystyried defnyddio’r cronfeydd wrth gefn a gynigiwyd ym mharagraff 3.4.1.

·         Cefnogi apwyntiad tanwariant cyffredinol wrth ychwanegu at lefelau wrth gefn fel y disgrifiwyd ym mharagraff 3.4.3 isod h.y.:  

 

Cronfa Buddsoddi Blaenoriaethol £570k

            Cronfa wrth gefn Diswyddo a Phensiwn £114k

            Cronfa wrth gefn Trawsffurfiad TG £100 mil

            Cronfa wrth gefn Derbynebau Cyfalaf £100 mil

            Cyfanswm £884 mil

 

·         Mae Aelodau’n nodi y bydd y lefel isel o gronfeydd wrth gefn sydd wedi’u clustnodi’n lleihau’n ddifrifol yr hyblygrwydd sydd gyda’r Cyngor mewn cwrdd â heriau adnoddau prin yn y dyfodol.

·         Mae Aelodau’n nodi'r lleihad sylweddol yn y balans cyflawn ar ddiwedd 2016/17 ac yn cefnogi’r gwaith parhaol gydag ysgolion i sicrhau bod anghenion cynllun Cyllid Tecach y Cyngor yn cael eu cyflawni a bod balans cyflawn ysgolion yn parhau i fod yn bositif yn 2017/18.

 

Archwiliadau’r Aelodau:

Cafodd y Pwyllgor ei atgoffa bod ceisiadau wedi’u cyflwyno i’r Cabinet am gyllid am gefnogaeth ychwanegol i dimau'r flwyddyn ddiwethaf a cwestiynwyd a oedd y cyfanswm hwn wedi'i gynnwys ac os oedd, sut cafodd ei gydbwyso yn erbyn mandadau yn y flwyddyn ariannol hon; cafodd y ffigwr ei ychwanegu i alldro blwyddyn ddiwethaf.   Mewn ymateb, esboniwyd bod pwysau ar yr awdurdod o Lywodraeth Cymru e.e. mae maniffesto newydd y llywodraeth yn ceisio codi’r trothwy cyfalaf ar gyfer pobl sydd â lleoliadau preswyl hir dymor i £50,000 (a osodwyd yn flaenorol yn £24,000) dros y 3-4 mlynedd nesaf.    Mae’r trothwy cyfalaf wedi’i godi’r flwyddyn ariannol hon i £30,000. Mae grant ychwanegol wedi’i dderbyn sy’n dechrau yn 2017/18 ac felly nid oes cyllid ôl-weithredol. 

 

Gofynnodd Aelod y rheswm pam oedd mwy o bobl mewn gofal preswyl.  Atebwyd bod pwysau wedi bod yn ne’r sir lle mae ychydig o bobl oedd gynt yn hunan-gyllido wedi rhedeg allan o arian ac wedi plymio o dan y trothwy (£24,000 yn 2016/17). Mae yna wedyn dyletswydd statudol i’w hystyried am gyllid. Esboniwyd bod ffurflen asesiad ariannol trylwyr i geisio adnabod os oes wedi bod unrhyw golled cyfalaf.  Os oes unrhyw eiddo ategir tâl cyfreithiol i’r annedd sydd rhaid wedyn gwerthu i ariannu’u gofal.  

 

Cwestiynwyd pellach sut fedrir cynnal gofal preswyl os yw'r duedd hon yn parhau.    Esboniwyd bod darpariaeth ddigonol o fewn y sir gan gynnwys darpariaeth fewnol yn Nh? Preswyl Severn View  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

Cyd-destun:

Darparu Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor Dethol Oedolion

am ystyriaeth a sylwadau.   Esboniwyd bod yr adroddiad yn anffodus wedi'i adael allan o'r agenda ond cytunodd yr Aelodau y byddent yn gwrando ac yn gwneud sylwadau.

