Agenda and minutes

Special Meeting, Pwyllgor Craffu Cymunedau Cryf - Dydd Llun, 24ain Chwefror, 2020 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

2.

Monitro Perfformiad y Cynllun Cydraddoldeb Strategol Blaenorol 2018-19. pdf icon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynwyd adroddiad blynyddol i’r pwyllgor yn rhoi manylion perfformiad y cyngor wrth ymwreiddio deddfwriaeth cydraddoldeb mewn ymarfer. Cyflwynwyd Deddf Cydraddoldeb 2010 ym mis Ebrill 2011 ac mae dyletswyddau penodol y Ddeddf yn cynnwys y gofyniad i gyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n gydnaws â Chynllun Cydraddoldeb Strategol a rhoi manylion ei amcanion cydraddoldeb drwy gynllun gweithredu cynhwysfawr. Rôl y pwyllgor yw sicrhau bod y polisi ac ymarfer yn cyflawni’r gofynion deddfwriaethol hyn. Cyflwynodd y swyddog yr adroddiad a dangos sut mae’r cyngor wedi ceisio cyflawni ar ei gyfrifoldebau, gan gynnig enghreifftiau. Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan aelodau.

 

Her:

 

·       A gaf holi am i wirio’r cyfeirnod at FEDEP gan y credaf fod hyn wedi dod i ben?

Gallaf wirio hyn ond adeg llunio’r adroddiad hwn, rwy’n credu fod FEDEP yn dal mewn grym.

 

·     Mae gennym gynllun gwrthdlodi sy’n dal i fynd rhagddo 2 flynedd yn ddiweddarach ac mae hynny’n achos pryder i fi. Ymddengys fod adroddiadau y llynedd a’r flwyddyn cynt yn awgrymu’r un peth, felly rwy’n ymwybodol fod angen sicrhau cynnydd. Rwy’n teimlo fod angen peth diweddaru ar yr adroddiad. Enghraifft o hyn yw nad oes brin unrhyw sôn am hiliaeth yn yr adroddiad ac eto rwy’n gwybod am ddigwyddiadau mewn ysgolion. Ydych chi wedi edrych ar y data ar hyn? Ni chaiff ei addysgu mewn ysgolion a gwn am 6 digwyddiad. Credaf fod 45% o ysgolion yn dweud yr hoffent hyfforddiant am hyn, felly hoffwn ei weld yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad.

Yn nhermau hiliaeth, mae mwy o drafodaeth ar hyn yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol (SEP) 3, ond rwy’n cytuno gyda chi gan y gwn am ddigwyddiadau. Mae’r SEP 3 newydd yn anelu i fynd i’r afael â hynny a sefydlwyd gweithgor i ganolbwyntio ar hyn. Rydym yn edrych ar sut y gallwn ledaenu arfer gorau ac nid wyf yn si?r pam nad yw ysgolion yn gwneud adroddiad am ddigwyddiadau.

 

Mae gennym gyfarfod ar y gweill dan y teitl ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’ a byddwn yn falch iawn pe gallech fynychu, felly byddaf yn anfon y manylion atoch. Gwyddom fod peth o’r wybodaeth yn hen, ond adroddiad monitro 2018-19 yw hyn felly nid yw’n dangos tystiolaeth newydd a gawsom. Teimlwn y byddai’n fwy defnyddiol pe byddai’r adroddiad hwn yn dod i aelodau ynghynt yn y flwyddyn i roi darlun llawnach o’r dystiolaeth i’r pwyllgor.

 

·      Mewn ymateb i hyn byddwn yn gwerthfawrogi cael trosolwg cynharach ar yr adroddiad hwn. Mae hefyd yn dibynnu ar i ba ddiben yr ydych yn dod â’r adroddiad i ni. Os mai’r cyfan rydym yn ei wneud yw rhoi ein henwau arno, nid yw mewn gwirionedd o bwys pryd y byddwn yn ei ystyried, ond os yw i gael ei ddefnyddio fel ddogfen bwysig i fireinio a gwella ein hymarfer, dylem gael ei weld ynghynt.

Diben yr adroddiad yw mireinio a gwella ein hymarfer a rydych yn iawn, mae angen i ni gasglu’r dystiolaeth i lunio ein camau gweithredu.

