Agenda and minutes

Special Meeting to scrutinise Stroke Services, Pwyllgor Craffu Oedolion - Dydd Mawrth, 4ydd Ebrill, 2017 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed datganiadau o fuddiant gan Aelodau.

 

2.

Ystyried Gwasanaethau Strôc diwygiedig gyda rhanddeiliaid*

Cofnodion:

Materion Allweddol:

 

Eglurodd y Cadeirydd mai pwrpas y cyfarfod oedd clywed cyfraniadau gan wasanaethau partner a goroeswr strôc er mwyn helpu’r Pwyllgor Dethol Oedolion i ddeall mwy am Wasanaethau Strôc yn Sir Fynwy.

 

Derbyniodd y Pwyllgor Dethol gyflwyniad gan Gyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddoniaeth Iechyd, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Yn dilyn y cyflwyniad, gofynnodd yr Aelodau gwestiynau a gwneud sylwadau. 

 

Gwyliodd y Pwyllgor glip ffilm byr yn dangos pwysigrwydd adnabod yn gyflym symptomau strôc a gweithredu’n CHWIM (Wyneb, Breichiau, Lleferydd, amser i alw 999) oherwydd po gyntaf y derbynnir triniaeth, gorau’r canlyniad. 

 

Clywodd y Pwyllgor fod gwasanaethau’n gweithio’n dda gyda’i gilydd ac eglurwyd bod y llwybr strôc wedi’i ailddylunio i wneud y gwasanaeth yn well i breswylwyr yn rhanbarth Gwent. Monitrir perfformiad y gwasanaeth yn fewnol ac fe’i monitrir gan Lywodraeth Cymru. 

 

Yn hanesyddol, darparwyd gwasanaethau ar gyfer cleifion strôc mewn 11 o wahanol ysbytai ac roedd dyrannu aelodau staff arbenigol i’r safleoedd hynny, i ddarparu’r un lefel o wasanaeth, yn profi’n broblematig, a dyna’r rheswm dros yr ailddylunio gan ddefnyddio’r dystiolaeth glinigol orau oedd ar gael.

 

Eglurwyd y bydd y rhan fwyaf o gleifion a amheuir o fod yn dioddef o strôc, sy’n byw yn ardal Gwent, yn cael eu cludo’n awtomatig i Ysbyty Brenhinol Gwent (YBG) lle cyfarfyddir â hwy wrth y drws blaen gan dîm strôc arbenigol (9am – 5pm, 7 niwrnod yr wythnos).  Caiff y cleifion sgan CT yn gyflym , ac os penderfynir eu bod wedi dioddef strôc, anfonir hwy i’r Uned Strôc Hyperacíwt (USH) ac fel arfer golyga arhosiad o 3-4 diwrnod. Bydd rhai pobl yn gwella’n weddol gyflym gydag ychydig neu ddim cymorth ac, os ydynt yn iach yn feddygol, anfonir hwy adref a derbyn adsefydlu yno.

 

Trosglwyddir cleifion o ogledd y rhanbarth i ward strôc Ysbyty Nevill Hall, bydd cleifion o’r gorllewin (ardal Caerffili) yn mynd i Ysbyty Ystrad Fawr a throsglwyddir y rheiny yn y de-ddwyrain i Ysbyty Gwynllyw. Y nod yw dychwelyd y claf adref cyn gynted â phosib, lle mae adferiad yn gynt, gyda’r cymorth sydd ei angen.

 

Rhoddwyd i’r Pwyllgor wybodaeth ynghylch sefydlu tîm Niwro–adsefydlu Cymunedol sy’n wasanaeth amlddisgyblaethol i’r bobl hynny sy’n feddygol iach ond angen adsefydlu.

 

Eglurwyd i’r Pwyllgor, bod ymgynghorydd strôc, nyrsys, ffisiotherapydd a therapydd galwedigaethol wedi bod ar gael 7 niwrnod yr wythnos ers Ionawr 2016.  

 

Ni chludir preswylwyr Sir Fynwy mwyach i Ysbyty Nevill Hall a chodwyd pryder ei bod yn cymryd mwy o amser i deithio i YBG, i’r claf ac i’r perthnasau, yng nghyd-destun teithio a pharcio. Eglurwyd, er mwyn lleihau’r effaith, y bydd y tîm ambiwlans yn ffonio’r ysbyty ymlaen llaw i’w hysbysu y bydd claf o bosib yn dioddef o strôc yn cyrraedd ac yn ôl yr arfer, fe fydd tîm strôc arbenigol yn cwrdd â’r claf wrth y  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Cofnodion:

Materion Allweddol:

 

Rhoddodd Richard Lee, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, a Louise Platt, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau gyflwyniad ar Wasanaethau Ambiwlans Cymru’r Ymddiriedolaeth GIG.