 

Materion Allweddol

1. Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol yw hwn, sy'n ystyried y flwyddyn ariannol 2016/17. Bwriad yr adroddiad yw ystyried y gwelliant mewn darparu’r blaenoriaethau a nodwyd yn adroddiad blynyddol blwyddyn ddiwethaf, ystyried perfformiad am y flwyddyn ddiwethaf, a nodi'r meysydd allweddol am ddatblygiad a gwelliant yn 2016/17. Mae’n galluogi’r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i brofi os yw’r asesiad o welliant a datblygiad yn gyson â’r amrywiaeth o dystiolaeth sy’n cael ei chasglu a’i chyflwyno iddynt yn ogystal â’i phrofiad uniongyrchol sy’n deillio o ymweld â safleoedd, gweithgaredd rheoleiddio ac arolygiadau thema.    Mae fformat yr adroddiad wedi newid sydd nawr yn batrymlun wedi’i ddatblygu’n genedlaethol sy’n cyd-fynd â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) (2014). Rhaid i bob cyfarwyddwr yng Nghymru adroddi am berfformiad a risg a nodi cynlluniau am welliant mewn perthynas â: 

 

·         Crynodeb perfformiad;

·         Sut mae pobl yn siapio ein gwasanaethau;

·         Hyrwyddo a gwella lles y rheini rydym yn helpu;

·         Gweithio gyda phobl a phartneriaid i amddiffyn a hyrwyddo iechyd meddyliol a chorfforol a lles emosiynol pobl.

·         Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu ac i gymryd rhan yn y gymdeithas;

·         Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal iechyd a pherthnasau domestig, teuluol a phersonol yn ddiogel;

·         Cymryd camau i amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed;

·         Sut ydyn ni’n cyflawni'r hyn yr ydym yn ei wneud;

·         Ein gweithred partneriaeth, arweinyddiaeth wleidyddol a chorfforaethol, llywodraethiad ac atebolrwydd;

·         Ein blaenoriaethau am welliant.

 

2. Mae’r adroddiad blynyddol yn cynnig cyfle i ystyried yr hyn yr ydym yn ei wneud i wneud gwahaniaeth i fywydau dinasyddion mwyaf bregus Sir Fynwy, beth ydyn ni’n gwneud yn dda, a pha feysydd sydd angen i ni wneud hyd yn oed yn well.  Mae’r adroddiad yn esbonio’r cyd-destun yr ydym yn gweithio o fewn a sut fyddwn ni’n parhau i wella a moderneiddio.  Mae’n tanlinellu ymarfer, datblygiad gweithlu, darpariaeth gwasanaeth a chomisiynu rhagorol, blaenllaw.  Un esiampl yw ailfodelu gofal yn y cartref trwy weithredu Gofal yn y Cartref Sir Fynwy. Mae’n dangos datblygiad o'r amcanion gwella a osodwyd y flwyddyn ddiwethaf - mae'r Rhaglen Gwella Gwasanaeth Plant ar y trywydd iawn i gynnig rhagoriaeth mewn gwasanaethau plant o fewn amserlen 3 mlynedd y rhaglen. Mae gwelliant penodol wedi bod mewn sut ydynt yn rheoli contractau gyda ac yn cyfeirio at y gwasanaeth, a sut ydynt yn sefydlogi a chefnogi ein gweithlu.

3. Tanlinellir risg a her mewn rhai meysydd hefyd. Nid yw pobl yn Sir Fynwy sydd angel gofal a chymorth yn y gymuned bob tro’n eu derbyn o’r gwasanaethau cywir mor gynted ag sydd angen, gydag ychydig oedi’n digwydd mewn sefyllfaoedd ysbyty ond hyd yn oed mwy yn y gymuned.   Blaenoriaeth fwyaf gwasanaethau oedolion yw sicrhau ansawdd digonol wrth weithio gyda’r sector gofal i weithredu’r modelau cywir o gymorth  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Polisi Diogelu Corfforaethol pdf icon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyd-destun:

Rhoi gwybod i Aelodau o gyflwyniad y Polisi Diogelu Corfforaethol newydd.

 

Argymhellion:

Argymhellir bod Aelodau’n cytuno ac yn mabwysiadu’r Polisi Diogelu Corfforaethol.