 

·       Rydych wedi paratoi 2 adroddiad, ond ydych chi’n gweithredu ar ben eich  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Craffu cyn penderfynu ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd 2020 (Cynllun Cydraddoldeb Strategol i ddilyn). pdf icon PDF 69 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae angen i’r Cyngor gyflwyno eu Hamcanion Cydraddoldeb Strategol o fewn cynllun Cydraddoldeb Strategol. Y cynllun hwn fydd y trydydd cynllun o’r fath i’r Cyngor ac mae’n disodli fersiwn 2016 – 2020 ar 1 Ebrill 2020. Daethpwyd â’r cynllun i’r pwyllgor ar gyfer craffu cyn-penderfyniad cyn ei fabwysiadu. Rhoddodd y swyddog gyflwyniad byr ar y cynllun, gan fod y cyd-destun wedi ei drafod yn ystod yr eitem flaenorol pan fu’r pwyllgor yn craffu perfformiad y flwyddyn flaenorol wrth gyflawni cyfrifoldebau deddfwriaethol y cyngor. Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau.

 

·      Yn nhermau gorfod cynnal asesiadau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar bob penderfyniad, dim ond un allan o 13 y gallwn ddod o hyd iddo ar gyfer penderfyniadau’r gyllideb. Yn yr un modd, yng nghyswllt yr Asesiadau Effaith Cronnus y cyfeiriwch atynt, nid wyf wedi eu gweld a byddai gennyf ddiddordeb gwybod sut y cawsant eu cyfrifo a pha bolisïau a gafodd eu cynnwys wrth eu llunio.

Dylid cynnal asesiadau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar bob penderfyniad a, hyd y gwn, credais i hynny gael ei wneud. Rwyf wedi gweld yr Asesiadau Effaith Cronnus felly gallaf ddod o hyd iddynt a’u hanfon atoch.

 

·       Nid yw’r adroddiad hwn yn sôn o gwbl am ddigartrefedd, sy’n ymddangos yn wall i mi, oherwydd er na allaf roi tystiolaeth, clywais am achosion o bobl ddigartref o Sir Fynwy yn cyflwyno fel digartref yng Nghasnewydd oherwydd bod mwy o wasanaethau yno.  

Bydd angen i mi holi ein Rheolwr Tai ar hyn gan ein bod yn tueddu ond i gynnwys materion lle mae tystiolaeth yn awgrymu fod problem, ond byddaf yn sicr yn dilyn hyn lan ar ôl y pwyllgor a chyn cwblhau fy adroddiad.

 

·       Ni allaf weld unrhyw sôn yn y adroddiad yma am y Grant Cydraddoldeb Incwm ac eto roedd cytundeb trawsbleidiol ar hyn y llynedd, felly mae’n teimlo fel nad oes digon o gynnydd yn cael ei wneud ac nid wyf yn si?r fod hynny oherwydd diffyg ewyllys gwleidyddol.

Byddaf hefyd yn holi am hyn.

 

·       Mae sôn am y bwlch cyflog rhwng dynion a menywod, ond nid wyf yn si?r os caiff ei ddangos yn ddigonol drwy’r amcan yn yr adroddiad ac rwy’n ansicr os yw’n adlewyrchu’n gywir y gwahaniaeth yn y sir a’r sefyllfa go iawn.

Mae hyn yn rhywbeth y gallaf fynd ag ef yn ôl a’i drafod gyda chydweithwyr wrth gwblhau’r adroddiad.

 

·       Mae’r iaith a ddefnyddir yn teimlo’n or-strategol ac fel canlyniad mae’n teimlo fel rhywbeth ‘ticio’r blwch’ ac eto o edrych yn agosach, nid yw’n cynnwys y manylion y byddwn yn ei ddisgwyl.

Mae hynny’n ddefnyddiol ac mae’n rhywbeth y gallaf ei drin ar gyfer dogfennau’r dyfodol.

 

·       Mae’r diffiniad o dlodi yn broblem go iawn yn fy marn i, oherwydd mod i eisiau deall y feincnod ar gyfer gwneud asesiadau ac yn neilltuol pan nad oes unrhyw ddiffiniad wedi’i gytuno o dlodi. Rwy’n ansicr sut y gallwn ddweud ein bod wedi ymwreiddio rhywbeth na allwn hyd yn oed ei ddiffinio.

Rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch yma ac mae’r gallu i ddiffinio tlodi  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Y diweddaraf ar Oleuadau Stryd (adroddiad i ddilyn). pdf icon PDF 46 KB

Cofnodion:

Roedd y pwyllgor wedi gofyn am ddiweddariad ar bolisi goleuo strydoedd. Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar y gwasanaeth a’r pwysau arno a chadarnhawyd na chynigir unrhyw newidiadau i’r polisi presennol ar oleuadau stryd.. 

 

Clywodd aelodau y penderfynwyd yn 2014 i sicrhau arbedion costau a buddion ehangach i’r amgylchedd mewn gostwng carbon, llygredd golau a bioamrywiaeth drwy droi goleuadau stryd bant mewn ardaloedd preswyl yn y prif drefi. Cafodd hyn ei ymestyn yn 2017 i drefi llai a phentrefi. Defnyddiodd y cyngor fenthyciad i uwchraddio’r system rheoli i system Harvard oedd yn rhoi opsiynau ar gyfer amserau troi ymlaen a bant, pylu a gweithredu ran o’r nos. Sicrhawyd arbedion yn bennaf drwy ostwng defnydd ynni o lai o oriau gweithredu a gwelliannau mewn technoleg, ynghyd â defnydd ynni o lai o oriau gweithredu a gwelliannau mewn technoleg, ynghyd â newid o fylbiau halogen traddodiadol i fylbiau LED. Dywedwyd wrth y pwyllgor fod y cyngor, yn wahanol i lawer o awdurdodau eraill, wedi penderfynu na fyddai dim yn cael eu troi i ffwrdd yn llwyr ac felly polisi’r cyngor ar gyfer goleuadau preswyl yw troi bant yn unig rhwng canol-nos a 5:30 a gweithredu pylu ar adegau eraill. Mae gwelliannau i dechnoleg wedi golygu y gellir pylu’r bylbiau LED diweddaraf ar draws ystod llawer ehangach a chaiff y rhain eu defnyddio wrth roi pob bylb newydd. Ar gyfer llusernau newydd, mae’r cyngor yn awr yn pylu ardaloedd preswyl i 20% yn lle troi goleuadau bant.

 

Esboniodd swyddogion nad yw’r gost o amnewid yr holl unedau RC gydag unedau wedi’u rhaglennu ymlaen llaw yn y gyllideb ac y byddai oddeutu £210,000.  Wrth i’r unedau RC hyn fethu, cânt eu hamnewid gyda’r dechnoleg newydd. Hysbyswyd aelodau er bod llawer o bryderon am ddiogelwch a lefelau troseddu uwch pan ymgynghorwyd ar y polisi, nad oes unrhyw dystiolaeth i brofi fod lefelau troseddu wedi cynyddu ers cyflwyno’r polisi. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda’r Heddlu a lle mae gan yr Heddlu bryderon penodol am ddiogelwch, cafodd y cyfnod troi-bant ei ostwng a bydd y goleuadau LED newydd a gaiff ei bylu i 20% yn datrys y broblem o ganfyddiad troseddu.

 

Yn nhermau adnoddau, clywodd y pwyllgor fod yr arbedion costau o lai o ddefnydd ynni yn cael eu defnyddio i ad-dalu benthyciad SALIX dros y 16 mlynedd nesaf ond ychydig iawn mae hyn yn ei adael i’w ailfuddsoddi yn y seilwaith heneiddiol. Mae tîm o 3 o bobl gyda chyfrifoldeb am oleuadau stryd, felly mae problem adnoddau. 

 

Her:

 

·       Fe wnaethoch sôn fod Havard wedi mynd â’i ben iddo, lle mae hynny yn ein gadael ni? 

Mae cwmni arall wedi cymryd trosodd ond nid yw ein holl oleuadau ar system Harvard, mae rhai ar systemau gwahanol.

 

·       Os yw technoleg yn gwella drwy’r amser, ydyn ni’n gwella gyda’r amserau? A oes gwerth mewn uwchraddio’r seilwaith?

Mae cyfarpar cymysg mas yna. Mae’r marchnad yn esblygu’n barhaus felly rydym yn uwchraddio gyda’r dechnoleg orau pan mae pethau’n torri. Byddai’n gostus iawn i newid yr holl oleuadau felly rydym  ...  view the full Cofnodion text for item 4.