 

Eglurwyd bod y rheswm mwyaf poblogaidd dros alw ambiwlans yn y Deyrnas Unedig yn gysylltiedig â hen bersonau’n disgyn ac angen cymorth. Capasiti yw’r her pennaf. Eglurwyd y nodau strategol a hefyd y tair llinell o wasanaeth, sef y Gwasanaethau Meddygol Brys, y Gwasanaethau Gofal Brys (Ambiwlans Melyn), trosglwyddo Claf heb fod yn achos brys (Bysiau mini Gwyn) a Galw Iechyd Cymru.

 

Eglurwyd bod Model Ambiwlans Pum Cam sy’n dadansoddi’r gwasanaeth gan ddechrau gyda helpu’r cleifion i ddewis pa wasanaeth sydd fwyaf priodol i’w hanghenion a hefyd argaeledd gwasanaethau amgen. Cadarnhawyd, yn anffodus, bod galwadau dibwys yn dal i ddod drwy alwadau 999. Mae’r ail gam yn ymwneud â’r rheiny sy’n derbyn galwadau’n darganfod cymaint â phosib ynghylch cyflwr cleifion. Eglurwyd hefyd bod parameddygon a nyrsys yn cael eu defnyddio i gymryd galwadau er mwyn hidlo’r cleifion hynny nad oes angen ambiwlans arnynt, ac i flaenoriaethu fel y bydd yn briodol.   

 

Mae’r trydydd cam yn golygu penderfynu pa wasanaeth bwrdd iechyd sydd fwyaf priodol i ymweld â’r claf. Y pedwerydd cam yw sicrhau y darperir y driniaeth fwyaf priodol ac yn olaf, y pumed cam, y penderfyniad i fynd â’r claf i’r ysbyty.

 

Eglurwyd y Model Ymateb Clinigol a darparwyd manylion ynghylch y modd y caiff  blaenoriaethau’u cymryd. Darparwyd enghraifft o ymateb i alwad categori Coch gan egluro mai’r ymateb cyntaf ar y safle fydd naill ai parafeddyg mewn car, y gwasanaeth tân, ymatebydd cyntaf o’r gymuned neu Swyddog Cynnal Cymunedol yr Heddlu, yr ail i gyrraedd fydd ambiwlans. Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth yr Ambiwlans yn gweithio’n galed i sicrhau bod diffribilyddion ar gael ym mhob cymuned ac aethant ar ofyn y Cyngor i sicrhau diffribilyddion mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd; pwysleisiwyd nad oedd angen hyfforddiant penodol i weithredu’r offer.  Eglurwyd, yn wahanol i’r cwrs hir a’r peiriannau drud oedd ar gael yn flaenorol, y gellir nawr ddarparu cwrs 20 munud ar gyfer peiriant sy’n costio llai na £1000.

 

Eglurwyd, yr ymatebir i alwadau categori Oren (65% o faint y galwadau) gan ambiwlans ar oleuadau glas. Eglurwyd bod ymateb delfrydol wedi cael ei ddiffinio ar gyfer pob galwad a rhoddwyd yr enghraifft o berson dan amheuaeth o ddioddef strôc yr anfonir ambiwlans brys ato gyda chriw o ddau berson o dechnegwyr meddygol brys a all gynnal prawf FAST ac a all drosglwyddo’r claf i’r ysbyty priodol.  Anfonir ambiwlans at glaf dan amheuaeth o ddioddef ymosodiad ar y galon gyda pharafeddyg i weinyddu Prawf Electrocardiograff (ECG).  

 

Ni allai ambiwlans fod yn ofynnol o angenrheidrwydd ar gyfer galwadau Gwyrdd neu ar gyfer y rheiny mae’u Meddyg Teulu wedi gwneud cais am ambiwlans i’w cludo i’r ysbyty ac ni fydd yn ymateb golau glas. Gellid siarad â’r cleifion hyn dros y ffôn a gofyn iddynt wneud eu ffordd eu hunain i’r ysbyty am driniaeth er mwyn rhyddhau argaeledd ambiwlans ar gyfer argyfyngau. Dywedwyd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.