Lleoliad: Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiad o fuddiant.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 277 KB Cofnodion: Cadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12fed Medi 2017.
|
|
Parthed – darpariaeth Cartref Preswyl Severn View PDF 195 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: · Casgliadau’r Pwyllgor Fel pwyllgor, rydym yn cytuno â’r egwyddor y dylai’r Cyngor gymryd yr arweiniad i ddarparu model gofal cynaliadwy hirdymor yn y dyfodol ar gyfer Sir Fynwy. O gofio llwyddiant Prosiect Rhaglan, rydym yn deall manteision y Cyngor yn darparu cyfleusterau gofal i sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel. Rydym yn cydnabod bod ein hamcan sylfaenol yn parhau i gefnogi pobl i fyw’n annibynnol gyhyd ag sy’n bosib, ond y bydd angen ystod o wasanaethau i gefnogi anghenion gofal cymhleth yn y dyfodol megis dementia, o gofio’r boblogaeth gynyddol sy’n heneiddio. · Mae’r Pwyllgor yn cefnogi argymhellion yr adroddiad i fynd rhagddo i gam nesaf achos busnes manwl ar gyfer Cynnig Severn View, fodd bynnag, cytunodd yr Aelodau y dylai’r cynigion gael eu trafod mewn seminar aelodau yn y dyfodol. · Mae’r Pwyllgor o’r farn bod angen Strategaeth Gomisiynu drosfwaol ar gyfer darparu gofal preswyl, gwasanaeth seibiant a gwasanaethau eraill, i amlinellu cyfeiriad strategol ar gyfer gwasanaethau ar draws y sir ac ydylai’r strategaeth hon gael ei chyflawni er mwyn trwytho adolygu’n Cynllun Datblygu Lleol.
|
|
Cymorth Tai Gateway PDF 408 KB Cofnodion: Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu trosolwg o Gymorth Tai Gateway a gyllidir gan Gefnogi Pobl, codi ymwybyddiaeth o’r manteision, (i gleientiaid ac asiantaethau partner) a thynnu sylw at y lefelau gweithgarwch a’r peryglon yn y dyfodol.
Materion Allweddol: 1. Swyddogaeth Tîm Gateway yw darparu pwynt cyswllt sengl a mynediad i wasanaethau Cefnogi Pobl Sir Fynwy. Mae’r Gateway yn rheoli derbyn a phrosesu atgyfeiriadau cymorth tai, ymgymryd ag asesiadau cymorth oddi wrth aelwydydd neu mewn perthynas ag aelwydydd bregus, rheoli’r rhestri aros a threfnu dyraniad ‘amserol’ pecynnau cymorth i ystod o ddarparwyr gwasanaeth a gyllidir gan Gefnogi Pobl.
2. Fel rhan o’r swyddogaeth graidd, bydd y tîm yn darparu gwybodaeth, cyngor, cymorth ac asesiad o angen (anghenion) cyn atgyfeirio at Ddarparwr Cefnogaeth addas. Er enghraifft, Gwalia sy’n darparu cefnogaeth gyffredinol lle bo’r angen; MIND sy’n darparu cefnogaeth yn gysylltiedig ag iechyd meddwl a Llamau sy’n darparu cefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig a’r rheiny sydd angen gorchfygu rhwystrau i gael mynediad i gyflogaeth, sgiliau neu hyfforddiant.
3. Swyddogaeth ychwanegol y gwasanaeth, a lle bo’n briodol, yw darparu cefnogaeth uniongyrchol i unigolion a theuluoedd drwy gyfrwng gwasanaeth Atal ac Ymyrryd. Gwasanaeth argyfwng yw’r gwasanaeth hwn mewn gwirionedd, lle bydd y Gateway yn ceisio mynd i’r afael ag unrhyw faterion brys cyn atgyfeirio ymlaen at Ddarparwr Cefnogaeth addas. Er enghraifft, gall y tîm ymgymryd ag ymweliadau brys, cynorthwyo gydag apwyntiadau brys (e.e. cyfweliadau budd-daliadau) neu lenwi ffurflenni lle mae amser yn dyngedfennol ac ailgartrefu pobl yn uniongyrchol. Nid yw cydlynu â banciau bwyd yn anghyffredin.
