Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Doedd dim datganiadau o ddiddordeb. Cytunodd yr aelodau i ymdrin â’r rhain wrth iddynt godi.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd. Cofnodion: Gwnaeth aelod o’r cyhoedd gais i siarad am yr eitem rheolaeth cyflymder. Cytunodd y cadeirydd y dylid gohirio ei gyfraniad nes i’r eitem gael ei thrafod o dan eitem 5.
|
|
Cofnodion:
· Clywodd y pwyllgor bod pob un o’r 5 nod blaenoriaeth yn cynnwys ymrwymiad i weithredu. Canolbwyntiodd yr adroddiad yma ar y nodau o fewn y cynllun corfforaethol sy’n syrthio o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf, yn benodol Nod C – amgylchedd naturiol ac adeiledig a Nod E Cyngor sy’n Canolbwyntio ar y Dyfodol. · Caiff y goliau eu sgorio gan ddefnyddio graddfa chwe pwynt o lefel 1 – anfoddhaol i lefel 6 – ardderchog. Clywodd y pwyllgor bod lefel 3 – digonol wedi ei roi i’r ddwy nod dan sylw. Her yr Aelodau · Cwestiynodd yr aelodau a oedd gan yr awdurdod adnoddau digonol i gyrraedd y perfformiad disgwyledig ar gyfer y mesurau perfformiad dan sylw. Clywodd y pwyllgor bod y rhain wedi eu gosod ar lefel genedlaethol ac nad ydynt bob amser yn canolbwyntio ar flaenoriaethau’r cyngor a’u bod ar brydiau’n gallu bod yn rhu syml. Mae’r Cynllun Corfforaethol yn rhoi darlun mwy cyflawn o’r cynnydd sy’n cael ei wneud mewn meysydd sy’n cael blaenoriaeth uwch yn Sir Fynwy. · Cafwyd cwestiwn yngl?n â’r prosiect i wella’r rhaglen adeiladu treftadaeth a Gofod Cyrchfan Cil-y-coed. Clywodd aelodau bod tendrau’r hybiau’n cael eu gwerthuso a’u bod ar amser. Mae’n rhaid i’r rhaglen gael ei hasesu gan Banel Targedu Buddsoddiad Mewn Adfywio Llywodraeth Cymru, rydym wedi cael cymeradwyaeth mewn egwyddor. Mae trafodaethau wedi cychwyn gyda’r contractwr ar y Cynllun ‘The Cross’, yn ddarostyngedig i dderbyn caniatâd gan y Gweinidog ein bod yn cael cyllid. · Clywodd yr aelodau gan yr Aelod Cabinet dros Isadeiledd a Bywyd Mynwy bod y Cabinet wedi gwneud cais am adroddiad dichonoldeb ar adnewyddu Canolfan Hamdden Cil-y-coed. Pe byddai’r adroddiad yn cael ei gymeradwyo, byddai gwaith yn cychwyn yn hanner cyntaf 2020 ac yn dod i ben yn 2021.
Canlyniad
Gwnaeth yr aelodau gais am ddiweddariad ar y cynllun i adfywio Cil-y-coed sy’n cynnwys amserlenni a chostau dangosol
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
· Clywodd y pwyllgor safbwyntiau Mr Andrew Vincent a oedd wedi cyfrannu at y gr?p gorchwyl a gorffen ac wedi mynychu fel rhan o fforwm agored y cyhoedd. · Rhoddodd Mr Vincent wybod i’r pwyllgor nad oedd y ddogfen, yn ei farn ef, yn cynnwys digon o ddychymyg o ran mynd i’r afael â phroblemau allweddol mewn sir wledig. Codwyd pryderon yngl?n â chyfeiriad y papur at gwynion. Ystyriwyd ei bod yn anaddas cyfeirio at bobl sy’n codi materion yn ymwneud â gyrru’n rhu gyflym fel cwynwyr. · Dywedodd Mr Vincent wrth y pwyllgor ei fod wedi rhoi sylwadau manylach i’r adran priffyrdd ond nad oedd yn teimlo eu bod wedi cael eu hystyried. Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith bod Atodiad G yn ddogfen fwy proffesiynol. · Dadleuodd Mr Vincent na fyddai’r cynigion yn arwain at wellhad digonol i’r prosesau presennol er mwyn helpu cymunedau i gael terfynau cyflymder is, er enghraifft, cafodd y defnydd o gyfartaleddau fel ffordd o fesur cyflymder ei herio a dywedwyd nad yw timau heddlu cymunedol bellach yn adlewyrchu plismona modern. · Codwyd pryderon yngl?n â chywirdeb y data a fyddai’n cael ei ddarparu gan nodi bod data gwael yn arwain at benderfyniadau gwael. Gofynnodd Mr Vincent i’r pwyllgor edrych eto ar y ddogfen. · Dywedodd swyddogion wrth y pwyllgor bod rhai cyffelybiaethau gyda dogfen Caerffili ond bod yr elfen rheolaeth cyflymder, heb os, yn bapur sy’n perthyn i Sir Fynwy. Adroddwyd bod Sir Fynwy’n bwriadu cyflogi swyddog i ddelio â hyn. · Cafodd yr aelodau gyflwyniad gan y Peiriannydd Gr?p Priffyrdd a gadarnhaodd bod swyddogion wedi edrych i mewn i ymarfer da, gan gynnwys CBS Caerffili a’u bod wedi teilwra’r rhain i gwrdd ag anghenion Sir Fynwy ac wedi cynnal cyfres o weithdai gydag aelodau lleol, cymunedau cymuned a chymunedau tref.
Her yr Aelodau · Gofynnodd yr aelodau am eglurder ar gyfraddau damweiniau ar y ffyrdd y mae’r cyngor yn gyfrifol amdanynt o’u cymharu â ffyrdd y sir yn ei chyfanrwydd. Clywodd yr aelodau fod gan Sir Fynwy un o’r cyfraddau damweiniau isaf yng Nghymru os yw traffyrdd a chefnffyrdd yn cael eu heithrio. · Heriodd yr aelodau sut y bydd prosesau’n lleihau damweiniau. Clywodd y pwyllgor y bydd yr adroddiadau yn edrych ar ddamweiniau yn ogystal â damweiniau fu bron â digwydd ochr yn ochr â gwybodaeth yngl?n â chyflymder. Mae’r rhain yn cael eu bwydo i mewn i fatrics sgorio er mwyn penderfynu pa gamau i’w cymryd. · Lleisiodd yr aelodau anfodlonrwydd am fod yr adroddiad yn dangos nad oes gwellant digonol wedi ei wneud i’r prosesau a bod cyfle wedi ei golli i wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg. Clywodd aelodau bod camerâu wedi eu gosod a bod swyddogion yn edrych i mewn i systemau awtomatig ar gyfer adnabod platiau cofrestru. · Codwyd cwestiwn yngl?n â p’unai penderfyniad i’r Cabinet neu i’r Cyngor fyddai hyn. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth y gallai fod yn benderfyniad i’r Cabinet, ond y gellid mynd ag ef i’r cyngor er mwyn codi ymwybyddiaeth. · Cododd yr aelodau nifer o bwyntiau yngl?n a ... view the full Cofnodion text for item 4. |