Skip to Main Content

Manylion Pwyllgor

Pwyllgor Craffu Cymunedau Cryf

Diben y Pwyllgor

Mae'r Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf yn sicrhau eu bod yn ymateb i anghenion preswylwyr, gan hyrwyddo eu hiechyd a'u llesiant. Rolau allweddol y pwyllgor yw:

 

           Sicrhau fod y Cyngor yn cefnogi datblygu cymunedau newydd a chynaliadwy ac yn cefnogi cryfder cymunedau presennol drwy gydlynu ardal leol.

           Adolygu a gwella cysylltiadau'r Cyngor gyda'r sector gwirfoddol.

           Craffu ar gyflenwi'r Cynllun Integredig Sengl, gan ddyrannu meysydd craffu penodol i bwyllgorau dethol eraill lle’n briodol.

           Craffu ar wasanaethau allweddol a ddarperir mewn partneriaeth i gymunedau lleol i sicrhau y cyflwynir gweithredu aml-asiantaeth effeithlon, yn cynnwys ymysg eraill:

o          Seilwaith a rhwydweithiau

o          Priffyrdd (yn cynnwys SWTRA), Trafnidiaeth a Rheoli Traffig

o          Goleuadau Stryd

o          Rheoli Gwastraff

o          Diogelwch y Gymuned

o          Stadau a Chynaliadwyedd

o          Rheoli Cyfleusterau a Llety

o          Ymgysylltu â Dinasyddion

o          Swyddogaeth y Prif Weithredwr.

o          Refeniw, Treth Gyngor, Trethi Annomestig a Chyllid.

o          Costau Corfforaethol / Ffioedd.

o          Priodoli (yn cynnwys costau dyled allanol gronfeydd cadw a glustnodwyd, costau'n ganlyniad gwaredu ag asedau sefydlog).

o          Cyllido (yn cynnwys cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru, incwm y dreth gyngor)

 

 

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol

 

 

Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy

 

 

Os hoffech i rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon



·      Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud) neu os yn well gennych;

·      Cyflwynwch gynrychiolaeth ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

 


Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer
cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod.

 

Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

 

 

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

Aelodaeth

Gwybodaeth gyswllt

Swyddog cefnogi: Gwasanaethau Democrataidd.

Ffôn: 01633 644219