4. Yn ddiweddar comisiynwyd y Gateway i ddarparu gwasanaeth adolygu ar ran Comisiynu Cefnogi Pobl. Mae hyn yn bwysig oherwydd ei fod yn cefnogi sicrwydd ansawdd, yn sicrhau yr ymgymerwyd â gweithgareddau cymwys; mae’n cyfrannu at effeithiolrwydd gweithredol (e.e. gwneud yn si?r nad yw achosion yn agored yn hwy nag sydd angen ar y cleient a choladu ‘yr hyn sydd o bwys’ ac adborth bodlonrwydd.
5. Mae’r Gateway yn bartner allweddol i nifer o wasanaethau eraill. Mae’r Tîm Dewisiadau Tai yn un o’r rhain. Trosglwyddir ar unwaith bob cysylltiad wnaed â’r Cyngor a’r Tîm Dewisiadau Tai mewn perthynas â digartrefedd i’r Gateway er mwyn i gymorth tai gychwyn cyn gynted â phosib ar gyfer ymgeiswyr unigol digartref.
Nod y trefniant hwn yw i ddarparwyr cymorth, gan gynnwys Gwasanaeth Atal ac Ymyrryd Gateway, ddarparu gwasanaeth atal ategol yn ogystal â swyddogaeth statudol y Tîm Dewisiadau Tai.
6. Mae partneriaethau eraill yn cynnwys cefnogi gofal Cymdeithasol, cydweithio i ddatblygu gwasanaethau Tai a Llesiant a Chynhwysiant Cymdeithasol “sy’n seiliedig ar le” sy’n gymorth tai wedi’i gyflenwi drwy agwedd integredig gan bedwar Hyb Sir Fynwy.
7. Mae’r Gateway yn darparu swyddogaeth bwysig mewn perthynas â chyfrifoldebau Diogelu’r Cyngor a chynorthwyo i adnabod a chefnogi pobl agored i niwed mewn amgylchiadau megis cam-drin domestig a cham-drin plant ynghyd ag oedolion.
Craffu Aelodau:
Derbyniodd y Pwyllgor Dethol gyflwyniad gan yr Uwch Swyddog Cymorth Tai gyda Chymorth Tai Gateway Sir Fynwy a chafodd gyfle i ofyn cwestiynau. Diolchwyd i’r Swyddog am ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Gwasanaethau Sipsiwn a Theithwyr PDF 566 KB Cofnodion: Casgliadau’r Pwyllgor: Cydsyniodd y Pwyllgor, wedi trafod sut mae’r Cyngor yn ymgysylltu â chymuned y Sipsiwn a’r Teithwyr a’r modd mae’n darparu’i ymateb statudol i fynd i’r afael â’r anghenion a adnabuwyd, ag argymhellion yr adroddiad.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft cyntaf y polisi dyrannu Lleiniau Sipsiwn a Theithwyr cyn ymgynghori.
Gwnaed cais bod y Cyngor yn derbyn adroddiad pellach yn dilyn yr ymgynghori.
|
|
Polisi Digartrefedd Tywydd Oer PDF 251 KB Cofnodion: Pwrpas: Ystyried y Protocol Argyfwng Tywydd Difrifol (PATD) sy’n manylu ar ymateb arfaethedig y Cyngor tuag at bersonau sy’n cysgu mewn llefydd anghonfensiynol mewn amodau o dywydd caled difrifol a gwneud argymhellion fel bo’n briodol.
Materion Allweddol: 1. Er nad oes diffiniad eglur o’r hyn sy’n cyfrif fel “tywydd difrifol”, cynigir bod y Cyngor yn mabwysiadu agwedd synnwyr cyffredin ac yn dynodi unrhyw dywydd a allai gynyddu’r perygl o niwed difrifol i bobl sy’n cysgu mewn llefydd anghonfensiynol. Gall hyn gynnwys oerni eithafol, glaw neu wynt.
At ddibenion y protocol diffinnir person sy’n cysgu mewn llefydd anghonfensiynol fel:
i. Pobl yn cysgu, ar fin gosod eu gwely (eistedd mewn/ar neu sefyll nesaf at eu dillad gwely) neu’n gwirioneddol wneud eu gwely yn yr awyr agored (megis ar strydoedd, mewn pebyll, y tu allan i ddrysau, parciau, cysgodfeydd bws neu wersylloedd). Pobl yn gwneud eu gwelyau mewn adeiladau neu leoedd eraill na ddyluniwyd ar gyfer pobl i fyw ynddynt (megis grisiau, ysguboriau, cytiau, meysydd parcio, ceir, cychod segur neu orsafoedd).
