Lleoliad: Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau Buddiant Cofnodion: Ni wnaed datganiadau buddiant.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: No members of the public were present. |
|
Adroddiad Perfformiad 2016/17 PDF 955 KB Cofnodion: Casgliadau'r Pwyllgor: Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am gyflwyno'r adroddiad i'r Pwyllgor.
Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth bellach er mwyn craffu'n effeithlon: · Trefniadau i roi cyngor i aelodau teulu am ofal cyllid. · Mesurau a gymerir i gefnogi gofalwyr. · Faint o becynnau gofal yn y cartref a gafodd eu hymchwilio cyn opsiwn cartref preswyl. · Dadansoddiad o niferoedd staffio, a · Dadansoddiad o oedrannau (niferoedd a chanrannau) a'r rhesymau dros i unigolion fynd i ofal..
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi'r cynnwys.
|
|
Adroddiad y Rhaglen Waith PDF 237 KB Cofnodion: Cyd-destun: 'Dull gweithredu wedi'i gynllunio' ar flaenraglen waith Craffu er mwyn cynyddu effeithlonrwydd a gwerth ychwanegol gweithgaredd craffu, gan sicrhau ffocws ar bynciau y brif flaenoriaeth i'r Cyngor a'r rhai sy'n adlewyrchu'r budd cyhoeddus.
Materion Allweddol:
Cynhaliwyd cyfarfodydd trafod rhaglen waith rhwng Cadeirydd newydd y Pwyllgor Dethol a'r prif swyddog perthnasol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a phynciau a amlygwyd fel bod angen craffu yw::
Comisiynu Gwasanaethau Oedolion yn y Dyfodol - yn gysylltiedig â "Troi'r Byd a'i Ben i Lawr" Pwysau Cyllideb o fewn gwasanaethau a dadansoddi gwariant Datblygu Cymunedol a Llesiant Strategaeth Cefnogi Pobl Llesiant - Trafodaeth gyda Chymdeithas Tai Sir Fynwy ar y stoc bresennol a datblygu cartrefi newydd, cefnogaeth ar gyfer diwygio lles Tai: (awgrwymwyd Medi 2017) Porth Cymorth Tai Polisi Digartrefedd Tywydd Oer Protocol Argyfwng Tywydd Difrifol Dileu Ffi Rheoli Llety dros Dro Adroddiad Llety i'r Digartref (Dyfodol Lesau Preifat) Asesiad o'r Farchnad Tai Leol Cynllun Lesau Preifat Melin Gwasanaethau Sipsiwn a Theithwyr Strategaeth Atal Digartrefedd - dechrau 2018 Addasiadau i'r anabl ymhellach i'r cyllid ychwanegol ar gyfer 2017/18 Adroddiad Cwynion Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafodd yr eitemau dilynol eu dynodi ar gyfer cyd-graffu gyda'r Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc:
Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth - cyfrifoldeb y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (Ionawr/Chwefror 2018) Gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (Hydref 2017) Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu - cysylltiedig gydag oblygiadau Grant Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid Llesiant - cyfrifoldebau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn ymwneud â chymunedau cysylltiedig a diwallu anghenion Gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 - adolygu'r 18 mis diwethaf ynghyd â dyletswyddau’n ymwneud â charchardai (Mawrth 2018) Cynnydd Byrddau Diogelu Rhanbarthol - Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) Gwasanaeth Integredig Rhanbarthol ar Awtistiaeth Annual Complaints Report for Social Services
Craffu gan Aelodau:
Rhoddodd Aelodau'r Pwyllgor Dethol sylwadau fel sy'n dilyn:
· Mae tai yn flaenoriaeth; · Dywedwyd fod dileu toll Pont Hafren a'r cynnydd dilynol a ragwelir mewn rhenti preifat a phrisiau eiddo yn flaenoriaeth. Bydd pob Pwyllgor Ddethol dan arweiniad Economi a Datblygu yn ystyried hyn. · Awgrymwyd fod gofal yn y cartref yn bwnc ar gyfer craffu, yn neilltuol, sut y darperir hyn a'r hyfforddiant a dderbyniwyd a throsiant gofalwyr. Cytunwyd y caiff y materion hyn eu hychwanegu at y rhaglen waith fel rhan o ystyried comisiynu gwasanaethau oedolion yn y dyfodol - yn gysylltiedig â "Troi'r Byd â'i Ben i Lawr". · Gan fod y boblogaeth 65+ yn tyfu'n gyflym, bydd mwy o unigrwydd ac arwahanrwydd ac mae angen dynodi bylchau ar draws y sir na chaiff eu llenwi gan grwpiau gwirfoddol i asesu ble mae angen mwy o ofal. Cytunwyd ychwanegu hyn at y rhaglen waith fel rhan o'r drafodaeth ar Ddatblygu Cymunedol a Llesiant. · Dynododd Aelod bum thema trosfwaol sy'n effeithio ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn nhermau modelau gofal, gwasanaeth ac ansawdd. Gofynnodd pa un oedd y ffordd orau i'r sector cyhoeddus ddefnyddio profiad a galluedd y sector gwirfoddol a phreifat wrth gynllunio, comisiynu a darparu ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Cyfethol i'r Pwyllgor Dethol Oedolion PDF 85 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd gohirio ystyried y mater hwn ac edrych arno eto yn y cyfarfod nesaf.