 

Materion Allweddol

Blaenoriaeth uchaf y Cyngor yw diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl.

  • Mae diogelu, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, yn cael ei adnabod fel cyfrifoldeb pawb ac mae datblygiad sylweddol wedi digwydd dros y 5 mlynedd ddiwethaf i ymgorffori diwylliant, adnabyddiaeth ac ymarferiad diogelu'n systematig.
  • Mae pob aelod o’r staff, ar gyflog neu beidio, a Chynghorwyr yn rhannu cyfrifoldeb yn gorfforaethol ac yn unigol i sicrhau bod plant ac oedolion mewn peryg yn cael eu trin gyda pharch ac yn cael eu hamddiffyn rhag niwed. 
  • Mae gyda’r Cyngor polisi diogelu sy'n bodoli eisoes ond mae wedi’i ffocysu’n drwm tuag at sefyllfaoedd addysg a gwasanaethau plant a theulu eraill.

 

            O ganlyniad mae diogelu wedi’i fewnblannu i rai Cyfarwyddiaethau a          meysydd gwasanaeth; serch hynny mae yna lefelau amrywiol o ddealltwriaeth o ran          disgwyliadau mewn rhannau eraill o’r sefydliad.

 

  • Bydd y polisi hwn yn fecanwaith er mwyn gwerthuso dealltwriaeth, systemau a hyfforddiant ledled y Cyngor ac mae'n sicrhau bod diogelu wedi'i ddodi yng nghraidd busnes y Cyngor.

 

Archwiliadau’r Aelodau:

 

Dwedodd Aelod taw adroddiad cynhwysfawr dros ben oedd hwn gyda dyheadau uchel a chwestiynodd aelodaeth Gr?p Cydweithredu Diogelu’r Holl Awdurdod.  Cadarnhawyd bod y gr?p yn cael ei gadeirio gan y Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai.   Mae’r aelodaeth yn cynnwys Prif Swyddogion neu Benaethiaid Gwasanaeth o bob cyfarwyddiaeth a chynrychiolwyr o’r Uned Diogelu a Sicrwydd Ansawdd.   Esboniwyd taw diben y gr?p yw cynnig dull cynhwysfawr a llywodraethu effeithiol.  Cadarnhawyd nad yw aelodau’n cymryd rhan yn y Gr?p ar hyn o bryd ond gallir ystyried hyn.  Cwestiynodd y Prif Swyddog a oedd archwiliad trwy Bwyllgorau Dethol yn cynnig digon o sicrwydd yn ogystal ag adroddiadau i’r Cabinet a Chyngor neu os oedd teimlad bod rhaid i aelodau cymryd rhan yn y Gr?p sydd â rôl fwy gweithredol.    

 

Cytunodd Aelod y dylai cynghorwyr i gyd cael eu hyfforddi i Lefel 1 Diogelu, ymholodd pa mor gyflym byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu a gofynnodd sut i sicrhau bod pob aelod yn cwblhau'r hyfforddiant.  Cadarnhawyd bod sesiwn ar y 10fed o Orffennaf a bydd y rheini sydd ddim yn mynychu'n cael eu nodi i fynychu sesiwn arall.

 

Gofynnodd Aelod sut fydd yr Uned Diogelu a Sicrwydd Ansawdd yn monitro effeithlonrwydd archwiliadau ac esboniwyd y bydd cynrychiolwyr yn mynychu cyfarfodydd Pwyllgor Dethol, i gyflwyno adroddiadau’u hun ond hefyd i arsylwi ac i fonitro eitemau eraill o fusnes.    Atgoffwyd aelodau y dylai adroddiadau pwyllgor i gyd gynnwys adran i adnabod ac i fynd i’r afael â “Goblygiadau Diogelu”.   Bydd cynnwys ac ansawdd y datganiadau hyn yn cael eu samplo ledled pob pwyllgor gan yr Uned Diogelu a Sicrwydd Ansawdd er mwyn gwerthuso trefniadau diogelu.