2. Bob blwyddyn mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol adrodd i Lywodraeth Cymru ar nifer y bobl sy’n cysgu mewn llefydd anghonfensiynol o fewn eu hardal. Mae casglu data ar ffurf dau gyfrif, cyfrif un noson a chyfrif dros gyfnod o amser.
i. Cyfrif Un Noson – digwydd hyn ar ddyddiad a benderfynir ymlaen llaw ac mewn ardaloedd daearyddol lle mae’n wybyddus bod pobl yn cysgu mewn mannau anghonfensiynol neu’n debygol o gysgu mewn mannau felly. Yn ystod 2015 digwyddodd y cyfrif ar y 4ydd Tachwedd rhwng oriau 10pm i 5am. Ni chanfuwyd un person yn cysgu dan yr amodau hyn. ii. Cyfnod Cyfrif – cesglir data dros gyfnod o bythefnos gyda chymorth y sector gwirfoddol, grwpiau ffydd, busnesau/preswylwyr lleol, asiantaethau iechyd a cham-drin sylweddau a chyffuriau, a’r heddlu. Ar gyfer gaeaf 2015/16 digwyddodd hyn yn ystod 2il – 15fed Tachwedd a dynodwyd pum person yn cysgu allan. Ar gyfer gaeaf 2016/17 digwyddodd hyn yn ystod 10fed– 23ain Hydref a dynodwyd un person yn cysgu allan.
3. Mae disgwyliad o fewn Llywodraeth Cymru y dylai awdurdodau lleol sicrhau bod darpariaeth yn ei lle i fynd i’r afael ag anghenion y rheiny sy’n cysgu mewn llefydd anghonfensiynol yn eu hardal yn ystod amodau tywydd difrifol, yn enwedig felly yn ystod misoedd y gaeaf.
4. Ei nod yw cyflwyno’r hyn a adwaenir fel ‘Protocol Brys Tywydd Difrifol’ o aeaf 2017. Bydd y protocol yn sicrhau y deuir o hyd i loches i unrhyw rai wedi’u dilysu sy’n cysgu mewn llefydd anghonfensiynol gyda neu heb gysylltiad lleol yn ystod cyfnodau o dywydd difrifol, yn enwedig pan all tymheredd eithafol am gyfnodau estynedig fygwth eu diogelwch a’u lles.
5. Pwy sy’n Gymwys?
i. Unrhyw berson sy’n cysgu allan mewn lle anghonfensiynol ar y strydoedd mewn oerfel eithafol. Mae hyn yn cynnwys y rheiny heb fynediad i gronfeydd cyhoeddus megis gwladolion A10 a ddaethant yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd. Noda hyn fod yn rhaid i’r personau sy’n cysgu allan mewn llefydd anghonfensiynol:
· fod mewn perygl os ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Camau gweithredu sy’n codi o’r cyfarfod diwethaf PDF 8 KB Cofnodion: Aed i’r afael â’r Camau Gweithredu o’r cyfarfod diwethaf.
|
|
Blaengynllun y Cyngor a’r Cabinet PDF 411 KB Cofnodion: Nodwyd Cynllun y Cyngor a’r Cabinet. Cynghorwyd yr Aelodau i gadw llygad am yr e-bost wythnosol sy’n darparu fersiwn ddiweddaraf y Cynllun bob dydd Gwener i alluogi Aelodau i gadw i fyny â’r newidiadau a’r datblygiadau. Gwnaeth yr Aelodau gais am flaen-ddyddiadau’n unig.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf fel dydd Mawrth 12fed Rhagfyr 2017 am 10.00am |
|
Blaengynllun Rhaglen y Pwyllgor Dethol Oedolion PDF 184 KB Cofnodion: Nodwyd Rhaglen y Blaengynllun Gwaith.
Cynhelir Cyfarfod Arbennig o Bwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc ar 13eg Tachwedd 2017. Un o’r eitemau dan ystyriaeth yw Adroddiad Gwerthuso Diogelu. Gwahoddir aelodau o’r Pwyllgor Dethol Oedolion i fynychu.
Gofynnwyd i’r Rheolwr Craffu anfon y mandadau perthnasol allan i’r Pwyllgor Dethol Oedolion.
Adroddiad cyllideb ar gyfer pob un a’r cynigion wedi’u hollti yn unol â pherthnasedd. Trefnu Pwyllgor Dethol ar y Cyd arbennig yn y flwyddyn newydd i adolygu’r holl fandadau i’w craffu gan Aelodau’r Cabinet.
Cynghorwyd Aelod i gysylltu â’r Is-bennaeth Cyllid am restr o’r dyletswyddau statudol.
|