|
|
Camau Gweithredu sy'n deillio o'r cyfarfod blaenorol PDF 23 KB Cofnodion: Mynegodd dau Aelod etholedig bryderon am y Papur Gwyn "Gwasanaethau Addas i'r Dyfodol" a gyhoeddwyd ar 8 Mehefin 2017 yn cyfeirio at rôl Cynghorau Iechyd Cymunedol ar draws Cymru. O gonsyrn neilltuol oedd y cynnig i ddileu mynediad i lais annibynnol i gleifion a gofynnwyd am gefnogaeth y Pwyllgor. Cylchredwyd papur yn crynhoi'r pryderon. Cytunodd y Pwyllgor fod hwn yn fater difrifol iawn. Cytunodd Aelod ei bod yn ymddangos fod y cynigion yn gwanhau ac nid cryfhau llais cleifion a holodd sut y bydd defnyddwyr gwasanaeth yn adrodd cwynion, gan nodi anfodlonrwydd fod gwariant ar iechyd yn cael ei ostwng yng Nghymru.
Soniwyd am effeithlonrwydd y Gwasanaeth Cynghori a Chydlynu Cleifion (PALS) yn Lloegr. Esboniwyd fod y CHC yn dosbarthu taflenni ond gellid ystyried y dull gweithredu hwnnw fel bod yn un proffil isel.
Mae angen ymateb gan y Cyngor erbyn diwedd mis Medi ac awgrymwyd anfon e-bost at bob Aelod i gael eu barn oherwydd yr amserlen fer, a mynd â hynny at yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Iechyd a bod cwestiwn/cynnig neu eitem agenda yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor i alluogi trafodaeth gyda chefnogaeth lawn y Pwyllgor Dethol yma.
Mynegwyd pryderon pellach nad oedd cofnodion y Cyngor Iechyd Cymunedol ar gael a bod hynny'n atal craffu gan y cyhoedd. Cytunodd y Rheolwr Craffu gylchredeg cofnodion y Pwyllgor Dethol Oedolion ym mis Ebrill pan sefydlir na chaiff cofnodion y Cyngor Iechyd Cymunedol eu cyhoeddi.
|
|
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Oedolion PDF 142 KB Cofnodion: Trafodwyd y flaenraglen waith yn gynharach yn y cyfarfod.
|
|
Blaen-raglen Waith y Cyngor a'r Cabinet PDF 384 KB Cofnodion: Nodwyd Blaenraglen Waith y Cyngor a'r Cabinet. Caiff ei e-bostio at yr holl aelodau bob dydd Gwener. Dywedwyd y cynhelir cyfarfod arbennig o'r Cabinet ar 9 Awst 2017.
|
|
I gadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf fel Dydd Mawrth 12 Medi 2017 am 10.00am |
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: No declarations of interest were made. |
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 194 KB Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2017 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd.
Yn deillio o'r cofnodion, gofynnodd y Cadeirydd am gadarnhad o'r dyraniad tai fforddiadwy, yn neilltuol lle mae nifer benodol o gartrefi fforddiadwy i gael eu darparu ac a gaiff wedyn eu gwerthu, a holodd os cafodd y ffigurau eu haddasu yn unol â hynny.
|