 

Cwestiynwyd lefel ac argaeledd hyfforddiant i wirfoddolwyr.   Atebwyd bod cymorth a hyfforddiant i wirfoddolwyr yn cael eu cynnig mewn fformat cymesur a chyfleus.  Esboniwyd bod Polisi Gwirfoddoli'n cael ei  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Rhestr Weithredu pdf icon PDF 26 KB

Cofnodion:

 

 

Gwasanaethau Strôc: Cytunwyd i ystyried cynnwys gwerthusiad pellach o Wasanaethau Strôc yn y cynllun gwaith ymlaen llaw.    Awgrymwyd y dylai’r cynllun gwaith ymlaen llaw gael ei ystyried mewn mwy o fanylder yn y cyfarfod nesaf.

 

Gwasanaeth Ambiwlans:  Rhoddwyd diweddariad bod yna diffibriliwr yn nerbynfa Neuadd y Sir Brynbuga. 

 

Carchar Brynbuga: Awgrymwyd bod y deialog gyda Charchar Brynbuga’n parhau.   Awgrymwyd ailymweld â’r testun hwn mewn 18 mis i ystyried datblygiad yn ôl y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles. 

 

Cyngor Iechyd Cymunedol:   Cytunwyd cynnal cyfraniad o'r Cyngor Iechyd Cymunedol gan gyflwyno gwahoddiad pan mae'r gwerthusiad nesaf gyda'r Bwrdd Iechyd yn digwydd.

 

Cefnogi Pobl:  Cytunwyd i ychwanegu’r eitem hon i'r rhaglen waith.

 

 

 

 

 

 

 

 

13.

Blaen-raglen Waith y Pwyllgor Dethol Oedolion pdf icon PDF 174 KB

Cofnodion:

Bydd Blaen-raglen Waith y Pwyllgor Ethol Oedolion yn cael ei thrafod yn y cyfarfod nesaf lle fydd cyd-opsiwn aelodau'n cael ei ystyried i sicrhau cynrychiolaeth ledled y sir.   Mewn paratoad, cafodd Aelodau’u gwahodd i ystyried cynrychiolaeth o sefydliadau posib neu unigolion addas am gyd-opsiwn gan nodi gall tystion am destunau penodol cael eu gwahodd i gyfarfodydd er mwyn cyfoethogi’r drafodaeth.

 

14.

Rhaglen Waith y Cabinet a'r Cyngor pdf icon PDF 358 KB

Cofnodion:

Esboniwyd y cafodd Swyddogion eu gofyn i boblogi’r rhaglen waith gyda'r strategaethau a phenderfyniadau i gyd am y chwe mis nesaf o leiaf am gyhoeddiad a hefyd i helpu cynllunio gwerthusiad cyn-benderfyniad. 

 

Cafodd sylw Aelodau’i ddeni i faterion i ymwneud â phenderfyniadau aelodau unigol.   

 

Esboniodd y Cadeirydd am y cynllunydd sy'n cael ei adnewyddu ar ddydd Gwener ac anogodd aelodau i fod yn ymwybodol o newidiadau.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw le i ofyn am adroddiadau am bynciau penodol ac esboniwyd taw mater i’r pwyllgor penderfynu oedd hwn gan ychwanegu y bydd Rheolwr Polisi a Pherfformiad yn mynychu’r cyfarfod nesaf i helpu adnabod a blaenoriaethu meysydd am werthusiad, ac i drefnu llwyth gwaith y Pwyllgor Dethol Oedolion.  Gofynnwyd i Aelodau meddwl am bynciau am werthusiad posib e.e.  Iechyd Meddwl.

 

 

 

 

15.

I drafod amserau cyfarfodydd

Cofnodion:

Cafodd dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf ei gadarnhau fel Dydd Mawrth 25ain o Orffennaf 2017 am 10.00yb.  Cytunwyd y bydd cyfarfodydd yn parhau i gael eu cynnal ar ddyddiau Mawrth am 10.00yb.

 

 

16.

I gadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf fel ar y 25ain Gorffennaf 2017 am 10.00am